Cerddi a Baledi/Barti Ddu

Oddi ar Wicidestun
Harri Morgan Cerddi a Baledi
Baledi
gan I. D. Hooson

Baledi
Owain Lawgoch

"BARTI DDU"

BARTHOLOMEW ROBERTS (BARTI DDU), A ANWYD YNG NGHASTELL NEWYDD BACH (CAS NEWY' BACH) YN 1682. RHESTRIR EF GYDA'R CYMRO ARALL HWNNW, SYR HARRI MORGAN, FEL UN O FORHERWYR ENWOCA'R BYD. LLADDWYD EF MEWN YSGARMES AR Y MÔR YN 1722.

HYWEL Dafydd 'r ôl brwydrau lu
Ar y cefnfor glas yn ei hwyl-long ddu,
A glwyfwyd yn dost,
Er ei rwysg a'i fôst,
Ar y cefnfor glas yn ei hwyl-long ddu.

A'r morwyr yn holi'n brudd eu bron:
"Pwy fydd ein llyw i hwylio'r don;
Pwy fydd y llyw
Ar y llong a'r criw,
A Chapten Dafydd yng ngwely'r don?"

"Barti Ddu o Gas Newy' Bach,
Y morwr tal a'r chwerthiniad iach:
Efo fydd y llyw
Ar y llong a'r criw-
Barti Ddu o Gas Newy' Bach.'


Ac i ffwrdd â hwy dros y tonnau glas,
I ffwrdd ar ôl yr Ysbaenwyr cas,
I reibio o'u stor,
Ar briffyrdd y môr,
Longau Ysbaen ar y tonnau glas.

Barti Ddu yn ci wasgod goch
A gerddai y bwrdd gan weiddi'n groch;
Gyda'i wn a i gledd,
Yn ddiofn ei wedd,
Yn ei felyn gap gyda'i bluen goch.

A'r morwyr yn canu ag ysgafn fron
I'r pibau mwyn ac i su y don:
"Bar-Bartholomew,
Bar-Bartholomew,
Ef ein llyw i hwylio'r don.'

Yn Barbados yr odd llongau mawr;
Yn Barbados cyn toriad gwawr-
Dacw Barti Ddu
A'i forwyr lu
Yn byrddio'r llongau cyn toriad gwawr.


Gemau ac aur oedd ar y bwrdd,
Gemau ac aur a ddygwyd i ffwrdd,
A llawer i gist,
Cyn i'r wawrddydd drist
Weled y gwaed ar y llithrig fwrdd.

Ac yna ymhell drwy y gwynt a'r lli,
I Banama dros y Caribi;
A llongau "Sbaen
Yn ffoi o'u blaen,
A'u hwyl ar daen, dros y Caribi.

Yn llwythog o rawn a llieiniau main,
O loyw-win ac o emau cain—
O berlau drud
O bellafoedd byd,
A barrau o aur a sidanau main.


A'r morwyr yn canu ag ysgafn fron
I'r pibau mwyn ac i su y don:
"Bar-Bartholomew,
Bar-Bartholomew,
EF yw ein llyw i hwylio'r don."

O dracthau Brazil hyd at Newfoundlan',
O fôr i fôr ac o lan i lan,
Ei ofn a gerdd,
Dros Iwerydd werdd
O draethau Brazil hyd at Newfoundlan'.

Ond Barti Ddu o Gas Newy Bach,
Y Cymro tal â'r chwerthiniad iach,
A dorrwyd i lawr
Ar-Iwerydd fawr,
Ac ni ddaeth yn ôl i Gas Newy' Bach.

Fe'i llaeswyd i wely y laston hallt,
A felyn gap am ei loywddu wallt,
Gyda'i wn a'i gledd,
I'w ddyfrllyd fedd,
I gsysgu mwy dan y laston hallt.


Ond pan fo'r storm yn rhuo'n groch,
A'r Caribî gan fellt yn goch,
Daw Barti Ddu
A'i forwyr lu,
Yn ei felyn gap gyda'i bluen goch.

Ac o fynwent fawr y dyfnfor gwyrdd
Daw llongau Ysbaen a'u capteiniaid fyrdd,
Hen forwyr 'Sbaen
I ffoi o'i flaen
A'u hwyl ar daen dros y dyfnfor gwyrdd.

A chreithiau glas ar eu hwyneb gwyn,
A rhaff am lawer i wddf yn dynn;
Yn welw ac oer
Yng ngolau'r lloer,
A chreithiau i gledd ar eu hwyneb gwyn.

A chlywir uwch rhu y gwynt a'r don,
Y pibau mwyn a'r lleisiau llon:
"Bar-Bartholomew,
Bar-Bartholomew,
Ef yw ein llyw i hwylio'r don;
Bar-Bartholomew,
Bar-Bartholomew,
Ef yw ein llyw i hwylio'r don."