Chwalfa/Yr Ail Flwyddyn Pennod V

Oddi ar Wicidestun
Yr Ail Flwyddyn Pennod IV Chwalfa

gan T Rowland Hughes

Wedi Tair Blynedd

PENNOD V

Y BORE Sadwrn ar ôl claddu Gwyn ydoedd.

Trawodd Martha Ifans ei basged ar fwrdd y gegin fach gydag ochenaid. Cododd ei gŵr ei olwg o'r "Cymru," y cawsai ei fenthyg gan Mr. Edwards y gweinidog, ac edrychodd yn bryderus arni. Yna gwyrodd ymlaen i bwnio'r tân. Gwyddai fod rhyw boen yn ei meddwl.

"Dowch, twymwch, Martha: mae golwg bron â rhynnu arnoch chi."

"Diar, mae hi'n oer bora 'ma."

"Ydi, a'r hen eira 'na'n dadmar. fo i lawr cyn nos, mae arna' i ofn."

Daw chwanag ohono

"Diolch fod gynno' ni dipyn o lo yn y tŷ, yntê? Mi alwais i yn nhŷ Owen Hughes am funud i roi 'sgidia' gora' Gwyn i Meurig bach. 'Doedd 'na ddim siwin o dân yno. Darna' o goed oedd gynnyn' nhw i ferwi'r teciall bora 'ma."

Tynnodd yr ychydig nwyddau o'r fasged a'u rhoi ar y bwrdd. Gwenodd yn drist wrth syllu arnynt.

"Pan oeddan ni i gyd hefo'n gilydd, cyn i Idris briodi," meddai, " yr ydw' i'n cofio fel y bydda' Kate yn gwrthod yn lân fy ngadal i gario'r fasgiad yma o Liverpool Stores ac yn gyrru Eban i fyny hefo'r petha'. Heddiw yr oedd y fasgiad fel pluan."

"I bwy mae'r ddau wy 'na?"

"Un i chi ac un i Dan."

"Felly'n wir. 'Oes raid inni fynd drwy'r un ddadl y tro yma eto?"

"O, o'r gora'. Mi fyta' i hannar eich un chi."

Syllodd arni: nid oedd ganddi ysbryd hyd yn oed i ddadlau, fel y gwnaethai bob tro o'r blaen.

"Twymwch, Martha bach. Mae rhwbath wedi'ch cynhyrfu chi bora 'ma, ond oes? Gweld Meurig?"

"Na, 'roedd o allan yn chwara'. . . Mae'r hen William Parri wedi mynd. Mi dorrodd yr hen frawd 'i galon yn y diwadd."

Nodiodd Edward Ifans yn llwm."Mi glywis i pnawn ddoe 'i fod o'n o isal, meddai."

"Mi fu farw gyda'r nos neithiwr. A 'dydi Twm ddim wedi bod ar gyfyl 'i gartra' i weld 'i fam a'i chwaer. Mi aeth i'r chwaral bora 'ma fel arfar meddan' nhw, a Mr. Edwards y gweinidog sy'n gwneud yr holl drefniada' ar gyfar y cnebrwng. Diar, dyna galad ydan ni'n mynd yn y lle yma, Edward! 'I dad 'i hun yn 'i arch a 'fynta' wrth 'i waith! 'Aiff o i'r angladd, tybad? 'Fuo fo ddim yn edrach am yr hen ddyn o gwbwl er pan mae o'n gorwadd."

Mi ellwch ddallt hynny, a'r hen William mor ofnadwy o chwyrn yn erbyn pob Bradwr. Ond mae cadw draw 'rŵan Ysgydwodd ei ben yn araf, heb orffen y frawddeg. Yna cododd."Yr ydw' i am bicio tros y ffordd am funud i weld John," meddai.

"Edward?"

"Ia, Martha?" Gwyddai oddi wrth ei thôn fod ganddi ryw newydd anfelys i'w dorri iddo.

"Eisteddwch am eiliad imi gael siarad hefo chi." Ac wedi iddo ufuddhau, eisteddodd hithau gyferbyn ag ef cyn gofyn: "'Ydi John wedi deud rhwbath wrthach chi?"

"Deud be', Martha?"

"Mae'n amlwg nad ydi o ddim. Mi ofynnis i iddo fo drafod y peth i gyd hefo chi. Bora Mawrth pan es i drosodd yno i roi help llaw i Geridwen. Dyna pryd ddaru o sôn gynta' wrtha' i. 'Doedd o ddim yn licio crybwyll y peth cyn hynny, a ninna' yn y fath brofedigaeth." Siaradai Martha'n gyflym a syllai'i gŵr braidd yn ddryslyd arni, heb ddirnad beth a oedd yn ei meddwl.

"'Dydw' i ddim yn dallt, Martha. Be' ddeudodd o wrthach chi bora Mawrth?"

"'I fod o wedi sgwennu i'r chwaral."

"John, 'mrawd! Pryd?

"Ers tipyn bellach."

"John! 'Ydi o . . . 'ydi o wedi cael atab?"

"Bora 'ma. Mae o i ddechra' gweithio ddydd Llun."

Bu tawelwch hir, annifyr. Yna taniodd Edward Ifans ei bibell yn ffwndrus. "'Doeddwn i ddim wedi meddwl smocio hiddiw" meddai, gan wenu'n nerfus. "Ond dail carn-yr- ebol ydi'r rhan fwya' o'r baco," chwanegodd.

"Rhaid i chi beidio â bod yn ddig wrtho fo, Edward. Efalla' 'i fod o'n gwneud yr hyn sy'n iawn, gan fod petha' fel y maen' nhw yno. Nid cynffonna y mae John, cofiwch. Wedi'i yrru i gongol y mae o. I drio achub Ceridwen druan y mae o'n gwneud hyn. A 'thaech chi yn 'i le fo, efalla' mai'r un peth a wnaech chitha'."

"Efalla', wir, Martha; efalla', wir." Curodd ei bibell ar fin y pentan a chododd. "Na, 'fydda' i ddim yn gas wrtho fo. Nid Bradwr yn ystyr arferol y gair ydi John. Ond mae'n dda gin' i mai chi ac nid y fo ddaru dorri'r newydd imi. Mi a' i draw yno am sgwrs fach. Am sgwrs fach." Ailadroddodd y frawddeg olaf yn freuddwydiol fel y cychwynnai tua'r drws.

Gwelai wrth groesi'r stryd fod y cerdyn herfeiddiol wedi'i dynnu o ffenestr parlwr y tŷ tros y ffordd. Aeth i'r drws cefn ar hyd y llwybr a redai wrth dalcen y tŷ, ac agorodd ef heb guro.

"'Oes 'na bobol yma?" Ceisiai swnio'n llon, gan gofio bod angen pob gronyn o sirioldeb ar Geridwen."

"O, hylo, F'ewyrth. Dowch at y tân."

"Sut wyt ti'n teimlo hiddiw, Ceridwen?"

"Ddim cystal heddiw. Yr hen oerni 'ma'n deud arna' i, mae'n debyg. Ond be' arall sy i'w ddisgwyl yr amsar yma o'r flwyddyn, yntê?"

Yr oedd hi wrthi'n yfed gwin wedi'i wneud o aeron y goeden ysgaw a'i gadw â weiren ddur ynddo am rai wythnosau. Ni allent fforddio'r "steel wine "" port wine" â haearn ynddo a archodd y meddyg.

"'Rwyt ti'n mynd ar dy sbri yn o fora, hogan."

"Ydw', ond ydw'? 'Wyddwn i ddim y basa' 'na flaenor yn galw i'm gweld i."

Deuai sŵn llifio prysur o'r cwt yn y cefn.

"Dy dad sy wrthi?" gofynnodd ef gan wenu.

"Ia." Gwenodd hithau. Clywid y sŵn hwnnw yng nghefn llawer tŷ yn Llechfaen, ond ni holai neb o b'le y deuai'r coed a lifid yn flociau ar gyfer y tân. Ar gais Mr. Price-Humphreys, bu ambell blisman ar ei draed rhewllyd drwy'r nos droeon yn ymyl Annedd Uchel, ond yn rhyfedd iawn, ni thorrodd y sŵn ar hedd y nosau hynny. Ond un noson pan ysgrechiai gwynt mileinig o gwmpas y tŷ, tybiai Miss Price-Humphreys, a grynai mewn dychryn yn ei gwely, y clywai sŵn llif bron o dan ei hystafell. Hunllef ydoedd, meddai wrthi'i hun, gan wthio gwlân i'w chlustiau cyn rhoi'i phen o dan y dillad i geisio cysgu eto. Breuddwydiodd fod rhyw storm ryfedd ac ofnadwy ar ei hynt heibio i'r tŷ. Arhosodd y dymestl enbyd wrth Annedd Uchel ennyd ac allan o'i thywyllwch cynhyrfus rhuthrodd dwsin o gythreuliaid, pob un â'i lif a'i fwyall, a'i wyneb wedi'i bardduo. Pan gododd Miss Price-Humphreys yn y bore ac edrych allan drwy'r ffenestr, gwelai fod coel ar freuddwydion weithiau.

"'Wnewch chi ddim bod yn gas wrth 'Nhad, na wnewch, 'Fewyrth Edward?"

Yn gas! Daear annwl, na wna', Ceridwen fach."

"Mi driais i 'i berswadio fo i aros am dipyn eto. Ond 'wnâi o ddim. Y Doctor wedi ordro petha' imi, a 'fynta'n benderfynol o'u cael nhw. 'Doedd 'na ddim ffordd arall, medda' fo."

Ceisiodd Edward Ifans beidio ag edrych ar ei hwyneb gwyn, di-waed nac ar ei dwylo esgyrniog nac i'w llygaid mawr gloyw. Cofiai'r amser pan soniai pawb am Geridwen, a oedd yr un oed â Megan, fel gwniadwraig hynod ddeheuig ac fel un o enethod prydferthaf yr ardal. Rhwng cyflog ei thad yn y chwarel a'r sylltau a enillai hi, deuai arian da i'r tŷ bob wythnos, ac nid oedd teulu hapusach yn Llechfaen na John a'i wraig a'i ferch. Ond ychydig wythnosau cyn i'r streic ddechrau, collodd Ceridwen ei mam ar ôl misoedd o waeledd pryderus a chostus, ac yn fuan wedyn ymunodd ei chariad, llanc go ddi-ddal a direol, â'r Gwirfoddolwyr Cymreig i ymladd yn Neau'r Affrig. Dywedai rhai iddo godi i fod yn swyddog pwysig yn y Fyddin, dywedai eraill iddo briodi gwraig gyfoethog yng Nhape Town, ac eraill drachefn iddo ddarganfod gwythïen aur yn y Transvaal, ond ni wyddai neb ddim hyd sicrwydd—ond na ddychwelodd ef na'r arian a fenthyciasai i Lechfaen. Ciliodd y gwrid o ruddiau Ceridwen, a blinai'n gynt a chynt wrth ei gwaith yn y parlwr. Hynny o waith a gâi, oherwydd âi hwnnw'n llai bob wythnos wedi i'r streic ddechrau, a chyn hir darfu'n gyfan gwbl bron. Yn ei gwely, a rhywun yn gweini arni, y dylai'r ferch hon fod ers misoedd lawer, meddyliodd ei hewythr yn awr, nid yn ymdrechu codi o ddydd i ddydd ac yn ystwyrian yn eiddil a methedig o gwmpas y tŷ. Un arall o'r lliaws a aberthid ar allor y streic.

"Mi a'i i'r cwt at dy dad am funud," meddai, gan godi."O'r gora', F'ewyrth. Mi . . . mi gymwch ofal be' be' ddeudwch chi wrtho fo, on' wnewch?"

