Cerddi a Baledi/Wil

Oddi ar Wicidestun
Tobi Cerddi a Baledi
Caneuon
gan I. D. Hooson

Caneuon
Y Fronfraith

WIL

MAE Wil yng ngharchar Rhuthyn,
A'i wedd yn digon trist,
Ei rwyd a'i wn yn gorwedd
Yn segur yn y gist
Y ffesant mwy gaiff lonydd
Ym mherthi gwyrdd y plas,
A'r lwyd gwningen redeg
Yn rhydd drwy'r borfa fras

Mae Wil yng ngharchar Rhuthyn,
A'i wraig yn malio dim;
Na'r plant na neb yn hidio,
Ond "Fflach" y milgi chwim;
Mae hwn fel hen bererin
Hiraethus a dihedd,
Ei dduw ymhell, ac yntau
Yn methu gweld ei wedd,

Yng nghwr y goedwig neithiwr,
A'r lloer yn hwylio'r nen,
A welais lygaid gloywon
Ac ambell gynffon wen;
A thybiais glywed lleisiau
Fel mwyn aberoedd pell
Yn diolch i'w Creawdwr
Fod Wil yn rhwym mewn cell.