Chwalfa/Y Flwyddyn Gyntaf Pennod IV

Oddi ar Wicidestun
Y Flwyddyn Gyntaf Pennod III Chwalfa

gan T Rowland Hughes

Yr Ail Flwyddyn Pennod I

PENNOD IV

(1)

BU'R daith yn un bleserus i Idris a Dic Bugail a'u cymdeithion. Ac yn awr gadawsent swydd Henffordd a chyfoeth ei pherllannau a rhuthrent heibio i fryniau cromennog a dolydd ac afonydd Mynwy.

"Yr argian fawr, 'dydi Llŷn ne' Sir Fôn ddim ynddi hi, hogia'!" meddai Dic mewn syndod.

"'Synnwn i ddim nad oes 'na frithyll reit dda yn yr afon 'cw hiddiw ar ôl y glaw 'na ddoe," oedd barn Huw 'Sgotwr, a'i law, heb yn wybod iddo bron, yn cau am enwair ddychmygol. "Ac i fyny'r afon mae'r awel yn chwythu hefyd, Wil," meddai wrth Wil Sarah, a eisteddai gyferbyn ag ef. Ceiliog hwyaden ar y blaen, was, blacspeidar yn y canol, a choch fonddu fel dropar—diawch, mi faswn i'n 'u dal nhw fel pys o gysgod y goedan 'cw."

"Aros di nes doi di at y pylla' glo, 'r hen ddyn," sylwodd Wil yn ddoeth. "Mae 'na afon fawr yn fan'no, yn rhedag i lawr y Cwm, ond 'fyddi di ddim isio 'sgota ynddi hi."

"Pam?" gofynnodd Huw, a'i bwt o sigaret yn hongian i lawr ar ei wefus isaf drwchus. Yr oedd, yn ôl pob hanes ac yn enwedig ar ei dystiolaeth ef ei hun, yn bysgodwr medrus, ond mewn popeth arall un pur anneallus oedd Huw. Ateb Wil oedd anwybyddu'r cwestiwn a phoeri'n ddirmygus ond yn gywir rhwng coesau'r holwr.

Casnewydd, Caerdydd, newid trên, wedyn milltir ar filltir o lesni caeau a choed a pherthi. Newid trên eto, gwylio'r cwm yn culhau, syllu'n ofnus ar dai fel pe'n sefyll yn betrus ennyd cyn rhoi naid tros ddibyn, ar dramiau meddwon ar y ffordd uwchben, ar y tipiau glo'n ceisio newid ffurf yn ogystal â lliw y bryniau a'r llethrau, ar olwynion cyflym y peiriannau codi glo, ac ar yr afon dywyll, araf, seimlyd, islaw.

"Yr ydw' i'n gweld 'rwan, Wil," meddai Huw, a'i feddwl ryw ddeng milltir ar hugain yn ôl.

Gweld be'?"

"Pam na fedra' i ddim 'sgota yma."

"Na, 'fydd dim angan siop filinar arnat ti yn dy gap i lawr yn fan'ma," atebodd Wil yn sych, gan gofio'n ddirmygus am yr amrywiol blu a wisgai Huw fel rheol ar ei gap.

"Y nefoedd fawr," ebe Dic, "beth petai'r doman fawr ddu acw yn dechra' llithrio i lawr, hogia'! Mi fasa'n claddu'r pentra' 'na i gyd."

Ai dynion allan ym mhob gorsaf, a dilynid hwy gan gynghorion a rhybuddion uchel o ddrysau a ffenestri'r trên. Daeth tro Idris a Dic Bugail a Huw 'Sgotwr a Wil Sarah ac eraill cyn hir, yng nghorsaf Pentref Gwaith. Yr oedd cefnder i Huw yn ei gyfarfod ef a Wil, ond safodd Idris a Dic yn siomedig ar y platfform ymhell ar ôl i'r trên wingo i fyny'r cwm: nid oedd golwg o Fob Tom.

"Tyd, mi awn ni i'w lodjin o, Dic. 'Falla' fod fy llythyr i wedi mynd ar goll yn y Post, wsti."

Wedi cyrraedd ffordd fawr y pentref, holodd Idris ryw ddyn ymh'le yr oedd Howel Street.

"Fe ddoa' i i'ch 'ebrwng chi," meddai yntau, gan droi ar ei sawdl a chydio'n ddioed yn y mwyaf o amrywiol barseli Dic Bugail. Dyn bychan ysgwâr, cyflym ei gam, ydoedd, a marciau gleision y glowr yn amlwg ar ei drwyn. Chwaraeai'r awel â'i fwstas gwlanog, cochlyd.

"'Dydan ni ddim isio'ch tynnu chi allan o'ch ffordd, cof-iwch," meddai Idris.

"'Wy'n byw ar bwys 'Owel Street, a 's dim neilltuol 'da fi i'w wneud. 'Wy' ar y Clwb ers wythnos." A nodiodd tua'r rhwymyn am ei law chwith. "O b'le yn y North ych chi'n dod?

"O Lechfaen," atebodd Idris.

"Bachan! 'Odi'r jawlad y blaclegs 'na'n dala i fynd 'nôl i'r gwaith?"

"Ydyn', mae arna' i ofn,"

"'Sa' ni'r coliars yn lico cael cwpwl ohonyn' nhw dan ddaear am sbel. Fe gela' nhw blaclegs!

Troesant i'r dde, yna i'r chwith, ac i'r dde wedyn.

"Ma 'i 'Owel Street. Pwy dŷ ych chi'n moyn?"

"B . . . be'." gofynnodd Dic.

"B'le ma' fa'n byw?"

"O. Nymbar nain."

Stryd hir, dlawd, oedd Howel Street, a llwch glo a llwch y ffordd dyllog, amrwd, yn cyflym dduo cerrig llwyd y tai.

Edrychai pob tŷ, â'i lestraid o redyn yn ffenestr y parlwr ac â charreg ei ddrws a darn o'r palmant o'i blaen wedi'u sgwrio'n wyn, yr un ffunud â'i gilydd. Gadawodd y glowr hwy wrth y nawfed tŷ a churodd Idris ar y drws. Agorwyd ef gan glamp o ddyn du, ond â'u ddwylo'n wyn a'i wefusau'n goch iawn.

"Is Mr. Robert Thomas Roberts from Llechfaen lodging here?" gofynnodd Idris iddo.

Rhwygwyd dûwch yr wyneb gan wên fawr.

"Dowch i mewn, hogia", " meddai Bob Tom. "Y munud 'ma yr on i'n darllan dy lythyr di, Id. Mi gyrhaeddodd bora, ond yr on i yn y gwaith. Dim ots, mae 'na ddigon o fwyd i chi."

Mawr fu eu croeso yn nhŷ William Jenkins, a phrysurodd Myfanwy, ei wraig, i osod lle iddynt wrth y bwrdd.

"Dowch i'r cefn i chi gael 'molchi, hogia'," meddai Bob Tom. "'Rwyt ti'n edrach fel coliar yn barod, Dic."

"Wedi rhoi fy mhen allan drwy ffenast' y trên 'na am filltir-oedd, fachgan, imi gael gweld y cwm 'ma."

Yr oedd "cinio dydd Sul," yn iaith Llechfaen-tatws a chig a bresych ac yna bwdin a chwpanaid o de-yn eu haros ar y bwrdd, ac wedi'r daith hir o'r Gogledd, yr oeddynt yn falch ohono. Gŵr tawedog a breuddwydiol oedd William Jenkins, a'i lygaid llwydlas, caredig, yn gwenu'n wastadol. Cofia beidio â rhegi, Dic," oedd y cyngor a sibrydodd Bob Tom yng nghlust Dic Bugail yn y cefn. "Mae dyn y tŷ 'ma'n flaenor, wsti." Yr oedd dau lanc wrth y bwrdd hefyd-Ieuan, tuag un ar bymtheg oed, a Gwilym, tua deunaw. Tynnu ar ôl eu mam yr oeddynt hwy, yn dal a chringoch a siaradus fel hithau. Newydd ddychwelyd o'r lofa yr oeddynt hwythau, a theimlai Idris a Dic Bugail hi'n o ryfedd i eistedd wrth fwrdd hefo phedwar dyn du er eu gwaethaf, rhythent ar wynder eithriadol eu dannedd a'u llygaid.

Yr oedd y gegin yn hynod o lân, a'r darnau pres ar y silff-ben-tân a heyrn y grât a hyd yn oed goesau'r bwrdd a'r cad-eiriau'n pefrio'n yr heulwen a lifai drwy'r ffenestr. Cofiodd Idris mai digon tlawd a salw oedd gwedd y cartref tu allan, ond yr oedd y gegin hon fel pe'n her i holl lwch a rhuthr y cwm. Byrlymai cwestiynau tros wefusau Bob Tom yn ystod y pryd bwyd. Pwy a oedd yn ei hen fargen ef ac Idris yn y chwarel? A oedd hwn-a-hwn, y snisyn bach iddo fo, yn Fradwr? Ai gwir fod gwraig hwn-a-hwn, ac yntau yma ym Mhentref Gwaith, wedi gyrru'i enw fo ac eraill i swyddfa'r chwarel? A'r stori fod hwn-a-hwn, ar ôl derbyn "punt-y-gynffon un bore, wedi'i gwadnu hi i'r Sowth y diwrnod wedyn?

Pan oedd y pryd drosodd, rhoes Mrs. Jenkins sach i lawr ar yr aelwyd, a chludodd gŵr y tŷ a Bob Tom y twbyn pren i mewn o'r cefn. Arllwysodd Mrs. Jenkins ddŵr poeth iddo o bair a fu'n berwi ar dân y gegin fach, a Gwilym ddŵr oer o bwced. Yna tynnodd William Jenkins ei grys oddi amdano a phenliniodd wrth y twbyn i ymolchi hanner uchaf ei gorff. Rhwbiodd Mrs. Jenkins ei gefn, a thra oedd ef yn sychu aeth Bob Tom drwy'r un oruchwyliaeth. Wedi diosg ei lodrau, camodd William Jenkins i'r twbyn i olchi ei hanner isaf, ac wedi i Fob Tom wneud yr un modd, cariodd y ddau fab y twbyn allan i'w wacáu. Erbyn eu bod hwy'n barod i ymol-chi, yr oedd y dŵr yn y pair yn ferwedig eto, a gwyliodd y ddau ddieithryn y ddefod mewn braw. Oherwydd âi Mrs. Jen-kins ymlaen â'i gwaith yn y gegin yn ystod yr holl berfformiad, a phan oedd Gwilym wrthi'n ymolchi o'i wasg i lawr, rhedodd gwraig y drws nesaf i mewn i ofyn am fenthyg tipyn o fwstard. Teimlai Idris a Dic Bugail yn bur anghysurus. A fyddai raid iddynt hwythau, yn noeth lymun, heb unman i ddianc iddo, wrando ar ryw wraig-drws-nesaf yn magu huodledd wrth sôn am y poen cefn a oedd ar " Ianto 'co neu am y frech wen a boenai " Wili ni?" Daeth ysfa tros Ddic Bugail i gydio yn ei barseli a'i gwadnu hi am ei fywyd yn ôl i'r Gogledd.

