Cerrig y Rhyd/Dros Foel y Don

Oddi ar Wicidestun
Y Castell Ger y Lli Cerrig y Rhyd

gan Winnie Parry

DROS FOEL Y DON.

’ROEDD damwain angeuol wedi digwydd ar fferm Ty Mawr; un o’r gweision wedi ei ddal yn yr injan falu, a’i anafu mor dost fel y bu farw cyn iddynt allu ei symud o’r lle. Dyn o’r enw John Hughes oedd, ac ni wyddai neb ddim o’i hanes cyn iddo ddod i’r ardal. Ymddangosai yn hollol amddifad o berthynasau. Ni fyddai un amser yn derbyn llythyr. Ni fyddai neb yn dod o unman i’w weled, nac yntau yn myned i unlle o’r ardal. Daeth at ddrws Ty Mawr un cynhaeaf ychydig flynyddau yn flaenorol gan ofyn gwaith. Yr oedd angen gweithwyr ar y fferm, a chymerwyd ef i fewn. Yr oedd yn weithiwr dygn a medrus, ac ni throwyd ef i ffwrdd ar ddiwedd y cynhaeaf.

Yr oedd geneth fechan gydag ef oddeutu pump oed, a chawsant lety gyda gwraig weddw o’r enw Betsan Jones yn un o’r bythynod oedd ar y ffordd fawr tu allan i lidiart Ty Mawr. Ac yno yr oedd cartref y ddau pan y cymerwyd un ymaith yn ddisymwth, gan adael y gwannaf yn unig a diamddiffyn.

Yr oedd gŵr Ty Mawr wedi dwyn y treuliau claddu, a buasai yn hoffi myned a’r eneth bach gydag ef gartref i’w chydfagu â’i blant ei hun, gan fod yn amlwg nad oedd ond tloty o’i blaen. Ond gwyddai na chaffai dderbyniad gan ei wraig. Dynes dal deneu oedd gwraig Ty Mawr, a golwg gwgus arni bob amser bron; ei llygaid glâs oer heb yr un wreichionen o dynerwch ynddynt, yn gwibio ol a blaen yn ddibaid fel yn chwilio am droseddwr i dderbyn ei gosb, a phan awgrymodd Robert Williams ei ddymuniad wrthi ynglyn â'r eneth amddifad, disgynnodd arno fel llew ar ei ysglyfaeth. Yr oedd yn parotoi y boreufwyd ar y pryd, ac yr oedd pob ysgogiad o’i heiddo yn cydgordio â'r geiriau sarrug ddylifai dros ei gwefusau. Curai ei chlocsiau yn y llawr cerrig tra yn myned yn ol a blaen rhwng y bwrdd a’r aelwyd. Curai y llwy ar ymyl y llestri wrth eu llenwi o’r crochan uwd uwch ben y tân, a dodai hwynt ar y bwrdd gyda’r fath egni nes yr oedd perygl iddynt fyned yn deilchion. “Dwad yma wir,” meddai. “Y dyn ’i hun! Tyda chi ddim yn meddwl fod ginon ni ddigon o waith i gael bwyd a dillad i’n plant yn hunan heb fynd i fagu plentyn estron, na wyr neb ar y ddaear o ble doth hi na’i thad? Faswn i’n meddwl ych bod chi wedi gneyd hen ddigon yn talu am gladdu. Fasa pob creadur a llygad yn ’i ben yn gadael i’r plwy ’i gladdu o, ond dyna fel y byddwch chi bob amsar, yn gneyd cam â’ch teulu ych hun er mwyn rhyw hen nialwch. A’r holl hwribwrli hefo’r cwêst hefyd. Fasa rhywun yn meddwl fod gini ddigon o waith heb orfod olchi’r lloria ar ol traed budron dwsin o ddynion diarth. Ddaw hi ddim yma, dyna ddigon i chi, a waeth un gair mwy na chant. Aed i’r wyrcws, mae yn ddifai lle iddi hi, yr hen fursan bach. Mae ’i gwell hi wedi bod yno ganwaith.”

Pallodd ei hanadl, a chyn iddi ail ddechreu, clywid swn traed ar y palmant cerrig tuallan i’r drws, a daeth y gweision i fewn at eu boreubryd, a’r ddau fachgen hynaf, oedd yn gweithio ar y tir, gyda hwynt. Cymerodd Robert Williams ei het oedd wrth ei ochr ar y fainc ac wedi rhoddi rhyw gyfarwyddiadau i'r gweision, aeth allan. Yr oedd y pedwar bachgen ieuangaf yn rhedeg naill ar ol y llall o amgylch y buarth, ac yn defnyddio eu lleisiau hyd eithaf eu gallu, tra y cynorthwyai y ddau gi i wneyd y trwst yn fwy drwy gyfarth yn ddibaid.

Tel y cyrhaeddai y ffarmwr y llidiart yn arwain i'r caeau, clywai ei wraig yn gwaeddi o ddrws y ty,—

"Hei hogia, dowch i nol ych brecwast mewn dau funud neu mi fyddwch yn hwyr i'r ysgol. 'Dach chi'n clywed? “Rwan, Ifan gollwng Wil mewn munud, neu mi golcha i di.” A gwelai'r hogia yn gwneyd yn wyllt am ddrws y ty, y naill yn syrthio ar draws y llall fel y ceisiai pob un o’r pedwar fyned i fewn yn gyntaf. Deuai ochenaid dros ei wefusau fel y caeai y llidiart ar ei ol, ac yr oedd ei lygaid yn llawn tristwch, a’r wên arferol wedi cilio oddiar ei wyneb crwn rhadlon. Yr oedd y ffaith fod John Hughes wedi cyfarfod â’i ddiwedd tra yn ei wasanaeth yn pwyso gryn lawer ar ei feddwl, ac yn enwedig pan y cofiai am ei eneth bach a’i chyflwr amddifad. “Margiad bach” arferai ei thad ei galw, ac yr oedd yr enw yn un anwyl a chynefin i wr y Ty Mawr flynyddau yn ol. Yr oedd yn anwyl eto, ond gydag anwyldeb gwahanol, yr anwyldeb hwnnw fydd gennym at ryw drysor wedi ei golli. Yr oedd yntau wedi colli ei drysor. Gorweddai Margiad bach Ty Mawr yn y fynwent, a charreg las wrth ei phen. Dywedai yr ysgrifen arni ei bod wedi marw yn wyth oed, ac ar ddiwedd y cofnodiad yr oedd y geiriau,—“Canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas nefoedd.”