"Gwnaf, debyg iawn, 'ngeneth i, gwnaf. Rhaid iti ddim pryderu am hynny. Ond mae'n well i'th dad a finna' gael dallt ein gilydd, ond ydi? Yn lle bod y peth yn gysgod rhyngom ni, yntê?"

Aeth allan, ac wedi gwyro'i ffordd i mewn i'r cwt, eisteddodd ar flocyn, yn wynebu'i frawd. Rhoesai hwnnw'i lif heibio ac aethai ati i hollti dau neu dri o flociau yn goed tân.

"Wel, Edwart?"

"Wel, John?"

"Hen gena' cnotiog, fachgan, go daria fo. 'Does dim hollti ar y cradur."

"Rhaid iti gymryd cŷn a mwthwl ato fo, John."

"Rhaid, fachgan, ne' mi dorra' i'r fwyall 'ma." Cododd i estyn cynion a morthwyl oddi ar silff gerllaw. Griddfannodd mewn poen wrth eistedd drachefn.

"Yr hen ben-glin 'ma, go daria fo. Mae o'n brathu'n ffyrnig hiddiw. Yr eira 'ma, mae'n debyg."

Buan, a chwarelwr â'i gŷn a'i forthwyl yn ei drin, yr holltodd y blocyn. Ai John ati â'i holl egni a pharablai'n nerfus bob ennyd—am yr eira, am ei ben-glin, am y blociau, am wlybaniaeth yng nghongl y cwt, am bopeth ond y chwarel. Dyn mawr afrosgo oedd John Ifans, a'i freichiau hirion, llipa, fel pe wedi'u hongian wrth ei ysgwyddau yn hytrach na'u gwreiddio yno. Pan gerddai, taflai'i liniau i fyny a syrthiai'i draed yn fflat a thrwm ar y ddaear, a gwthiai bron bob amser fodiau'i ddwylo i dyllau-breichiau ei wasgod. Ond yr oedd tebygrwydd yn wynebau'r ddau frawd—yr un talcen uchel, urddasol, yr un llygaid llwyd, breuddwydiol, yr un trwyn Rhufeinig i'r ddau. Yn y genau yr oedd y gwahaniaeth mawr, gwefus isaf Edward yn dynn a chadarn ac un ei frawd yn gwyro'n guchiog bob amser bron. Nid cuchio a wnâi John ei hun er hynny, er gwaethaf ei wefus: yr oedd yn ddyn llawn hiwmor a pharod iawn ei gymwynas, a bu'r ddau frawd yn gyfeillion calon erioed.

"Wel, John?" Yr oedd y mân destunau wedi'u dihysbyddu a'r blocyn olaf wedi'i hollti.

"Wel, Edwart?" Syllodd John yn eofn a sicr ar ei frawd, heb ddim euogrwydd yn ei edrychiad.

"Galw yr on i i ddweud . . . i ddweud dy fod di'n . . . gwneud y peth iawn, John."

Nid oedd yr edrychiad mor eofn a sicr yn awr. Cronnodd dagrau yn y llygaid, a chododd John Ifans yn frysiog i daro'r cynion a'r morthwyl yn ôl ar y silff. Oedodd yno, a'i gefn at ei frawd, gan gymryd arno drefnu'r arfau a oedd ar y silff. Cododd Edward yntau, gan feddwl cychwyn ymaith.

"Diolch iti, 'r hen Ed, diolch o galon. 'Rydw' i wedi ofni'r munud yma, fachgan, wedi methu â chysgu'r nos wrth feddwl amdano fo. 'Be' ddeudith Edwart, a 'fynta'n Is-lywydd y Pwyllgor?'—dyna oeddwn i'n ofyn i mi fy hun o hyd o hyd. Ia, 'nen' Tad, fachgan, byth beunydd. A phan glywis i am . . . am Gwyn bach, mi 'steddais i lawr ar unwaith i sgwennu i'r chwaral i dynnu f'enw'n ôl. Ond 'doedd Ceridwen druan ddim hannar da y pnawn hwnnw, a phan edrychis i ar 'i hwynab hi a'i gweld hi'n trio ymlusgo hyd y tŷ 'ma . . . 'Wyt ti . . . 'wyt ti o ddifri' wrth ddeud nad wyt ti ddim yn gweld bai arna' i Edwart?

"Ydw', Johnnie, ydw'."

"Dy frawd dy hun yn troi'n Fradwr! "

"Nid troi'n Fradwr ydi hyn, John, ond aberthu . . ."

"Aberthu egwyddor."

"Er mwyn arall. Mae'n bur debyg y gwnawn inna'n hollol yr un fath 'tai . . . 'tai Martha ddim yn dda ac yn gorfod cael y Doctor. Mae arna' i ofn y bydd amryw o'r dynion yn gorfod ildio cyn hir."

"Be' arall fedra' i wneud, Edwart? Yr ydw' i'n rhy hen i fentro i'r Sowth. Mi fûm i'n meddwl am y gwaith dŵr 'na yn Rhaeadr, ond bychan ydi'r cyflog yn y fan honno ac mae o'n lle drwg gynddeiriog am gryd cymala', meddan' nhw. Dim ond ychydig wythnosa' arhosodd Dafydd, brawd Huw 'Sgotwr, yno, a 'rŵan mae o bron â methu mynd i fyny ac i lawr y grisia' nos a bora . . . 'Rydan ni'n cael ein cornelu fel llygod, Edwart."

"Pryd.. pryd y gwnest ti dy feddwl i fyny, John?"

"'Wn i ddim yn iawn. Pan oedd Martha yn y Sowth y dechreuis i feddwl o ddifri' am y peth. 'Roedd hi wedi bod mor ffeind, fachgan, yn galw yma bob bora i wneud y gwlâu a llnau a gofalu am Geridwen. 'Roedd hi'n chwith ofnadwy ar 'i hôl hi. Ond mi ddysgis i lawar yr wsnosa' hynny, ac 'ron i cystal ag unrhyw ddynas yn y tŷ, medda' Ceridwen. 'Roeddan ni'n dau yn trio gwneud hwyl o'r peth, ond 'roedd fy nghalon i'n gwaedu wrth weld yr hogan druan yn gwneud llai a llai bob dydd. Yn trio'i gora' glas, Ed, ond yn methu." Cronnodd y dagrau yn ei lygaid eto ac aethai'i lais yn sibrwd bloesg."Wedyn, y diwrnod yr est ti â Gwyn i Lerpwl, mi alwodd Doctor Robaits yma. 'Doeddwn i ddim wedi gofyn iddo fo ddŵad-'fedrwn i ddim fforddio talu iddo-ond mi ddaeth ar unofficial visit, chwedl ynta'. Hen fôi iawn ydi'r Doctor, fachgan. Ia, 'nen' Tad, un o eneidia' prin yr hen fyd 'ma."

"Ia." Nodiodd Edward Ifans, a'i feddwl yntau'n mynd yn ôl i'r bore Iau hwnnw."Be' ddeudodd o, John?"

Mi ges row gynddeiriog gynno fo, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Anemia, gwendid mawr, medda' fo. Pam na faswn i wedi'i alw fo i mewn ers misoedd er mwyn iddi hi gael y peth yma a'r peth arall? Chweugian yr wsnos o'r Undab ydi'r cwbwl sy'n dwad i'r tŷ 'ma, Doctor,' medda' fi wrtho fo. Dyna pam na wnes i ddim gyrru amdanoch chi.' Mi fùm i bron â sgwennu i'r chwaral y noson honno. Ond 'wnes i ddim, ac mi fu'r peth fel hunlla' ar fy meddwl i am ddyddia'. Y dydd Mawrth wedyn y sgwennis i. 'Wn i ddim pam y buon' nhw cyhyd cyn atab—os nad oeddan' nhw am ymddangos yn annibynnol. Yr ydw' i i ddechra' ddydd Llun. Mi fydd hi'n rhyfadd gynddeiriog yno hebddat ti, Edwart. Rhaid imi gadw fy nhempar hefo pwy bynnag y bydda' i'n gweithio hefo fo, on' rhaid?"

"Rhaid. A . . . Cheridwen?"

"Mi fedra' i godi at fy ngwaith yn iawn yn y bora ac mi geiff hi aros yn 'i gwely nes daw'r hen Fargiad Williams yma i gynna' mymryn o dân a gwneud 'panad iddi. Mi fydd Margiad druan yn falch o'r ychydig syllta' ro' i iddi bob wsnos. Mae petha' wedi mynd yn fain ofnadwy yno, Edwart. Tri a chwech yr wsnos mae hi'n gael o'r Gronfa, ac mae'i rhent hi'n ddeunaw. Dim ond cadw'i hun mae Em yn medru'i wneud tua Lerpwl 'na, a 'dydi Harri druan yn cael ond y nesa' peth i ddim o rags ers tro byd. Pwy fasa'n meddwl y dôi petha' i hyn arno' ni, Edwart? . . . Aros am funud, mi ddo' i hefo chdi, imi gael rhoi rhai o'r blocia' 'ma i Martha. Lle rhois i'r hen sach honno, dywad? O, dyma hi."

Yn "Gwynfa," arhosai Martha Ifans yn bryderus am ei gŵr, gan ofni i'r ddau frawd ffraeo. Ond gwyddai cyn gynted ag y gwelodd hwy fod popeth yn iawn. Aeth y ddau drwodd i'r cefn i roi'r blociau yn y cwt, ac wrth fynd heibio iddi nodiodd John, gan gau un llygad yn awgrymog. Rhoes hithau ochenaid o ryddhad wrth frysio ymaith i ateb cnoc ar y drws ffrynt. Catrin Williams a oedd yno.

"Isio gweld Edward yr ydw' i, Martha. 'Rydw' i wedi'i gadw fo yn 'i wely hiddiw. 'Dydi o ddim ffit i fod ar 'i draed, heb sôn am fynd i'r cwarfod heno."

"Robat?"

"Ia. O, a dŵad â'r wya' 'ma i chi hefyd.

Oddi wrth Meri Ann, hannar dwsin i chi a hannar dwsin i ninna'."

"Ond mae digon o'u heisia' nhw . . .

"Mewn bocs spesial a lle i bob wy yn dwt ynddo fo. Mae hi wedi gyrru rhai bob cam i Sgotland mewn bocs felly, medda' hi. At chwaer 'i gŵr, wchi. Wya' ffres, digon o ryfeddod." Trawodd y cwd papur ar fwrdd y gegin fach.

"Ond mae digon o'u heisia' nhw . . ."

"Chwech i chi a chwech i Martha,' medda' hi yn y llythyr. Ac mae hi am yrru tipyn o fêl ddechra'r wsnos. Mi ddo' i â fo i fyny cyn gyntad ag y daw o. Hogan ffeind ydi Meri Ann, er mai fi sy'n deud hynny. Lle mae Edward? 'Ron i'n meddwl imi 'i weld o a John 'i frawd yn dŵad i mewn o 'mlaen i."

"Maen' nhw yn y cwt yn y cefn. O, dyma nhw'n dŵad." Clywent lais John ar lwybr y cefn: "Ia, fachgan, hen fedwen fawr. 'Fydd dim isio'i llifio hi i lawr. Trosol ne' ddau o dani hi ryw noson. 'I chael hi odd' yno fydd y gamp. Ond mae gan yr hen Ifan Tomos olwynion distaw—wedi lapio cadacha' amdanyn' nhw. . ."

Agorodd y drws a daeth y ddau i mewn.

"Mi fydda' i'n mynd yn syth at y plismyn, John Ifans," meddai Catrin Williams."Rydw i'n synnu atach chi, dyn o'ch oed chi a chystal â bod yn flaenor . . . Sut mae Ceridwen?"

"Go wantan ydi hi, mae arna' i ofn, Catrin Williams."

