Cerrig y Rhyd/Y Castell Ger y Lli

Oddi ar Wicidestun
Esgidiau Nadolig Cerrig y Rhyd

gan Henry Wadsworth Longfellow


wedi'i gyfieithu gan Winnie Parry
Dros Foel y Don
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Henry Wadsworth Longfellow
ar Wicipedia





Y CASTELL GER Y LLI.

(Cyfieithiad o “The Castle by the Sea” gan Longfellow).

A WELAIST di y castell,
Y castell ger y lli?
Cymylau aur yr hwyrddydd
A daenant drosto’u bri.

“Mae fel yn chwennych disgyn
I'r dyfroedd clir islaw,
Ac fel yn chwennych esgyn
I’r wybren euraidd draw.”

“Y castell, mi a’i gwelais,
A’r lloer oedd uwch ei ben,
Ac araf iawn a distaw
Y taenai’r niwl ei len.”

“Oedd cân yn swn yr awel,
A chân yn swn y donn?
A ddeuai seiniau’r delyn bêr
O’r castell ger dy fron?”

“Y donn oedd oer a distaw,
A’r awel oedd yn brudd,
A chlywais swn gwylofus gri,—
Daeth deigryn ar fy ngrudd.”

“A welaist di y brenin,
Ynghyd â'i briod pur,
A’u mentyll heirdd a’u coron aur,
Yn rhodio ar y mur?

“A rhyngddynt hwy yn cerdded
A welaist feinwen dlos,
A’i gwallt fel twyniad heulwen,
A'i gruddiau fel y rhos?”

“Y tad a’r fam mi’n gwelais,
Heb iddynt goron mwy;
Mewn galar wisg yn rhodio,—
’Run feinwen gyda hwy.”



Nodiadau[golygu]