Pan dorrwyd y bedd bychan hwnnw dywedai rhai siaradus yr ardal fod yn dda nad oedd gan Margiad Williams Ty Mawr yr un eneth arall “i ddychryn i farwolaeth hefo’i thempar.”

Efallai mai cof am y plentyn oedd yn gorwedd dan y garreg honno oedd yn ei wneyd mor dyner tuag at y fechan unig oedd yn dwyn yr un enw.

Fel y cerddai ar hyd lwybr y cae oedd uwchben y ffordd fawr gwelai hi yn dod allan o ddrws y bwthyn lle y lletyai John Hughes gynt, ac yn myned i gyfeiriad y pentref, a meddyliai ei bod yn myned i’r ysgol. Gwyliai hi nes yr aeth o’r golwg, ac yr oedd rhywbeth yn unigrwydd y ffurf bychan yn peri iddo dynnu cefn ei law ar draws ei lygaid. Ond nid myned i’r ysgol yr oedd Margiad bach pan welodd gŵr Ty Mawr hi’n gadael bwthyn Betsan Jones. Tua’r adeg yr oedd Margiad Williams yn mynegu ei meddwl i’w gŵr ynglyn a hi, yr oedd yr eneth bach ym dod i lawr y grisiau o’i hystafell fechan. Clywai Betsan Jones yn siarad â chymydoges dros wrych yr ardd gefn, a disgynnodd y geiriau canlynol ar ei chlust. Gofynnai y wraig i Betsan,—

“Be ddaw o Margiad bach ’rwan, tybed? Mi ddyla Robat Willias neyd rwbath iddi hi.”

“Mi ’na pe cawsa fo lonydd, mi ellwch benderfynu, ond mi dynna Margiad Willias groen i wynab o tasa fo’n meiddio meddwl am y fath beth. I’r wyrcws, decyn i, rhaid iddi hi fynd. Fydd yma ddim lle iddi ar ol yr wythnos yma. Mae dau o ddynion y lein yn dwad yma i lojio. Ple bynnag yr eith hi, mi geith rywun ddigon o fyd hefo hi. Mae ’i thad wedi ’i dyfetha hi, y criadur! Meddyliwch am dani yn mynnu cael y glog lâs honno i fynd i'r cynhebrwng.”

Ond yr oedd teimladau’r llall ym dynerach, a meddai,—“Y peth wirion bach.” A gwnaeth y geiriau tyner i’r dagrau neidio i lygaid y gwrandawr bychan ar y grisiau. Ni arosodd i glywed ychwaneg o’r ysgwrs. Trodd yn ei hol i fyny’r grisiau mor gyflym a distaw ag y medrai fyned, a’r gair “wyrcws” yn seinio yn ei chlustiau. Nid oedd munud i’w golli. Yr oedd rhaid dianc. Edrychai’r plentyn wyth mlwydd oed o amgylch yr ystafell â llygaid mawr dychrynedig. Yr oedd ganddi ei thrysorau bychain. Y ddau mwyaf gwerthfawr yn ei golwg oedd darlun bachgen bach oddeutu yr un oed a hi ei hun. Yr oedd amser wedi melynu’r cerdyn ac wedi gwanhau y llinellau. Gwyddai Margiad bach holl hanes y darlun hwnnw; yr oedd ei thad wedi ei adrodd wrthi lawer gwaith,—pa fodd yr oedd wedi myned i Gaergybi hefo’i fam i “dynnu ei lun” pan yn hogyn bach, a’r holl bethau rhyfedd a digrif oedd wedi digwydd ar y daith honno. Y trysor arall oedd doli gawsai gan ei hathrawes yn yr Ysgol Sul. Yr oedd yn rhaid cludo y rhai hyn gyda hi. Tynnodd y darlun o’i guddfan a cheisiodd ei roddi ym mhoced ei ffrog, ond yr oedd yn rhy fechan i ddal y cerdyn yn ddiogel, a gwelodd y byddai raid iddi ei dwyn yn ei llaw gyda’r ddoli. Yr oedd y glog lâs gyfeiriwyd ati gan Betsan Jones yn hongian tu ol i’r drws, a rhoddodd hi am dani a’r cap crwn brethyn glâs oedd i’w chanlyn am ei phen. Agorodd ddrws ei hystafell yn ddistaw, ac aeth i lawr y grisiau ar flaenau ei thraed. Clywai Betsan Jones yn siarad o hyd gyda gwraig y ty nesaf, ac aeth allan drwy y drws oedd yn gwynebu’r ffordd fawr.

