Cerddi a Baledi/Y Breuddwyd
← Yr Hen Dwm | Cerddi a Baledi Baledi gan I. D. Hooson Baledi |
Harri Morgan → |
Y BREUDDWYD
UN noswyl Nadolig eisteddwn yn ymyl y tân,
A noswyl Nadolig oedd hi
A llithrodd fy meddwl ar grwydr ymhell,
I Fflandrys a'i beddau di-ri'.
Mi welais y croesau yn wyn dan y lloer,
A'm calon gan hiraeth yn drist;
A chlywais y clychau yn canu drwy'r nos
Y newydd am eni y Crist.
A chofiais am Ifan yr Efail a Huw—
Huw'r Felin ddireidus a llon,
A'r hwyl a fu ganwaith fin nos gyda'r cŵn,
Neu'n chwarae ar gaeau y Fron.
Am Ifan yr Efail, gyhyrog a thal,
Y cyfaill ffyddlona'n y byd;
A Huw bach y Felin, lygadglas a ffraeth,
A'i wallt cyn felynned â'r yd.
I Wrecsam yr aethom un bore ein tri
Lle cawsom siwt newydd gan "Siôr",
A'n gyrru o wersyll i wersyll ar hynt
Cyn croesi mewn llong dros y môr,
I ganol yr Uffern a luniwyd gan ddyn
I'w gyd-ddyn—ac Ifan a Huw
A minnau'n dygymod ar brydiau a'r fall,
Heb gofio na Chymru na Duw.
Yn llonydd y safem yng nghysgod y ffos,
Ein llygaid yn tremio drwy'r gwyll;
Yn wlyb ac yn lleidiog ein dillad a'n gwedd,
Gan bwyso yn flin ar y dryll.
Un bore, 'r ôl ymgyrch rhwng cyfnos a gwawr,
Anturio a chilio drachefn;
Mae Ifan yr Efail yn tynnu drwy'r mwg
Yn araf a Huw ar ei gefn.
Huw'r Felin dafodrydd am unwaith yn fud—
A'i ruddiau fel marmor yn wyn,
A chlytiau lliw rhwd ar yr aur yn ei wallt,
A'i lygaid direidus yn syn.
'Roedd Ifan yr Efail mor dyner â mam
A wyliai ei phlentyn mewn hun;
Ond gwyddwn na welai Huw'r Felin byth mwy
Na Chapel na marchnad yn Llŷn.
A chofiwn weld Ifan ei hunan un hwyr
Yn gorwedd yn llonydd ac oer;
A hogyn o'r Almaen gydgysgai ag ef
Yn dawel dan olau y lloer.
Yn herio ei gilydd bu'r gynnau drwy'r nos,
A'u lleisiau'n aflafar a chroch,
Ond cysgu yn drymach wnâi Ifan a'r llanc,
Pob un ar ei glustog goch.
• • • • • • •
A minnau mewn hiraeth yn hir wrth y tân
A'm meddwl ymhell dros y môr,
Mi glywais y lleisiau pereiddiaf erioed
Yn canu tu allan i'm dôr.
Cyfodais mewn cyffro ac agor y drws,
Ac yno 'r oedd Ifan ei hun,
A Huw bach y Felin a'i wallt fel yr ŷd
Dan gryman yr Hydref yn Llŷn.
A'r bachgen o'r Almaen (a welais i gynt)
A safai gan wenu yn llon—
Y tri yn ddianaf, a siriol eu gwedd,
Heb ddicter na llid dan eu bron.
A thorrodd eu carol ar drymder y nos,
A gwelwn y Byd yn gytûn
Yn gwrando o'r newydd, gan uno yng nghan
Y bechgyn o'r Almaen a Llŷn.