Edrychai William Jenkins a Bob Tom yn barchus iawn yn eu dillad glas tywyll pan ddaethant i lawr y grisiau. Safodd y ddau o flaen y drych, a hongiai uwch y silff-ben-tân, yn rhwbio'r llwch glo ymaith oddi ar ymylon eu llygaid. Daeth Mrs. Jenkins i mewn o'r gegin fach.

"'Roedd Bob a fi'n siarad lan llofft, Myfanwy," meddai'i gŵr wrthi," obeutu ffindo lodjins i'r ddou yma, 'Odych chi'n nabod rhywun all 'u cymryd nhw?"

"Wel, nagw', wir, William. Mae pob tŷ mor llawn, a dynion diarth yn cyrraedd bob dydd. 'Allwn ni shiffto i gymryd un yma os cysgith e' gyda Bob. A fe reda' i lan i dy'n whâr i weld os oes 'da hi le i'r un arall. Setlwch chi p'run sy i aros yma."

"Mi a' i i'r tŷ arall os oes 'na le yno," meddai Dic ar unwaith, gan wybod yr hoffai'r ddau hen bartner fod gyda'i gilydd.

Wel, tra bydd y wraig yn mynd lan i dŷ 'i whâr," meddai William Jenkins, "fe awn ni i weld yr Under-Manager. "Wy'n 'i 'nabod e'n dda. Mae e'n ddiacon 'da ni."

Gan fod galw mawr am lo a digon ohono, yr oedd y swydd-og yn falch o'u gweld ac o addo gwaith iddynt. Caent ddechrau y bore wedyn, meddai, a rhoes bapur iddynt i hawlio lamp ac yna i'w gyflwyno i'r fireman dan ddaear.

"Wel, 'na hwn'na wedi'i setlo," meddai William Jenkins ar y ffordd yn ôl i'r pentref. "A 'nawr gwell inni alw yn siop Hopkins yr iremonger i gael jac a bocs a rhaw i chi."

CC C

'Jac' ydi'r botel dun i gario te i'r gwaith," eglurodd Bob Tom." 'Does 'na ddim caban na berwi teciall i lawr dan ddaear, hogia'. A chyda llaw, Dic, 'chei di ddim smôc am naw awr a hannar."

"Tad annwl!" meddai Dic, mewn tôn a awgrymai fod y Farn gerllaw.

Cawsant lawer o hwyl, ar ôl dychwelyd i'r tŷ, yn casglu a gwisgo dillad ar gyfer y gwaith. Haerai Mrs. Jenkins fod y cotiau a fwriadai'r ddau eu dwyn i'r pwll yn llawer rhy dda i'w gwisgo dan ddaear. "Dillad diwetydd" y galwai hi hwy, a rhaid oedd chwilota am rai llai parchus. Daethpwyd o hyd i ddwy hen gôt, un ar ôl William Jenkins a'r llall ar ôl Gwilym, ac er nad oeddynt yn ffitio'n berffaith, caent fendith frwd pawb ond y gwisgwyr. Dygasent eu llodrau melfared a'u hesgidiau hoelion-mawr gyda hwy o'r Gogledd.

"Iorcs am dy goesa', belt am dy ganol, a chap am dy ben, a mi wnei rêl coliar, Id.," oedd barn Bob Tom. "'Oes gin' ti gap?'

Daria, nac oes, wir, fachgan, dim ond het galad."

"Hm, dipyn bach yn rhy steilish fydd honno, mae arna' i ofn. Beth amdanat ti, Dic? Het silc?"

"Na, mi drewis i hen gap i Ned, fy mrawd yng nghyfraith, yn fy mhac. Lwc, yntê?"

Torrodd Mrs. Jenkins ar yr hwyl. "Mae'n bryd i chi'ch dou 'i shapo hi i'r gwely," meddai. "Rhaid i chi gwnnu am hanner awr wedi pump 'fory. Ieuan, cer di lan i dŷ Bopa Jane gyda Mr. Jones. A chofiwch chi, peidiwch â chadw'n ddiarth," chwanegodd wrth Dic, "ne' 'fyddwn ni'n siŵr o ddigio." Edrychai Dic braidd yn ddigalon wrth ddechrau casglu'i bethau.

"Peidiwch chi â becso 'nawr," meddai William Jenkins wrtho. "Mae Jane cystal â'm Misis i am edrych ar ôl dynion."

Wel, 'does gin' i ond diolch o galon i chi i gyd am.. "Am beth, bachan?"

Ar ben y pwll fore trannoeth, "na ofelwch pa beth a wis-goch" oedd yr adnod a ddeuai i feddwl Idris wrth weld rhai a'u gwisgoedd yn hongian arnynt ac eraill yn torri trwy'u dillad.

"Arhoswch amdana' i yn y fan yma wrth y lamp-rŵm pan ddowch chi i fyny am hannar awr wedi pedwar," meddai Bob Tom wrthynt pan oeddynt ar eu ffordd i'r caets. "Mi fydda' i yn o hwyr, gan fy mod i'n gweithio mor bell i mewn. Cofia di, Dic." Am ryw reswm, edrychai Bob Tom ar Dic fel petai'n hogyn anghyfrifol.

I'r caets â hwy a chydio'n dynn yn y bar haearn ar ei ochr. Ysgydwad i fyny, ac yna i lawr, i lawr, i lawr, mewn rhuthr merwinol o sŵn ac awyr. Neu, ai i fyny yr aent? Ni wyddai Idris na Dic, a chrynai'r ddau rhag y trychineb ofnadwy ar ben y daith pan chwilfriwid y cerbyd haearn fel blwch matsis. Ond landiodd y caets yn esmwyth, a chamodd y dynion allan i'r gwaelod llydan, a oedd yn olau gan drydan ond yn culhau ac yn tywyllu cyn hir. Fflachiadau lampau, clewt a chlonc y dramiau ar yr heyrn, bloeddiadau cwrtais "haliars" yn dymuno "Bore da "i'w ceffylau, dynion yn brysio ymaith tua thywyll-wch y ffâs-prin y gellid dychmygu, meddyliodd Idris, am le mwy annhebyg i uchder agored, iachus, ponc y chwarel. Rhoes "fireman" ef yng ngofal hen weithiwr ac arweiniodd hwnnw ef drwy ddirgel ffyrdd i'r ffâs cul lle gweithiai, yn ei gwrcwd, glamp o Wyddel o'r enw Jerry O'Driscoll. Gwing-odd Idris pan wasgwyd ei law gan y cawr, ac yn wylaidd ddigon yr ufuddhaodd i'w orchmynion i daro'i gôt a'i focs a'i jac ar ochr y talcen a'i lamp ar bostyn yn y ffâs ac i ddechrau Ilenwi'r dram â'r glo a ryddhâi ef o'r wythïen. Yr oedd gan Jerry wyneb a chlustiau enfawr ond llygaid bychain, culion, yn ciledrych fel petai angen cymorth gwydrau arnynt, a thrwyn fflat, gwasgaredig, a wastatawyd mewn llawer ysgarmes. Yn llanc, treuliasai ef flwyddyn neu ddwy fel bocsiwr hyd ffeiriau'r cwm, yn llorio pwy bynnag a oedd yn ddigon byrbwyll i fentro o fewn cyrraedd i'w ddyrnau. Ond ni pharhaodd ei ogoniant fel ymladdwr yn hir: yn lle ymarfer, a rhedeg, a cherdded y mynyddoedd, yn pwyso yn erbyn bar rhyw dafarn y ceid Jerry, a phan gollodd ei gefnogwr bum-punt ddwywaith yn yr un wythnos, gorfu i'r "anorchfygol " gorchfygedig ddychwelyd i'r pwll.

Cydiodd yn awr yn ei lamp, a oedd ar y llawr gerllaw, a rhuthrodd allan i'r hedin i weld yr haliar, gan adael Idris wrtho'i hun. Gwrandawodd y chwarelwr yn bryderus ar y tryblith o gynyrfiadau a wasgai pwysau'r mynydd o'r tywyll-wch, ac i'w glustiau gorastud ef, ymddangosai mân ffrwydriad-au'r nwy yn y glo fel taranau, a sŵn ambell bostyn yn gwichian fel sŵn coeden fawr yn cael ei hysigo mewn storm. Gwibiodd clamp o lygoden heibio i'w draed ac ymsythodd yntau'n sydyn nes taro'i ben yn erbyn y to isel. Yr oedd yn falch o weld Jerry a'i lamp yn dychwelyd.

"Come on, my boyo," meddai'r Gwyddel braidd yn sur. "'Tis not pickin' daisies we are. If it's after takin' a rest ye are, ye've picked the wrong job."

Troes Idris ati i lwytho'r ddram, a gwyliai Jerry ef o gornel ei lygad. Buan y sylweddolodd y Gwyddel nad seguryn oedd ei "butty" newydd, a phan oedd y ddram yn llawn swniai'i lais yn dynerach. "Ay, 'tis only one rest we black diggers ever get, and that's a long one in a hole in the ground. Sure, and it's a mad life we live, by the holy Mary, workin' in one hole in the ground and then sleepin' in another!"

Llanwodd y ddau dair dram y bore hwnnw, a Jerry'n clebran neu'n canu drwy'r amser. "The Minstrel Boy oedd y gân gan amlaf, ond bodlonai'r cawr ar ruo'r un pedair llinell drosodd a throsodd heb falio am gywirdeb geiriau nac alaw.

"The minstrel bhoy to the warr has gone,
In the ranks of de-h-heath ye'll foind him,
His faather's sw-hord he has girded on,
And his woild harp sl-h-hung behoind him."

A'i goesau a'i freichiau a'i gefn plygedig yn wayw i gyd, a'r llwch yn tagu'i wddf ac yn dyfrio'i lygaid, yr oedd y diwn gron yn mynd yn fwrn ar Idris. Arafach o hyd ei hynt â'r bocs cwrlo" o'r ffâs i'r ddram, a phan daflai ysbwriel i'r gob," pwysai'n amlach ar ei raw. Edrychai ar ei oriawr hefyd bron bob pum munud, ac âi allan i'r talcen weithiau i ymsythu wedi bod yn ei gwrcwd cyhyd.

"Is it feelin' stiff ye are?" gofynnodd y Gwyddel yn garedig nid oedd Jerry O'Driscoll mor erwin â'i sŵn.

