Cerddi a Baledi/Y Carcharor

Oddi ar Wicidestun
Henaint Cerddi a Baledi
Caneuon
gan I. D. Hooson

Caneuon
Castell Conwy

Y CARCHAROR
(TÂN)

TU ôl i'r barrau dur
Fe rua'r bwystfil coch—
Rhuo a chwyno'n lleddf,
Cwyno a rhuo'n groch.

Fe gofia'i uchel dras,—
Llwdn fforestydd nef;
Un o wehelyth hen
Yr heuliau a'r sêr yw ef.

Gwêl ei bawennau llyfn,
Tegwch ei liw a'i rym;
Gwêl felyngoch fwng.
Gwylia'i ewinedd llym.

Ymwinga, ymwthia'n wyllt
Yn erbyn barrau'i gell
Ysir ef gan ei nwyd;
Clyw leisiau'r fforestydd pell.

• • • • • • •

Weithian gorwedda'n fud,
Dim ond y llygaid coch
A weli yng nghwr y gell;
Darfu y rhuo croch,


Llygaid yn araf gau,
Dim ond llwch yn y gell;
Yntau'r carcharor a aeth
Yn ôl i'w gynefin pell,