Cerrig y Rhyd/Y Marchog Glas

Oddi ar Wicidestun
Fy Ffrog Newydd Cerrig y Rhyd

gan Winnie Parry

Hen Ferch

Y MARCHOG GLAS.

I. MERCH Y BRENIN.

YR oedd brenin unwaith a chanddo un ferch, a'i henw Gwawr. Ac yr oedd fel ei henw. A bu ei mam farw, ac yna yr oedd y dyddiau yn hir ac unig i blentyn y brenin yng nghastell caerog ei thad, a chysgod nos a lechai yn ei llygaid yn lle goleuni y boreu.

Un diwrnod aeth y brenin allan i ryfel â brenin arall, a phan ddaeth yn ei ol yn orchfygwr, yr oedd gydag ef fachgen a'i lygaid fel y dwfr dwfn oedd o amgylch y castell, a'i wallt yn troelli'n ddu ar ei ysgwyddau; ac ni wyddai neb pwy ydoedd. Y milwyr a'i cawsant yn crwydro hyd faes y frwydr yn wylo yn chwerw, a dywedai rhai mai mab y brenin gorchfygedig ydoedd. Holodd tad Gwawr ef, ond atebai'r bachgen mewn iaith ddieithr, a pharhaodd i wylo ar hyd y ffordd i'r castell. Yr oedd Gwawr yn sefyll yn y porth yn disgwyl ei thad, a phan welodd y bachgen hi, peidiodd ei ddagrau a llifo, a daeth cysur iddo. A chan na wyddent ei enw yn y castell galwasant ef Gwych. Ac o'r dydd hwnnw nid oedd y dyddiau mwyach yn hir i Wawr, nid oedd hi chwaith yn unig, a'r cysgod a giliodd o'i llygaid, a goleuni'r bore ddaeth yn ol. A dysgodd Gwych y geiriau siaradai merch y brenin, ac anghofiodd bron yr oll o eiriau ei iaith ei hun. Ac yr oedd yn y castell hen delynor, yr hwn a chwareuai i’r brenin y cerddi a hoffai. Weithiau chwareuai yn fwyn a thyner, gerddi am yr adar a'r blodau a cherddi serch, a gwenai y brenin. Tro arall tarawai'r tannau â llaw gref, a chlywid bloedd y gâd, yn y nodau, a thaniai llygaid ei feistr, ond yr oedd y telynor yn hen iawn, ac yn fwy mynych byddai ei gerdd yn cwynfan am y milwyr, yr arwyr oedd wedi syrthio ar faes y frwydr; ac fel y cofiai y brenin am ei farchogion dewr oeddynt a'u breichiau yn ddinerth yn lonyddwch angau, deuai prudd-der i'w lygaid wrth wrandaw y tannau hiraethus yn wylo. A charai yr hen delynor y ddau blentyn Gwych a Gwawr, a dysgodd i Wych pa fodd i dynnu'r mwynder o'i hen delyn, ac ymhen amser daeth y bachgen i chwareu mor felus a'r telynor. Ac yna y bu farw yr hen wr a gwnaeth y brenin Wych yn delynor yn ei le. A Gwawr oedd y brydferthaf yn y wlad, a soniai pawb am ei thegwch. Canai y beirdd iddi eu cerddi mwynaf, ond gwell oedd gan ferch y brenin glywed swn y tannau pan chwareuai Gwych, telynor ei thad, arnynt.

Ac i lys y brenin deuai marchogion dewraf y byd, ac yr oedd pob un o honynt yn deisyf cael Gwawr yn wraig iddo ei hun. A Gwych a edrychai arnynt fel y llanwent y neuadd, a meddyliai ynddo ei hun y byddai un o honynt yn myned a merch y brenin gydag ef i ffwrdd i'w wlad ei hun ryw ddydd; ac O! fel y cwynai y delyn wrth i'r telynor feddwl mor ddu ac oer fyddai y castell heb oleuni ei phrydferthwch; ac O! na fuasai ef ei hun yn farchog, yn gwisgo arfau gloew, ac yspardynau aur, ac yna feallai — ond diweddai ei gerdd mewn cri gwylofus. nid oedd ond telynor y brenin.

