Chwalfa/Yr Ail Flwyddyn Pennod IV

Oddi ar Wicidestun
Yr Ail Flwyddyn Pennod III Chwalfa

gan T Rowland Hughes

Yr Ail Flwyddyn Pennod V

PENNOD IV

AETH Dan i hebrwng ei ffrind Emrys at y trên un hwyr yng nghanol Ionawr. Dechreuai tymor arall yn y Coleg drannoeth.

"Daria, piti na fasat ti'n dwad hefo mi, Dan," meddai Emrys yn sydyn wedi iddynt gyrraedd y platfform. "Mi fasat yn fflio drwy'r Honours yn y Gymraeg ne'r Saesneg, yr ydw i'n siŵr o hynny. Pob parch i'm hewyrth ac i'r 'Gwyliwr,' ond . . .

"Yr ydw i'n hapus lle'r ydw' i, Emrys. Wrth fy modd yn y gwaith. Ac yn dysgu mwy mewn wsnos weithia' nag a wnawn i mewn tymor cyfa' yn y Coleg. Mae'r profiad yn un gwych, fachgan."

"Ydi, mi wn, ydi, ond . . . y Coleg ydi dy le di. Mae 'na fwy yn dy ben di ganwaith nag sy yn fy nghorun i. Go daria'r hen streic 'na!"

"Hyd yn yn oed petai'r arian gen' i, 'wn i ddim awn i'n ôl i'r Coleg."

"O? Pam?"

"Wel, yr ydw' i yng nghanol bywyd rywfodd ar 'Y Gwyliwr,' ac yn gwneud y peth ydw' i isio'i wneud—dysgu sgwen—'Roeddat ti a Gwen yn canmol fy marddoniaeth i y noson o'r blaen. 'Faswn i ddim wedi sgwennu'r cerddi yna 'tawn i wrthi'n crafu gwybodaeth i basio arholiad yn y Coleg . . . Ac wrth gwrs, 'rydw' i'n medru'u helpu nhw gartra'."

"Hwnnw ydi'r gwir reswm, yntê?"

"Naci. Naci."

"Mae dy logic di yn dangos hynny, Daniel, 'machgan i,' chwedl f'ewyrth."

"O?"

"Rhaid iti gofio fy mod i'n gwneud Phil. yn y Coleg. 'Roeddat ti'n dechra' hefo 'Hyd yn oed petai'r arian gen' i ac yn gorffen hefo' 'Rydw' i'n medru'u helpu nhw gartra'.' Illogical, Dan, illogical."

"Efalla'." Yr oedd y gwir yn brifo, a chyffrowyd Dan i huodledd. "Be' ddysgis i yn y Coleg y flwyddyn y bûm i yno? Y nesa' peth i ddim. 'Ron i fel iâr yn pigo yn 'i hunfan. Cymer lenyddiaeth Gymraeg. Y darlithoedd yn Saesneg a finna', hogyn o Lechfaen, yn ofni ateb cwestiwn rhag ofn imi faglu tros eiria' yn yr iaith fain. A 'faint o dir aethon ni trosto fo? Mi gei fwy gan yr Ap mewn hannar awr nag a gest ti mewn blwyddyn yn y Coleg. A dyna ti lenyddiaeth Saesneg . . . "

Ond daeth y trên, a thawodd. "Cofia fi at yr hogia", meddai cyn troi ymaith braidd yn sydyn, yn enwedig at Meirion a W.O." Hwy oedd ei gyd-letywyr gynt.

Cerddodd tua'i lety yn nannedd gwynt oer ac yr oedd yn dda ganddo gyrraedd ei ystafell. Bychan oedd y tân yn y grât a cheisiodd ei ddeffro drwy wthio. darnau o bapur iddo. Fflamiai'r rheini am ennyd cyn gollwng eu düwch llosgedig i anurddo'r ffender. Beth a ddywedai Mrs. Morris? Ond daria, yr oedd yn rhaid iddo gael cynhesrwydd. Aeth at ddrws y gegin.