"Yes, indeed. My back feels as if it's going to snap in two." "Don't you be worryin'. I know all about that, Idris, my boy. I remember my first day underground. 'Faith, I'll never forget it, and I only eleven years old and in a crouch all day. It was double I thought I'd be walkin' all the days of my life. The man I was workin' with one of these holy-mouthed Protestants he was, with a face like iron but with a heart of gold-he told me to take a rest and to lie down flat. And not a stroke of work would he let me do for the rest of the shift. Ay, to be with Ianto Rees when I first went under-ground was the only piece of luck I've had in this God-for-saken place, and that's the truth itself."

Gyda mawr ryddhad y clywodd Idris Jerry'n cyhoeddi ei bod yn bryd iddynt gael tamaid.

""Tis time to have a snap," meddai, "and I warrant 'tis no sauce ye'll be wantin' to give ye an appetite this day." Ond wedi iddynt droi ymaith i'r talcen, y gorffwys yn hytrach na'r bwyd a oedd yn fendith i Idris teimlai'n rhy flinedig i fod yn newynog.

Hwnnw oedd y diwrnod hwyaf a gofiai Idris, a phan gyr-haeddodd y caets ar ddiwedd y prynhawn, yr oedd ei holl gorff yn un blinder poenus ac ni faliai pa un ai i fyny ynteu i lawr yr âi'r cerbyd haearn. Ond ar yr wyneb, sgwariodd ei ysgwyddau ac yfodd yr awyr iach mewn llawenydd dwfn cyn troi tua ffenestr ystafell y lampau i roi ei lamp i mewn ac i aros am Fob Tom. A'i flocyn dan ei fraich, rhuthrai pob glowr tuag adref, a chyn hir nid oedd ond ef ac un dyn arall yn oedi yno.

"Ffag?" meddai hwnnw, gan gynnig un iddo.

"No, thanks, I don't smoke."

Pwysodd y ddau yn erbyn y mur, ac ymhen tipyn teimlai Idris y dylai ddweud rhywbeth wrth y dyn.

"Been working here long?" gofynnodd.

"No, started to-day."

"Me too."

Bu orig o ddistawrwydd rhyngddynt, a gwyliai Idris y mwynhad rhyfeddol a dynnai'r llall o'r sigaret.

"A goblin of a long time without a smoke it's been," sylwodd y dyn. In the quarry, see . . .

"Y nefoedd fawr, Dic Bugail, chdi sy 'ma?"

Daeth Bob Tom a William Jenkins atynt ymhen ennyd, a phrysurodd y pedwar tua'r "cinio dydd Sul" a'u harhosai. Ac wedi bwyta ac ymolchi a newid, ysgrifennodd Idris lythyr hir at ei wraig Kate i roi'r holl hanes iddi. Er ei ludded, swniai'n llon a hapus, wrth ei fodd yn y Sowth; ond fel y gwthiai'r llythyr i flwch y llythyrdy, troes at Ddic Bugail, a ddaethai gydag ef am dro.

"Mae Kate wrthi'n rhoi'r plant yn 'u gwlâu 'rŵan, fach-gan," meddai'n hiraethus. "A Gruff yn strancio fel arfar, yr ydw' i'n siŵr . . . Ys gwn i faint bery'r hen streic 'na eto, Dic?"

(II)

DYDD Gwener a ddaeth. Wedi tamaid o ginio cynnar, daliodd Dan y trên i Gaer Fenai, ac ymhell cyn dau o'r gloch curai wrth ddrws swyddfa'r "Gwyliwr."

"'Ydi Mr. Richards i mewn? gofynnodd i'r argraffydd bychan â chrwb ar ei gefn a ffedog wen o'i flaen a atebodd y drws.

"Heb ddŵad yn 'i ôl o'i ginio."

"O. 'Fydd o'n hir?"

""Does dim dal," meddai'r dyn, â gwên awgrymog. "Gwell i chi roi hannar awr arall iddo fo. Ewch i lawr at y môr am dro i ladd amsar. 'Does dim dal o gwbwl ar ddydd Gwenar, wchi."

Aeth Dan i'r Farchnad i ymdroi ymhlith y llyfrau ail-law yno. Cofiannau a phregethau oeddynt gan mwyaf, a bychan oedd ei ddiddordeb ynddynt.

"O b'le ydach chi'n dwad, 'machgan i?" gofynnodd yr hen ŵr llychlyd a eisteddai'n bur ddiobaith wrth y stondin. Yr oedd ganddo geg fach gron fel botwm, ond uwchlaw iddi daliai clamp o drwyn hen sbectol rydlyd ac yr oedd ei aeliau y rhai mwyaf trwchus a welsai Dan erioed.

"O Lechfaen."

"Tewch, da chi!" Chwifiodd ei aeliau mewn syndod, ac yna ymbalfalodd ymhlith ei lyfrau nes dod o hyd i'r un a geisiai. "'Welsoch chi hwn? Pregethau W. Sulgwyn Jones, Llechfaen. Dyma i chi lyfr! Dyma i chi lyfr! Chwarelwr' ydach chi?"

"Naci, yn y Coleg."

"O, stiwdant, ai e? 'Tasach chi'n glarc ar y relwe ne' mewn Banc, mi faswn i'n codi deunaw arnoch chi. Ond swllt fydd o i chi."

"Ond . . . "

Nid amheuai Dan nad oedd doethineb W. Sulgwyn Jones yn werth swllt, ond yr oedd ar fin egluro mai deunaw a oedd ganddo ar ei elw ac na allai fforddio rhoi ceiniog at un achos dyngarol.

"O Lechfaen!" Gafaelodd rhyw haelioni sydyn yn yr hen frawd a gwyrodd ymlaen i sibrwd: "Dim gair wrth neb, cofiwch. Fe'i cewch o am naw ceiniog."

"Ond . . . "

"Dim siw na miw wrth neb." A gwthiodd y llyfr i ddwylo Dan.

Talodd Dan amdano gyda diolch ffwndrus, ac aeth allan o'r Farchnad gan ddyfalu beth a ddywedai'i ffrind Emrys wrtho pan âi i'w gartref amser te. Yr oedd y gyfrol yn un drom, drwchus, a gwisg o ledr diwinyddol amdani, a theimlai Dan yn euog, fel petai newydd ei dwyn ac yn ceisio'i chuddio oddi wrth bawb ar y stryd. Byddai'n well iddo fynd am dro i lan y môr wedi'r cwbl cyn amser te, os câi gyfle, a rhoi i'r trai lanw huodledd W. Sulgwyn Jones.

Brysiodd yn awr yn ôl i swyddfa'r " Gwyliwr."

"Ewch yn syth i fyny, 'machgan i," meddai'r dyn bach â chrwb ar ei gefn. "Y rŵm gynta' ar ben y grisia'. Mi welwch y gair GOLYGYDD ar y drws."

Aeth i fyny'r grisiau simsan, noeth, yn bryderus a churodd yn wylaidd ar y drws. Nid oedd ateb, a churodd eto, dipyn yn uwch. Gwrandawodd. Dôi sŵn chwyrnu uchel o rywle, a sylweddolodd mai yn yr ystafell y safai ef wrthi y canai'r utgorn. Curodd drachefn, gan fentro defnyddio'r "Pregeth-au" y tro hwn i geisio ennill sylw. Rhoes y chwyrnwr roch sydyn o brotest, ac yna bu tawelwch mawr. Llyncodd Dan ei boer a gofalodd fod ei dei yn syth cyn cael ei alw i mewn i'r ystafell. Ond nis gwahoddwyd i'r cysegr, a safodd yno'n hir ac ansicr gan syllu'n ofnus ar y gair GOLYGYDD o'i flaen. Pechasai'n enbyd: oni churasai'n haerllug ar y drws a hynny â Phregethau W. Sulgwyn Jones?

Cyfododd rhu y chwyrnwr yn uwch, ac agorodd Dan y drws yn ddistaw bach. Ystafell fechan, bur dlawd ac anhrefnus yr olwg, oedd hi, â silffoedd llyfrau wrth un mur, ac yn y gongl ddesg uchel, lydan i daro papur newydd arni, ac yn y canol fwrdd a rhai cadeiriau wrtho. Yr oedd y bwrdd a rhannau o'r llawr yn un llanastr o bapurau a llythyrau, ond yr hyn a dynnodd sylw Dan ar unwaith oedd y pâr o wadnau enfawr a'i hwynebai o ganol y bwrdd. Tu draw iddynt yr oedd coes-au hir mewn trowsus du, rhesog, hynod barchus, a thu draw i'r rheini wedyn, mewn hanner cylch o galedwch cadair swyddfa, weddill corff yr anfarwol Ap Menai. O dan ei wasgod ddu, agored, ymchwyddai ac ymostyngai crymder cawraidd, ac yr oedd uwch ei wddf digoler lawer gên. Gorweddai ei ben ar ei ysgwydd chwith, a gwaeddai ei dryblith o wallt claerwyn am grib. Gwnâi ei safn fawr agored iddo ymddangos fel un mewn dirfawr boen, ac edrychodd Dan yn dosturiol arno.

Beth a wnâi? Ai ei ysgwyd i'w ddeffro? Neu ai mynd ymaith ar flaenau'i draed a dychwelyd yn nes ymlaen? Neu ai aros yn amyneddgar, yng nghwmni W. Sulgwyn Jones? Eisteddodd wrth y bwrdd ac agorodd y llyfr.

Pregeth yn hyrddio'r meddwyn i ganol tragwyddol dân a brwmstan oedd y gyntaf, a chan fod aroglau'r ddiod felltigedig, y taranai'r diwygiwr yn ei herbyn, yn halogi'r ystafell ac yn gryf ar bob awel chwyrnol o'r gadair gyferbyn ag ef, teimlai Dan yn anghysurus wrth ei darllen. Edrychwch arno! bloeddiai W. Sulgwyn Jones. "Syllwch arno! Craffwch arno! Wylwch, wylwch o'i blegid. Ie, wylwch ddagrau gwaed, wylwch eich llygaid allan tros yr adyn hwn, y truanaf o'r holl ddynion, yr hwn sydd yn waradwydd ac yn ddihareb, yn watwargerdd ac yn felltith ym mhob man. Ac wylwch, wylwch, fy mhobl, tros ei wraig yn ei thlodi a'i galar a thros ei blant troednoeth, carpiog, yn nannedd y gwynt . . . .

Ond nid oedd gan yr Ap na gwraig na phlant. Edrych-odd, syllodd, craffodd Dan arno, ond nid wylodd o'i blegid. Yr oedd hwn, cofiodd, yn enwog am ei ddireidi a'i ffraeth-ineb, am ei gynganeddion cyflym ar lafar ac yn ei bapur, am ei areithiau ysgubol oddi ar lwyfanau eisteddfodol, am ei ysgrifau eofn, miniog, am ei wybodaeth o'r hen feirdd. Hwn-Azariah Richards wrth ei enw, ond "Ap Menai " ar dafod pawb oedd perchennog, golygydd, beirniad gwleidyddol, diwinyddol, cymdeithasol, a llenyddol " Y Gwyliwr." Hwn oedd "Y Gwyliwr."

