Ceris y Pwll/Son am Ryfel

Oddi ar Wicidestun
Meudwy Ynys Lenach Ceris y Pwll

gan Owen Williamson

Ffydd ac Ofn

XI. SON AM RYFEL

YN nechreu y bennod o'r blaen gadawyd Dona gyda'i chyfaill Iestyn yn y Llwyn hyd oni ddychwelai Ceris o Gil Penmon. Er nad ydyw neges cariad i'w rhoi o'r neilldu fel ail beth, eto mae gofynion i'w hateb a allant ein gorfodi i aberthu anwyliaid, er mwyn anrhydedd uwch. Nid chwedl serch yn unig sydd gennym i'w hadrodd, ond hanes chwyldroad mawr ym Môn yn y cynfyd pell yn ôl. Hanes brwydrau a chreulonderau yw hanes ymfudiadau a chwyldroadau yr hen oesau, a rhai diweddar. Hawdd gennym godi dwylaw mewn dychryn wrth ddarllen hanes goresgyniad gwlad Canan gan yr Israeliaid, a goresgyniadau ar ol hynny yn dwyn cysylltiad â thir Israel; ac ar yr un pryd, ymhen tair mil o flynyddoedd ar ol hynny, yng nghyfnod y grefydd a'r gwareiddiad Cristionogol, yr ydym yn barod i ddawnsio a churo dwylaw wrth ddarllen hanes unplyg yn ein newyddiaduron o ddigwyddiadau cochion a duon,—trueni y gorchfygedig, a gogoniant tybiedig, ond siomedig ynglŷn â phob galanastra rhyfel gwareiddiad gamarweiniol.

Yr ydym ni yn gobeithio nad oedd goresgyniad Môn gan y Brythoniaid yn gyffelyb i rai mwy diweddar. Mae'r hen hanes yn unochrog iawn, ac wedi ei gyfansoddi mewn arddull chwedlonol anhawdd yn aml i'w deongli, oblegid y ffigyrau tywyll ddefnyddir yn y disgrifiadau, oherwydd yr awydd, a'r diben fe allai, i ddarnguddio ffeithiau i gamarwain, er mwyn dyrchafu plaid neilltuol mewn Eglwys neu Wladwriaeth.

A fu ymladd rhwng Brython a Goidel yng ngoresgyniad Môn? Do, yn ddiddadl: oblegid amhosibl fuasai goresgyn heb ddifeddiannu wrth feddiannu; ac mae traddodiadau gogledd Môn yn cyfeirio at frwydrau, enwau y rhai a ddynodant ddwy genedl. Ac ymhellach, mae cymaint rheswm dros wrthod hanes croesi y Fenai gan y Rhufeiniaid, ag sydd dros wrthod credu fod yna blaid a orchfygwyd ym Môn gan Gaswallon, yr hwn, yn ol hen hanes, a ddinystriodd y gallu Goidelig a arweinid gan Lerigi. Feallai mai mabinogi, neu legend yw y stori, ond nid yw amheuaeth o'r ffaith yn gyfystyr ag amheuaeth ynglŷn â gwerth yr adroddiad fel hanes.

Hefyd, y mae dadl ynglŷn â'r cwestiwn-Pwy oedd y Goidelod a orchfygwyd gan Frythoniaid Môn? Dywed rhai mai Gwyddyl o'r Werddon oeddynt, a yrasant ryw Frythoniaid oddiyma i wneyd lle i'r Gwyddyl goresgynnol. Mae rhestr enwau brenhinoedd Gwyddelig tybiedig Gwynedd (os cywir fel rhestr Wyddelig) yn ein taflu mor bell yn ol, fel y mae'n amhosibl derbyn yr haeriad mai ar ol ymadawiad y Rhufeiniaid o Brydain y daeth y Gwyddyl yma; ac nid yw yn debyg y buasai y Rhufeiniaid fuont mewn meddiant o Ucheldiroedd Arfon yn goddef i wlad fras fel Môn gael ei goresgyn gan Wyddyl o'r Werddon.

Ac nid goresgyniad bychan lleol oedd presenoldeb y Gwyddyl tybiedig yng Nghymru, oblegid y mae hanes adfywiad crefyddol neu eglwysig Dewi Sant yn profi fod crefydd Goidelig Cymru yn allu esgobol gydag eglwysi esgobol, er nad o'r un drefn a'r eglwysi Brythonig, fel y profa hanes cynhadledd fawr Llanddewi Brefi.