"Mae arna' i ofn bod y tân ar ddiffodd, Mrs. Morris."

"Mi ro' i bric ynddo fo 'rŵan."

"Diolch yn fawr."

Dioddefasai Dan lendid eithafol a chynildeb Mrs. Isaac Morris, Ship Street, am dros chwe mis bellach, gan ofni brifo teimladau mam Emrys drwy adael y lle. Gan yr âi adref bob diwedd wythnos, o brynhawn Sadwrn tan fore Llun—ef oedd gohebydd "Y Gwyliwr" yn y cyfarfod a gynhelid yn Llechfaen bob nos Sadwrn,— dim ond saith swllt yr wythnos a dalai am ei lety, a cheisiai roi pedwar, weithiau bum, swllt yn rheolaidd i'w fam. Gwisgai ei ddillad a'i esgidiau gorau pan âi i Lechfaen, a chredai y twyllai ei rieni fod ei fyd yn un gweddol lewyrchus. Medrodd ennill ychydig sylltau yn ychwanegol at ei gyflog deirgwaith drwy "lineage"—gyrru telegramau o newyddion i bapurau Lloegr-ond pur anaml y cyffroid Caer Fenai a'r cylch gan ddigwyddiadau a ystyriai'r newyddiaduron hynny'n ddigon pwysig i roi sylw iddynt. A bodlonai Dan fel rheol ar ei bymtheg swllt —gan ohirio prynu crys neu esgidiau neu gôt fawr er mwyn cynorthwyo'r teulu gartref.

Daeth Mrs. Morris i mewn i wthio darnau o goed i'r tân. "Diar annwl, be' sy wedi digwydd yma?" cwynfannodd. "O, mae'n ddrwg gin' i, Mrs. Morris. Trio'i gadw fo i fynd hefo papur wnes i."

"Hm." Ymguddiai huodledd mawr yn yr ebychiad.

Rhoes bedwar lwmp o lo yn ofalus ar y tân, fel petai'n siarsio pob un i wneud ei orau. Yna brysiodd allan i nôl taclau i lanhau'r grât a'r ffender, ac ymhen ychydig funudau yr oedd y lle tân yn sglein i gyd unwaith eto; yn wir yr oedd mor loyw nes i'r tân ei hun gau ei lygaid euog yn llwyr o flaen y fath ddisgleirdeb.

"Mi ro' i dipyn o saim ynddo fo. Mi ddaw o wedyn. 'Gymwch chi'ch swpar 'rwan, gan fy mod i isio rhedag allan i weld fy chwaer yng nghyfraith?

"O'r gora', Mrs. Morris. Diolch."

Llygoden fach o ddynes yswil, nerfus, oedd Mrs. Morris a dreuliai'i dydd o fore gwyn tan nos yn erlid pob ysmotyn o lwch a fentrai i'w thŷ. Pechodau'r oes a rhinweddau eithriadol y diweddar Isaac Morris oedd unig destunau'i sgwrs, y ddau, a barnu oddi wrth ei thôn, mor drist â'i gilydd. Clywsai Dan si o lawer cyfeiriad i'w gŵr o deiliwr adael arian mawr a thai ar ei ôl yr oedd yn bur debyg y gadawai Mrs. Morris fwy, er nad oedd ganddi ond perthynasau pell i fwynhau'r cyfoeth. Yn rhyfelgyrch y llwch yr oedd ei hunig fwynhad hi.

