Cerrig y Rhyd/Y Plas Gwydr

Oddi ar Wicidestun
Y Cawr Hwnnw Cerrig y Rhyd

gan Winnie Parry

Cwyn y Rhosyn

Y PLAS GWYDR.

PRYDNAWN poeth iawn oedd, ac yr oedd Maggie wedi llwyr flino ar y dydd a'i helyntion. Yr oedd y plant lleiaf yn ddrwg eu tymer; ac ni fedrai eu cadw yn ddiddig yn ei byw. Yr oedd Bob hefyd yn ei phoeni yn fwy nag arferol. O'r diwedd collodd ei hamynedd yn lân.

“Wna i ddim chware hefo chi, yr ydych yn rhy gâs,” meddai yn ddigllon.

Rhedodd allan i'r ardd a thaflodd ei hun ar y glaswellt o dan yr hen goeden afalau, hoff fan Maggie pan fyddai ei byd bach yn myned o chwith. Trwy y brigau gwelai yr awyr lâs dyner, ac yr oedd fel yn gofidio am ei thymer ddrwg. Trodd ar ei hochr er mwyn peidio edrych arno.

Tra y gorweddai fel hyn, daeth i fyny llwybr yr ardd y foneddiges bach ryfeddaf a welodd erioed. Yr oedd mor fechan, mor sionc! Yr oedd ganddi ddau llygad du, disglair, fel llygaid robin goch. A’i gwisg! wel yr oedd yn ddyryswch iddi. Pa fodd y gallodd wneyd ffrog o flodau llygaid y dydd a mantell o ddail y rhosyn coch? A pha fodd yr oedd yn gallu dal y defnynnau gwlith yn goron ar ei phen? Yn un llaw yr oedd yn dal lili wen. Safodd o flaen Maggie, a gwenodd arni yn dirion. Wrth iddi symud ei phen disgleiriai y defnynnau gwlith fel gemau. Estynnodd ei llaw allan, ac meddai mewn llais ariannaidd,—

“Dewch hefo fì, Maggie, a chewch weled lawer o bethau hardd iawn.”

Cododd Maggie ar eì thraed, a chydiodd yn y llaw fach estynedig. Aeth y ddwy allan drwy lidiart yr ardd, ar hyd y ffordd oedd ar y dechreu yn ddigon cynefin i Maggie; ond buan iawn aeth y llwybr yn hollol ddieithr iddi. Dechreuodd deimlo yn llesg, ac yr oedd ei thraed yn ddolurus gan mor arw oedd y fordd. Pan oedd ar fedr eistedd i lawr gan flinder, daethant i olwg y plas mawr. Yr oedd ei furiau o wydr gloew, fel yr oedd popeth oddimewn i’w weled yn eglur. Y fath bethau prydferth ni welodd Maggie erioed, a safodd i edrych arnynt drwy y muriau.

“A garech chi fyned i fewn?” gofynnodd ei harweinydd iddi.

“Carwn yn lawr,” oedd eì hateb. Aethant ymlaen at ddrws y palas. Uwch ei ben yr oedd y geiriau hyn yn ysgrifenedig mewn llythrennau gloew,—“PLAS DAIONI.” Gyda’i lili wen y cyffyrddodd y foneddiges fechan â'r drws, agorodd ym ebrwydd. Aeth Maggie i fewn, a chaeodd y drws ar ei hol cyn i'w harweinydd ei chanlyn, ac ni welodd y foneddiges a'r wisg flodau mwy.

Teyrnasai distawrwydd mawr oddifewn i'r palas. Safodd Maggie ar ganol llawr y neuadd gyntaf. Ni welai yr un creadur. Y peth cyntaf a dynnodd ei sylw oedd rhes o lythrennau breision ar y mur gwydr o'i blaen, a dyma ddarllennodd,—

“BOB TRO Y BYDDWCH MEWN TYMER DDRWG, NEU Y BYDDWCH YN ANUFUDD, CHWI GEWCH WELED HOLLT YN RHEDEG DRWY UN O'R MURIAU, AC OS A YR HOLLT DRWY YR OLL O'R MURIAU FE DDYMCHWEDL Y PLAS AR EICH CEFN.”

Fflachia y geiriau fel cleddyfau, a theimla Maggie braidd yn edifar ganddi ddod o dan gronglwyd y plas gwydr, er mor brydferth ydoedd Ond wrth edrych ar yr holl ryfeddodau o’i hamgylch, anghofiodd ei hofnau. Cychwynnodd ar daith drwy yr ystafelloedd prydferth. Daeth i un lle yr oedd bwrdd mawr wedi ei osod a phob math o ddanteithion. Teimlai fod arni eisieu bwyd, a meddyliodd y buasai yn mwynhau ychydig o honynt. Sylwodd fod yno un gadair fach wedi ei gosod wrth y bwrdd, ac eisteddodd anni. O’i blaen ynghanol y danteithion yr oedd bowliaid o fara llefrith, ei swper arferol. Nid oedd yn hoff iawn o hono, a llawer oedd wedi rwgnach yn ei erbyn pan oedd gartref. “Chyma i mo'r hen fara llefrith ’na beth bynnag,” —meddai, gan wneyd gwyneb ar y bwyd. Gyda bod y geiriau o’i genau, clywai glec fawr dros yr ystafell, a gwelai hollt ym rhedeg drwy y mur gyferbyn a hi. Cofiodd am y geiriau oedd ar fur yr ystafell gyntaf. Wrth ben yr hollt yr oedd geiriau ereill,—

“BWYTEWCH YR HYN SYDD O'CH BLAEN.”