Fel y syllai Dan arno, cododd ei ben oddi ar ei ysgwydd ac agorodd un llygad gwyliadwrus. Caeodd ef drachefn, gan benderfynu llithro'n ôl i'w lesmair.

"Mr. Richards, Syr?" mentrodd Dan.

"Ia?" Agorodd ei ddau lygad y tro hwn.

"Dan Ifans ydi f'enw i. O Lechfaen, Syr. Fe fu Emrys Richards, eich nai, yn són wrthach chi . . .

"Do. Tyd yn d'ôl 'fory."

"Ond heddiw, Syr, y deudodd Emrys . . .

"Tyd yn d'ôl 'fory." Chwifiodd ei law mewn ffarwel, ar fin boddi eto yn nyfroedd cwsg.

Penderfynodd Dan sefyll ei dir. Collasai naw ceiniog yn y Farchnad, ac nid oedd am dalu'r trên o Lechfaen ac yn ôl eto yfory.

"Fedra' i ddim fforddio'r trên yma 'fory eto. Mae fy nhad ar streic ac ychydig iawn o arian sy'n dŵad i'r tŷ 'rŵan. Mae'n ddrwg gen' i, Syr, ond . . . " Yr oedd y geiriau'n gwr-tais ond yn gadarn. Cododd.

Agorodd Ap Menai ei lygaid eto. Ymsythodd yn araf a thynnodd ei goesau oddi ar y bwrdd.

"Eistedd."

Wedi i Dan ufuddhau, estynnodd y Golygydd ei law am y llyfr a oedd yn ei ddwylo.

"Hm. Pregethau Sulgwyn Jones, ai e?" Edrychai fel petai ar fin bod yn sâl. "Fe anwyd y dyn yna ar y Sulgwyn, meddan' nhw i mi. Fe ddylai'i fam fod wedi dewis dydd Ffwl Ebrill neu Ddydd Merchar Lludw yn lle hynny. Y nofiwr mewn llysnafedd! Y llyffant o sant di-swyn! Y bwbach bach dibechod! Y sil don . . ." Ond ni ddôi cynghanedd y tro hwn, a thaflodd y llyfr mewn dirmyg ar y bwrdd. "Mae arna' i ofn, 'machgan i, na ddoist ti i'r lle iawn hefo'r llyfr yna o dan dy fraich. Mi faswn i'n proffwydo bod iti ddyfodol disglair-hefo'r Rechabiaid, ond nid yn swyddfa'r Gwyliwr,'"

Prysurodd Dan i egluro, "Deunaw oedd gen' i ar f'elw, ond fe wnaeth rhyw ddyn yn y Farchnad imi brynu hwn gynno fo am naw ceiniog."

Chwarddodd yr Ap dros y lle. "Fe werthai'r hen John Jones lyfr ar fagu plant i hen lanc fel fi!" meddai.

Yna cododd a chroesi at y ddesg lydan yng nghongl yr ystafell. Cymerodd y copi o'r "Gwyliwr" diwethaf oddi arni.

"'Welaist ti'r Gwyliwr' heddiw? "

"Naddo, wir."

"Yr ydw' i wedi gwneud i hyd yn oed bobol Caer Fenai 'ma chwerthin," meddai'r Golygydd, gan agor y papur a'i blygu a'i gyflwyno i Dan. "Yr hysbysiad 'na mewn inc du. Fel y gwyddost ti, mae 'na bapur arall yn y dre 'ma, ond maen' nhw wedi methu dŵad â fo allan wsnos yma—pibell wedi byrstio yno a'r dŵr wedi difetha'u papur nhw. Nhw ddaru ofyn imi roi hysbysiad yn Y Gwyliwr." A chwarddodd, gan gerdded o amgylch yr ystafell fel hogyn wrth ei fodd.

Chwarddodd Dan yntau wedi iddo ddarllen yr hysbysiad: "'Drwy i ddŵr dorri i mewn a difetha'r stoc o bapur yn y selar, nid ymddengys Yr Utgorn' yr wythnos hon. Deallwn y daw'r papur allan mor sych ag arfer yr wythnos nesaf."

"A 'rwan, to business," meddai'r Golygydd, gan eistedd eto yn ei gadair. "Mi gefais i dy hanes di gan Emrys, ac yr ydw' i'n licio dy olwg di. Pymtheg swllt?"

Ond . . . ond 'wyddoch chi ddim . . . "

"Gwn yn iawn. Mae barn Emrys yn ddigon da i mi, yn well na mynydd o destimonials. Petaut ti wedi dy frolio dy hun, mi faswn wedi ysgwyd llaw hefo ti ers meitin. Mi gei ddechra' bora Llun. Am ddeg, gan dy fod di'n gorfod dwad bob cam o Lechfaen."

"O'r gora', Mr. Richards. Mae 'na drên sy'n cyrraedd yma am hannar awr wedi naw."

"Campus. A thra byddi di yn Llechfaen dros ddiwadd yr wsnos, cadw dy glustia' a'th lygaid yn agored. Ac os oes gin' ti bensal a phapur, myn sgwrs hefo'r hen frawd hwnnw sy'n torri metlin wrth Bont-y-Graig."

"Hefo Robert Jones?"

"'Wn i ddim be' ydi'i enw fo. Fo oedd un o arweinwyr y dynion yn y streic ddwytha', ond fe gollodd 'i waith yn y chwaral yn fuan wedyn . . . Ac i b'le'r wyt ti'n mynd 'rwan? "

"Yr ydw' i wedi cael gwahoddiad i dŷ Emrys i de."

"Gad imi roi un gair o gyngor iti cyn iti fynd yno." Edrychai'r Golygydd yn ddifrifol iawn. "Paid â chyffwrdd yn y deisan gwsberis. Ar boen dy fywyd, paid â chyffwrdd yn y deisan gwsberis."

"O? Pam?"

"Mi weli Emrys a'i fam a'i chwaer yn 'i mwynhau hi, ond maen' nhw wedi hen arfar hefo'r blas. 'Dydi fy chwaer yng nghyfraith ddim yn credu mewn rhoi siwgwr mewn teisan, ac mi wyddost, neu mi fedri ddychmygu, be' ydi teisan gwsberis hefo dyrnaid o halen ynddi hi yn lle siwgwr. Paid â'i mentro hi. Mi wnes i ryw dro, a dyna lle'r oeddwn i'n tynnu digon o wyneba' i ddychryn llun Spurgeon ar y wal. Beth bynnag wnei di, cadw'n glir oddi wrth y deis an gwsberis."

Diolchodd Dan iddo am y cyngor, ac yna troes i frysio ymaith.

"Hei! Yr wyt ti'n anghofio dy lyfr."

"Wel... y... yr on i... 'Ga' i 'i adael o yma, ar y silff 'ma, tan ddydd Llun?"

'Dwyt ti ddim isio'r gyfrol ysbrydoledig?"

"Wel...y..

" Y gwir, 'rwan?" "I fod yn onast, nac ydw'. Pe bawn i'n mynd â hon dan fy mraich i dŷ Emrys..

"Hm. Pwy ddaru ateb y drws iti i lawr y grisia' 'na?"

"Dyn bach â chrwb ar 'i gefn o."

"Wmffra Jones. Rho fo'n anrheg iddo fo. Mac o'n flaenor Methodus ac yn darllan esboniad neu bregeth bob nos cyn mynd i'w wely. Ac mae o'n digwydd cael ei ben-blwydd heddiw. Fe fydd Wmffra wrth 'i fodd, ac mi wnei gyfaill calon yn y swyddfa 'ma ar unwaith. Rho fo i Wmffra. Oddi wrtha'i, os lici di."

"O'r gora'. Diolch yn fawr."

"Tan fora Llun, Daniel, 'machgan i, tan fora Llun."

Pan gyrhaeddodd Dan waelod y grisiau, safodd yn ansicr, gan na wyddai ymh'le i gael gafael yn y dyn bach. Deuai sŵn clebran a thincial llestri o ystafell ar y dde, a churodd ar y drws. Atebwyd ei gnoc gan hogyn o brentis tua phymtheg oed a chwpan yn ei law.

"Y dyn bach ddaru ateb y drws imi gynna'. 'Wnewch chi roi hwn iddo fo, os gwelwch chi'n dda? Oddi wrth Mr. Richards, ar 'i ben-blwydd, deudwch wrtho fo."

Cymerodd y bachgen y llyfr ac edrychodd ar y teitl. Taflodd olwg i fyny'r grisiau, a'i ddannedd amlwg yn un wên fawr.

"O'r... o'r gora'," meddai, gan wneud ymdrech i gadw wyneb. Yna dychwelodd i'r ystafell, lle câi'r argraffwyr gwpanaid gyda'i gilydd, a'i firi yn ysgwyd ei de o'r cwpan i'r soser.

"Y Golygydd yn rhoi hwn yn bresant i chi ar eich penblwydd, Wmffra Jones," gwaeddodd. "Pregetha" W. Sulgwyn Jones."

Fel y troai Dan ymaith, clywai'r rhu o chwerthin ar draul Wmffra Jones. Yr oedd Ap Menai, yn amlwg, yn byw o ddigrifwch i ddigrifwch.

Ymhen rhyw ugain munud, eisteddai wrth fwrdd llwythog gydag Emrys a'i fam a'i chwaer Gwen, athrawes a oedd newydd gyrraedd adref o ysgol gerllaw.

"Wel, a be' ydi dy farn di am yr Ap?" gofynnodd Emrys, wedi i Ddan adrodd hanes ei ymweliad â'r swyddfa.

"Yr ydw' i'n siŵr y do' i'n hoff iawn ohono fo."

"'Dydi o ddim hannar call, wsti," oedd dyfarniad Emrys. "Ond mae o'n werth i bwysa' mewn aur er hynny, er 'i fod o mor dew a thrwm."

"Mae'n biti na fasa' fo wedi priodi a chael rhywun i ofalu amdano fo," sylwodd Mrs. Richards. "Ond pwy fasa'n ddigon gwrol i hynny, 'wn i ddim, wir ... Dowch, helpwch eich hun."

Mwynhâi Dan y bara-ymenyn a'r jam a'r bara-brith yn fawr iawn, a theimlai'n newynog ar ôl ei ginio cynnar a brysiog.

"Tyd, tamaid o'r deisan gwsberis 'ma," meddai Emrys, gan wthio cyllell o dan ddarn ohoni. "Speciality 'Mam, wsti. Mi fedrwn ni gymeradwyo hon, on' fedrwn, Gwen?"

