Cerrig y Rhyd/Cwyn y Rhosyn

Oddi ar Wicidestun
Y Plas Gwydr Cerrig y Rhyd

gan Winnie Parry

Anwylaf

CWYN Y RHOSYN.

TYFAI rhosyn unwaith mewn gardd brydferth. Yr oedd yno lawer rhosyn a blodeuyn arall yn codi eu pennau i dderbyn pelydrau yr heulwen yn yr ardd brydferth; ond nid oedd yr un blodeuyn mor wych a'r rhosyn yma. Yr oedd ei wrid mor ddwfn a'i arogl mor beraidd, ac yr oedd ei ddail gwyrdd yn cau o'i amgylch mor gariadlawn.

Dringai y goeden y tyfai arni i fyny mur y ty oedd yn sefyll yng nghanol yr ardd, ac ar y brigyn uchaf ohoni y lledai y rhosyn ei ddail gwridog. Yr oedd ffenestr fechan gerllaw, a byddai dau lygad tyner yn gwylio y rhosyn bob dydd, ond ni wyddai y rhosyn ddim am hynny ar y dechreu.

Cusanai yr haul ef yn y boreu yn gyntaf o flodau yr ardd, a thywynnai ei belydrau arno drwy y dydd; a phan fyddai cysgodau yr hwyr yn lledu dros yr ardd, byddai y gwlith disglair yn disgyn ar y rhosyn, ac yn ei ddisychedu â'i ddefnynnau grisialaidd.

Canai y fronfraith, y fwyalchen, a llu o adar ereill iddo o'r wawr dan fachlud haul yn y gorllewin pell. A suai yr eos ef i gysgu â'i miwsig peraidd, o dan lewyrch y lloer a'r ser. Ond er hynny i gyd, yr oedd calon y rhosyn yn drist, ac fel hyn y cwynai wrtho ei hun ryw foreu hafnaidd,—

“Dyma fi yn y fan yma, nis gallaf symud i wneyd daioni i neb; mae yr adar yn gallu ehedeg yn yr awyr, ac yn gallu gwneyd pobl yn ddedwydd â'u cân; ond, am gwneyd pobl yn ddedwydd â'u cân; ond, am danaf fi, nis gallaf roddi mwynhad i unrhyw un. Yr wyf allan o gyrraedd gwneyd daioni i fyny yn y fan yma. Mae meistresi yr ardd yn dod ac yn arogli y blodau ereill, ac yn eu dodi yn eu mynwes. O mor ddedwydd y maent yn teimlo! Ond druan ohonof fi!”

A phlygodd y rhosyn ei ben, a wylodd ddagrau mawr o wlith i lawr o ddeilen i ddeilen. Yn y man daeth awel dyner ac ysgydwodd y goeden, ac a blygodd y rhosyn prydferth yn agosach i'r ffenestr fach. Ac yna clywodd lais gwan yn dweyd,— “Symudwch y cyrten dipyn bach, mam, er mwyn i mi weled fy rhosyn anwyl. Mae yna bob dydd yn edrych arnaf. Mae yr adar yn ehedeg i ffwrdd mewn munud, ond mae y rhosyn coch yn aros o hyd, ac yr ydwyf yn ei garu.”

Synnodd y rhosyn braidd wrth glywed ei hun yn cael ei ganmol fel hyn, a chododd ei ben, ac yr oedd dedwyddwch yn llanw ei galon wrth feddwl ei fod yntau hefyd yn rhoddi boddhad i ryw un, ac yn peri difyrrwch i blentyn claf oedd yn gorwedd drwy y dydd ar ei gwely cystudd. Ac o hynny allan siriolodd y rhosyn, a cheisiai ddangos eì hun yn fwy-fwy yng ngolwg y ffenestr. Nid oedd yn grwgnach am nad oedd, fel yr adar, yn gallu ehedeg yma ac acw a chanu yn beraidd, ac yr oedd yn dda ganddo hefyd ei fod allan o gyrraedd dwylaw y rhai fyddai yn rhodio drwy yr ardd fel nas gallent ei dorri a'i dynnu o olwg y ffenestr fach.

Ond fel yr oedd yr haf yn treulio teimlai y rhosyn fod ei oes fer bron ar ben. Yr oedd llewyrch tanbaid yr haul yn awr yn peri iddo bron llesmeirio, ac nid oedd ond disgwyl i'w ddail ddechreu syrthio o'i amgylch, a gofidiai yn ddwys wrth feddwl na fyddai yno yr un rhosyn i lonni y plentyn claf mwy, oherwydd nid oedd yr un arall wedi ymddangos ar y brigyn uchaf.

Un boreu, pan oedd bron methu codi ei ben, clywai lais o gyfeiriad y ffenestr yn dweyd,— “Mor brydferth mae yn edrych; rhaid i ni gael y rhosyn yr oedd mor hoff o'i wylio i osod yn ei dwylaw.” Ac agorwyd y ffenestr, a chydiodd llaw yn y rhosyn ac a'i torrodd oddiar y brigyn, a theimla ef ei hun yn cael ei ddwyn i fewn i ystafell. Ond fel yr oedd y llaw yn ei osod rhwng y dwylaw bach plygedig, rhoddodd y rhosyn ochenaid, a syrthiodd ei ddail yn un gawod wridog dros fynwes lonydd y plentyn marw.

Nid oedd mwyach angen rhosyn wrth y ffenestr i lonni y ddau lygad fyddai yn ei wylio mor hoffus. Yr oeddynt yn awr yn gwylio prydferthwch mwy na phrydferthwch y rhosyn.

Nodiadau[golygu]