Cydiodd Maggie yn y fowlen â llaw grynedig, a dechreuodd fwyta y bara llefrith. Wedi iddi ei orffen teimlai yn bur gysglyd, ac edrychodd o’i chwmpas am le i orffwyso. Trwy ddrws agored yr ystafell fwyta gwelai ystafell arall debyg i ystafell wely. Pan aeth i fewn canfu nifer o welyau hardd anghyffredin, yn edrych yn esmwyth ac yn ddeniadol iawn. Ond yn eu canol yr oedd gwely bach tebyg iawn i'r un y byddai hi yn cysgu ynddo gartref. Yr oedd yn bur galed, a meddyliodd y buasai un o’r lleill yn esmwythach o lawer. Wedi iddi dynnu am dani, yr oedd ar fedr gorwedd yn yr un harddai yno, pan redodd rhes o lythrennau fel mellten uwchben y gwely bach caled,—

“GORWEDDWCH YN Y GWELY YMA.” Cofiodd Maggie am yr hollt ym mur yr ystafell gerllaw, ac ufuddhaodd i'r gorchymyn, gan roddi ei phen i lawr ar obenydd y gwely bach oedd mor debyg i hwnnw oedd gartref. Gan ei bod wedi blino cysgodd yn drwm; ac yr oedd yr haul yn disgleirio fel tân drwy holl furiau y plas gwydr pan ddeffrôdd bore dranoeth. Yr oedd amryw o wisgoedd hardd yn yr ystafell, a thybiodd Maggie y buasai yn edrych yn neis iawn wedi gwisgo am dani yn un ohonynt, yn lle yn y ffrog stwff a'r brat gwyn oedd ganddi. Ond pan roddodd ei llaw ar ffrog sidan lâs oedd wedi denu ei llygaid, gwibiai y llythrennau yn ol a blaen ar hyd y muriau,—

“RHODDWCH. Y FFROG STWFF A'R BRAT GWYN AM DANOCH.”

Taflodd y dilledyn gwych i ben pellaf yr ystafell, gan ddweyd,—“Cha i ddim byd yn yr hen le yma.” Rhwygwyd y mur o'i blaen gan hollt, a chlywai glec fawr yn swnio yn ei chlustiau. Ac felly drwy y dydd, ni chai gyffwrdd â dim bron oedd yn y plas. Yr oedd yr oll o’r rhyfeddodau,—y teganau a’r darluniau drudfawr,—yn waharddedig. Ond ni welai yr un creadur yn un man yno, ac nid oedd swn llais yn disgyn ar ei chlyw. Dim ond y llythrennau melltenog yn ei chanlyn o hyd, ac weithiau clywai ambell i glec, pan fyddai wedi tramgwyddo yn erbyn rhyw orchymyn. Yr oedd y distawrwydd a'r unigrwydd yn llethol, a daeth hiraeth ar Maggie, nes oedd yn colli golwg ar yr holl brydferthion drwy i'r dagrau ei dallu. Hiraethai am y plant fyddai yn blino cymaint eu gwylio, a hiraethai hyd yn oed am Bob fyddai yn ei blino beunydd â'i driciau a'i ddireidi. Penderfynodd adael y plas pruddaidd, distaw, a’i furiau gloew, a myned adref at ei mam, at y plant, at Bob. Cyfeiriodd ei chamrau tua'r drws allanol, ond rhedai y llythrennau o'i blaen,—

“ARHOSWCH YMA, NID YDYCH DDIGON UFUDD AC ADDFWYN ETO.”

Ond ymlaen yr aeth, ac yn canlyn pob cam a roddai clywai glec ofnadwy. Gwelai yr holltau yn rhedeg drwy y muriau, y llythrennau yn gwau o'i hamgylch. Pan gyrhaeddodd y drws, nid oedd ond un llecyn bach heb yr un hollt, ac arno y geiriau,—

“OS HOLLTIR Y LLECYN YMA DYMCHWELIR Y PLAS.”

Agorodd Maggie y drws, ond cyn iddi groesi y trothwy dyma’r adeilad yn deilchion o’i hamwylch, ac wrth deimlo y gwydr miniog yn torri i’w chnawd, dechreuodd waeddi yn uchel, a chlywai lais yn ei hateb rhywle uwch ei phen,—

“Hylo yr hen Fag, wyt ti yna? Beth yn y byd wyt ti yn gwaeddi fel ’na, dywed?”

Agorodd Maggie ei llygaid, a gwelodd Bob yn eistedd ar un o frigau yr hen goeden, yr hon oedd yn clecian odditano, a'r dail mân yn disgyn ar ei gwyneb. Neidiodd ar ei thraed, ac yn ei llawenydd am nad oedd y plas gwydr ddim ond breuddwyd, taflodd ei breichiau am wddf Bob ei brawd, a dywedodd,—

“O, Bob anwyl, mae yn dda gen i dy weld ti.”

“Wel paid a fy mygu i ’nte,” meddai hwnnw, gan geisio ymryddhau o’i gafael.

Nid yn fuan yr anghofiodd Maggie ei breuddwyd o dan y goeden afalau, a phan fyddai ar fedr colli ei thymer clywai swn dymchweliad y palas gwydr ac ymdrechai i feistroli ei hun.

Nodiadau[golygu]