Ymhellach, paham y mae Cymry goleuedig yn mynnu cysylltu coedwigwyr cochion Eryri a gwylliaid cochion Mawddwy, â Gwyddyl o'r Werddon, pan nad oes unrhyw rwystr ar ffordd credu mai gweddillion y Goidelod gorchfygedig oeddynt, wedi medru amddiffyn eu hannibyniaeth ym mynyddoedd a choedwigoedd Gwynedd?

Mae cwestiwn y berthynas rhwng Cymraeg Gwynedd a'r gwreiddiau Goidelig yn gymysgedig â geiriau Brythonig yr iaith yn hawddach i'w synied a'i ddeall os derbynnir y ddadl mai Goidelod brodorol, o'r un cyff Celtig a'r Gwyddyl, oedd preswylwyr Môn cyn i Gaswallon arwain yn y goresgyniad Brythonig. Nid yw ymffrost "gwyr mawr Môn " yn eu gwaed Brythonig, a distawrwydd y werin ym Môn ers canrifoedd ynghylch eu tarddiad cenedlaethol yn profi dim, ond ei bod yn ddigon naturiol i blant y gorchfygedig, yn enwedig ar ol iddynt golli eu hen iaith, anghofio ceudod y ffos o'r hon y cloddiwyd hwy, neu y graig o'r hon y naddwyd hwy, fel y profa ymddygiad plant ymsefydlwyr Cymreig yn Lloegr, a disgynyddion Prydeinwyr yn America. Yr un ddeddf oedd yn ffurfio cenedl newydd ym Môn yng nghanrifoedd cyntaf' Cristionogaeth ag sydd hefyd yn awr yn cymysgu ieithoedd a chenhedloedd mewn gwahanol wledydd a chyfandiroedd. Cyfeiriwyd fel hyn at ddigwyddiadau mawrion sydd yn creu yn barhaus ryw ddarpariad i ddwyn oddiamgylch ryw berffeithrwydd cynyddol, os oes peth felly yn bod, annealladwy yn awr ond yng ngoleuni cannwyll fechan sydd yn taflu goleuni i'r deall trwy resymeg cyfatebiaeth. Mae y nôd anfeidrol yn annirnadwy i ni. Nid ydym yn ymwybodol o ddim ond ein bod yn symud.

Cylchoedd bychain oedd y rhai y troai Dona ac Iestyn ynddynt, ond crwn yw y cylch faint bynnag fyddo'i fesur. Ac mor sicr ag mai deddf sefydlog, yr hon na allwn ni ei newid, sydd yn ffurfio y cylchoedd, mor sicr a hynny yw fod y trefniant yn llaw Trefnydd Doeth a Hollalluog. Nid cwestiynau cyffelyb i'r rhai hyn oedd yn cynhyrfu ymchwiliad ym meddyliau y ddau ieuanc ar hyn o bryd. Yr oedd y ddau yn newyddian yn y byd yr agorwyd ei ddrws iddynt mor ddamweiniol gan yr amgylchiadau oedd yn cynhyrfu Môn. Y peth mawr yr hiraethent am dano oedd y sicrwydd i'w sefydlu yn eu cylch. Ond er gwrando llawer, a chael eu swyno gan furmuron amrywiol eto yr oedd llawer dydd a'r haul yn machludo heb roi ond ychydig o olau eglur.

Yr oedd Maelog yn ddiorffwys yn ei ymdrechion i gael gwybod beth oedd y symudiad nesaf yn debyg o fod. Yr oedd ansicrwydd fel cwmwl du yn hofran uwchben heb dorri allan yn ystorm, ac heb chwalu.

Ond o'r diwedd daeth y newydd fod Caswallon ar fedr cyhoeddi cynhadledd yng Nghlorach, ar y ffordd sy'n rhannu Môn yn ddwy ran anghyfartal gyda llinell o'r gogledd i'r de. Yr oedd gorllewin Môn eto heb benderfynu pa fodd i weithredu yng ngwyneb y ffaith gynhyrfiol oedd wedi eu hamddifadu o'u harweinydd cyfreithlon: a chan nad oedd ganddynt neb i'w gyhoeddi yn olynydd iddo yr oeddynt yn parhau ym mhenbleth ansicrwydd.

Yn dra sydyn, dechreuodd cwmwl duach na'r un a'i rhagflaenodd ymgasglu uwchben y Wyddfa, yn y ffurf o sibrydion fod llwythau cynhyrfus yr Eryri yn ymbarotoi i wrthwynebu Caswallon, ac i adsefydlu yr hen gynghrair a gylymai y llwythau Goidelig ynghyd, ym mynyddoedd Arfon a'r Eryri, ac yng ngwastadedd Ynys Môn.