"Mi yrra' i ddau ne' dri o wya' iddi hi. Hefo Edward pnawn 'ma."

"Na wnewch, wir, Catrin," ebe Martha Ifans."Mae'n haws i mi sbario rhai o'r rhain, a Robat ddim yn dda." A thynnodd dri wy o'r cwd papur a rhoi'r gweddill yn nwylo John.

"Mi sbariwn ni'n dwy dri wy, ynta'," meddai Catrin Williams. "O Lerpwl bora 'ma, Meri Ann wedi'u gyrru nhw."

"Be' ydi hyn am Robat?" gofynnodd Edward Ifans iddi.

"Annwyd ofnadwy. 'Roedd o isio codi bora 'ma, ond mi es i â'i ddillad o i lawr y grisia' a'u cadw nhw'n saff. 'Mi geiff aros yn 'i wely,' medda' fi, 'tasa' raid imi 'i raffu o yno, cwarfod ne' beidio.'Mae o'n un penderfynol, wchi. Ond mi ildiodd ar ôl imi ddwyn 'i ddillad o. Os dowch chi i lawr pnawn 'ma, Edward Ifans. Mae o isio i chi gymryd y gadair yn 'i le fo yn y cwarfod heno. Y cynta' iddo fo'i golli drwy'r holl amsar, wchi . . . Wel, rhaid imi fynd rhag ofn iddo fo gymryd yn 'i ben i chwilio am 'i ddillad. Mi gofia' i am yr wya', John Ifans. Mi ddowch chi i lawr, on' ddowch, Edward?"

"Yn fuan ar ôl cinio, Catrin Williams."

Pan alwodd yn y prynhawn, yr oedd Robert Williams yn ei wely o hyd a thân wedi'i gynnau yn y llofft. Tân bychan iawn ydoedd, o goed bron i gyd, ond fe dorrai ias yr oerni ac eisteddodd Edward Ifans yn ddiolchgar wrtho.

"Mae arna' i isio iti gymryd y gadair heno, Edward," meddai'r claf. Dywedai'i lais fod annwyd trwm arno: dywedai'i wyneb a'i ddwylo tenau nad oedd ganddo lawer o nerth i'w ymladd, a da y gwnaethai Catrin Williams i gadw'i gŵr yn ei wely.

"Y cwarfod cynta' imi golli, fachgan," chwanegodd yn ddigalon."Mi fûm i bron ag aros gartra' Sadwrn dwytha'. 'Roedd yr hen annwyd yma arna' i y pryd hwnnw. 'Fedra' i yn fy myw gael gwarad â fo."

"'Doeddach chi ddim ffit i ddŵad i'r cnebrwng ddydd Llun, Robat Williams. Dyna oedd Martha a finna'n ddeud ar ôl i chi fynd adra'."

"Efalla', wir. Ond 'roedd Gwyn bach yn fy nosbarth i yn yr Ysgol Sul. Oedd. Oedd." Yr oedd ar fin dweud chwaneg wrth gofio am Gwyn, ond tawodd."'Fydd 'na ddim llawar yn y cwarfod heno, a hitha' mor oer," meddai."Ond mae'n rhaid 'i gynnal o rhag siomi'r dynion."

Oes 'na rywbath arbennig yr hoffech chi imi 'i ddeud yno?"

Be' sy i'w ddeud, Edward?" Gwenodd wrth chwanegu: "Yr ydw' i wedi gwneud pregath fach ar gyfar pob nos Sadwrn ers blwyddyn a hannar, er pan ddaru ni ddechra' cynnal y cwarfodydd. Yr un testun, yr un prygethwr, yr un pulpud, yr un gynulleidfa o Sadwrn i Sadwrn. 'Roedd hi'n o anodd cael rhywbath newydd i'w ddeud amball wsnos, fachgan. 'Wn i ddim oeddat ti a "J.H." a'r lleill yn gwneud yn ddoeth wrth bwyso arna' i i gymryd y gadair ym mhob cwarfod."

Oeddan, Robat Williams, oeddan. Mae'r dynion wedi dŵad i edrach arnoch chi fel 'u Moses yn yr anialwch."

Plesiwyd yr hen frawd yn ddirfawr gan y gymhariaeth: am y gaethglud a'r anialwch a thir yr addewid yr hoffai ef sôn yn ei areithiau.

"Mi fydda' i'n meddwl llawar am yr hen Foses, fachgan," meddai ymhen ennyd, wedi i hwrdd annifyr o besychu fynd heibio. Yn enwedig amdano fo yn niwadd 'i oes, yn hen ŵr cant ac ugian. Mi fydda' i'n 'i weld o'n dringo Mynydd Moab 'i hunan bach, bron yn rhy fethedig i roi un droed o flaen y llall ac yn aros yn amal amal i gael 'i wynt ato. Y niwl llwyd o'i gwmpas o ym mhobman a thros yr hen Rosydd Moab 'na odano fo, a'r tipyn llwybyr yn arw a serth. Ond, fel Pererin Bunyan, ymlaen y mae o'n mynd er bod 'i droed dde o'n gwaedu ar ôl taro wrth hen gnawas o garrag finiog. Fedra' i ddim mynd cam ymhellach,' medda' fo wrtho'i hun o'r diwadd, gan ista'n ddigalon, wedi ymlâdd, ar ddarn o graig. Sbel fach 'rwan, ac wedyn mi a' i i lawr yn f'ôl yn ara' deg, wrth fy mhwysa'.' Ond mae o'n codi'i ben ac yn gweld 'i fod o wedi cyrraedd uwchlaw'r niwl. Pisgah, Pisgah a'r haul yn taro arno fo,' medda' fo gan syrthio ar 'i linia' i ddiolch i Dduw ac i weddïo am nerth i gyrraedd y copa. Ac wedi iddo fo godi ac ailgychwyn, mae o'n teimlo rhyw fywyd, rhyw hoywder, newydd yn 'i aeloda' er bod y llwybyr yn arwach nag erioed. Cyn hir mae'i draed o ar y copa ac mae o'n syllu, â'i law uwch 'i lygaid i'w cysgodi nhw rhag yr haul, draw i'r pelltar tros yr Iorddonan."

Yr oedd dagrau yn llygaid Robert Williams, a phallodd geiriau am ennyd. Efallai, meddyliodd Edward Ifans, ei fod yn falch o'r peswch a ddaeth trosto—er mwyn cuddio'i deimladau.

Dolydd a llethra' heulog ac afonydd arian," meddai pan ddaeth ato'i hun."Ond dim ond am funud y gwelodd o nhw, oherwydd 'fedra' fo yn 'i fyw glirio dagra' llawenydd o'i lygaid. Ac yno, ar unigrwydd uchal y graig, mae o'n syrthio ar 'i linia' ac yn crio fel plentyn. O diolch iti, Arglwydd,' medda' fo, diolch iti am fod mor garedig wrth hen ŵr. Mi wn i na cha' i ddim croesi i wlad yr addewid, ond diolch iti, Arglwydd mawr, yn dy ryfadd ddaioni, am imi gael golwg ar 'i gogoniant hi.' Ac ar ôl sefyll yno'n hir, er bod yr awal yn fain a 'fynta' wedi chwysu a blino wrth ddringo, mae o'n mynd i lawr yn ara' i'r niwl a'r rhosydd islaw."

Ai Moses a ddisgrifiai'r hen ŵr yn y gwely? gofynnodd Edward Ifans iddo'i hun. Neu, ai ei ymdrechion a'i obeithion ef ei hun a ddarluniai? A welai'r hen arweinydd dewr hwn fyth wlad yr addewid, tybed? Rhyfedd fel yr oedd anawsterau a rhwystrau a blinfyd yn deffro'r arwr mewn dyn. Blaenor dwys, ond â llawer o ddireidi hefyd ynddo, yn arbennig yn ei anerchiadau yn y Seiat; gweddïwr syml, diffuant; athro Ysgol Sul hynod wreiddiol; Arweinydd Canu hyddysg a deheuig, er na fu ganddo erioed lais i ymffrostio ynddo; Llywydd y caban ym Mhonc Victoria, a'i bwt o araith bob amser yn felys fel cneuen—dyna oedd Robert Williams cyn y streic ddiwethaf, bum mlynedd yn ôl—na, yn agos i chwe blynedd erbyn hyn, onid e? Yna, pan ddaeth y streic honno, troes llygaid ei gyd-weithwyr oll tuag at y dyn tawel, unplyg, diymffrost, hwn. A heb godi'i lais na tharo dwrn ar fwrdd, dywedodd wrthynt y brwydrai ef i'r pen ac y disgwyliai iddynt hwythau, bob un ohonynt, wneud yr un modd, heb gloffi na gwanhau pa mor anodd bynnag fyddai'r llwybr. Ac o dan ei arweiniad ef, fe gerddodd pawb yn eofn drwy aeaf creulon o oer. Pan welwyd hysbysiad un diwrnod fod yr awdurdodau'n barod i ailagor y chwarel " for charitable reasons" ac y sibrydid bod amryw wrthi'n casglu enwau'r rhai petrus, "'Dydw' i ddim llawar o Sais," meddai Robert Williams mewn cyfarfod o'r dynion, " ond maen' nhw'n deud wrtha'i mai' cardod' ydi ystyr y charitable reasons' 'ma. Dyna oeddan ni'n gael yn lle cyflog cyn y streic, yntê?" A brwydrwyd ymlaen i aeaf arall a chytundeb gwych—ar bapur. Wedi tair blynedd o rwgnach mewn islais bygythiol drwy'r chwarel, torrodd yr helynt drachefn, ac unwaith eto tuag at Robert Williams a "J.H." yr edrychai pawb. Ysgydwodd Robert Williams ei ben, gan ddweud y dylent ddewis siaradwr mwy huawdl a thanbaid nag ef. Ond ni wrandawai neb arno: iddynt oll yr oedd ef yn ymgorfforiad o'r chwarelwr cydwybodol, diwylliedig, dewr a doeth ar ei orau. Nid huawdledd a oedd arnynt ei eisiau, meddent, ond cadernid, cywirdeb tawel, cymeriad dilychwin. Mewn gair, Robert Williams.

"Ia, yr hen Foses druan," aeth ymlaen yn freuddwydiol, fel petai'n siarad ag ef ei hun."Ond yn rhyfadd iawn, ar 'i ffordd i lawr o'r mynydd, ychydig mae o'n feddwl am y dyddia' pan oedd o ar fin torri'i galon yn yr hen anialwch 'na. 'Dydi o ddim yn cofio am y bobol daeog, y rhai oedd yn grwgnach byth beunydd ac yn 'i feio fo am 'u harwain nhw i'r fath le. Cofio y mae o am y rhai oedd yn trio'i helpu o weithia', am y bobol ffyddiog a deallus, am rywun ddaru wasgu'i fraich o'n dynar ryw noson pan oedd o bron ag ildio, am yr hen frawd ddaru ddiolch iddo fo am 'i ddwyn o mor bell i gyfeiriad Canaan, am y tad a oedd mor falch na fyddai'i blant o byth yn gwbod be' oedd bod yn gaethion yn yr Aifft."

Suddodd Robert Williams i'w freuddwydion am ennyd a bu tawelwch rhyngddynt. Tywyllai'r ffenestr fel y chwythai'r gwynt gawod o eira i'w herbyn.

"Mae arna' i ofn y bydd yr eira 'ma'n cadw dynion o'r cwarfod," ebe Edward Ifans.

"Bydd. 'Fydd 'na ddim llawar yno. Gyda llaw, Edward, mae arna' i isio iti wneud dau beth fel Cadeirydd heno. Yn gynta', yr ydw' i'n meddwl y dylem ni basio cynnig o ddiolchgarwch yn gyhoeddus i Bwyllgor Llundain. Yn agos i bum mil o bunna' maen' nhw wedi'u casglu mewn byr amsar i'n helpu ni. Mae "J.H." wedi sgwennu atyn' nhw ddwywaith ne' dair, ond mi fydda'n beth da i'r dynion fel corff gydnabod 'u haelioni nhw."