Yr oedd y gair “wyrcws” yn ei gyrru fel fflangell. Y fath ddarlun ddeuai o’i blaen ynglyn ag ef! Yr oedd unwaith wedi gweled cerbyd yn llawn o enethod bychain yn myned heibio’r bwthyn am ddiwrnod o ddifyrrwch i rywle. Yr oedd gwisg y tloty am danynt, a’u gwallt wedi ei dorri’n gwta. Methai Margiad bach a dyfalu eu hanes, a mynnodd wybod gan rywun. O’r eglurhad hwnnw yr oedd wedi ffurfio, gyda dychymyg byw afresymol plentyn, syniad rhyfedd ac ofnadwy am y lle hwnnw a’r modd y byddai genethod bach yn cael eu trin yno. Ymhlith y pethau yr oedd yn wybod ddigwyddai iddi pe dalient ac yr aent a hi yno, oedd y torrid ei gwallt, y cudynau fyddai ei thad yn droi am ei fysedd; ac ni chawsai wisgo ei chlog a’i chap glâs. Yr oedd hynny’n eithaf sicr. Yr oedd yn fwy na thebyg y digwyddai pethau gwaeth hyd yn oed na hynny iddi, a phrysurai’r meddwl ei chamrau.

Wedi myned ychydig o ffordd goddiweddwyd hi gan fechgyn Ty Mawr, ac arafodd ei cherddediad ychydig er mwyn iddynt fyned heibio iddi. Bechgyn Ty Mawr oedd dychryn ei bywyd. Yr oeddynt mor fawr a chryf, a phan afaelent ynddi byddai eu bysedd fel haearn. Byddai arni eu harswyd bob amser, ac nid elai yn agos i’r lle os na fyddai ei thad yn ymyl. Ond yr oedd un o honynt yn wahanol i’r lleill ym mhob ystyr. Yr oedd yn llai ac yn eiddilach ei gorlif, ac yr oedd llygaid tyner ei dad ganddo. Gwyddai Margiad bach y gwahaniaeth yn dda. Ni fyddai Wil byth yn ei rhwystro ar y ffordd wrth fyned i’r ysgol fel yr hoffai y lleill wneyd. Ni byddai yn ei phinsio fel y gwnai y tri arall pan y llwyddent i gael gafael ynddi. Fel yr elent heibio iddi y boreu hwnnw safai a’i chefn ar y gwrych a’i chalon yn ei gwddf rhag ofn y buasent yn cymeryd yn eu pennau i ymyrryd â hi, a dod o hyd i’r ddoli a’r darlun oedd yn ddwyn mor ofalus o dan ei chlog. Ond yr oedd ganddynt rywbeth pwysicach mewn golwg y boreu hwnnw na blino geneth bach, ac aethant heibio fel corwynt, gan udganu a’u llais fel arfer, a chuddiodd troad y ffordd hwynt o’i golwg mewn eiliad. Ond ni chanlynodd Wil y tri arall yn hir. Trodd yn ei ol a daeth i’w chyfarfod ar hyd y ffordd, a meddai pan wrth ei hymyl,—

“Brysia neu mi fyddwn yn hwyr.”

“Tydw i ddim yn dwad i'r ysgol heddyw, Wil.”

“Lle ti’n mynd ’ta?”

Edrychai y plentyn arno am ennyd tra y petrusai a fyddai’n ddoeth dyweyd ei helynt wrth Wil.

“Dudwch wrtha i, Margiad bach,” crefai yr olaf.

“Nei di ddim deyd wrth neb os gna i ddeyd wrtha ti?”

“Na ’na i.”

“Wir-yr?”

“Wir-yr.”

“Mae nhw am ’y ngyrru i i’r wrcws.” A daeth yr edrychiad dychrynedig yn amlycach i’w llygaid, fel edrychiad deryn bach yn y ddalfa, a throdd ei phen i edrych oedd y “nhw” oedd am ei dal yn y golwg.

Nid oedd dychymyg Wil erioed wedi troi o gwmpas y gair “wyrcws,” a disgynnai ar ei glust yn hollol ddiystyr. Ni allai ddyfalu pa fath le oedd, ond deallai wrth edrychiad Margiad bach ei fod yn lle anymunol, lle fel y jêl yn sicr. Ni allai dychymyg Wil gyrraedd ymhellach, a meddai,—

“Am be mae nhw am fynd a chdi yno?”

“Am ddim. Am fod ’y nhad wedi marw, a ’toes ’na ddim lle i mi yn nhy Betsan Jones, medda hi.”

“O mi gei ddwad i ty ni.”

“Na. Cha i ddim dwad gin dy fam.”

Syrthiodd gwynepryd Wil, ond gloewodd drachefn yn sydyn a meddai,—“Mi gei ddwad gin ’y nhad.” Ond ysgydwai Margiad bach ei phen. Yr oedd yn graffach na Wil, ac yr oedd wedi cael llawer prawf mai nid yr hyn fyddai gŵr Ty Mawr yn ewyllysio fyddai’n dod i ben yno.

“Wel, lle ti’n mynd ’ta?” gofynnai Wil, wrth weled nad oedd ei gynhygiad yn cael derbyniad parod. Daeth yr eneth bach a'i genau at ei glust a sisialodd,—

“Cofia di beidio deyd wrth neb. ’Dw i ’n mynd i dŷ nain. Cofia di beidio deyd neu mi ddôn ar f’ ol i, i fynd a fi i’r wyrcws.”

Edrychai Wil arni’n syn, a meddai,—

“I dŷ nain!”

“Hist!" a gostyngodd ei llais.

“Lle mae ty nain?"

“Yn sir Fon, a rhaid i mi fynd.”

Carasai Wil holi ychwaneg arni, ond yr oedd ei frodyr wedi ei golli, ac yn llefain arno ddod yn ei flaen. Crefodd Margiad bach arno fyned, rhag ofn iddynt ddod yn ol. Ei geiriau diweddaf wrtho oeddynt,—“Cofia beidio deyd wrth neb.”