Wrth fwyta'i swper o fara-ymenyn a the a phwdin du, syllodd Dan braidd yn gas ar y llun o Isaac Morris a'i wraig ar y wal gyferbyn ag ef. Yr oedd gwên wag, nefolaidd, ar ei hwyneb hi, ond edrychai ef i lawr i ddryswch ei farf, fel petai newydd ddarganfod bod y tyfiant hirllaes yn perthyn iddo. Beth yn y byd a wnaethai i'r ddau hyn fynd i dynnu'u lluniau? gofynnodd Dan iddo'i hun. Gerllaw i'r llun, fel pe i egluro paham, disgleiriai mewn llythrennau arian ar gefndir o fôr euraid yr adnod, CHARITY SUFFERETH LONG. Yr oedd amryw o adnodau o'r fath hyd y muriau, ond ni theimlai Dan yn grefyddol wrth edrych arnynt: yr oedd eu ffuantwch addurnol yn troi arno, a phetai ganddo'r hawl i ymyrryd rhoddai hwy oll yn anrheg i ddyn y drol ludw ryw fore Llun. A llu o'r teganau dienaid y tynnai Mrs. Morris lwch mor ddiwyd oddi arnynt o ddydd i ddydd.

Agorodd eto y llyfr a ddarllenai cyn mynd gydag Emrys i'r orsaf. Cyfieithiad o Ail Ran Faust gan Goethe ydoedd, un o hoff lyfrau'r Ap, ac fel y darllenai, clywai lais y gŵr hwnnw'n taranu rhai o'r llinellau, fel pregethwr mewn hwyl. Hy, nid oedd Emrys a'r hogiau eraill yn cyffwrdd pethau fel hyn yn y Coleg: câi ef well addysg ganwaith yng nghwmni'r Ap. Yr oedd barddoniaeth Dryden, er enghraifft, bron mor sych â llyfr rhent iddo yn y Coleg, ond y noson o'r blaen pan ddarllenodd yr Ap un o gerddi'r bardd yn uchel, gan gerdded—braidd yn feddw—o amgylch ei ystafell i weiddi ac actio'r darn, fflachiai golau ym mhob llinell. Dyna beth oedd addysg, nid rhyw bori fel gafr wrth gadwyn.

Ond heno rywfodd, ni châi Dan fwy o flas ar awen Goethe nag ar y pwdin du. Cododd oddi wrth y bwrdd ac eisteddodd yn anniddig wrth y tân dilewych. Yr oedd Emrys yntau yn ei lety erbyn hyn, ac uchel oedd siarad a chwerthin yr hogiau wrth adrodd am helyntion y gwyliau. Cyn hir, canai Meirion "Llwyn Onn " ar yr organ a safai W.O. ar yr aelwyd i ganu penillion ar uchaf ei lais. Gwenodd Dan wrth feddwl am W.O. Ni phasiai ef arholiad byth yn wir, gan mai prin yr edrychai ar lyfr tan ryw wythnos cyn y prawf, yr oedd ganddo wyneb i eistedd un-ond yr oedd yn ganwr penillion heb ei ail, a'i dafod chwim yn enwog drwy'r Coleg. Cofiai Dan yr hwyl a fu pan gasglodd W.O. ryw ddwsin o fyfyrwyr i ystafell ffrynt y llety i ddysgu'r ddrama ar gân a luniasai ef. Yr oedd y parlwr yn rhy fach ac aeth W.O. at Mrs. Jones, y lletywraig, i ofyn am fenthyg yr ystafell ganol yn ei le. "Ydach chi'n gweld, Mrs. Jones," meddai yn ei ffordd sych, ddi-wên, " hyd yn oed pan ydan ni i gyd i mewn yn y rŵm ffrynt, mae'n hannar ni tu allan." Ia, un da oedd W.O.

Cydiodd Dan eto yn y cyfieithiad o waith Goethe, ond nid oedd hwyl darllen arno. Cerddodd o amgylch yr ystafell, ac yna safodd i gyfrif curiadau lleddf cloc y dref. Dim ond wyth o'r gloch! Syllodd ar y llun o briodas chwaer Isaac Morris. Fel rheol, gwnâi'r llun hwnnw o'r ddynes fer fer a'r dyn tal tal iddo chwerthin wrtho'i hun, ond heno ni ddôi gwên i'w wyneb. Brysiodd Mrs. Morris i mewn i glirio'r bwrdd.

"O, mae'r tân yn dŵad . . . Isio rhedag i fyny i weld fy chwaer yng nghyfraith, Rachel druan! "

"O? Be' sy, Mrs. Morris?

