Cerddi a Baledi/Y Fronfraith
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
← Wil | Cerddi a Baledi Caneuon gan I. D. Hooson |
Hawliau |
Y FRONFRAITH
YN fachgen bochgoch llon,
Â'm 'sgrepan ar fy nghefn,
Ac yn fy niriaid law
Y garreg greulon lefn;
Anelais honno gyda nerth,
A lleddais gantor mwyn y berth.
Yn fachgen llwyd ei wedd,
Penliniais yno'n brudd,
Euogrwydd dan fy mron
A'm dagrau ar fy ngrudd;
Ond ni ddaeth gweddi'r bachgen ffôl
Â'r cantor mwyn i'r berth yn ôl.