Yr oedd yn methu deall beth oedd wedi digwydd i'w thad. Yr oedd wedi ei gadael, ond i be? Nid oedd erioed wedi ei gadael am noson o'r blaen. Yr oedd y diwrnod y gweodd ef ddiweddaf, wythnos yn ol, ymhell ymhell yn y gorffennol yn rhywle. Beth oedd “marw” tybed? Yr oedd babi bach y ty nesaf wedi “marw” ychydig wythnosau yn ol, ac yr oedd wedi myned gydag un o’i chwiorydd—ei chyfeilles bach yn yr ysgol—i’w weled yn ei arch fechan. Meddyliai ei fod yn edrych fel y byddai pan yn cysgu yn ei gryd, a buasai yn caru edrych arno o hyd, yr oedd mor dlws. Yr oeddynt wedi myned ag ef i ffwrdd mhen diwrnod neu ddau, ac nid oedd wedi ei weled wedyn. Dywedai pawb fod ei thad wedi “marw,” ac yr oeddynt wedi myned ag yntau i ffwrdd i’r fynwent, ac ofnai na welai mohono byth mwy. Yr oedd wedi gweled yr arch oedd gymaint yn fwy nag arch y babi bach, er na fedrai gael gan neb godi’r caead iddi gael golwg ar y gwyneb yr oedd mor gynefin ag ef. Yr oedd wedi bod yn y fynwent hefyd, y diwrnod yr aethant ag ef yno, pan oedd Betsan Jones mor flin wrthi am fynnu ei chlog lâs i fyned.

Mor falch oedd ei thad a hithau o’r glog lâs. Nid oedd gan yr un eneth bach yn yr ardal un debyg iddi. Yr oedd y ddau wedi ei gweled mewn ffenestr un o fasnachdai Caernarfon pan oeddynt wedi myned gyda’u gilydd i ffair ben tymor, ac aethant i fewn i’w phwrcasu. Yr oedd ei phris yn dipyn o syndod i John Hughes, ond ni fynnai siomi Margiad bach, a thalodd am dani o’i gyflog prin. Yr oedd y dilledyn wedi bod yn destyn llawer araeth gan wraig Ty Mawr. Y fath wastraff ar arian! Ond nid oedd y ddau yn malio llawer yn yr hyn ddywedai Margiad Williams, a gwisgai Margiad. bach y glôg oedd ei thad a hithau yn edmygu gymaint. Yr oedd y diwrnod y prynwyd hi yn un i’w gofio yn hir. Aeth ei thad a hi i’r cei, a dangosodd iddi y tir yr ochr arall i’r afon lle yr oedd “ty nain.”

Hoff ystori Margiad bach er pan oedd yn cofio oedd hanes “ty nain” yn sir Fon, ac yr oedd wedi ei wrando ugeiniau o weithiau pan yn eistedd ar lin ei thad cyn myned i’w gwely. Yr oedd mor gyfarwydd â Brynteg a phe buasai wedi byw ei holl wyth mlynedd bywyd yno. Yr oedd yn adnabod ei furiau gwyngalchog a’r pren rhosynau’n dringo o amgylch y drws. Gwyddai am yr ardd o’i flaen lle y tyfai “hen wr a’r rhosyn mynydd,” a “botwm gŵr ifanc,” a lle yr oedd y fainc a’r cychod gwenyn yn rhes armi. Gwyddai am y berllan wrth ochr y ty, a’r coed afalau ac eirin, ac am yr afon lonydd wrth law lle y byddai ei thad yn nofio cwch bach pan yn hogyn. Yr oedd yn gynefin â chegin fawr y ty a’i distiau derw, y setl wrth ochr y tân, a’r cwpwrdd cornel lle cedwid y mêl fyddai y gwenyn yn gasglu o’r blodau. Ar ddiwedd yr hanes, gofynnai bob amser,- “Pryd cawn ni fynd yno, tada?” A'r ateb fyddai, “Mi awn ni yno ryw ddiwrnod, Margiad bach.”

Y boreu hwnnw, cyn codi o’i gwely, yr oedd wedi meddwl myned i weled y lle yr oedd ei thad yn gorwedd, ond yr oedd wedi ei brawychu gymaint wrth eiriau Betsan Jones, nes i bob meddwl suddo i’r un meddwl mawr o ffoi. A phan ddaeth hwnnw iddi cofiodd am Frynteg, a meddyliodd fod y “rhyw ddiwrnod” hwnnw fyddai ei thad yn son am dano wedi dod. Ac wrth gychwyn ar ei thaith nid oedd ganddi’r un amheuaeth na chyrhaeddai yr hafan. ddymunol “ty nain.”

Fel y cerddai ymlaen yng nghyfeiriad tref Caernarfon, cofiodd am ei bwriad y boreu, a meddyliai yr hoffai ddod yn ei hol gyda’i nain, ac y caent ef yn gorwedd fel babi bach y ty nesaf, yn dlws a llonydd, ac y caent fyned ag ef i Frynteg, a byddai iddo’n sicr ddeffroi yn y fan honno.

Cerddai mor gyflym ag y gallai, a daliai y ddoli a'r cerdyn yn dynn o dan ei mantell lâs. Mis Tachwedd oedd, ac yr oedd yn foreu oer, y wybren wedi ei gorchuddio â chymylau bygythiol, y gwrychoedd o bob tu’r ffordd yn noethion, a'r gwynt yn cwynfan yn brudd trwyddynt.

