Cerddi a Baledi/Henaint
Gwedd
← Y Trysor | Cerddi a Baledi Caneuon gan I. D. Hooson Caneuon |
Y Carcharor → |
HENAINT
Eisteddai'n llonydd wrth y tân
Mewn esmwyth hun, yn hen a blin;
Ei gwar ynghrwm, ei dwylo 'mhleth,
A'r gweill yn segur ar ei glin.
Meddyliau mwyn ymdonnai'n wên
Dros dawel wedd ei hwyneb gwyn,
Fel chwaon pêr o erddi pell
Yn hwyr y dydd dros lonydd lyn.
Huno, breuddwydio, deffro dro,
A'r gweill yn trin yr edau frau
I'r olaf bwyth; a'r olaf hun
Ddifreuddwyd, hir amdani'n cau.