"I gŵr hi, yr hen gena' iddo fo. 'Wn i ddim be' sy'n dŵad o'r byd 'ma, na wn i, wir. "Tasa' Isaac druan yn fyw, mi fasa' hyn yn ddigon i'w yrru o i'w fedd. A hitha'n ddynas fach mor dduwiol. Yn rhoi emyn allan yn y Cwarfod Gweddi ac yn siarad weithia' yn y Seiat. Y beth fach."

Pwy, Mrs. Morris?

"Rachel. Un o'r merchad mwya' crefyddol yn y dre 'ma. Mi gafodd 'i hachub yn Niwygiad '59 pan oedd hi'n ddim ond hogan ifanc, a 'fydd hi byth yn colli Cwarfod Gweddi na Seiat na dim. Yr hen gena' iddo."

Nodiodd Dan mewn cydymdeimlad dwys er na wyddai paham yr haeddai gŵr Rachel, dyn tal tal y llun ar y mur, y fath anair.

"Isaac druan yn gorfod mynd, yn ddyn cymharol ifanc, a hwn'na'n cael 'i nerth a'i iechyd. Yr annuwiol yn estyn 'i ddyddia' yn 'i ddrygioni, chwedl Llyfr y Pregethwr, yntê?"

Be' mae o wedi'i wneud, Mrs. Morris?"

"Wedi rhedag i ffwrdd hefo dynas arall, gwraig i blisman yn y dre 'ma. Un o ferchad yr hen ddyn 'na sy'n cadw'r 'Black Boy '."

Nid dyn i chwarae ag ef oedd plisman, meddyliodd Dan, ond ni ddywedodd ddim. Wedi i Mrs. Morris fynd â'r llestri allan, syllodd eto ar lun y briodas. Wel, efallai fod llawer i'w ddweud dros y dyn tal, meddai wrtho'i hun.

Eisteddodd eto wrth y tân. Beth a wnâi Gwen heno, tybed? Nid oedd hi yn y tŷ pan alwasai am Emrys, ac ni fentrodd ofyn i'w brawd i b'le'r aethai. I ryw bwyllgor neu gyfarfod yn y capel, efallai. Er na welsai Dan fawr ddim ohoni ond pan âi i'w chartref ar ryw esgus, meddyliai lawer amdani, am dawelwch dwfn, swynol, ei llygaid, am y direidi sydyn a oleuai'i hwyneb breuddwydiol, am gyfaredd ei llais. Nid oedd hi'n ferch dlos-syllasai'n yswil ar ddwsinau o enethod tlysach pan oedd yn y Coleg-ond nid oedd gan neb lygaid a llais fel yr eiddo hi. Yr oedd tynerwch y gwyll yn ei llygaid a murmur afonig yn ei llais. Gwenodd. Beth petai W.O. yn agos ac yn medru darllen ei feddwl ar adegau fel hyn! Ond W.O. neu beidio, câi ddiddanwch rhyfedd wrth freuddwydio am Gwen, a chanasai dair telyneg amdani, heb eu dangos i neb. Soniai hi am fynd i'r Coleg Normal yn yr hydref, a phetai'r streic drosodd yn fuan, efallai . . . efallai yr âi yntau'n ôl i'r Brifysgol. Cofiodd am ei brwdfrydedd y noson o'r blaen pan ddarllenodd beth o'i farddoniaeth iddi hi ac Emrys. Ond ni wyddai hi mai hi oedd Men y caneuon. Neu a amheuai hi hynny? Pam y gwridai wrth fynnu copïo un o'r cerddi? Wel, fe ddywedai'r gwir wrthi ryw ddiwrnod.