"Mi ofala' i am hynny. A'r ail beth?"

"'Rwyt ti'n 'nabod William Ellis, Tre Gelli?"

'Wil Bach Sir Fôn, chwedl ninna'? Ydw'n iawn."

"Mi ddaeth 'i ddau fab o i 'ngweld i y noson o'r blaen. Mi fyddan' yn y cwarfod heno."

"Ond nid . . . nid Bradwyr ydyn' nhw?"

"Bradwyr oeddan' nhw-tan yr wsnos yma. Ond maen' nhw wedi gadael y chwaral a phenderfynu sefyll hefo'r dynion. 'Roedd isio tipyn o ddewrder i wneud hynny, Edward, ac mi hoffwn i i'r cwarfod heno roi croeso iddyn nhw yn ôl i'r gorlan."

"Mi wnawn hynny, Robat Williams. Be' ydi'u henwa' nhw, hefyd? Owen ydi enw'r hyna', yntê?"

"Ia, a John ydi'r llall. Maen' nhw ar gyfeiliorn ers blwyddyn bellach-fel y rhan fwya' o ddynion Tre Gelli. Ond mae'r peth wedi bod fel hunlla' ar 'u meddwl nhw, a nos Sadwrn dwytha', yr oedd y ddau yn sefyll yn y twllwch tu allan i'r Neuadd yn gwrando ar yr areithia'. Mi aethon' adra' a deud wrth 'u tad 'u bod nhw am gario'u harfa' o'r gwaith bora Llun. 'Rargian, yr oedd 'na le yn y tŷ y noson honno, yr ydw' i'n siŵr! Mae Wil El fel matsan, fel y gwyddost ti, ac yn un o'r Bradwyr cynta'. Rho groeso cynnas iddyn' nhw heno, Edward. Am wn i nad ydi'r hogia' yna'n llawn mor ddewr â ni sy wedi sefyll allan cyhyd."

"Yr ydw' i'n dallt fod 'na bobol wrthi'n beio'r Pwyllgor eto, yn gofyn pam na wnawn ni rywbath yn lle siarad. 'Fydda' o ryw fudd imi sôn am hynny?"

"Dim o gwbwl. Dim ond gwneud fel y byddan' nhw yn Llannerch-y-medd pan fydd hi'n bwrw glaw."

"Be'?

"Gadael iddi," atebodd Robert Williams mor sobr â sant. "Ond mi elli sôn am yr hyn ddaru ni basio y noson o'r blaen, i drio cael rhyw gymod cyn y 'Dolig, os oes modd yn y byd."

"Sut mae'r Atgofion' yn dŵad ymlaen, Robat Williams?" gofynnodd Edward Ifans ymhen ennyd.

O, yr ydw' i'n sgwennu rhyw gymaint bob dydd, wsti, ond 'wn i ddim a wêl y peth ola' dydd byth. Gan bwy mae diddordab yn hanas hen chwarelwr cyffredin fel fi, yntê? Ond fe ddylai'r deunydd fod yn ddiddorol i bobol. Mae'r to newydd yn meddwl bod petha'n galad ofnadwy arnyn' nhw. Maen' nhw'n galad, ac mae'n rhaid inni ymladd i ennill cyflog byw a chael ein parchu fel dynion. Ond 'dydyn' nhw ddim yn cofio 1860 a chyn hynny-yr iro llaw, y llwgrwobrwyo melltigedig a oedd yn y chwaral. Arian, gwirod, barila' cwrw, da pluog, fancy cats, modrwya', tlysa'—'roedd pob math o betha'n cael 'u cludo i'r Stiwardiaid, amball un yn gwerthu'r rhan fwyaf o'i ddodrefn er mwyn medru rhoi ychydig bunnoedd cil-dwrn i ryw swyddog llygredig. A 'dydyn nhw ddim yn cofio etholiad '68, 'ydyn' nhw?"

"A'r Merthyron."

"Ia, a'r Merthyron, y pedwar ugian a drowyd ymaith o'u gwaith am beidio â phleidleisio i'r Tori. 'Roedd fy nhad yn un ohonyn' nhw ac mi gafodd arian o'r Eviction Fund yn Aberystwyth i agor siop fechan. Ond ddaru o ddim byw yn hir: mi fuo farw ymhen blwyddyn—o hiraeth am y chwaral. 'Dydi llawar ohonyn' nhw ddim yn cofio etholiad '74 a chwarelwyr, yn Hwrê!' i gyd, yn tynnu'r Ymgeisydd Torïaidd mewn cerbyd drwy'r pentrana ac yn malu ffenestri Rhyddfrydwyr. Y cwbwl er mwyn cynffonna. Pabwyr ac nid pobol: 'roedd 'na bunt-y-gynffon i Dori."

'Dydach chi ddim yn gweld petha'n waeth yn ein hanas ni fel chwarelwyr, felly, Robat Williams?

"Gwaeth? Yr ydw' i wedi cyrraedd oedran pan ddylwn i sôn am gewri'r gorffennol, pan ddylwn i weld pawb yn hoelion wyth ers talwm ac yn sbarblis hiddiw. Ond nid felly y gwela' i betha'. Mae 'na fwy o asgwrn cefn yno' ni erbyn hyn.'

"Er gwaethaf y Bradwyr?"

"Er gwaethaf y Bradwyr, hiliogaeth daeog yr hen ddyddia', Edward. Y llwgrwobrwyo, y cynffonna, y pleidleisio diegwyddor mewn etholiad, y llwfrdra, y gwaseiddiwch, y bradychu anhygoel pan fentrai dynion cydwybodol sefyll dros egwyddor 'dydi llawar dalan yn y gorffennol ddim yn glod inni. Pan geisiwyd ffurfio Undab yn '65, be' fu? Yn agos i ddwy fil yn ymuno, ond cyn gyntad ag y daru nhw ddallt bod awdurdoda'r chwaral yn erbyn Undab ymhlith y gweithwyr, dyma nhw'n tynnu'n ôl yn heidia' ar unwaith. A phan drowyd y Merthyron o'r chwaral, be'fu? Cynnal cwarfod mawr, nid i benderfynu sefyll allan hefo nhw, ond i seboni perchnogion y chwaral ac i ddiolch yn seimlyd iddyn' nhw am 'u haelioni. Ia, pabwyr ac nid pobol, Edward, gwaetha'r modd. Mi driais i sefyll yn gadarn droeon, a'r canlyniad fu imi orfod rhybela am flynyddoedd—begera hyd y chwaral. 'Roedd Catrin a finna' heb blant, ne' dyn a'n helpo ni. Mi faswn fel yr hen Enoc Jones ers talwm yn mynd at Smith y Stiward Gosod i ofyn am fenthyg 'i gar a'i geffyl o un pnawn Sadwrn Tâl Mawr. I be' chi isio the cart?' gofynnodd Smith. Wel, Syr,' meddai Enoc,' mi ges i fy nghyflog am fis bora 'ma, fel y gwyddoch chi, a 'wela' i ddim be' arall fedra' i 'neud.' 'I be' chi isio the cart?' gofynnodd Smith eto. I fynd â'r wraig a'r plant i'r Wyrcws, Syr,' oedd atab Enoc. A chwara' teg i Smith, fe gafodd Enoc godiad yn 'i gyflog y mis wedyn.

Yr oedd y stori'n un go hen, ond rhoddai ffordd sych, ddiwên Robert Williams o'i dweud ddigrifwch newydd ynddi.

"Ond fe ddaeth ymwared," meddai. "Diwygiad '74."

Edrychodd Edward Ifans yn ddryslyd arno. A oedd cof yr hen arweinydd yn dechrau pylu? "Diwygiad '74?" gofynnodd." 'Dydw' i ddim yn cofio bod 'na Ddiwygiad y flwyddyn honno."

"Y pwysica' o'r cwbwl, Edward, er nad oedd o ddim yn grefyddol 'i natur nac yn cael yr enw 'Diwygiad.' Gwaith gweddol hawdd, wel' di, ydi mynd i hwyl a cholli pen—a het—mewn Diwygiad—fel yr hen Fetsi Owen yn Niwygiad '59. Bendigedig fyddo'i enw!' medda' hi. Bendig—Hei, fy het i ydi'r un â'r rhuban pinc 'na.' Ond ychydig o wahaniaeth wnaeth y gweiddi a'r gorfoleddu i'r iro llaw yn y chwaral. Ond fe roes '74 asgwrn cefn yno' ni."

"Ffurfio'r Undab?"

"Ia, ffurfio'r Undab, a theimlo bod 'na unoliaeth a brawdoliaeth yn ein plith ni fel gweithwyr o'r diwadd. Yr Undab roes waelod yno' ni, Edward. 'Roedd yn rhaid inni ddewis rhwng yr Undab a'n gwaith, ond oedd? 'Wyt ti'n cofio'r placardia' hynny ym mhob ponc yn dweud y gwrthodid gwaith i Undebwyr? 'Roedd fy mrawd yn gweithio yn Llanarfon ar y pryd. Fe gaewyd y chwaral yno am wythnos, i roi amsar i'r dynion feddwl a oeddan' nhw am fynnu Undab ai peidio. Y bora Llun wedyn, bora tynar yng nghanol Mehefin, dyma ddwy fil a hannar yn mynd i'w gwaith gan wybod be' oedd o'u blaena' nhw. Wel, hwn-a-hwn,' meddai'r gosodwr ym mhob ponc, 'p'un ydach chi wedi'i ddewis, y fargan ne'r Undab? Yr Undab,' oedd atab dros ddwy fil ohonyn' nhw, gan godi'u harfa' a cherddad yn fyddin o'r chwaral. 'Roeddan' nhw'n arfar cynnal cwarfodydd ar graig fawr mewn lle canolog rhwng y pentrefi o gwmpas, a' Chraig yr Undab' ydi'i henw hi hyd hiddiw. Mewn undab mae nerth,' medda'r hen air, yntê? Mi fu'r ddiharab yn wir yn ein hanas ni fel chwarelwyr. Pan aeth yr Undab i lawr ymhen rhai blynyddoedd, o wyth mil i ddwy fil o aeloda', be' ddigwyddodd? Yr un hen heintia'—gorthrymu a budr-elwa ar un llaw, seboni a chynffonna ar y llall. A 'thaem ni yn Llechfaen a'r cylch wedi bod yn ffyddlon i'r Undab, Edward, 'fasa'r drygfyd hwn ddim wedi meiddio cydio yno' ni."

Daeth Catrin Williams i mewn i roi blocyn ar y tân, a chododd Edward Ifans i gychwyn tuag adref.

"Rhaid imi fynd, i feddwl am bwt o bregath," meddai. "Plant y drws nesa' 'ma," ebe Catrin, "allan yn yr eira a'u 'sgidia' nhw'n dylla' i gyd. Mae'n rhyfal mawr yng ngwaelod y stryd—plant 'RAllt Fawr yn erbyn plant y Bradwyr. Gobeithio y cadwan' nhw at belenni eira a pheidio â chodi cerrig, yntê? Diar, dyna garpiog a llwyd yr olwg mae'r plant yn mynd! Ond be' arall sy i'w ddisgwyl a llawar ohonyn' nhw'n gorfod byw mor amal ar fara sych, ne' fara-triog ar y gora', pan ddylan' nhw gael bwyd maethlon? . . . O, cofiwch am yr wya' 'na i Geridwen, Edward Ifans. Yr ydw' i wedi'u lapio nhw a'u rhoi nhw'n barod ar fwrdd y gegin fach." Safai wrth y ffenestr yn awr yn edrych allan.