Wedi cyrraedd y dref ceisiodd ddod o hyd i’r ffordd at lan y môr, oherwydd y gwyddai y byddai raid iddi fyned dros y dwfr rywfodd i gyrraedd sir Fon. Nid oedd yn cofio yn iawn pa ffordd yr oedd wedi myned gyda’i thad, ond ar ol crwydro ar hyd heol neu ddwy cafodd ei hun yn y Maes, o dan gysgod muriau llwydion yr hen gastell, a daeth o’r diwedd i’r cei. Ceisiai ddyfalu pa un o’r cychod oedd yn myned i sir Fon. Yr oedd eu nifer mor liosog nes ei synnu. Cerddodd at Borth yr Aur, ac yno yr oedd twrr o fechgyn ysgol, rhai a'u pwysau ar y mur isel, a'r lleill yn eistedd arno, yn edrych i lawr i’r dwfr. Syllai Margiad bach arnynt yn amheus. Yr oedd yn ofni braidd gofyn iddynt ei chyfarwyddo at y cwch. Taflodd ei golwg drosodd at y tir yr ochr arall i’r afon. Yr oedd y llanw i lawr, a’r tywod yn codi’n felyn o’r tonnau brigwyn. Aeth yn agosach at y bechgyn, ac wedi petruso ychydig gofynnodd yn wylaidd y ffordd at y lle yr oedd y cwch i sir Fon yn cychwyn. Trôdd yr oll eu llygaid ar yr eneth fechan yn ei gwisg lâs, ac edrychent arni gyda chywreinrwydd, ac meddai un yn wawdus,-”Cwch! ’toes na ddim cwch yn mynd i sir Fon y beth wirion. Stemar bach sy’n mynd, a mae hi’n siwr o fynd ar lawr heiddyw.” Syrthiodd gwynepryd Margiad bach wrth y geiriau gwawdus, ond daeth un arall o’r bechgyn at ei hymyl a meddai,—“Oes ginoch chi isio mynd i sir Fon? I lawr ffor’ acw mae'r stemar.” Ond cyn y gallai droi i fyned i’r cyfeiriad dangosai iddi gwaeddodd yr un oedd wedi ei hateb gyntaf,—“Mae tair ceiniog am fynd hefo’r stemar, a mi ddaliai i nad oes gini hi yr un ddimai.” Yr oedd yn hawdd gweled wrth wyneb Margiad bach fod ei ddyfaliad yn gywir. Daeth y dagrau i’w llygaid er ei gwaethaf, ac ni allai gadw ei gwefus rhag crynu. Wrth weled yr arwyddion yma llefai ei gelyn drachefn,—“Un iawn, ynte, yn meddwl cael mynd hefo'r stemar am ddim.” A chwardd. odd yr oll o’r bechgyn, ac eithrio yr un oedd wedi ceisio ei chyfarwyddo at y stemar. Edrychai hwnnw ar ei hol yn fyfyrgar fel yr elai drwy y porth a’i chalon bach bron ar dorri. Yr oedd heb ei “thada” ac wedi colli y gobaith o gyrraedd diogelwch rhag y wyrcws, a daeth yr arswyd ofnadwy arni drachefn yr aent a hi i’r lle hwnnw.

Nid oedd, fodd bynnag, wedi myned lawer o gamrau i fyny’r Stryd Fawr na chlywai rywun yn gwaeddi, “Hei hogan bach,” a phan drodd ei phen gwelai y bachgen oedd wedi bod yn dyner wrthi wrth ei hymyl. Edrychai arni yn siriol, a meddai,—“Os ewch chi i Lan y Foel mi fedrwch fynd i sir Fon hefo cwch y Borth, a ’toes dim ond dima am i blant fynd. Mae gini ddima, a mi cewch chi hi.” A thynnodd y ddimai, ei holl gyfoeth bydol, o’i boced o ganol nifer o fân daclau, a rhoddodd hi yn llaw Margiad bach. Caeodd ei bysedd arni, ac edrychai i wyneb rhadlon y plentyn oedd yn gwenu arni, a chiliodd ei gofid tra y gwenai yn ol arno. “’Dach chi’n gwybod y ffordd i Lan y Foel?” gofynnai rhoddwr y ddimai iddi. Ysgydwai Margiad bach ei phen. “Mi ddo i i’ch danfon chi dipyn bach, mi oeddan ni’n byw yno stalwm, a mi fydda ni’n mynd i sir Fon yn y cwch o hyd. Braf oedd hi hefyd.”

Yr oedd y ddau erbyn hyn yn cerdded i gyfeiriad gorsaf y rheilffordd, ac wedi gadael honno darfyddodd y tai, a chafodd Margiad bach ei hun drachefn yn y wlad. Yr oedd ei byd wedi gloewi gryn lawer. Yr oedd y byd tuallan iddi hefyd wedi gloewi,—y cymylau duon wedi cilio, yr haul yn tywynnu er yn wannaidd. Canai robin goch yn y gwrych gerllaw, a deuai nodyn hir ac undonog yr asgell arian yn awr ac eilwaith, a gwelent ef yn gwibio yma ac acw, gwyn ei aden yn fflachio yn yr haul. Yr oedd y bachgen bach wedi dweyd wrthi beth oedd ei enw, pa le yr oedd yn byw yn nhref Caernarfon, a pha ddosbarth yr oedd ynddo yn yr ysgol, ac yn dechreu holi Margiad bach ar y cyfryw destynau pan glywid cloch yn canu tu ol iddynt yn rhywle, ac meddai yn frysiog,—“Dyna’r gloch gynta. Mi fydd i’n hwyr. Cerrwch yn ych blaen yn syth o hyd, a mi ddowch i Lan y Foel, a wedyn mynd i lawr yr allt, nid yr allt gynta’ ond yr un wedyn, at lan y môr.”