"Wel... y... os gwnewch chi f'esgusodi i..."

"Y?"

"Efalla' y bydda'n well imi beidio. Y... wedi cael...y ... tipyn o boen yn fy stumog y dyddia' dwytha' 'ma."

Stumog ne' beidio... "

'Rwan, Emrys," meddai'i chwaer, "Mr. Ifans sy'n gwbod ora'. Tamaid o'r sponge 'ma, Mr. Ifans? Mae hon yn ddigon diniwad."

Gwyliodd Dan y lleill yn difodi'r deisen gwsberis gyda blas, a phan dorrai Emrys ail damaid iddo'i hun, ni allai ymlid yr olwg farus o'i lygaid.

"Diawch, Dan, mae hon yn werth diodda' tipyn chwanag of boen er 'i mwyn hi."

"O'r. . . o'r gora', Emrys. Darn bach."

Fel y proffwydasai Ap Menai, tynnodd wyneb-ond wyneb o fwynhad digymysg. Oedd, yr oedd yr Ap yn gastiwr heb ei ail.

"A 'rwan mae'n rhaid i chi gael lle i aros yn y dre 'ma, ond oes?" meddai'r fam pan oedd y te drosodd. "Ydach chi'n 'nabod rhywun yma?"

"Nac ydw', wir."

Wyddoch chi am rywla, 'Mam?" gofynnodd Gwen.

"Wel, mi ddaru Mrs. Isaac Morris, Ship Street, sôn wrtha' i 'i bod hi'n unig iawn 'rŵan ar ôl colli'i gŵr. 'Synnwn i ddim na fasa' hi'n falch o rywun yno, er mwyn cwmni. Mae o'n dŷ bach hynod lân, mi wn i hynny—fel pin mewn papur bob amsar."

"Dynas sy'n dŵad i'r capal acw ydi Mrs. Morris," eglurodd Emrys. Roedd 'i gwr hi'n flaenor, ond fe fu farw'n sydyn pan on i gartra'r Pasg."

"Rhedwch i fyny yno, 'Mam, rhag ofn," awgrymodd Gwen.

Aeth Mrs. Richards ymaith ar unwaith, a dychwelodd cyn hir â'r newydd y câi Dan gartref cysurus yn nhŷ Mrs. Morris am naw swllt yr wythnos. Diolchodd yn gynnes iddi am ei thrafferth, ac yna, a'i gyfaill Emrys yn ei ddanfon, i ffwrdd ag ef i ddal y trên.

Diar, yr ydw' i'n falch dy fod di'n dwad i helpu f'ewyrth am yr haf 'ma, fachgan," meddai Emrys cyn i'r trên gychwyn. "Mae o'n gorweithio'n enbyd, wsti, yn 'i ladd 'i hun wrth sgwennu'r rhan fwyaf o'r papur 'na 'i hun. Wel, mi gei ddigon i'w wneud, mae hynny'n siŵr."

Ac yr oedd digon i'w wneud. Cyfieithu rhai o'r areithiau pwysicaf a draddodid yn y Senedd ("Synnwyr—neu ddim—o'r Senedd"); cywiro proflenni tra darllenai un o'r prentisiaid y llawysgrif yn uchel; ailwampio, yn aml ailysgrifennu'n llwyr, nodiadau gohebwyr fel Ben Lloyd; rhuthro allan i ryw briodas neu angladd neu i'r Llys yng Nghaer Fenai—ni châi Dan lawer o amser i segura. Ac fel yr ymdaflai i'w waith yn yr wythnos gyntaf honno, sylweddolodd mor arwynebol oedd y sylw a rôi darllenydd cyffredin i bapur newydd. Deuai'r Gwyliwr yn rheolaidd i Gwynfa' cyn y streic, ond ei dad oedd yr unig un a'i darllenai'n weddol fanwl. Cip ar hanes priodas hon-a-hon neu angladd hwn-a-hwn, craffu ar y darluniau o'r gwisgoedd hardd a gynigiai John Noble am 10s. 6c.— ac yna âi Megan a'i fam ymlaen â'u gwaith wedi gweld y papur' am yr wythnos honno. Bodlonai yntau Dan, fel rheol, ar olwg frysiog tros y nodiadau llenyddol ("Llannerch y Llenor "). Ond yn awr gwyliai bob gair, a phentyrrodd mewn ychydig amser wybodaeth enfawr am fyd a betws. Gwyddai ym mh'le i brynu modrwy briodas a chael anrheg hardd yn rhad ac am ddim gyda hi a "lle o'r neilltu i'w dewis," hetiau at y gwair am ddwy geiniog yr un, te â'r 'poetry of drink' ym mhob cegaid ohono, eli anffaeledig at Gornwydydd Crawnllyd a Tharddiadau Anolygus, y feddyginiaeth orau i'w chymryd pan ddywedai'i drwyn a'i wedd a'i dafod fod Bol-rwymedd arno, pelenni cryfhaol a oedd yn Wrth fustlaidd ac yn Droeth barôl, beth bynnag a olygai hynny, a ffisig at y Gymalwst a'r Gewynwst a'r Anwydwst a phobwst arall a ormesai'r corff dynol. Yr oedd prisiau anifeiliaid, o wartheg i gywion ieir, ar flaenau'i fysedd, ac os dymunai rhywun hwylio i bellter byd, gallai Dan roi iddo'r gost ac enw'r llong a'r porthladd a'r manylion oll. Gwyddai hefyd ym mh'le yr oedd mul cryf a gweithgar ar werth, buwch ddu ganol oed ar goll, parrot â chynffon goch am chwe swllt, pwy a oedd yn barod i dalu deuddeg punt y flwyddyn i forwyn a pha ysgol a oedd eisiau athro ("cyflog: £50 y fl."). A gwnâi'r newyddion lleol (" Pryder a mwynder gwŷr Môn,"

O'r mannau wrth ddŵr Menai," "O Arfon y llon a'r lleddf," "O'r bonc a'i berw o bynciau," "O Lŷn a'i thirion lannau," "Rhyw fanion o Eifionydd," "Ym mro annwyl Meirionnydd," etc.) ef yn awdurdod ar fân ddigwyddiadau ym mhob ardal. Cyngerdd er budd cartrefi Dr. Barnardo yn Amlwch, Cyfarfod Misol yn y Sarn, eisteddfod yng Ngherrig-y-drudion, Cymanfa'r Annibynwyr ym Mhwllheli, Bwrdd yr Undeb yn Llanrwst, trafodion Cyngor Plwyf llawer man na chlywsai amdano o'r blaen, damweiniau mewn chwareli—gwyliai Dan y byd o'i gwmpas â llygaid eiddgar.

Ac wrth ddarllen y newyddion mwy cyffredinol, yr oedd mor chwyrn â'r Ap ei hun pan gondemniodd y "Church Times" Esgob Llan Daf am wasanaethu yn angladd y Prifathro Viriamu Jones; dadleuai'n wyllt gyda Mr. Lloyd George fod pedwar cant o bob mil o'r gwragedd a'r plant yn marw yng ngwersylloedd y Transvaal; a, rhwygo'r Blaid, Ryddfrydol neu beidio, heriai Asquith a'i gyfeillion ar bwnc y rhyfel ffôl yn Ne'r Affrig. Yn y testunau llenyddol, er hynny, yr oedd ei ddiddordeb dyfnaf, a dilynai ysgrifau'r Ap ar feirdd a llenorion a llyfrau a chylchgronau ag awch. Ac, wrth gwrs, ni bu erioed mewn papur newydd nac yn unman arall, stori hafal i "Y Crwydryn," y chwysai'r Ap drosti bob wythnos gan lenwi dwy golofn ysbrydoledig â hanes rhyw dramp a grwydrai'n fympwyol i bobman y gwyddai'r awdur yn o dda amdano. Haerai Wmffra Jones nad oedd y Crwydryn yn ei lawn bwyll. "Ond dyna fo," chwanegai, "yr Ap i hun ydi o, yntê?'"

Aeth Mehefin yn Orffennaf a Gorffennaf yn Awst, ac fel y llithrai'r amser heibio, ciliodd y rhamant gyntaf. Ond yn gynnar yn Awst, cychwynnodd Dan ar ei gyfres nodedig o Frasluniau portreadau syml gan 'Edmygydd' o Robert Williams a "J.H. " a'i dad ac eraill o arweinwyr chwarelwyr Llechfaen. Ymfflamychu a wnâi'r Ap yn ei ysgrifau ar y streic, gan chwipio awdurdodau'r chwarel a'r Bradw yr yn ddidrugaredd, ond penderfynodd Dan na wnâi ond tynnu darluniau cynnil.

"Hm," meddai'r Ap pan ddarllenodd y braslun cyntaf. "Go dda, wir, Daniel, 'machgan i, darlun gwych, ond...'

"Ond?"

"Rhy dawel. Rhaid iti weiddi mewn papur newydd, codi dy lais, taro dy ddwrn ar y bwrdd. Neu 'chymer pobol ddim sylw ohonat ti."

Treuliodd Dan awr arall tros yr ysgrif, er byrred oedd hi, ond ni fedrai yn ei fyw ddilyn awgrym y Golygydd. Nid gŵr i weiddi yn ei gylch oedd Robert Williams, teimlai. Yn nhawelwch onest y dyn yr oedd ei gryfder, yn ei unplygrwydd di-sôn, yn ei ddiffuantrwydd syml. Rhoes ei bin ysgrifennu i lawr mewn anobaith.

"Mae arna' i ofn mai un go sâl am weiddi ydw' i," meddai wrth yr Ap pan ddychwelodd y Golygydd ar ôl bod "ar neges yn y dref.

"Does dim rhaid iti, Daniel, 'machgan i. Mi fûm i'n meddwl am yr ysgrif 'na pan on i allan. Ac 'ron i'n gweld y dyn wyt ti'n 'i ddisgrifio. Hm, efalla' mai gweiddi gormod yr ydan ni, wel'di. Paid â newid gair. Mi ro' i ffrâm o linella' duon am y braslun i dynnu sylw ato fo. Efalla'— pwy a ŵyr? y gwna'r rhain fwy o les i achos y dynion na myrdd o ysgrifa' tanllyd ... Gyda llaw, yr wyt ti wedi bod yma ers deufis bron. Petai'r streic yn dod i ben . . ." Edrychai'r Ap yn anghysurus: daethai'n hoff iawn o Dan erbyn hyn ac ni hoffai feddwl am y swyddfa hebddo.

"Ia? "

"Be' wnei di? Mynd yn ôl i'r Coleg pan fydd o'n agor? "

Dyna mae 'Nhad am imi 'i wneud.'