Ai am dro bach i gyfeiriad capel Moab: efallai y trawai ar Gwen ar y ffordd ac y câi gerdded gyda hi tua'i chartref. Na, gwell fyth, galwai yn y tŷ i ddychwelyd "Caniadau Cymru" a gawsai yn fenthyg gan Emrys. Llonnodd drwyddo wrth gymryd y llyfr oddi ar y silff. Yr oedd un peth yn sicr, meddai wrtho'i hun fel y cerddai yn erbyn y rhewynt a chwipiai'r stryd; câi eistedd wrth danllwyth yng nghegin Mrs. Richards: yr oedd y teulu'n hoff o gysur. Ac efallai y byddai'r Ap yno heno-galwai weithiau ar nos Lun—a chythruddai Dan ef drwy sôn am y diwygiad yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol. I'r Ap, cysgod gwael o'r hyn a fu oedd yr Eisteddfod yn awr, heb gyrddau'r beirdd a digonedd o gwrw a baco, heb Dalhaiarn ac eraill yn feddw fawr, heb gynganeddu ac adrodd storïau a chanu uwch ysbrydiaeth y bir. Huawdl oedd ei atgofion am Eisteddfod Aberystwyth yn '65 ac un Caer yn '66, pan oedd pob bardd a llenor o unrhyw werth, meddai ef, wedi'i ysbrydoli gan ei bumed peint.

Clywodd Dan chwerthin merch ar y stryd gerllaw iddo. Gwen? Ai dau gariad heibio, ond ni allai weld eu hwynebau yn y tywyllwch. Arafodd ei gamau ac yna troes i'w dilyn, yn beiriannol bron. Aethant heibio i ffenestr olau ymhen ennyd, a theimlodd gyhyrau'i wyneb yn tynhau. Ia, Gwen oedd hi, ac am ei phen yr het goch â'r bluen wen ynddi. Pwy oedd y bachgen, tybed? Cerddodd yn gyflymach i fod yn nes atynt pan gyrhaeddent y lamp nwy yng ngwaelod y stryd. Yr argian, Cecil Humphreys, mab i fasnachwr llwyddiannus yn y dref. Ac nid hwn oedd y tro cyntaf iddo'i gweld hi yn ei gwmni. Beth yn y byd a welai Gwen yn y coegyn hwnnw? Ond yr oedd ganddo ddigon o arian i'w gwario, meddyliodd yn sur, gan droi'n reddfol i gyfeiriad ei lety. Oedd, mwy na digon o arian.

"Wrth y tân mae lle dyn heno, Dan, nid yn crwydro'r stryd," galwodd llais.

'O, hylô, Wmffra Jones. Hylô, Enoc."

Gydag Wmffra Jones, yr argraffydd bychan â chrwb ar ei gefn, yr oedd cysodydd o'r enw Enoc Roberts. Gwyddai Dan fod y ddau ar hynt sychedig tua'r "Black Boy" ac mai yno y byddent hyd oni ddôi'r amser, am un ar ddeg, i ddadlau'n ffyrnig â'r tafarnwr fod cloc y dref o leiaf hanner awr yn fuan. "Dangos o iddo fo, Enoc," meddai Wmffra, gan glwcian chwerthin ac aros o dan y lamp nwy nesaf.

Tynnodd Enoc gerdyn o boced du-fewn ei gôt a'i ddal o dan y golau. Chwarddodd Dan yntau pan ddarllenodd yr argraff a oedd arno: NID OES RAID I CHI FOD YN HANNAR CALL I WEITHIO YMA, OND MI FYDD HYNNY'N HELP GARW.

"Am i binio fo ar ddrws yr Ap bora 'fory," clwciodd Wmffra Jones.

Ymhen ennyd, fel y nesaent at ddrws agored y "Black Boy," "Hm, mae o mewn hwyl heno," ebe Enoc. A chlywent lais uchel yr Ap: "Wel, Dafydd Jones,' medda' fi wrtho fo pan oedd yr hers newydd yn mynd heibio yn sglein i gyd, mi fyddwch yn rêl gŵr bonheddig yng ngolwg pawb pan gewch reid yn hon'na.'" Rhuodd y gwrandawyr wrth y bar eu hedmygedd.

"Wel, nos dawch 'rwan, Dan," meddai Wmffra, gan droi tua'r drws.