Galwai y cyfarwyddiadau hyn ar ei ol, tra y rhedai yng nghyfeiriad y dref, yn edrych dros ei ysgwydd ar Margiad bach wrth fyned. Rhywfodd wedi hynny nid oedd pethau mor obeithiol yng ngolwg y teithiwr bychan. Aeth yr haul o’r golwg hefyd. Cododd y gwynt, a chwythai’n oer i’w gwyneb. Troellai gudynau ei gwallt tu ol iddi, a chwibanai drwy y rhes o goed ynn oedd gydag un ochr i’r ffordd. Cyfrifai Margiad bach y bonion fel yr elai heibio iddynt. Yr oedd pymtheg ohonynt yn dal a syth, a chodau gwywedig eu hadau yn hongian yn brudd ar y brigau, ac yn suo yn yr awel.

Yr oedd yn brydnawn pan gyrhaeddodd Lan y Foel. Daeth o hyd i’r borth yn ddidrafferth. Yr oedd y cwch a’i hwyl goch i fyny wedi ei sicrhau wrth y cei isel. Ond nid oedd y cychwr i’w weled, ac eisteddodd Margiad bach ar garreg fawr gerllaw i’w ddisgwyl. Teimlai yn flinedig, ac yr oedd ei thraed yn ddolurus ar ol y daith. Yr oedd gefail gof yng ngolwg y llecyn, a gwelai oleu coch y tân yn fflachio drwy y drws agored. Meddyliai y buasai yn caru dal ei dwylaw ato i’w cynhesu, yr oeddynt mor oer. Toc gwelai nifer o blant yn dod o’r ysgol, ac yn sefyll i wylied tân y gof am ennyd. Yn anffodus syrthiodd llygaid un o honynt ar yr eneth fechan yn eistedd ar y garreg ar lan y môr. Dangosodd hi â’i fys i’r gweddill. Deffrowyd eu cywreinrwydd parthed yr “hogan” oedd yn eistedd mor unig a llonydd yn y fan honno, ac mewn eiliad yr oedd yr oll o’i hamgylch. Cododd ar ei thraed, ac ar y funud daeth pwff o wynt dros y dwfr a chododd gwrr y glôg lâs gan ddatguddio'r trysorau ddaliai mor dynn yn erbyn ei mynwes. Ni fuont yn ei meddiant yn hir wedyn. Cipiwyd hwy o’i dwylaw er ei gwaethaf, a gwelai gyda braw dri neu bedwar o’r bechgyn yn ymrafaelio am y ddoli, a’r gweddill yn llygadrythu ar y darlun, a bron a’i dynnu’n ddarnau rhyngddynt tra y llefent eu barn arno. “Llun i chariad hi!” “Yldi dillad digri sy gino fo.” “Un codog ynte.” Dyma rai o’r sylwadau ddisgynnai ar glust Margiad bach. Ac yn ben ar y cwbl gwelai o’r diwedd y ddoli a’r darlun yn fflachio heibio ei llygaid ac yn disgyn i’r dwfr dulas wrth ochr y cei. Yn y cyfwng yma daeth y cychwr i’r lle. A phan welodd Margiad bach yn wylo, ac y deallodd beth oedd ei helynt, ceryddodd y plant yn llym, a neidiodd i’r cwch i geisio cyrraedd y ddoli. Ond yr oedd y llanw wedi ei dwyn yn rhy bell. Yr unig beth gafodd afael ynddo oedd y cerdyn, wedi meddalu yn barod gan y dwfr, a’r darlun wedi ei olchi i ffwrdd yn lân. Rhoddodd hwn i’r eneth bach, a phan ddeallodd fod arni eisieu myned drosodd cododd hi’n garedig dros ochr y cwch, a rhoddodd hi i eistedd ar y fainc. Yr oedd y plant wedi dianc i gyd erbyn hyn, yn ofni canlyniadau eu hymddygiad tuag ati.

Fel y gadawai y cwch y lan, eisteddai a’i llygaid ar y tir yr oedd trwyn y cwch iddo, a’r dagrau heb orffen sychu ar ei gruddiau. Yr oedd colli y ddoli a’r darlun yn brofedigaeth fawr. Daliai y cerdyn gwyn gwlyb o dan gysgod ei chlôg, yr unig ran oedd yn aros o’i thrysor pennaf. Yr oedd bron a thorri i wylo drachefn wrth feddwl am ei cholled, ond fel y siglwyd y ewch gan y tonnau a’r gwynt anghofiodd bob peth mewn ofn. Nid oedd erioed wedi bod mewn cwch o’r blaen, a deuai ei chalon i’w gwddf bob tro y cyrhaeddent frig ton ac y disgynnent i’r dyfnderoedd drachefn. Ni pharhaodd ei mordaith gyntaf yn hir, fodd bynnag, a daethant i’r ochr draw yn ddiogel. Pan yn cerdded i fyny cerrig llithrig y cei, teimlai Margiad bach fod ei threialon yn awr ar ben. Yr oedd yn sir Fon; ni fyddai yn hir cyn cael hyd i Frynteg, “ty nain.” Cerddai gyda’r bobl oedd wedi dwad hefo’r cwch i fyny’r ffordd, a gofynnodd i ryw wraig oedd yn myned ychydig gamrau o’i blaen pa ffordd oedd myned i Frynteg. “Mi ’dw i’n myned heibio yno, a mi ’na i ddangos o i chi.” A cherddodd y ddwy am bellderoedd yn nhyb Margiad bach, yr hon oedd yn flinedig iawn erbyn hyn, ac yn dechreu teimlo yn newynog hefyd. Ceisiai y wraig ei holi o ba le yr oedd yn dod, ond ychydig ddywedai y plentyn wrthi. Ac o'r diwedd gadawodd iddi, gan feddwl ei bod yn eneth bach ryfedd iawn, a cheisiai ddyfalu beth oedd ei neges ym Mrynteg. Pan oedd gobaith Margiad bach bron a diffygio, daethant at lidiart yn arwain i fuarth tyddyn bychan ychydig o’r ffordd. Dywedodd y wraig wrthi ei bod wedi cyrraedd Brynteg, ac wedi agor y llidiart iddi aeth yn ei blaen i fyny’r ffordd. Cerddai y plentyn drwy y buarth at y drws, ac edrychai o’i chwmpas gan geisio rhai o'r pethau yr oedd mor gynefin a hwy. Ni welai ardd yn tebygu i'r un oedd ganddi ddarlun mor fyw o honi yn ei meddwl. Ni welai y berllan a’r coed afalau a’r eirin; a cherrig llwydion heb erioed eu gwyn galchu oedd muriau y ty. Nid ty nain oedd yn sicr, er mai Brynteg oedd ei enw. Safai y drws yn agored, a phan gurodd yn wylaidd daeth gwraig canol oed i’r golwg o’r gegin. Edrychai ar y plentyn yn ymofyngar, ac wrth ei gweled yn sefyll heb ddweyd gair, gofynnodd,—