"A fo sy'n iawn, mae'n debyg. Mi liciwni dy gadw di yma mae'n rhaid imi ddweud, ond . . . Ochneidiodd, yna, fel pe mewn tôn obeithiol : Go ddu mae petha'n edrach tua Llechfaen 'na o hyd, yntê? Y naill ochor mor gyndyn â'r llall. Hm, 'faint bery hi eto, tybed?"

'Dyn a ŵyr. Ond un peth sy'n sicir." Cododd Dan y papur a ddaliai yn ei law a syllodd arno. "'Dydi dynion fel Robat Williams a 'J.H.' a 'Nhad ddim yn debyg o ildio, faint bynnag fydd rhif y Bradwyr. Mi safan' nhw fel y graig.'

(III)

Dydd Sul ydoedd. Paratoai Martha Ifans de, gan ddwyn i'r bwrdd bopeth a allai i'w wneud yn ddeniadol. Taflai olwg yn aml drwy ffenestr y gegin, gan ddisgwyl clywed clic y ddôr a gweld Megan yn dod drwyddi ac yn brysio ar hyd ĺlwybr yr ardd. Ond nid agorai'r ddôr.

Aethai rhyw bythefnos heibio er pan adawodd Ifor a Megan Gwynfa." Galwasai Megan droeon wedyn i weld ei mam, ac ymddangosai'n hapus bob tro. Yn rhy hapus, efallai, fel petai'n ymdrechu bob ennyd i swnio'n llawen. Yr oedd ei chwerthin yn rhy uchel ac yn rhy lon i fod yn naturiol, a pharablai bymtheg y dwsin. Ai wedyn i'r drws nesaf at Kate, ond er gwrando amdano, ni chlywai ei mam y chwerthin uchel oddi yno. Ai actio yr oedd yn ei chartref a rhoi'r gwir i Kate? Holodd Martha Ifans ei merch yng nghyfraith bob tro, ond yr oedd hi mor ofalus â Megan.

Clywodd sŵn y ddôr. Ond Gwyn a oedd yno, wedi rhuthro adref o'r Ysgol Sul.

"'Welist ti Megan ar y ffordd 'na?" gofynnodd ei fam iddo pan gyrhaeddodd ef y gegin.

"Dew! Teisan gyraints duon! Mae'n well gin' i gyraints duon na dim byd."

"'Welist ti Megan ar y ffordd 'na? "

'Naddo. A theisan wy!"

"'Welist ti bobol yn dŵad o'r Eglwys?

"Naddo. 'Ga' i damaid o'r deisan wy 'na 'rwan, 'Mam?"

Na chei, ddim tan amsar te."

Daeth Edward Ifans a Llew i mewn.

"Yr oeddwn i'n disgwyl gweld Megan yma," meddai'r tad. "O, mi ddaw mewn munud, mae'n debyg, Edward . . . 'Oedd 'na lawar yn yr Ysgol Sul?"

"Na, go dena' oedd hi yno heddiw eto." Eisteddodd yn flinedig, gydag ochenaid. "Mae'r peth fel gwenwyn drwy'r ardal 'ma, Martha. Yn y cartrefi, ar y stryd, yn y siopa', yn y capeli. Chwech oedd yn fy nosbarth i pnawn 'ma eto. 'Roedd gin' i bymthag cyn i Idris a Huw 'Sgotwr a'r lleill fynd i ffwrdd. Efalla' y bydda'n well imi 'i roi o i fyny."

"Neno'r rheswm, pam?"

"'Ddaw y Bradwyr ddim yn ôl tra bydda' i'n athro ar y dosbarth."

"Twt 'dydyn' nhw ddim ond dau—Meic Roberts a Gwilym Lewis."

"Ác mae tri arall yn cloffi rhwng dau feddwl, mae arna' i ofn, ac yn aros gartra'. 'Roedd Jwdas yn dŵad i mewn i'r wers pnawn 'ma, a phawb yn fy nosbarth i wrth 'u bodd. Nid am y Testament Newydd yr oeddan' nhw'n meddwl, ond am Fradwyr Llechfaen. Ydi, mae'r peth fel gwenwyn. Yn yr Ysgol Sul, yn y Seiat, yn y Sêt Fawr, hyd yn oed yn y Cwarfod Gweddi. Mae'n ddrwg gin' i dros Mr. Edwards y Gweinidog y dyddia' yma. Mae pobol yn darllan i mewn i bob pregath ac yn rhoi 'u hystyr 'u hunain i bob brawddeg. Y bora 'ma, pan ddigwyddodd o sôn ar 'i bregath am y llo aur yn yr anialwch, 'roeddwn i'n gweld amryw yn ciledrych ar ei gilydd â rhyw wên ar 'u hwyneba' nhw."

"Dewch i gael 'panad, Edward. Mi ddechreuwn ni." Ac eisteddodd y teulu i lawr i de, a chlustiau'r tad a'r fam yn gwrando'n astud ond yn ofer am glic y ddôr.

I fyny yn Albert Terrace, yr oedd Letitia Davies yn wael, yn wael iawn. Pan âi pethau o chwith yn y tŷ neu pan groesid hi mewn rhyw ffordd, âi Letitia i'w gwely i dawelu curiadau gwyllt ei chalon. Aethai pum mlynedd ar hugain heibio er pan gyhoeddodd Doctor Roberts fod ei chalon hi braidd yn wan, a phob hyn a hyn, wrth ewyllys ei pherchennog ac ar adegau cyfleus, ceisiai'r galon eithriadol honno, fel aderyn mewn caets, ddianc o'i charchar. A chan na allai Letitia wneud hebddi, anadlai'n wyllt, gan riddfan a thuchan a chochi yn ei hwyneb wrth stryffaglio i'w chadw yn ei lle. A churai calon pawb arall yn y tŷ yn wylltach fyth.

Un o'r cyffroadau hyn a gadwodd Megan yn Albert Terrace y prynhawn Sul hwnnw. Digwyddodd yn gyfleus i Letitia ar ôl cinio. Proffwydasai droeon yn ystod y pythefnos cynt y deuai "attack" cyn hir, ond llwyddodd amryw o bethau-ei haml bwyllgorau yn yr Eglwys ac yn yr ardal, yn arbennig-i'w gadw ymaith. Ond y prynhawn hwnnw deallodd y galon y gallai hi gael tipyn o sbri heb ymyrryd â phrysurdeb pwysig ei pherchennog, a manteisiodd ar y cyfle. Ond, yn annisgwyl i Letitia, chwaraeodd

Ffawd dric â hi.

Dechreuodd y galon guro'n gyflymach yn y bore pan wrthododd Gruffydd Davies fynd hefo'i wraig i'r Eglwys. Ei esgus oedd bod y cryd cymalau yn ei ben-glin yn boenus iawn, ond ni chredai hi mo hynny. Ac yn wir, yr oedd y pen-glin yn well o lawer ar ôl i Letitia ymadael.

"Pam ydach chi'n aros gartra' bora 'ma?" gofynnodd Megan iddo.

Meddwl y basa'n well imi orffwys yr hen ben-glin 'ma... Pam wyt ti'n gwenu?

"Dim byd."

"'Dwyt ti ddim yn . . . yn credu'r stori?"

"Wel..."

"Wyt ti'n meddwl bod Letitia—Mrs. Davies—yn... yn...?" Yr oedd ofn yn ei lygaid.

"Yn beth?"

"Yn . . . yn ama'?"

"Felly, esgus ydi'r pen-glin?"

"Wel, i ddeud y gwir-ond dim gair wrth neb, cofia—ia, esgus ydi o. Ond paid â chymryd arnat wrth neb, cofia, ne*

"Edrychodd yn ymbilgar arni.

"Ne' beth?"

"Ne' mi fydd hi'n helynt gynddeiriog yma. O diar, 'ddylwn i ddim bod wedi deud wrthat ti. Wnei di ddim sôn gair, na wnei?"

"Na wna'. "

Yr oedd yn ddrwg gan Fegan dros y dyn bach diniwed hwn-" Gruffydd Letitia" i bawb yn y chwarel. Ar yr ychydig adegau pan gawsai ei gwmni ar ei ben ei hun, daethai'n hoff ohono a bu yntau'n garedig iawn wrthi, ond cyn gynted ag y deuai ei wraig i'r golwg, gwisgai Gruffydd Davies fwgwd llymder, gan gymryd arno fod ei ferch yng nghyfraith islaw sylw. Chwarelwr cyffredin, diymhongar, fu ef am flynyddoedd er holl ymdrechion Letitia i'w wneud yn Stiward Bach. Llusgwyd ef ganddi o Siloh i'r Eglwys, er mwyn ei ddwyn yn nes at rai o'r prif Stiwardiaid, ac eisteddai yno bob Sul fel hogyn anfoddog yn yr ysgol yn dyheu am chwarae triwant. Ond o'r diwedd, wedi blynyddoedd o ddyfalwch ac amynedd, llwyddodd Letitia yn ei chais, a gwnaed ei gŵr yn swyddog. Dathlwyd yr amgylchiad drwy symud i fyny i Albert Terrace, lle trigai amryw o fân stiwardiaid a marcwyr cerrig. "Tale Tellarce" oedd enw answyddogol y stryd honno, ac er y teimlai Gruffydd Davies yn bur anhapus yno, yr oedd ei wraig ar ben ei digon. Tua'r un pryd, etifeddodd Letitia rai cannoedd ar ôl hen ewythr iddi, ac aeth yn ddynes fawreddog. Ymwthiai i gwmni gwragedd a ystyriai hi'n bwysig, a lle bynnag yr oedd gobaith bod ar bwyllgor neu lwyfan, yno y ceid Letitia Davies. Rhwng popeth yr oedd hi'n wraig brysur.

Ond swyddog sâl a wnaeth ei gŵr. Gwrandawai'n astud ar gwynion rhai o'i hen gyfeillion, ac oedai'n aml am sgwrs â hwn-a-hwn, yn lle'i orchymyn yn swta i fynd ymlaen â'i waith. A phan dorrodd yr helynt yn y chwarel, â'r dynion, yn ddistaw bach, yr oedd holl gydymdeimlad Gruffydd Davies. Ac yn awr yr oedd yn ddi-waith. Rhyw bythefnos cyn i'r Bradwyr ddechrau, galwyd y swyddogion, yn Stiwardiaid a Chontractwyr, yn ôl i'r chwarel, ond ni ddaeth gwŷs i 2, Albert Terrace. Gruffydd Davies oedd un o'r tri Stiward na welid mo'u hangen o dan y drefn newydd. Pam? Yr oedd y peth yn ddryswch mawr i Letitia, a chyhuddodd ei gŵr drocon o ddangos ei gydymdeimlad â'r gweithwyr. Y gwir oedd mai hi, ac nid ef, a ddylai fod yn Stiward Bach yn y chwarel.

