Cerddi a Baledi/Y Wawr
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
← Hawliau | Cerddi a Baledi Caneuon gan I. D. Hooson |
Y Lloer |
Y WAWR
BU rhyw rialtwch neithiwr
Tu ôl i'r dorau mawr
A gaeir rhwng y machlud
A thoriad cynta'r wawr;
Mae llestri y gyfeddach
Yn deilchion ar y llawr.
Ffiolau perl a chwrel
Ac aur gwpanau cain
A ddrylliwyd, ac mae'r gwinoedd
Yn llifo rhwng y rhain,
Eu staen ar fyrddau'r loddest
A'u gwyn lieiniau main.