“Wel, be sy isio?”

Syllodd Margiad bach i'w gwyneb. Yn sicr nid nain oedd hon, ond gofynnodd,—

“Hwn ’di ty nain, os gwelwch chi’n dda?”

Edrychai’r wraig yn synedig arni, a meddai, “John Williams a’i frawd sy’n byw yma, a fi sy’n cadw ty iddyn nhw. Dau hen lanc ydyn nhw,” ac ychwanegodd wrth weled y plentyn yn troi i ffwrdd yn siomedig yr olwg. “Wyrach mai Brynteg Isa oedd arnoch chi isio. Mi ddangosai i’r ffordd i chi fynd at yno.” A daeth ar ei hol at y llidiart a cheisiodd egluro lle yr oedd Brynteg Isa. Yr oedd y cyfarwyddiadau yn ddyrus iawn i Margiad bach, ond cerddai ymlaen ar hyd y ffordd leidiog mor gyflym ag y gallai er gwaethaf ei lludded. Pan gyrhaeddodd y troad yr oedd y wraig wedi dweyd wrthi am gymeryd, daeth yn gawod drom o genllysg, a churai i’w gwyneb nes bron a’i dallu. Yr oedd y nos hefyd bron a’i dal, ac nid oedd Margiad bach yn hoff o’r tywyllwch.

Aeth heibio’r troad, ond ni welai dŷ yn y golwg yn unman, a gofynnodd i fachgen oedd yn dyfod i’w chyfarfod yn tywys ceffyl llwyd mawr, pa ffordd oedd myned i Frynteg Isa. Gyrrodd hwnnw hi heibio troad arall yn y ffordd a daeth o’r diwedd at amaethdy arall. Curai fel yn ei chalon yn gyflym. Tybed y caffai weled ei nain o’r diwedd! Byddai yn sicr o’i hadnabod. Dynes wridgoch a’i gwallt yn “ddu fel y frân,”—dyna fel byddai ei thad yn ei desgrifio i Fargiad bach, ac yr oedd hithau wedi ychwanegu at y darlun,—llygaid tyner fel rhai ei thad. Nid oedd y drws yn agored ym Mrynteg Isa ty arall, a phan gurodd daeth gwraig lled ieuanc ati a golwg helbulus ar ei gwyneb, a chlywai Margiad bach swn plentyn yn crio. Gwelodd y fechan unig ar unwaith mai nid ei nain oedd hon eto. Ni arhosodd y wraig i’r plentyn ddweyd gair, ond meddai,—“Toes ginon ni ddim byd i roi heiddyw,” a chaeodd y drws yn ei gwyneb. Nid oedd yn ddideimlad at gardotwyr fel rheol, ond yr oedd yn llawn trafferth y diwrnod hwnnw, y babi yn flin; y forwyn wedi ymadael heb rybudd. Yr oedd hefyd yn ddiwrnod pobi a’r bara eisiau eu tynnu o’r pobty y funud honno.

Trôdd Margiad bach oddiwrth y drws a siomedigaeth yn llenwi ei chalon at yr ymyl. Ym mha le yr oedd y Brynteg oedd yn geisio? Tybed y deuai o hyd iddo byth?

Crwydrai i fyny ac i lawr y ffyrdd culion rhwng y gwrychoedd uchel. Mor unig, mor ddistaw oedd! Yr unig swn glywai oedd chwi. baniad prudd gwylan yn y pellder yn rhywle.

Daeth dyn drwy lidiart wrth ei hymyl i’r ffordd, a gofynnodd iddo yr hyn oedd wedi ofyn yn ofer ddwywaith o'r blaen y prydnawn hwnnw. ”Brynteg?” meddai, “dach chi’n dwad orwth yno ’rwan.”

“Nid Brynteg yna.”

“O, Brynteg John Williams a’i frawd ’dach chi’n feddwl, decyn i.”

Ond ysgydwai Margiad bach ei phen, oherwydd cofiai mai “John Williams a’i frawd” oedd yn byw yn y lle cyntaf yr aeth i holi.

“Wel, ’twn i ddim lle ’dach chi’n feddwl os nad ydach chi’n meddwl Brynteg y Llan. Dyma ffor ewch chi gynta i fano,” meddai gan agor y llidiart oedd newydd gau ar ei ol. “Cerwch ar hyd y llwybr ’na a dros y gamfa i’r ffordd gul, a wedyn mae giat Brynteg dipyn bach yn is i lawr na’r gamfa. Rhaid i chi frysio ne mi fydd yn nos arnoch chi yngeneth i. Cymwch ofol na newch chi ddim mynd yn rhy agos i’r afon.”