"Hy, edrychwch arni hi yn torri cyt," meddai.

"Pwy, Catrin?" gofynnodd ei gŵr."

"Jane Gruffydd tros y ffordd, debyg iawn. Mae cert Now'r Bwtsiar yn mynd drwy'r stryd ac mae mei-ledi, wrth gwrs, fel gwraig i Fradwr, yn medru mynd allan â'i phwrs yn 'i llaw i brynu leg o lamb at 'fory. Dowch yma, Edward Ifans, i chi gael gweld y perfformans . . . Ia, y leg acw,' medda hi, y fwya' sy gynnoch chi.' A 'rwan, mae hi'n agor 'i phwrs, yn rhodras a chiamocs i gyd, gan obeithio bod pawb yn y stryd yn 'i gwyliad hi. "'Tawn i'n lle Now'r Bwtsiar, mi rown i leg o lamb iddi—ar 'i chorun! Ond dyna fo, mae'n rhaid i Now druan fyw, ond oes? Gwyliwch hi 'rwan, Edward Ifans; mae'n werth talu grot am weld y migmans nesa'. Mae hi'n dal y leg o lamb—ar 'i braich fel babi, yn troi i edrach i lawr y stryd, wedyn tros y ffordd—sefwch yn ôl, sefwch yn ôl—wedyn i fyny'r stryd cyn martsio i'r tŷ fel un wedi ennill y champion solo mewn 'steddfod. Hy, 'faint o arian sy arni hi i'r hen Siôn Crydd, mi liciwn i wbod? Yr hen Siôn druan—'glywsoch chi?"

"Be'?"

"Mae o wedi penderfynu cau'r siop a mynd i weithio i Lanarfon at 'i fab."

"O, do, mi glywis i hynny. Mae'n biti, a 'fynta'n grefftwr "O, mor dda."

"Diar, yr oedd gynno fo ddwsin o brentisiaid odano fo cyn y streic, ond oedd? 'Rŵan, dim un. Mae o jest â thorri'i galon, medda' Lydia'r ferch wrtha' i . . . 'Rhoswch, mi ddo' i i lawr hefo chi i chi gael yr wya', ac mae Meri Ann wedi addo gyrru tipyn o fêl inni ddechra'r wsnos . . .

Ar ei ffordd drwy'r stryd, sylwodd Edward Ifans yntau ar wynebau llwyd y plant ac ar y gwahaniaeth rhwng plant y streicwyr a phlant y Bradwyr, ac yr oedd ei galon yn drom wrth iddo droi i fyny Tan-y-bryn.

"Pnawn da, Edward Ifans, pnawn da," meddai llais defosiynol, ac ymunodd Mr. Price-Humphreys, y Stiward Gosod, ag ef. Yr oedd ei glog fawr amdano a menyg ffwr am ei ddwylo.

"O, pnawn da, Mr. Price-Humphreys. Mae hi'n oer iawn hiddiw."

"Ydi, yn wir yn wir, oer iawn."

Cerddodd y ddau gyda'i gilydd heb ddweud gair am dipyn."Wedi bod yn edrach am Robat Williams," meddai Edward Ifans ymhen ennyd, gan chwilio am rywbeth i'w ddweud.

"O? 'Ydi o'n cwyno?"

"Annwyd trwm, a thipyn o wendid."

"O, mae'n . . . y . . . wir ddrwg gen' i. 'Ydach chi'n cynnal un o'ch . . . y . . . cyfarfodydd heno?"

"Ydan, fel arfar."

"A phwy fydd yn . . . y . . . cymryd y gadair?"

"Fi. Ynghylch hynny yr on i'n mynd i weld Robat Williams."

"Hm. Felly. Mae'n hen bryd rhoi terfyn ar y . . . y ffolineb yma, Edward Ifans, yn wir yn wir i chi. Edrychwch ar y ddau o blant acw sy'n dwad i'n cyfarfod ni i lawr y stryd. Fel dau ysbryd bach, yntê? A'r ddwy wraig sy'n cerddad tu ôl iddyn nhw . . . O, 'wnes i ddim sylwi mai . . . y . . . Mrs. Ifans ydi un ohonyn' nhw. Hi ydi hi, yntê?"

Ia," atebodd Edward Ifans yn sych, gan geisio gwenu ar Fartha, a nesâi yng nghwmni'r hen Farged Williams. Ai cymryd arno nad adnabu mohoni yr oedd y Stiward? Pa un bynnag, yr oedd Martha'n edrych mor llwyd a rhynllyd â'r hen Farged Williams, a oedd yn byw ar ei thri a chwech yr wythnos. Os ceisio'i glwyfo yr oedd Mr. Price-Humphreys meddyliodd, yna fe lwyddodd â'r ergyd hwn.

"Ond 'does dim isio'r holl . . . y . . . ddiodda' a'r angen yma, wyddoch chi, Edward Ifans," meddai'i gydymaith wedi i'r ddwy fynd heibio."Dim, a'r chwarel yn agored i'r dynion ddychwelyd iddi. Dyn . . . y . . . penderfynol ydi Robert Williams, yntê?"

"Dim mwy . . . y . . . penderfynol na'r gweddill ohono' ni," atebodd Edward Ifans, gan deimlo mai'r gair' ystyfnig' a oedd ym meddwl y Stiward.

""Wn i ddim am hynny, Edward Ifans. Pwy oedd un o'r rhai mwyaf . . . y . . . selog yn ffurfio Undeb y Chwarelwyr? Robert Williams, yntê? Fe'gawsoch eich Undeb ac, ar ôl y streic yn '74, hawl i Bwyllgor i ystyriad cwynion y dynion cyn 'u . . . y

.. cyflwyno nhw i'r . . . y. . . awdurdoda'. Pa ddefnydd wnaeth rhai fel Robert Williams o'r . . . y . . . Pwyllgor hwnnw? Gwrando ar . . . y . . . gwynion Undebwyr a neb arall, yntê? 'I ddefnyddio fo fel . . . y . . . ffordd slei i . . . y . . . hyrwyddo'r Undeb ac i geisio . . . y . . . rheoli'r chwarel."

""Wnaeth y Pwyllgor mo hynny, Mr. Price-Humphreys. Mi ddylwn i wybod a finna' arno fo o'r cychwyn.'

Roedd o'n pasio bod labr-greigwyr, a oedd wedi cael bargeinion ar ôl y streic, i'w symud yn ôl i'w dosbarth. Os nad ydi hynny'n . . . y . . . enghraifft o ymyrraeth â rheolaeth y chwarel . . ."

"Pasio i awgrymu hynny i'ch ystyriaeth chi yr oedd y Pwyllgor. Ac yr oedd yr awgrym yn un yn gweiddi am gael 'i wneud."

"O? Pam hynny, Edward Ifans?"

"Am fod y labrwyr hynny wedi ennill 'u bargeinion nid trwy ddangos 'u medr fel chwarelwyr." Hoffai chwanegu trwy gynffonna," ond tawodd.

Ym mha chwarel arall y mae . . . y . . . Pwyllgor felly? A phan . . . y . . . wnaethon ni i ffwrdd ag o ddeunaw mlynedd yn ôl, yr oedd y gwaith yn mynd yn well o lawer ac yn rhoi chwara' teg i'r rhai heb fod yn . . . y . . . perthyn i'r Undeb."

Teimlai Edward Ifans yn rhy luddedig i ddadlau yr oedd yr olwg a welsai ar wyneb llwyd Martha yn ing yn ei feddwl.

"Gyda phob . . . y . . . dyledus barch i chi, Edward Ifans, ond 'wela' i ddim i'r . . . y . . . cyfarfodydd yma ar nos Sadwrn wneud dim ond . . . y . . . chwerwi teimlada'. 'Faint gwell ydach chi wrth gael hwyl mewn terma' ffôl fel punt-y-gynffon' a phetha' tebyg? Mi wyddoch yn iawn mai. y . . . ysbryd haelionus yr oruchwyliaeth oedd tu ôl i'r anrheg. 'Roedd y gweithwyr, ar ôl misoedd hir o streic, yn edrych mor . . . y . . . dena' a newynog, a chalon dyner a roes y . . . bunt i bob un ohonyn' nhw, yn wir yn wir i chi. A phetai'r dynion yn dychwelyd i'r chwarel, yn lle segura'n ystyfnig fel hyn, fe wrandawem yn. . . y . . . ofalus ar y cwynion y mae . . . y . . . cymaint o sôn amdanyn' nhw."

Tawodd, gan wylio wyneb ei gydymaith. Safent yn awr o flaen "Gwynfa," ac edrychodd y chwarelwr tua'r tŷ. Mor dawel, mor wag, ydoedd! Yr oedd mor ddi-sŵn â'r drws nesaf, lle'r oedd Idris a Kate a'u plant yn llawn chwerthin gynt! Heb Megan, heb Dan, heb Llew, heb Gwyn. Daeth tristwch a lludded mawr trosto.

"Ac yr oeddach chi, Edward Ifans, yn . . . y . . . ennill cyflog reit dda ym Mhonc Victoria, ond oeddach? A'ch teulu bach yn un o'r rhai . . . y . . . hapusaf yn Llechfaen 'ma. Yr ydw' i'n . . . y . . . falch fod eich brawd John wedi. . . y. . . gweld y goleuni o'r diwedd. Gresyn na fasa'r bachgen sy gynnoch chi ar y môr yn dŵad yn 'i ôl. Hogyn da, hogyn da iawn. Ond wrth gwrs, mi fydd hi'n anodd . . . y . . . bron yn amhosibl . . . inni 'i gymryd o'n ôl i'r chwarel os bydd o'n . . . y . . . oedi lawer yn hwy. Mi fydd 'i gyhyra' fo wedi anystwytho gormod i . . . y . . . wneud chwarelwr medrus, on' fyddan'?

Ai bygythiad oedd y geiriau? A'r llais mor fwyn a charedig, dewin yn unig a wyddai. Syllodd llygaid Edward Ifans tua ffenestr y llofft lle cysgai Llew a Gwyn hanner blwyddyn ynghynt, a throes ei ludded a'i dristwch yn nerth sydyn.

Oeddan, yr oeddan ni'n deulu hapus," meddai."Ond wrth wraidd yr hapusrwydd yr oedd ofn, fel pryfyn yn cnoi yng nghanol ein meddwl ni. Ac mi frwydrwn i fyw ein bywyd yn rhydd o'r ofn hwnnw."

"Ofn? Ofn . . . y . . . beth, Edward Ifans?"

"Ofn methu â gwneud cyflog, ofn syrthio dan wg rhyw swyddog, ofn pwl o afiechyd heb ond ychydig wrth gefn, ofn cael ein symud i graig sâl, ofn . . ."

"'Gawsoch chi eich . . . y . . . symud i graig sâl?"

"Mi fûm i'n weddol ffodus—ond am yr amsar ges i o dan Huws Contractor. Ond nid trosta' i yr ydan ni'n ymladd."

"O?"

"Tros y cannoedd na fuont mor lwcus â fi, y rhan fwya' ohonyn' nhw'n ddynion cydwybodol, medrus-yn wir, y gwŷr mwya' deheuig yn ein plith ni efalla', er mai nhw oedd yn ennill y cyflog sala'.

"Be' ydach chi'n feddwl wrth . . . y . . . osodiad fel yna, Edward Ifans?"