Un diwrnod, ni chlywid swn y tannau yn neuadd y castell. Yr oedd y delyn yno, ond yr oedd y telynor wedi mynd; ac ni wyddai neb y ffordd a gymerodd. Ac yna cysgod nos a ddaeth i lygaid merch y brenin, cysgod trymach na'r un orweddai ynddynt pan safai ym mhorth y castell pan yn blentyn, ac y gwelodd Gwych am y tro cyntaf. Ac nid oedd mwyach fel ei henw, a Gwawr a gludodd y delyn i'w hystafell ei hun, ac a'i gosododd wrth ei ffenestr, a phan ddisgynnai'r hwyr yn ysgafn dros y dyffryn islaw, safai a'i phen yn pwyso ar y delyn, yn gwylied y porth, ac fel yr elai y nos yn dduach disgynnai y dagrau i lawr yn araf hyd y tannau. — Gwyliai'r porth pan fyddai'r wawr yn torri, a phan fyddai'r hwyr yn cau am y wlad, ond ni ddeuai'r un a ddisgwyliai drwyddi, ac ni chlywid mwy swn y delyn yn y castell, eithr yr oedd yn fud, a'i thannau wedi eu rhydu gan y dagrau a ollyngai Gwawr merch y brenin arnynt.

Ac felly yr aeth y dyddiau heibio, a deuai y marchogion o hyd i ymofyn Gwawr yn wraig, ac yn eu plith un diwrnod daeth marchog a'i wisg yn harddach, a'i arfau yn fwy disglair ac yn fwy ysplenydd na'r un. Mantell o felfed glâs oedd dros ei ysgwyddau, ac uwch ei helm gloew y chwifiai pluen lâs. Ar gefn march gwyn y daeth, a glâs oedd y cyfrwy a'r ffrwyn, ac arian yn eu haddurno, a'r genfa a'r ddwy werthol oedd o arian. A galwasant y marchog hwnnw y Marchog Glâs. A Gwawr a'i gwelodd ef yn dod drwy borth y castell gyda'r hwyr, fel y safai yn gwylio a'i phen yn pwyso ar delyn Gwych y telynor.

O'r amser yma penderfynodd y brenin fod yn bryd i'w ferch Gwawr briodi, ac ni wyddai i ba un o'r marchogion y byddai oreu iddo ei rhoddi, gan eì fod yn frenin doeth, ac yn gwybod bod mai nid wrth yr olwg allanol y mae adnabod dyn, a bod gwisg hardd a gwyneb teg yn aml yn cuddio calon ddu. A gwnaeth amod â'r oll o honynt, eu bod i fyned allan i'r byd am ddeuddeng mis, a'r un gyflawnai y weithred ddewraf yn ystod yr amser hwnnw oedd i fod yn wr i'w ferch. Gwawr ei hun oedd i farnu, ar y dydd y deuent yn ol, pa un oedd y weithred deilyngaf.

Yna yr aeth y marchogion allan o lys y brenin, allan o wyddfod prydferthwch Gwawr, a chyda hwynt elai'r Marchog Glâs, yr hwn nad oedd neb wedi gweled ei wyneb, oherwydd nid oedd wedi diosg ei helm drwy yr amser y bu yn y castell.

