Cerddi a Baledi/Harri Morgan
Gwedd
← Y Breuddwyd | Cerddi a Baledi Baledi gan I. D. Hooson Baledi |
Barti Ddu → |
HARRI MORGAN (1635-1688)
(YN NULL UN O'R BALEDI SAESNEG WEDI MARW'R
MORHERWR ENWOG YN 1688)
UN dewr oeddit ti, Harri Morgan,
A dychryn holl grwydwyr y don—
Ond bellach 'd oes undyn a'th ofna,
Mae'r tywod yn drwm ar dy fron.
Un gwyllt oeddit ti, Harri Morgan,
A thanllyd dy dafod a'th wedd
Ond bellach fe ddarfu dy gabledd
Yn oerni dilafar y bedd.
Un balch oeddit ti, Harri Morgan,
Ac uchel dy glodydd a'th barch
Pan gerddit y bwrdd-ond 'r wyt bellach
Yn isel rhwng byrddau dy arch.
Hen bry' oeddit ti, Harri Morgan,
Un cyfrwys a'th gyllell a'th gledd—
Ond beth am y pry sydd yn tyllu
Drwy'r amdo yng ngwaelod dy fedd ?