"Dim ond bod isio mwy o fedrusrwydd pan mae dyn ar graig sâl nag ar un rywiog, fel y gwyddoch chi. Mi fedar saer cyffredin lunio dodrefnyn allan o bren hawdd i'w weithio, ond mae isio crefftwr i lunio un allan o hen foncyff mawnog, ond oes? Ond 'chlywis i erioed swyddog yn y chwaral yn defnyddio iaith fel hyn—Mae yn y fan acw le i gael cerrig, ond maen' nhw'n rhai anodd 'u gweithio, yn galad ne' yn siarp, â natur hollt gron ynddyn' nhw. Mae'n rhaid bod yn chwarelwr medrus iawn i drin y graig, ond os triwch chi'r lle, hwn-a- hwn, mi gewch bris da yno.' Ond fel y mae petha', ansawdd y graig ac nid mediusrwydd sy'n penderfynu'r cyflog. Craig ddrwg cyflog sâl. Craig dda—a dynion pur anfedrus weithia' yn naddu cyflog da ohoni, yntê?

Nid oedd wedi bwriadu siarad mor blaen ag y gwnaeth yn ei frawddeg olaf, ond âi Twm Parri heibio, gan wenu'n daeog a thynnu'i gap i'r Stiward Gosod. Ni chofiai Edward Ifans i'r sebonwr fod ar graig sâl erioed.

"'Dydan ni ddim yn gofyn llawar, Mr. Price-Humphreys —dim ond ychydig hapusrwydd syml. Edrychwch arna' i. Y cwbwl yr on i'n dyheu amdano oedd y tŷ bach 'ma yn Nhan- y-bryn, cysur fy ngwraig a'm plant, mynd i'r capal a medru talu'n anrhydeddus at 'i gynnal o, ceiniog yn sbâr i roi addysg i'r hogyn oedd wedi dangos y medra' fo fanteisio arno, ychydig syllta' ar gyfar y Cymru' a'r Geninen' a phapur wythnosol. 'Dydw' i na neb arall yn ymladd am foetha'.

"Ond yr oedd y petha' yna gynnoch chi, Edward Ifans.

Fe gafodd eich bachgen chi fynd i'r . . . y . . . Coleg, ond do? Ac oni bai am y streic, yn y Coleg y basa' fo o hyd, yntê?"

"Mi ddaru Martha a finna'. . aberthu er 'i fwyn o." Arhosodd ennyd o flaen y gair aberthu' i'w bwysleisio."O, yr ydach chi'n ôl yn fuan, Martha," meddai wrth ei wraig, a âi heibio iddynt.

"Dim ond rhedag i'r Post hefo llythyr at Meri Ann. . . O, pnawn da, Mr. Price-Humphreys.'

Pnawn da, Mrs. Ifans. Wel . . . y.

Wel . . . y . . . meddyliwch am yr hyn ydw' i wedi'i ddweud wrthach chi, Edward Ifans. Y . . . cyn y cyfarfod heno, yntê? Pnawn da i chi'ch dau 'rŵan . . . y . . . pnawn da."

Yr oedd yn tynnu at amser y cyfarfod. Cododd Dan, a ddaethai adref tua phedwar.

"Mi a' i'n gynnar," meddai."Mae arna' i isio gair hefo un ne' ddau o'r dynion ar gyfar nodiada' i'r Gwyliwr'.

"O'r gora', 'machgan i," meddai'i dad."'Fydda' inna' ddim yn hir."

Gwenodd Martha Ifans ar ei gŵr wedi i'w mab frysio ymaith.

"Mae Dan yn fo'i hun unwaith eto, Edward. Ac mi wnaeth imi gymryd y pedwar swllt 'ma. 'Doedd dim iws dadla' hefo fo . . . Be' ydach chi yn 'i wneud?"

"Dim ond newid f'esgidia'. Pam?"

"'Dydach chi ddim yn mynd i wisgo'ch 'sgidia' gora'? Mi wyddoch yn iawn na ddalian' nhw mo'r eira.'

"Ond 'dydw' i ddim isio clampio i fyny i'r llwyfan yn fy rhai hoelion-mawr, Martha."

"'Chewch chi ddim ista' yn y cwarfod am dros awr a'ch traed chi'n wlyb, mi wn i hynny." Daliai hi ei grafat o flaen y tân i'w gynhesu."Ac mi gewch lapio'r crafat 'ma'n dynn am eich gwddw."

Tu allan, yr oedd y nos yn olau er bod ychydig eira'n blu ysgafn, gwasgarog, ar flaen y gwynt. Wrth gerdded i lawr yr allt, gan ddechrau hefo tŷ Idris ac un Now'r Wern, cyfrifodd y tai gweigion ar bob llaw. Deuddeg un ochr, deg yr ochr arall. Os âi pethau ymlaen fel hyn, meddyliodd yn chwerw, byddai Tan-y-bryn yn stryd o dai gweigion cyn hir. A'r stryd fawr yn rhes o siopau gweigion, chwanegodd wrtho'i hun fel yr âi heibio i dair ohonynt wrth ymyl ei gilydd.

Oedodd yn nrws y Neuadd i sgwrsio â rhai o'r dynion, pob un ohonynt yn ddwys eu cydymdeimlad ag ef yn ei brofedigaeth. Aethai amryw ohonynt, fe gofiai wrth siarad â hwy, drwy brofiadau tebyg yn ddiweddar, ond ni chiliodd y dewrder tawel o'u llygaid. Yr oedd yn werth ymladd ysgwywydd wrth ysgwydd â gwŷr fel hyn, meddyliodd fel y cerddai drwy'r Neuadd tua'r llwyfan.

Wedi iddo eistedd wrth y bwrdd ar y llwyfan, syllodd yn hir ar yr wynebau penderfynol o'i flaen. Mor welw a thenau oeddynt! Fel rheol yn y cyfarfodydd hyn, eisteddai ef yn un o'r seddau blaen a'i gefn at y gynulleidfa. Y tro diwethaf iddo fod ar y llwyfan oedd yn y cyfarfod mawr yn niwedd Awst, a thybiodd y pryd hwnnw fod gwrid iachus ar wynebau'r dynion er gwaethaf y newyn a'r caledi a'r pryder oll. Tipyn o liw haul ydoedd, meddai wrtho'i hun, gan gofio iddo sylwi droeon yn ddiweddar ar lwydni gwedd hwn ac arall ar y stryd.

Ond yn awr gwelai dorfo wynebau o'i flaen, ac ymddangosai pob un yn llym, esgyrniog, a llinellog dan y golau a'r cysgodion a daflai'r lampau olew. Dychrynodd wrth eu gweld, a daeth tristwch a lludded enfawr trosto. Teimlai'i ysgwyddau'n crymu dan y baich a'i lygaid blin yn cau i chwilio am dynerwch gwyll. A oedd yr ymdrech yn werth y draul? Onid curo â dwylo noeth yn erbyn muriau o graig a dellt yr oeddynt? Muriau ogof droeog heb lygedyn o olau o un cyfeiriad i ddweud bod ffordd allan ohoni. Cofiodd am y tai gweigion yn Nhan-y-bryn ac am dlodi ofnadwy rhai o'r lleill, am siopau gweigion y stryd fawr, am lygaid gorchfygedig ei frawd John, ac am stori Martha am yr hen William Parri a'i fab dideimlad, Twm. Deuai'r Nadolig yn fuan, a mawr fyddai'r addurno a'r anrhegu a'r miri mewn ambell dŷ; yn y drws nesaf, efallai, bara sych ac esgus o dân. . .

"Mae'n well inni ddechra', Edward," sibrydodd 'J.H.'

Nodiodd yntau, gan agor ei lygaid a gwenu'n wan arno. Gwasgodd J.H.' ei fraich ag un llaw fel y gwthiai ato â'i law arall bapur ag arno enwau'r siaradwyr a nodiadau ar drefn y cyfarfod. Teimlai gryfder fel pe'n llifo i'w fraich a thrwy'i gorff i gyd, a chynyddodd y nerth fel y taflai olwg ar enwau Mr. Edwards y gweinidog; 'J.H.'; Robert Jones, un o arwyr y streic o'r blaen; Richard Owen, Fron; yr hen Ifan Pritchard. Ni ddywedai un ohonynt ddim byd newydd iawn, meddyliodd, ond yr oeddynt oll yn ddynion â gwaelod ynddynt, a sicrwydd a chadernid nid yn unig yn eu geiriau ond yn eu holl gymeriad. Yr oedd hi'n fraint cael brwydro wrth eu hochr hwy: lle safent hwy, arnhydedd oedd cael sefyll. A lle safai'r dynion wynepllym o'i flaen.

Nid oedd ond rhyw ddau gant yn y Neuadd heno: âi'r gynulleidfa'n llai o Sadwrn i Sadwrn oni cheid rhyw siaradwr neu newydd arbennig yn y cyfarfod. Arhosai rhai ymaith mewn digalondid, rhai mewn ansicrwydd euog, ond y prif reswm oedd bod ugeiniau wedi gadael yr ardal mewn anobaith yn ystod Medi a Hydref, wedi'u siomi gan y cyfarfod di-ffrwyth a gynhaliwyd yn niwedd Awst. Golygfa a welid yn aml yn yr hydref a dechrau'r gaeaf oedd cert â llwyth o ddodrefn arni ar ei ffordd tua'r orsaf, y tad yn ceisio cerdded yn dalog wrth ei hochr, y plant yn gyffrous wrth gychwyn ar antur newydd, y fam yn gwneud ei gorau i gadw'r dagrau'n ôl wrth wenu'i ffarwel i hon ac arall ar y stryd. Ond nid edrychai na'r gŵr na'r wraig yn wyneb Jones, Liverpool Stores neu Robert Roberts y Teiliwr neu Siôn Crydd, os digwyddai un ohonynt fod yn nrws ei siop—a gallent, pe mynnent, sefyllian yno drwy'r dydd bron.

Dim ond dau gant, meddai Edward Ifans wrtho'i hun fel y codai i agor y cyfarfod. Ond hwy oedd asgwrn-cefn y fyddin, y dewraf a'r ffyddlonaf o'r gwŷr—a'r tawelaf, meddyliodd. Cofiai amser pan lenwid y Neuadd â lleisiau herfeiddiol, croch, ond mewn tawelwch penderfynol y cyrchai'r dynion hyn drwy'r eira a'r oerwynt tua'r cyfarfod, amryw ohonynt o fythynnod diarffordd y llechweddau. Aethai'r rhai uchaf eu cloch yn ôl i'r chwarel. Anaml yn awr y clywid rhegfeydd nac y gwelid chwifio dyrnau chwyrn yn y Neuadd. Dynion tawel, dwys a'u balchder diymod yn peri iddynt wisgo'u dillad Sul bob nos Sadwrn—oedd y rhan fwyaf o'r gynulleidfa erbyn hyn; gwŷr mewn oed bron i gyd, gan i'r rhai ifainc anturio i'r Deau neu i Loegr, ac amryw i'r America, i chwilio am waith. Llanwyd Edward Ifans â pharch tuag atynt fel yr agorai'i enau i'w hannerch.

"Gyd-weithwyr," meddai, a'i lais yn gryf ac eofn. "Funud yn ôl, pan eisteddwn i wrth y bwrdd 'ma, fe ddaeth y felan trosta' i. Meddyliais am y tai gweigion sy yn Nhan-y-bryn acw a chofiais fod rhyw bedwar cant ar ddeg o ddynion, cannoedd ohonyn' nhw â'u teuluoedd hefo nhw, wedi gadael yr hen ardal 'ma. 'Faint ohonyn' nhw ddaw yn ôl, ni ŵyr neb. Cofiais hefyd fod y . . . y fynwent acw yn ehangach o dipyn nag oedd hi flwyddyn yn ôl. Yr oeddwn i'n barod i ofyn hefo'r hen batriarch Job: Pa nerth sydd i mi i obeithio? Ai cryfder cerrig yw fy nghryfder? A ydyw fy nghnawd o bres? Ond mi gofiais hefyd ein bod ni'n ymladd i fod yn rhydd yn rhydd rhag angen, yn rhydd rhag ofn.