Pam ydach chi'n gwneud yr esgus 'ma ynglŷn â'ch penglin?" gofynnodd Megan, gan fanteisio ar y cyfle i'w holi.

"Wel, i ddeud y gwir-ond 'wnei di ddim sôn gair, na wnei?

"Na wna".

"I ddeud y gwir, er pan mae'r helynt 'ma wedi dechra', mae'n gas gin' i fynd heibio Siloh i'r Eglwys. Mae 'na lot o betha' da yn yr Eglwys, cofia, ond . . . ond yn Siloh y magwyd fi, a rhywfodd—ond 'wnei di ddim sôn gair, na wnei?"

"Na wna'."

"Rhywfodd, mae Siloh fel 'tasa' fo'n sefyll dros chwara' teg i'r dynion a'r Eglwys dros . . . dros..."

"Dros be', Gruffydd Davies?"

Ond teimlai ef iddo ddweud gormod yn barod, a throes ymaith o'r gegin i eistedd yn anesmwyth a phryderus yn y parlwr. Aeth Megan ymlaen â'i gwaith o glirio'r brecwast a pharatoi'r cinio (Enillasai Letitia Davies forwyn dda, ddigyflog), ac yna mentrodd i fyny'r grisiau i gynnig, am yr ail waith, gwpanaid i Ifor. Ond, a'i ben fel pwced ar ôl y noson gynt, llonydd a oedd arno ef ei eisiau. Codai pan fyddai'r cinio'n barod, ac os meiddiai neb aflonyddu arno cyn hynny. . .

Pan ddaeth Megan i lawr y grisiau, blinasai Gruffydd Davies ar synfyfyrio yn y parlwr ac eisteddai yn y gegin fach. Ac yno y bu am hanner awr, yn ei gwylio heb ddywedyd gair. "'Wnei di... 'wnei di ddim sôn gair, na wnei?" meddai o'r diwedd.

"Diar annwl, na wna' . . . Wel, mae'r cig 'ma'n barod."

"Os medrwn ni gael tipyn o heddwch a thawelwch yn yr hen fyd 'ma, yntê?. . .

"Ia, am wn i, wir. Ond ... ond pam ydach chi'n mynd i'r Eglwys os ydi'r capal yn well gynnoch chi?"

"Wel, 'doedd Letitia-Mrs. Davies-ddim yn fodlon fy ngweld i-a hi oedd yn iawn, mae'n debyg-fy ngweld i'n aros yn dipyn o chwarelwr, ac yn meddwl-mae'n rhaid wrth ddylanwad yn y chwaral, fel y gwyddost ti-yn meddwl y basa' gin' i well siawns-ac yr oedd hi yn 'i lle, fel y troes petha' allan-well siawns i fod yn swyddog pe baem ni'n mynd i'r Eglwys Ond diar annwl, yr ydw' i'n deud petha' na ddylwn i eto. Petai Letitia-Mrs. Davies-yn gwbod fy mod i'n clebran fel hyn . . . "Tawodd, gan wlychu'i wefusau a syllu'n anniddig o'i gwmpas.

"Ond 'rŵan, ar ôl iddyn' nhw beidio â'ch galw chi'n ôl i'r chwaral, 'dydi hi ddim yn rhaid i chi ddal i fynd i'r Eglwys."

"Letitia sy'n gwbod ora'."

Gwenodd Megan, gan guddio'i hwyneb oddi wrtho. Pa sawl gwaith y clywsai hi'r frawddeg honno? "Letitia sy'n gwbod ora'," oedd arwyddair bywyd Gruffydd Davies, a chuddiai tu ôl i'r geiriau ym mhob cyfyngder.

"'Ydach chi'n siŵr?"

"Y?" Syllodd mewn syndod arni, a'i geg fechan, gron, yn agored. A oedd hi'n amau gosodiad mwyaf sylfaenol y greadigaeth?

"'Ydach chi'n siŵr? "

"Yn . . . yn siŵr? Be' . . . be' wyt ti'n feddwl?"

"Dim ond mai i'r capal y baswn i'n mynd os mai yno y teimlwn i'n fwy a' cartrefol. Ac edrychwch ar y rhai sy'n mynd i'r Eglwys, Miss Price-Humphreys a Mrs. LloydDavies, a . . . a rhai tebyg." Bu bron iddi ychwanegu enw Mrs. Letitia Davies, ond cofiodd ymh'le yr oedd. Wedi'u startsio i gyd. 'Wn i ddim sut ydach chi'n medru byw yn eich croen yng nghanol y criw."

"O, mae 'na lot o betha' da yn yr Eglwys, cofia. Oes, lot o betha' da." Yr oedd fel petai wedi dysgu'r frawddeg hon ar ei gof.

Aeth Megan yn hy arno. "Deudwch y gwir 'rwan, Gruffydd Davies, p'run ydi'r gora' gynnoch chi-y capel ne'r Eglwys?"

"Wel, mae Letitia—Mrs. Davies-i'w gweld yn reit hapus yn yr Eglwys . . . "

Nid p'run ydi'r gora' gan Mrs. Davies on i'n ofyn." "Naci . . . 'Ydi'r . . . 'ydi'r ffa 'na'n barod, dywad?" "Ddim yn hollol . . . Wel?"

"Mi ges i hwyl ar y ffa 'leni. 'Ron i'n ofni, ar ôl i'r gwlydd dyfu mor uchal' . . .

"Trio osgoi'r cwestiwn yr ydach chi, yntê?"

"Cwestiwn? O, am yr Eglwys a'r capal? Wel, mae Letitia . . . "

"Fedrwch chi ddim gadael Mrs. Davies allan o'r peth am funud?"

"'Rwyt ti mor styfnig â'th dad, ond wyt ti?"

"Ydw', bob tamaid weithia'."

Taflodd Gruffydd Davies olwg ofnus tua'r drws. Ond cofiodd mai yn y gegin fach yr oedd ac mai drwy ddrws y ffrynt y deuai ei wraig i'r tŷ fel rheol.

"I ddeud y gwir-ond dim gair o'th ben, cofia—mi fydd yn gas gin' i feddwl am fynd heibio Siloh i'r Eglwys. Pasio'r hen Robat Wilias neu'r hen William Parri ar y ffordd, a . . . a thrio cerddad fel sowldiwr bach wrth nesu at yr Eglwys. Dyn syml ydw' i, yr un fath â'th dad . . . Diar, mi fûm i'n gweithio wrth ymyl dy dad am flynyddoedd, hogan, pan oedd o ym mhen isa'r chwaral. Un o'r gweithwyr gora' fuo'n naddu llechan erioed . . . Ia, fel sowldiwr bach y bydda' i'n cerddad i fyny Ffordd yr Eglwys, y mae'n rhaid imi ddeud, a phan fydd y gwasanaeth drosodd, mi fydda' i'n dyheu am gael dengid adra' yn lle ysgwyd llaw hefo Miss Price-Humphreys a Mr. Lloyd-Davies a rhai tebyg. Ond felly y mae Letitia yn licio petha', a hi, fel y gwyddost ti, ydy'r . . . ydy'r bos."

Chwarddodd yn dawel a braidd yn hurt, ond yr ennyd nesaf yr oedd dychryn yn llond ei lygaid. Agorodd drws y cefn yn sydyn a safai Letitia yno.

"O'n wir Y bos, ai e?

! Y bos, ai e? A dyma be' sy'n mynd ymlaen yma wedi imi droi fy nghefn? Fel sowldiwr i'r Eglwys, ai e? A finna' fel Sergeant-Major, mae'n debyg!" Aeth ei hwyneb yn goch ac yna'n wyn fel y tynnai ei menig a'i chêp.

"A dyna pam yr oeddach chi isio aros gartra'! I roi'r tâp mesur trosta' i yn fy nghefn! Mae'ch pen-glin chi wedi gwella'n llwyr erbyn hyn, ydi o?"

Ni adawsai Letitia y gwasanaeth mewn tymer grefyddol iawn. Clywsai gyhoeddi bod Côr Merched i'w ffurfio yn Llechfaen fel rhan o'r ymgyrch i gasglu arian yn wyneb cyni'r ardal, a dewiswyd tair gwraig i gynrychioli'r Eglwys ar y pwyllgor. Tair o wragedd cerddgar a enwyd, ond, fel perchennog organ-er mor fud oedd yr organ honno er pan gollodd Ifor, pan oedd tua naw oed, bob diddordeb yndditybiai Letitia y dylai hi fod yn un ohonynt. Troes tuag adref yn ffromllyd, ac yn lle cymryd y ffordd fawr fel arfer, brysiodd drwy rai o'r ystrydoedd llai i fyny i gefn Albert Terrace, gan edliw'r anghyfiawnder wrthi ei hun bob cam. Pan glywodd lais ei gŵr drwy ffenestr agored y gegin fach, oedodd ennyd i wrando, ac yna rhuthrodd i mewn a'i dicter cyfiawn yn fflam.

'Rydach chi braidd yn . . . y..

fyrbwyll, Letitia,' dechreuodd ei gŵr. "Yr hyn on i'n . . .

i'n . . . . "

"Byrbwyll, ydw' i? Byrbwyll? Bos! Byrbwyll! Beth arall, mi liciwn i wbod?"

"Yr hyn on i'n . . . "

"Peidiwch â hel esgusion. Cyn gynted ag yr ydw' i'n troi fy nghefn, dyma chi a'ch pen-glin yn y gegin fach 'ma yn . . . yn rhedag yr Eglwys a'ch gwraig eich hun i lawr . . .

"Na, dim ond newydd.

"'Does dim rhyfadd na chawsoch chi mo'ch gwaith yn ôl yn y chwaral, dim . . . dim rhyfadd o . . . o gwbwl."

Syrthiodd i gadair, gan anadlu'n gyflym a rhythu mewn dychryn i'r nenfwd. Rhuthrodd Gruffydd Davies i nôl blwch oddi ar silff gerllaw, ac wedi malu tabled yn fân yn ei law, tywalltodd y llwch gwyn i lasaid o ddŵr.

Hwdiwch, Letitia bach, yfwch hwn. 'Ddaru ni ddim sôn amdanach chi tan y munud 'ma. Naddo, Megan?"

"Naddo."

"Siarad am y chwaral a'r capal a . . . ac Edward Ifans yr oeddan ni. Yntê, Megan?'

"Ia."

"A Megan yn digwydd gofyn imi p'run ai'r Eglwys ai'r capal oedd y gora' gin'i. Yntê, Megan? ”

"Ia."

Wedi i Ruffydd Davies rwbio'i dwylo a chwifio papur newydd yn wyllt o flaen ei hwyneb, daeth Letitia ati'i hun yn o dda.

"Ydach chi'n teimlo fel trio tamaid o ginio 'rwan, Letitia?" gofynnodd ei gŵr iddi.