Llusgai Margiad bach ei thraed dolurus hyd y llwybr llaith. Yr oedd y cymylau wedi clirio erbyn hyn, ac ambell seren oleu brydferth yn disgleirio yma ac acw yn y wybren oer glir uwchben. Toc daeth at y llidiart fel y dywedai y dyn wrthi. Ceisiai wneyd allan yn y gwyll a oedd rhywbeth yn gynefin yngolwg y lle—yr oedd y dyn wedi son am yr afon—ond yr oedd y goleu wedi pallu gormod. Cyn y gallai gyrraedd drws y ty clywai swn cadwen yn cael ei llusgo hyd y cerrig palmant, a rhuthrodd ci mawr arni. Nid oedd arni ofn cwn yn gyffredin. Yr oedd dau gi Ty Mawr ymhlith ei chyfeillion goreu. Ond nid oedd y ci yma yn debyg i Spot a Carlo. Teimlai ei ddannedd yn gafael yn ei mantell, ac yn ei dychryn gollyngodd afael yn y cerdyn oedd wedi ddal yn ei llaw o hyd. Diangodd fodd bynnag gan adael darn o’r brethyn yn ei grafangau. Aeth allan drwy y lidiart ac i lawr ffordd gul at y gors gydag ochr yr hon y rhedai lli llonydd distaw yr afon. Nid oedd o ryw lawer o bwys ei bod wedi methu myned at ddrws Brynteg y Llan. Mae yn debyg nad oedd ei nain yno mwy nag yn y lleoedd eraill oedd wedi bod yn holi. Fel y crwydrai yn unig gyda glan yr afon llithrodd ei throed ar y gwellt gwlyb, a theimlai yr oerni esmwyth ar ei gwyneb. Gwelai y ser uwch ei phen. Caeodd ei llygaid. Mor felus oedd gorffwyso ar ol y crwydro maith. Llithrodd yn araf, araf nes y golchai y dwfr ei gwyneb, ac y sisialai drwy ei gwallt hir.

Cafwyd hi boreu drannoeth gan rai o weision Brynteg, ei mantell lâs wedi troi am hen foncyff oedd gyda glan yr afon, a chludwyd hi heibio’r ardd, lle yn yr haf y tyfai y “rhosyn mynydd” a’r blodau eraill y gwyddai am danynt mor dda, ac heibio’r berllan a’i choed afalau ac eirin yn sefyll yn noeth yn awr, i ysgubor yr amaethdy, lle gorweddai ar hen gist a’r dwfr yn araf dreiglo o’i dillad ac o gudynau ei gwallt. Syllodd y dynion am ennyd ar y gwyneb prydferth llonydd, ac yna aethant allan yn ddistaw ar flaenau eu traed, fel pe yn ofni ei deffroi o gwsg mor dawel.

Nid oedd neb yn y lle pan ddaeth gwr Brynteg a’i wraig i fewn i weled y crwydryn bach oedd wedi cyfarfod a’i diwedd yn nyfroedd oer afon y llan. Safai’r ddau un o bobtu’r gist, hen wr a hen wraig a’u gwallt wedi gwynnu, a’u llygaid yn llawn prudd-der. Fel y syllai’r wraig ar y gwyneb bychan daeth enw dros ei gwefusau nad oedd wedi ei seinio ers blynyddoedd lawer, a meddai, “Yn tydi hi’n debyg i John pan oedd o’n hogyn bach. Lle mae o heddyw tybed?” Edrychodd ei gwr i’w gwyneb am eiliad, ac yna trodd ac aeth allan yn frysiog, ond arosodd gwraig Brynteg ychydig yn hwy gyda’r plentyn marw, a chyn ymadael plygodd ei phen a chusanodd y talcen oer, a rhoddodd ei llaw ar y dwylaw bychan tra y codai llanw adgof yn ei chalon nes peri i'r dagrau ddisgyn dros ei gruddiau llwydion rhychlyd.

Claddwyd Margiad bach fel crwydryn ym mynwent y plwyf lle safai Brynteg. Yr oedd ymchwiliad wedi cael ei wneyd am dani yng nghymydogaeth Ty Mawr pan wybuwyd ei cholli, ac yr oedd Robert Williams mewn pryder mawr yn ei chylch, ac yn beio ei hun na fuasai wedi mynnu dod a hi i Dy Mawr er gwaethaf ei wraig. Ond nid oedd ei chyfaill bychan Wil mewn pryder o gwbl am dani. Yr oedd yn ddiogel yn nhy ei nain erbyn hyn. Buasai yn caru dyweyd wrth ei dad, ond cofiai ei fod wedi rhoddi ei air i Margiad bach na fyddai iddo ddyweyd wrth neb, rhag ofn iddi gael ei chymeryd i’r “wyrcws.” Yn y man, fodd bynnag, daeth y newydd am ei thynged i’r ardal. Gwnaeth argraff ddofn ar wr Ty Mawr. Teimlai ei wraig fod rhyw gyfnewidiad wedi dod trosto, a bod ei dylanwad arno wedi colli lawer o’i rym. Gwelodd hyn yn eglur pan y ceisiodd ei rwystro roddi carreg, fel yr un oedd ar Margiad bach Ty Mawr, ar y llecyn lle gorweddai y crwydryn bychan yn y fynwent yr ochr arall i’r Fenai. Am dano ef, teimlai fel pe yn euog o farwolaeth y plentyn amddifad, ac ni pheidiai ac edifarhau na fuasai wedi myned a hi gydag ef i Dy Mawr y diwrnod y claddwyd ei thad. Ond yr oedd Margiad bach yn ddiogel yn yr hafan ddymunol.

Nodiadau[golygu]