"A enillwn ni'r frwydyr? 'Wn i ddim. Mae'r pedwar cant ohono' ni sy'n aros yn yr ardal yn byw ar chweugian yr wsnos o'r Undab ne' ar bres o'r Gronfa. Mae'n rhaid inni, chwerw bynnag ydi meddwl am y peth, mae'n rhaid inni yn hwyr neu'n hwyrach wynebu'r posibilrwydd o weld arian yr Undab yn lleihau. Mae Llechfaen a'r cylch wedi bod yn faich trwm ar yr Undab. 'Ga' i wneud apêl at y rhai hynny ohonoch chi sy'n teimlo'n ddigon ifanc ac iachus i fentro i'r Sowth, neu rhywla lle mae gwaith i'w gael, i ystyriad gwneud hynny? Mae'n rhaid inni ysgafnhau'r baich ar yr Undab ac ar Gynghrair Cyffredinol yr Undebau Llafur, sy wedi bod mor hynod garedig wrtha' ni drwy'r ymdrech i gyd. Petai'r cymorth hwnnw'n lleihau neu yn methu, newyn a fydd yn ein hwynebu ni. Mae amryw'n dal i siarad am derfyn buan i'r anghydfod, ac mi wn i am lawer sy'n aros yn obeithiol yn 'u hen ardal gan ddisgwyl clywed newydd o ddydd i ddydd. Fel y dywedodd Robert Williams droeon o'r gadair yma yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwetha', y mae'n well inni fod yn onest â'n gilydd ac â ni'n hunain. 'Dydi Canaan ddim yn y golwg, chwedl ynta', ac er bod manna wedi disgyn fel pe o'r nefoedd droeon, efalla' mai'r anialwch sy o'n blaen ni fydd y rhan fwyaf anodd a blin o'r holl daith.

"Pam y mynnwn ni fynd ymlaen, ynta', a llwybyr arall hawdd a rhwydd yn agored inni? Am ein bod ni'n credu yng nghyfiawnder ein hachos, yn sicir fod ein traed ni ar y ffordd sy'n arwain i'r bywyd, i fywyd llawnach a helaethach chwarelwyr y dyfodol. Na chais iawn ond o gymod,' medd hen air, yntê? Prawf o'n ffydd ni yn ein hachos ydi ein bod ni wedi trio cymodi dro ar ôl tro, wedi cynnig am gyflafareddiad ar bob un o achosion yr helynt. Yr ydym yn barod i hynny o hyd, yr yfory nesaf, yn barod i osod ein cwynion o flaen unrhyw ganolwr diduedd. Cynrychiolwyr o'r Pwyllgor, neu o ddynion tu allan i'r Pwyllgor, neu ganolwyr o'r Cyngor Sir neu o'r Senedd neu o'r Bwrdd Masnach yn ôl Deddf Cymod 1896-byddem yn fodlon sefyll neu syrthio wrth yr hyn a benderfynid ganddyn' nhw mewn ymgynghoriad â'r awdurdoda'. Ond y mae'r drws wedi'i gau yn ein hwyneba' ni bob tro, ac wedi'r hir ddiodda' a'r aberthu fe ddisgwylir inni ddwyn yr helynt i'w derfyn drwy ildio'n ddiamodol. Mewn geiriau eraill 'Trechaf, treisied; gwannaf, gwaedded.'"

Gwyrai'r siaradwr ymlaen, â'i ddwy law ar y bwrdd, a llefarai'r frawddeg olaf yn dawel â chwerwder mawr yn ei lais. Yna ymsythodd i'w lawn daldra wrth chwanegu:

"Y mae'n wir mai ni sy wannaf mewn adnodda' materol. Ond y mae cryfder argyhoeddiad yn ein henaid ni, a'n traed ni'n gadarn ar graig egwyddor."

Derbyniwyd y geiriau â chymeradwyaeth uchel, ac wedi iddo dawelu, daliai llawer hynafgwr i amenu'n ddwys yn ei wddf.

"Dywedir wrthym, ar lafar ac ar lawr, ar y stryd yn Llechfaen ac mewn ambell bapur newydd, a hyd yn oed mewn areithia' yn y Senedd, fod y Bradwyr yn mynd o nerth i nerth, fod dros naw cant o'n hen gyd-weithwyr ni yn ôl yn hapus yn y chwarel erbyn hyn. Efalla' fod rhyw naw cant o ddynion yno, ond nid ein hen gyd-weithwyr ni ydi rhai cannoedd ohonyn' nhw—y gweision ffermwyr o Fôn, y siopwyr wedi methu â chael dau ben llinyn ynghyd, y llafurwyr o bob math heb fod mewn chwarel erioed o'r blaen. Yr ydw' i'n dallt mai gweiddi 'Penwaig!' hyd y dre 'na 'roedd un ohonyn' nhw cyn iddo fo benderfynu troi'n chwarelwr."

Maen' nhw'n 'i iwsio fo i weiddi Ffaiar!' amsar tanio," llefodd rhywun o gefn y Neuadd.

"Mae Ned Biwglar am gael y sac," gwaeddodd llais arall. Barbwr, maen' nhw'n deud i mi, oedd un arall," aeth Edward Ifans ymlaen wedi i'r chwerthin dawelu.

"Ia, a barbwr sâl gynddeiriog!" rhuodd llais dwfn yr hen Ifan Tomos, taid Os.

"Y gwir ydi," meddai'r Cadeirydd, "fod rhif y Bradwyr heb gynyddu ond ychydig iawn yn ystod y misoedd diwetha' 'ma. Mae dwy fil ohono' ni yn dal i sefyll yn gadarn ac yn gwrthod bradychu'n cyd-weithwyr drwy sgrifennu'n ddirgel i swyddfa'r chwarel. A ydi'n bosibl fod dwy fil o ddynion, y mwyafrif mawr ohonyn' nhw yn weithwyr cydwybodol ac yn gapelwyr selog, yn gwyro mewn barn ac egwyddor, a'r chwe chant—yn 'u plith nhw lawer oedd yn licio ymffrostio nad oeddan' nhw na chydwybodol na chrefyddol—yn ddoeth a chyfiawn? Yr ydan ni'n gofyn i'r awdurdoda' ystyriad y cwestiwn yna, 'i ystyriad o'n ddwys a difrifol, heb falais na dicter na dialedd. Ac wedyn gyfarfod ein cynrychiolwyr ni, y ddwy ochr mewn ysbryd cymodlawn, brawdgarol. Pe digwyddai hynny, fe ddôi terfyn buan ar yr helynt flin yma sy wedi dwyn cymaint o gyfyngder gyda hi. Yr ydym wedi gofyn am hyn droeon, ond fe drowyd clust fyddar i'n cais. Yn awr, yn wyneb dioddef y gwragedd a'r plant, yn wyneb y trueni sy'n nychu'r holl ardal, yr ydym yn erfyn yn hytrach na gofyn."

Yr oedd y gynulleidfa o wŷr wynepllym yn dawel iawn, heb fod yn sicr a ddeallent berwyl y geiriau olaf, ac anesmwythai llawer un ar ei sedd."Erfyn?" Pwy? Gwthiodd yr hen ymladdwr Ifan Tomos ei ên allan.

"Peidiwch â'm camddeall i, gyfeillion. Nid erfyn am drugaredd na chardod ydw' i'n feddwl: 'does neb ar y Pwyllgor na thu allan iddo a wnâi hynny. Ond erfyniwn am gyfarfod mewn ysbryd heddychlon, a llygaid y ddwy ochr fel 'i gilydd yn syllu'n ddwys ar gyni'r gwragedd a'r plant. Mae'r Nadolig yn agos, trydydd Nadolig y streic ar y ddaear, tangnefedd; i ddynion, ewyllys da. Pe caem ni, yn was a meistr, yn llafurwr a swyddog, gyfarfod yn ysbryd yr Wyl, fe giliai fel y niwl o afael nant' yr amheuon a'r anawsterau oll. Yr ydym yn barod, os bydd raid, i ymladd hyd newyn: yr ydym yn barod hefyd i geisio cymod—yn awr, yr yfory nesaf."

Eisteddodd Edward Ifans i lawr am ennyd, gan wylio'n bryderus effaith ei eiriau ar y dynion. Gwyddai fod ambell un ystyfnig iawn yn eu plith, ac nad ymostyngent ddim hyd angau. Un felly oedd yr hen Ifan Tomos, a haerai yr âi ef i'r Wyrcws cyn yr ildiai fodfedd. Ond tynasai yntau ei ên yn ôl yn awr, a chofiodd Edward Ifans fod ei ferch, mam Os, yn bur wael. Gwyliodd ef yn nodio'n ffwndrus ac anfoddog, heb ymuno yn y curo-dwylo, a'i wefusau'n crynu. Mwy nag mewn hen dderwen, nid oedd plygu yn ei natur: ei lorio, nid ei ysigo, a fynnai ef.

Cafodd Mr. Edwards, gweinidog Siloh, dderbyniad cynnes iawn. Yr oedd Y Gwyliwr wedi agor Cronfa Plant Llechfaen a -diolch i ymdrechion folcanig yr Ap mewn ysgrif ac araith ac ymgom-llifodd rhai cannoedd o bunnau iddi. Mr. Edwards oedd Ysgrifennydd y pwyllgor lleol a ddosbarthai'r arian, ac apeliai yn awr am iddynt gael gwybod am bob achos o wir angen ymhlith y plant. Estynnwyd cymorth yn barod i ugeiniau, meddai, ond gwyddai ef o'i brofiad personol fel gweinidog fod digon o achosion gwir deilwng na hysbysid y pwyllgor amdanynt. Yr oedd llawer teulu'n rhy annibynnol i fynd ar ofyn neb ac yn benderfynol o ymladd ymlaen yn ddigymorth, costied a gostio. Camgymeriad mawr oedd hynny, ac os gwyddai cymydog am blentyn neu blant yn ei stryd ef a oedd yn dioddef, yna ei ddyletswydd oedd hysbysu'r pwyllgor ar unwaith fel y byddai'r arian yn cyrraedd pob un yr oedd eu hangen arno. Areithiodd J.H.' wedyn yn huawdl a miniog ar yr hyn a alwai'n betruster cysurus, saff' y Bwrdd Masnach, yna Robert Jones yn ddwys, Richard Owen yn danbaid, yr hen Ifan Pritchard yn ddigrif. Pasiwyd y cynnig o ddiolch i Bwyllgor Llundain, derbyniwyd y ddau lanc o Dre Gelli yn ôl yn wresog, canwyd emyn fel arfer, a throes pawb yn dawel o oerni'r Neuadd i oerni mwy y nos. Ar ei ffordd allan yng nghwmni Mr. Edwards a Dan, nodiodd Edward Ifans yn gyfeillgar ar yr hen Ifan Tomos, a sgwrsiai â rhywun yn ymyl y mur.

"Nos dawch, Edward," gwaeddodd y cawr."A, rhag ofn na fydda' i ddim yma Sadwrn nesa', Nadolig Llawan!"

Nadolig llawen . . . Siaradai Dan a Mr. Edwards am Gronfa'r Plant, ond prin y clywai Edward Ifans air . . . Nadolig llawen. Heb Gwyn? Fe dorrai Martha druan ei chalon yn lân. Ond efallai y byddai Llew gartref erbyn hynny. Gobeithio'n wir, gobeithio i'r nefoedd. Llew a Dan a Megan a'i phlentyn—pe caent hwy oll am y dydd . . . Rhaid iddo sôn wrth Megan am y peth . . . Ac ychydig ddyddiau cyn y 'Dolig yr oedd pen-blwydd Gwyn, yntê? . . . Rhaid, rhaid iddo sôn wrth Megan yn ddiymdroi . . .

