Cerddi a Baledi/Yr Ydfaes
Gwedd
← Y Lloer | Cerddi a Baledi Caneuon gan I. D. Hooson Caneuon |
Ffydd → |
YR YDFAES
BU'R dawnswyr melyn drwy y dydd
Yn dawnsio'n hapus rudd wrth rudd,
Ac wrth eu traed 'r oedd tyrfa goch
Hefyd yn dawnsio foch wrth foch.
A thrwy y nos dros grib y bryn
Disgynnai ar y dawnswyr hyn
Betalau gwyn rhosynnau oer
Gerddi y sêr a lawntiau'r lloer.
Ond heddiw, drwy yr hafddydd maith,
Bu gwŷr yn brysur wrth y gwaith
O dorri i lawr a rhwymo'n dynn
Y dawnswyr melyn pendrwm hyn.
Âc weithian safant yno'n rhes
Dan leuad Awst, ei haul a'i des;
Ac ni all pibau mwyna'r gwynt
Eu denu hwy i'r ddawns fel cynt.