II. GWIR WRHYDRI.

Ac ymhen y flwyddyn daeth y marchogion yn ol. Ac ar y diwrnod hwnnw eisteddai Gwawr wrth ochr ei thad i wrandaw yr hyn yr oeddynt wedi wneyd yn ystod y deuddeng mis, ac i farnu pa un o honynt oedd wedi cyflawni'r weithred fwyaf teilwng. A'r naill ar ol y llall daeth pob marchog o'i blaen, gan adrodd y gwrhydri yr oedd wedi ei wneyd. Yr oedd un wedi bod ymhlith rhai yn gwarchae ar ddinas gaerog, ac efe oedd y cyntaf i ddringo ei muriau, ac i blannu baner ei fyddin ar ei thŵr. Yr oedd un arall wedi bod mewn ymdrech â phump o wŷr ar unwaith, ac wedi eu lladd â'i gledd ei hun. Yr oedd un arall wedi marchog drwy wlad y gelyn yn ddiofn yng ngoleuni dydd. Ac felly yr aethant ymlaen nes oedd y marchogion i gyd ond un wedi dweyd ei hanes, a'r un hwnnw oedd y Marchog Glâs. Safai ymhen draw y neuadd, a'i ben yn pwyso ar ei fynwes. Yr oedd golwg prudd arno, ac edrychai'n flinderus, ac fel pe wedi dod o bell ffordd. Yn ddistaw y safai, ac wedi i'r llu marchogion orffen, ni chynhygiodd ddweyd gair. Wedi disgwyl ychydig, gofynnodd y brenin oedd ganddo ef ddim gweithred ddewr i ddweyd am dani; ond ysgydwodd ei ben, ac meddai, — “Nac oes un gwerth ei chrybwyll.”

Yna trodd y brenin at Gwawr gan ddweyd, — “Yn awr fy merch Gwawr, barna di pa un o'r dewrion hyn sydd wedi cyflawni'r weithred deilyngaf.” A thrist iawn ydoedd merch y brenin; oherwydd yr oedd yn meddwl am Wych, telynor ei thad, ac ni welai yr un o'r marchogion mor deg a gwrol ag oedd ef, ac nid oedd yn chwennych priodi yr un o honynt. Ond yn y dyddiau hynny rhaid oedd i bob merch ufuddhau i orchymyn ei thad, ac felly Gwawr. Ond cyn y gallai ddweyd pa un o'r marchogion oedd wedi gweithredu yn fwyaf teilwng, daeth gŵr ymlaen o ganol y dorf oedd yn gwrando ymhen isa'r neuadd, ac meddai mewn llais uchel, —

“Mae gennyf fi air i ddweyd wrth y dywysoges Gwawr o blaid y Marchog Glâs. Un noswaith ar ol brwydr galed gorweddai milwr ar faes y frwydr wedi ei glwyfo yn dost, a daeth nifer o farchogion heibio yn dilyn ar ol y gelyn. Gyrasant eu meirch heibio, ac ambell un yn carlamu dros y milwr clwyfus, heb wrandaw ei gri am gymorth. Ond trodd un o'r rheng, a chan ddisgyn oddiar ei farch gwyn, cododd y milwr yn ei freichiau, gan ei ddodi ar gefn ei anifail, ac aeth ag ef i lety, ac yno y gweinyddodd arno am ddyddiau lawer, gan anghofio yr anrhydedd yr oedd y marchogion ereill yn ennill wrth ddilyn yr ymdrech. Y Marchog Glâs oedd yr un hwnnw wnaeth y cariadwaith hwn, ac yr wyf yn gofyn i ti, O Wawr, merch ein brenin, onid ydyw y weithred hon yn fwy teilwng na'r un sydd wedi ei hadrodd o dy flaen?” A thawodd y gŵr yng nghanol distawrwydd dwfn, a syllai pob llygad ar y Marchog Glâs. Trodd y brenin at Wawr, ond cyn y gallai yngan gair, daeth hen wr ymlaen a'i war wedi crymu, a'i farf wen yn disgyn ar ei fynwes, ac mewn llais crynedig deisyfodd ar y brenin adael iddo ddweyd ychydig eiriau. Wedi cael caniatad meddai,—

“Un diwrnod yr oeddwn yn teithio yn flinderus ac yn llesg ar hyd y ffordd a fy maich ar fy nghefn, a gwelwn farchog ar farch gwyn yn dod fy nghyfarfod. Ciliais o'r ffordd er mwyn iddo fyned heibio heb wneyd niwed i mi, ond safodd y march wrth fy ymyl, ac wedi siarad ychydig â mi, disgynnodd ei feistr i'r llawr, a chan godi fy maich oddiar fy nghefn dododd ef ar ei farch, a dywedodd wrthyf am esgyn i'w le, ei fod yn ei roddi at fy ngwasanaeth, ac yna aeth ymaith heb aros i dderbyn fy niolch, a mae'r march wedi bod o gymorth mawr i mi ddwyn fy meichiau hyd y ffordd unig. Dacw'r marchog wnaeth hynny,” gan estyn ei law grynedig at y Marchog Glâs. “Ac O ferch y brenin, beth feddyli di o'r weithred hon?”