Bore trannoeth wedi iddo gyrraedd adref o'r capel, eisteddodd Edward Ifans wrth dân y gegin fach yn gwylio Martha'n paratoi tamaid o ginio.

"'Oedd 'na dipyn yno bora 'ma, Edward?"

"Na, tena' iawn oedd hi. 'Wn i ddim oedd 'na ddwsin yno. A phobol mewn oed i gyd, pawb ond Dan."

Lle mae Dan?"

"Wedi aros ar ôl i gael gair hefo Mr. Edwards. 'Roeddan' nhw'n arfar bod yn gryn ffrindia', ac 'rydw' i'n falch 'u bod nhw'n tynnu at 'i gilydd eto."

"A finna'. Dyn da ydi Mr. Edwards . . . O, Edward, mi wnes i rwbath ddoe heb ofyn eich barn chi. Mi sgwennis at Meri Ann. 'Ddaru chi ddim gofyn be' oedd yn y llythyr, a 'wnes i mo'ch poeni chi neithiwr a chitha'n meddwl am araith ar gyfar y cwarfod."

"Diolch iddi hi am 'i holl garedigrwydd yr oeddach chi?"

"Ia. A gofyn cymwynas. Dros Megan."

"Megan?"

"Mi alwodd yma pnawn ddoe i grefu arna' i sgwennu trosti hi at Meri Ann. Mae hi wedi penderfynu gadael Llechfaen a mynd i weini i Lerpwl ne' rywla tebyg. 'Fedar hi ddim diodda' Albert Terrace na Letitia Davies nac Ifor ddim chwanag, medda' hi."

"Nac Ifor? Ond 'roedd hi'n cymryd arni wrtha' i . . .

Cymryd arni yr oedd hi. 'Chydig iawn mae hi'n weld arno fo ers tro. Mae hi'n 'i godi fo at 'i waith yn y bora ac yn gwneud swpar-chwaral da iddo fo bob gyda'r nos, ond 'dydi hi byth yn cael gair o ddiolch gynno fo—yn wir, prin y mae hi'n clywad dim ond rheg o'i ena' fo. I ffwrdd â fo i'r Snowdon Arms' yn syth ar ôl bwyta, ac yno mae o'n treulio bron bob gyda'r nos. Ne' i lawr yn y dre. Mae o'n cyboli hefo rhyw hogan yno, medda' hi. A honno sy'n cael 'i bres o, mae arna' i ofn. 'Chydig iawn mae Megan yn gael gynno fo, beth bynnag."

"Hm. Ond beth am y plentyn?"

"Eiluned Letitia?" Llefarai Martha Ifans y geiriau â gwên fingam."Nid plentyn Megan ydi hi bellach. Hi sy'n cael y gwaith, wrth gwrs—newid 'i dillad hi, 'u golchi nhw, a chodi yn y nos pan fydd angan, ond Letitia Davies sy'n cymryd meddiant ohoni ar bob adag arall. Hi sy'n mynd â hi allan, yn rhodras a rhubana' i gyd, a 'does dim rhaid i'r plentyn ond crio nad ydi Letitia'n rhuthro yno at y 'licl enjal,' chwedl hitha', ac yn tafodi Megan am fod yn greulon wrthi. Eiluned Letitia ydi popath iddi; mae hyd yn oed Ifor wedi mynd i'r cysgod yn llwyr erbyn hyn. A'r plentyn sy'n rheoli'r tŷ. 'Does wiw i Gruffydd Davies besychu ne' dishan pan fydd hi'n cysgu: mae'r dyn yn cerddad o gwmpas fel byrglar yn 'i dŷ 'i hun."

"Ond pam na ddaw hi yma atom ni, hi a'r plentyn?"

"Y pedwar ohono' ni i fyw ar chweugian yr wsnos, Edward?

"Mi fasa' Ifor yn rhoi rhan o'i gyflog iddi yr un fath."

"'Fasa' fo?"

Wel, mi fyddai'n rhaid iddo fo dalu at gadw'i wraig a'i blentyn."

'Bydda', ar ôl i Lys Barn 'i orfodi o.

Ond efalla' y byddai'n rhaid inni aros am rai misoedd cyn y digwyddai hynny. Fel hyn y mae Megan a finna' wedi bod yn siarad . . .

"Ia, Martha?

"Efalla' mae'r peth doetha' ydi iddi hi fynd i ffwrdd i weini a chael cychwyn o'r newydd. Mi fasa'n gadael y babi yma hefo mi ac yn gyrru arian o'i chyflog ar 'i chyfar hi. Hynny ydi, os ydach chi'n barod i ddiodda' sŵn plentyn yn y tŷ 'ma eto, Edward."

Wel, mae digon o le iddi hi, Martha bach, gwaetha'r modd, ac mi fasa' hi'n llonni tipyn ar yr aelwyd, on' fasa'?"

"Basa', wir, Edward-os bydd modd 'i chael hi o afael y Letitia Davies 'na."

"Wel . . . efalla' fod Megan yn gwneud yn ddoeth i fynd i weini, Martha. Fe rydd hynny fywyd newydd ynddi hi. Mae hi wedi mynd i edrach yn flêr a thew a llipa'n ddiweddar, fel petai hi wedi colli pob balchder ynddi'i hun."

Mi fydd yn chwith i'r Letitia Davies 'na ar 'i hôl hi, mi wn i hynny. Mae hi wedi cael morwyn dda i slafio'n ddigon rhad iddi."

Pryd y daru Megan benderfynu ar hyn?

"Mae'r peth wedi bod yn 'i meddwl hi ers tro, ond pnawn ddoe y torrodd y storm. Mi fytodd Ifor 'i ginio ar frys gwyllt, ac wedyn i'r llofft â fo i newid. 'Roedd o isio dal y trên hannar awr wedi un i fynd i'r dre, medda' fo. Mi aeth Megan i fyny'r grisia' ar 'i ôl o a deud y liciai hitha' fynd i'r dre hefo fo. Mi wnaeth esgusion i ddechra' ac wedyn, pan soniodd hi am y straeon oedd hi wedi glywad amdano fo yn y dre 'na, mi wylltiodd yn gacwn. Pan ddaeth y ddau i lawr i'r gegin, fe fu raid i Letitia Davies gael ymyrryd a dweud mai gartra' hefo'r plentyn oedd 'i lle hi ac nid yn galifantio hyd y dre. Mi gollodd Megan 'i thempar wedyn. 'Nid fy mhlentyn i ydi hi,' meddai, dim ond pan fydd isio golchi'i napcyn hi ne' godi ati yn y nos. Wel, gwnewch yn fawr o'r cyfle i'w sbwylio hi cyn imi fynd â hi o' ma. Yr ydw' i'n mynd i weini i Lerpwl ne' rywla a gadael y plentyn yn ' Gwynfa'. Piti na faswn i wedi gwneud hynny flwyddyn yn ôl.' Mi ddaeth yn syth yma wedyn i ofyn imi sgwennu trosti hi at Meri Ann."

Daeth ateb buan oddi wrth Meri Ann. Gwnaethai nodyn, meddai, o amryw o hysbysebion yn y papurau newydd a galwai i weld rhai o'r lleoedd. Y drwg oedd mai enwau Saesneg a oedd wrthynt oll, a chredai y buasai Megan yn llawer hapusach hefo teulu Cymraeg. Siaradai â phobl yn y capel ddydd Sul; gwyddai am un teulu o gyffiniau'r Bala—" pobol od o neis "a fu'n sôn yn ddiweddar iawn am gael morwyn o Gymru. Câi Martha air eto ddechrau'r wythnos.

Bore Iau, bore'r Nadolig, y daeth y llythyr nid oedd y wraig o Feirion yn y capel ddydd Sul ac aethai Meri Ann i'w gweld nos Lun. Byddai, fe fyddai'n falch o gael Megan yn forwyn a gallai ddyfod yno pan fynnai. Pymtheg punt y flwyddyn oedd y cyflog, a châi fwyd da a chartref cysurus iawn.

"Mi fydd Megan wrth 'i bodd, Edward," meddai Martha Ifans. Petai hi yn rhywla ond Albert Terrace mi redwn i i fyny i ddeud wrthi y munud yma. Dyma ryw gymaint o lawenydd inni ar fora Nadolig, beth bynnag. Ac erbyn y 'Dolig nesa' mi fydd Eiluned bach wedi ennill 'i lle yma."

Ond pan gyrhaeddodd hi yn y prynhawn—heb Eiluned Letitia, a oedd yng ngofal rhubanog ei nain—nid oedd Megan wrth ei bodd. Cronnodd dagrau yn ei llygaid pan glywodd y newydd.

"'Fedra' i ddim mynd," meddai'n floesg, a syllodd ei thad a'i mam a Dan yn fud arni."Fedra' i ddim mynd." Yna, eisteddodd wrth y tân a thorri i feichio wylo. Yr ydw' i'n mynd . . . i gael . . . plentyn arall. A 'does ar neb . . . isio . . . morwyn felly."

Yr oedd noson olaf y flwyddyn yn dawel iawn. Flwyddyn ynghynt, casglodd tyrfaoedd hyd y strydoedd i aros am sain clychau eglwysi'r cylch, a bu helynt fawr drwy'r ardal. Aeth yn orymdaith, yna'n floeddio gwyllt, a chyn hir yn dorri ffenestri. Cyn diwedd yr wythnos honno yr oedd cant a thrigain o blismyn a chant a deugain o filwyr—y deugain yn wŷr meirch—yn Llechfaen, ac ni wnaeth hynny ond cynhyrfu'r bobl yn fwy: aethai hyd yn oed y plant i dorri ffenestri yn nirgelwch y nos.

Ond heno, er bod llawer o ddynion o'r De a lleoedd eraill gartref o hyd, ufuddhâi pawb i apêl eu harweinwyr ac aros yn eu tai. Dim ond sŵn traed dau blisman a dorrai ar heddwch Tan-y-bryn.

Ni fedrai Edward Ifans gysgu. Gwrandawai ar ddistawrwydd y tŷ, distawrwydd a soniai am wacter mawr yr hen gartref, a gwelai, un ar ôl y llall, wynebau ei blant yng ngwyll yr ystafell. Idris—ni hoffai sŵn ei lythyrau pan soniai am y peswch a ddaliai i flino Kate. Megan—ai byw i ddwyn plant Ifor i'r byd fyddai'i thynged hi, rhyw fyw i rygnu bod? Llew—ym mh'le yr oedd ef heno, tybed? Pa bryd, pa bryd y deuai adref i Fartha gael ei weld? Gwyn—wel, fe fyddai wyneb Gwyn yn dragwyddol hoyw a'i wên bur, hen-ffasiwn yn fythol ifanc. Dan—beth a ddôi ohono ef yn Llundain, tybed? Câi gyflog da i ddechrau—deg swllt ar hugain yr wythnos-ac os gweithiai'n ddiwyd a manteisio ar gyfleusterau'r ddinas i'w ddiwyllio'i hun, datblygai'n ysgrifennwr y byddai sôn amdano. Gwnâi, os . . . cadwai o gwmni drwg. Ond yr oedd Dan, chwarae teg i'r hogyn, wedi ymgryfhau'n ddiweddar, ac efallai i farw Gwyn ei ddychrynu a'i ddiwygio unwaith ac am byth. Gwyn

Llefarodd tafod dwys cloch yr eglwys. Ceisiai pwy bynnag a dynnai wrth y rhaff groesawu'r flwyddyn newydd drwy blycio nodau llon a chyflym o'r tŵr. Godwrf diawen fu'r canlyniad a bu raid i'r plyciwr hyderus ymatal. A buddiol efallai, meddyliodd Edward Ifans yn llwm, oedd rhoi i haearn lleddf yr hen gloch ei briod lais.

Nodiadau[golygu]