Efalla' . . . efalla' y medra' i fwyta . . . tipyn bach." "'Ga'i ddechra' torri'r cig?" gofynnodd Megan.

"A Gruffydd Davies yn sefyll yn fan'ma yn gwneud dim byd? 'Chlywis i ddim bod y cricmala' wedi cyrraedd 'i fysadd o hefyd. 'Ydi hi ddim yn well iti fynd i alw dy ŵr at 'i ginio? 'Dydan ni ddim yn arfar dechra' bwyta hebddo fo yn y tŷ yma, beth bynnag oedd y drefn yn Nhan-y-bryn."

Pan eisteddodd y teulu wrth y bwrdd, pigo'i bwyd yn fisi a wnâi Letitia, a'r tri arall yn ei gwylio'n bryderus ac yn ei thrin fel gwestai anrhydeddus yn ei thŷ ei hun. Ond er y boen a'r ymdrech, cliriodd ei phlatiau'n o dda, er gweld y grefi'n rhy denau a'r pwdin reis yn rhy dew. Gwrandawai'n garuaidd ar bopeth a ddywedai Ifor, ond ni chymerai'r un sylw o'i gŵr nac o Fegan. A theimlai Ifor, gan nad oedd a wnelai ef â'r helynt, yn dipyn o wron, yn hunan-gyfiawn, yn ŵr rhadlon, caredig, llawn cydymdeimlad, yn ceisio gwneud iawn am greulondeb digydwybod y ddau arall.

Yna torrodd yr ystorm eilwaith.

"'Ydach chi'n teimlo'n well 'rwan, Letitia?" gofynnodd ei gŵr.

Ydw', yr ydw' i'n dechra' dwad ataf fy hun. Mi eistedda' i'n dawal yma pnawn 'ma yn lle mynd i'r Ysgol Sul. Mi fydda' i'n iawn erbyn heno wedyn."

"Éfalla' y bydd eich cricmala' chitha' wedi mendio erbyn hynny, 'Nhad!" chwarddodd Ifor.

"Hy, cricmala'!" Taflodd Letitia ei phen i fyny mewn dirmyg. "Ond 'dydw' i ddim yn mynd i ista' fel pelican yn fy sêt yn yr Eglwys heno eto, dalltwch chi hynny."

"Fydd dim rhaid i chi, Letitia. Dowch i'r gadair freichia' 'ma 'rwan. Mi ro' inna' help llaw i Megan i glirio'r bwrdd. Dowch, imi gael rhoi'r glustog 'ma'n esmwyth o dan eich pen chi."

Cyn i Ruffydd Davies gychwyn i'r gegin fach hefo llond ei ddwylo o lestri, oedodd Ifor ennyd wrth danic'i sigaret i ddweud yn fawreddog: "Tra ydw' i'n cofio, 'Nhad, mae arna' i isio i chi wneud rhwbath bach trosta' inna' heno."

"O?

Be'?"

"Os gwelwch chi Price-Humphreys yn yr Eglwys, deudwch wrtho fo fod gin' i ddau arall iddo fo."

"Dau be?"

"Dau weithiwr, debyg iawn. Mi fùm i'n siarad hefo Now Pen'rallt a Bertie Lloyd neithiwr, a maen' nhw'n barod i ddechra' gweithio ar unwaith. Wel, mae'n deg i Price-Humphreys wbod mai fi sy wedi'u bachu nhw, ond ydi, 'Mam?"

"Ydi, debyg iawn, Ifor."

Wel . . . y . . . 'dydw' i ddim yn meddwl y . . . y ca'i gyfle arno fo heno," meddai Gruffydd Davies.

"Ddim cyfla?" gofynnodd Letitia, gan godi'i phen yn sydyn oddi ar y glustog. "Pam na chewch chi gyfla?"

Wel . . . y . . . mae o'n licio cael gair hefo'r Ficar ar ôl y gwasanaeth, a . . . a . . .

"Be' sy'n erbyn i chi aros amdano fo?"

Ateb Gruffydd Davies oedd troi ymaith i gludo'r llestri i'r gegin fach, a thaflodd Ifor a'i fam olwg awgrymog ar ei gilydd. Pan ddychwelodd ei gŵr, neidiodd Letitia yn ôl at y testun. "Mae Ifor wedi gofyn cymwynas fach gynnoch chi. Y peth lleia' fedrwch chi wneud ydi bod yn ddigon sifil i'w atab o."

"Nid yn amal y bydda' i'n gofyn ffafr," ebe Ifor, fel un a gâi ddirfawr gam. "A 'rwan y cwbwl ydw' i am i chi wneud ydi rhoi negas i Price-Humphreys. 'Dydi hynny ddim llawar, ydi o?"

"Dim llawar i ti, Ifor," meddai'i dad, a'i lais yn crynu tipyn.

A be' ydach chi'n feddwl wrth hyn'na?" gofynnodd Ifor, yn dechrau colli'i dymer.

Nid atebodd Gruffydd Davies, dim ond casglu ychwaneg o lestri oddi ar y bwrdd.

"Pam nad atebwch chi'r hogyn?" gwaeddodd Letitia. Ni ddywedodd ei gŵr air, ond yr oedd yn amlwg fod rhyw gyffro mawr yn ei feddwl, oherwydd gollyngodd fforc yn ffwndrus o'i law.

"'Ydach chi wedi mynd yn fud ac yn fyddar yn sydyn? " holodd ei wraig.

"Y cricmala' wedi dringo i'w dafod a'i glustia' fo, 'Mam," sylwodd Ifor, gan chwythu allan gwmwl haerllug o fwg.

Rhoes y dyn bach y llestri i lawr yn araf a gofalus ar y bwrdd. Yna ymsythodd, gan wthio'i ben ymlaen ac edrych i fyw llygaid ei fab. Ymddangosai fel ymdrochwr ofnus ar lan afon, ar fin torri'r ias drwy blymio'n rhyfygus i'r dwfn.

'Dydw' i ddim yn mynd i gario newyddion am un Bradwr i neb," meddai a'i lais yn gryg.

"Bradwr!" Eisteddodd Letitia i fyny fel bollt, gan anghofio'i chalon. "Bradwr! 'Ydi iaith Tan-y-bryn wedi dwad i'r tŷ yma?"

"Rhowch chi ba enw fynnoch chi i'r iaith, Letitia," meddai Gruffydd Davies yn dawel. " Y gwir ydi'r gwir, beth bynnag y gelwch chi o."

"O'n wir," meddai Ifor, "mae'n dda inni gael dallt ein gilydd, ond ydi?" Yna troes at ei fam. "Rydan ni wedi bod yn dyfalu pam na alwyd y Stiward Bach 'ma yn ôl i'r chwaral, ond ydan? Mae'r rheswm mor glir â'r dydd 'rwan. Yn ddistaw bach, mae o'n un o'r dynion cadarn, egwyddorol hynny, sy'n meddwl mai nhw ydi halan y ddaear! Fel Edward Ifans, fy nhad yng nghyfraith."

Anelai'r frawddeg olaf at Fegan, a ddaethai i mewn i glirio gweddill y llestri o'r bwrdd.

"Rhaid i chi ddim dŵad â 'Nhad i mewn i'r peth," meddai hithau'n ddig.

"Oni bai amdano fo a'i siort, mi fasa'r chwaral 'na'n mynd yn iawn," atebodd Ifor yn wyllt.

"Petasa' 'na fwy o ddynion fel Edward Ifans a'i siort a llai o Fradwyr yn yr ardal 'ma . . ." Yr oedd Gruffydd Davies a'i lais, er iddynt dorri'r ias mor ddewr, yn crynu fel dail.

"Cymwch chi ofal o'ch geiria', Gruffydd Davies!" gwaeddodd Letitia.

Efalla'. . . efalla'. . . efalla' Efalla' be'?" gofynnodd hi.

Magodd y dyn bach nerth. "Efalla' mai cymryd gormod o ofal yr ydw i wedi'i wneud drwy'r blynyddoedd. Ac edrychwch arna' i. Be' ydw' i? Stiward Bach allan o waith a gwas bach yn y tŷ 'ma-' Gruffydd Letitia i bawb yn fy nghefn, yn cael fy llusgo i'r Eglwys ar y Sul i lyfu llaw PriceHumphreys a'r lleill. Ond diolch mai dyn fel tad Megan ydw' i yn y gwaelod, yn Stiward digon onast a charedig i beidio â chael fy ngalw'n ôl i'r chwaral."

Gwenodd Megan yn edmygus arno, a chododd Letitia o'i chadair, a'i hwyneb yn wyn gan ddicter.

"'Does gin' ti ddim byd i wenu yn 'i gylch o," meddai. "Lle basat ti, mi liciwn i wbod, oni bai amdana' i? Allan ar y stryd, lle mae dy le di, yn denu eraill fel y buost ti'n denu Ifor."

"'Rŵan, 'Mam, mae hyn'na'n mynd yn rhy bell, yn rhy bell o lawar."

"O, yr wyt titha'n dechra' troi yn fy erbyn i, wyt ti?"

Safai hi wrthi ei hun yn ymyl y gadair freichiau, a gwelai'r tri arall, hyd yn oed Ifor, cannwyll ei llygaid, fel pe wedi ymuno yn ei herbyn. Rhoes ei llaw ar ei chalon a dechreuodd anadlu'n gyflym a rhythu'n wyllt tua'r ffenestr. Yna, gydag ochenaid a swniai'n angheuol, syrthiodd yn swp i'r llawr. Ond wrth syrthio anghofiodd fod gan y bwrdd gongl finiog, a phan drawodd ei phen yn erbyn honno, caeodd y nos amdani a syllodd y tri arall mewn braw ar y gwaed a lifai o'i thalcen. ***** "'Ddaw hi ddim i de, mae'n amlwg," meddai Martha Ifans, gan syllu am y canfed tro tua'r ddôr. "Be' sy wedi'i chadw hi, tybad?

Cludai Megan y munud hwnnw gwpanaid o de i Letitia Davies, a orweddai, â thair pwyth yn ei thalcen, yn dawel iawn yn ei gwely. Yr oedd llenni'r ystafell wedi'u cau, ar orchymyn y meddyg, a'r tŷ oll yn dawel fel bedd. Cerddai Gruffydd Davies o gwmpas fel carcharor wedi'i ddedfrydu i farwolaeth, gan ei feio'i hun yn llwyr am y ddamwain ofnadwy. Ond yn rhywle yn nyfnder ei natur, ymhell islaw ei bryder a'i ofn, teimlai ryw foddhad dirgel am iddo, wedi'r taeogrwydd maith, sefyll ar ei draed ei hun o'r diwedd. Ac aethai'r dyn bach mewn prynhawn byr yn arwr yng ngolwg Megan.

Nodiadau[golygu]