Unwaith eto ataliwyd Gwawr rhag ateb drwy i wr arall ddod ymlaen â chrefu am ryddid i siarad. “ Yr oedd gŵr,” meddai, “a chanddo ddau blentyn, ac yr oeddynt yn amddifad o bob perthynas arall ond un ewythr a drigai mewn gwlad bell; a bu farw tad y plant, a chyn tynnu ei anadl olaf dywedodd wrth y ddau blentyn am geisio myned at ei frawd, eu hewythr. Ac yr oedd taith o agos i bedwar mis i'r wlad lle yr oedd ef yn byw, a chychwynnodd y ddau allan yn unig, heb wybod yn iawn pa ffordd i gymeryd. A'r diwrnod cyntaf o'u taith, fel yr oedd yn nosi, a hwythau wedi eistedd wrth ochr y clawdd yn teimlo'n ofnus ac yn wylo, daeth marchog heibio iddynt, ac wedi eu holi, danfonodd hwynt yr holl ffordd i dŷ eu hewythr, gan eu gwarchod a'u hamddiffyn yn gariadus ar hyd y ffordd. Ac yn awr saif y marchog hwnnw yn y fan acw,” a chyfeiriodd ei law at yr un a'r bluen lâs yn plygu uwch ei helm. “Gwyddai fy meistr, ewythr y plant amddifad, yr hyn oedd i gymeryd lle heddyw, a danfonodd fi ar ol eu cynorthwywr i ddweyd yr hanes hwn er ei glod, gan y gwyddai na fyddai yn hysbys trwy ffordd arall, gan fod y marchog yn gwadu iddo wneyd ond hynny oedd yn ddyledus arno fel dyn. Ac yr wyf finnau hefyd yn gofyn, — Onid wyt ti'n tybied mai hon ydyw'r weithred deilyngaf sydd wedi ei hadrodd heddyw?”

Yna y llefodd y dorf enw y Marchog Glâs, a chododd Gwawr merch y brenin ar ei thraed, a distawodd y lleisiau, yna dywedodd,

“Yr wyf finnau o'r un farm a chwi, O wŷr fy nhad, mai yr hyn a gyflawnodd y Marchog Glâs sydd fwyaf teilwng o anrhydedd. Mewn hunanaberth y mae gwir ddewrder; a thithau, yr hwn y geilw dynion y Marchog Glâs, dynesa a diosg dy helm.”

Ac eisteddodd merch y brenin wrth ochr ei thad drachefn; a daeth y Marchog Glâs ymlaen, a phan gyferbyn a'r orsedd diosgodd ei helm a'r miswrn oedd yn cuddio ei wedd, a'i wyneb oedd gwyneb Gwych, telynor y brenin gynt. Yna y cododd Gwawr drachefn a'i gwisg yn disgleirio o'i hamgylch, ond mwy oedd disgleirdeb prydferthwch ei gwyneb, a chiliodd y cysgod o'i llygaid, a rhoddodd ei llaw yn llaw yr un oedd wedi hiraethu am dano cyhyd, ac meddai, a'i llais yn canu drwy y neuadd,— “Croesaw, croesaw i ti, O Wych.”

Ond yr oedd mwy yn edrychiad ei llygaid ac yng nghyffyrddiad ei llaw nag yn y geiriau hyn.

Yna y dywedodd Gwych ei fod ar ei deithiau wedi dod o hyd i wybodaeth oedd yn profi mai ef yn wir oedd mab y brenin hwnnw orchfygwyd gan dad Gwawr, yn yr amser gynt, pan ddaeth i'r castell gyntaf. A phan wybu fad Gwawr hyn rhoddodd i Wych deyrnas ei dad, a theyrnasodd ef a Gwawr arni yn gyfiawn, ac yn eu plas yr oedd y delyn. Ond ni ddisgynnodd dagrau hyd ei thannau mwy, ac nid oedd rhwd i'w ganfod hyd-ddynt.

Nodiadau[golygu]