Cerddi a Baledi/Y Lloer
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
← Y Wawr | Cerddi a Baledi Caneuon gan I. D. Hooson |
Yr Ydfaes |
Y LLOER
UN gannaid hwyr eisteddai gŵr,
A'i 'sbienddrych hir, mewn uchel dŵr,
Gan syllu fry i entrych nen,
A gwelodd di, O Leuad wen.
Sgrifennodd yn ei lyfr—"Y Lloer
Nid yw ond anial marw, oer,
Di ddŵr, di-awyr, llwm a noeth—
Ysgerbwd byd," medd Llyfr y Doeth.
Ac unwaith cerddai prydydd ffôl,
Yn glaf o serch, ar draws y ddôl;
Edrychodd yntau tua'r nen,
A gwelodd di, O Leuad wen.
Darllenais heddiw gyda gwên
Yng nghywydd mwyn y prydydd hen—
"Canhwyllau'r Brenin bia'r byd
Yw'r gannaid Loer a'r Sêr i gyd"