"Mi ddo' i i mewn hefo chi am funud," ebe Dan yn sydyn. "Ia, wir, 'wnaiff p . . . p . . . peint bach ddim d . . . d . . . drwg iti ar noson mor oer." Codai'i syndod atal-dweud ar Wmffra Jones.

Nid ymunodd Dan â'r dyrfa o amgylch yr Ap wrth y bar, ond sleifiodd at fwrdd bychan yng nghongl yr ystafell. Eisteddodd Wmffra ac Enoc gydag ef, ac ymhen ennyd dug merch y tafarnwr, a gynorthwyai'i thad, dri pheint o gwrw iddynt. Talodd Wmffra.

Gwelai Dan y peint yn fawr iawn ac ni wyddai yn y byd sut y medrai ei ddihysbyddu.

"Iechyd da!" meddai'r ddau arall, gan gydio'n farus yn eu gwydrau.

"Iechyd da!" ebe yntau, gan yfed yn ffwndrus ac ofnus: ni hoffai flas y peth o gwbl.

Gwrandawodd ar yr Ap yn adrodd stori ddigrif am Llew Llwyfo, ac yna sylweddolodd fod gwydrau'r ddau arall yn wag a'r cwrw yn ei un ef ond chwarter modfedd yn is. Amneidiodd ar ferch y tafarnwr, a dug hi dri gwydraid eto i'r bwrdd a chasglu'r ddau wag i'w dwyn ymaith. Wrth dalu amdanynt yr oedd Dan yn rhy yswil i egluro mai am ddau wydraid, nid tri, y bwriadodd ofyn. Yfodd yn ddewr, ond araf oedd hynt y ddiod i lawr y gwydr. Dechreuodd siarad yn huawdl—i atal y ddau arall rhag yfed mor gyflym. Gwelsai mewn hen gopi o'r "Gwyliwr," meddai, hanes rhyw filiwnydd yn San Ffransisco yn cael deuddydd o garchar am boeri mewn tram. Chwarddodd Wmffra ac Enoc yn uchel, ac yna, i lawn fwynhau'r stori, ymroes y ddau i gyrraedd gwaddod eu cwrw. Nodiodd Enoc ar y ferch tu ôl i'r bar, ac er ei fraw gwelai Dan hi'n llenwi tri gwydr arall. Ymhen ennyd yr oedd gan Wmffra ac Enoc bob un ei wydraid, ond yr oedd dau a hanner o'i flaen ef. Beth yn y byd a wnâi â hwy? Penderfynodd gofio'n sydyn fod yn rhaid iddo ddychwelyd y llyfr i dŷ Emrys. Yfodd beth o'i ddiod ei hun yn gyflym ac yna cododd.

Yfwch rhein drosta' i, gyfeillion," meddai, gan wthio'i ddau wydraid tuag atynt. "Y llyfr 'ma. Ffrind imi isio fo yn y Coleg. Trên naw." Ac i ffwrdd ag ef tua'r drws, ond nid cyn i'r Ap ei weld. Pan oedd ar ganol chwerthiniad uchel, arhosodd ceg y gŵr hwnnw'n agored mewn syndod, a chroesodd yn gyflym at Wmffra ac Enoc.

"Be' oedd Daniel yn wneud yma?" gofynnodd.

Ateb Wmffra oedd winc ddoeth tros ymyl ei wydraid. "Mae gynno fo gystal hawl â ninna' yma," meddai Enoc yn sarrug. Un go flêr yn ei waith fel cysodydd oedd Enoc a chawsai dafod gan yr Ap y prynhawn hwnnw.

Tu allan, wrth gamu o'r drws i balmant y stryd, gwrthdrawodd Dan yn erbyn dynes fechan a âi heibio. Mrs. Morris! A adnabu hi ef, tybed? Rhag ei dilyn, troes i'r cyfeiriad arall, gan gofio'n bryderus i'r diweddar Isaac Morris fod yn un o apostolion mwyaf brwd y dref yn achos Dirwest. Aeth ar gylch drwy fân ystrydoedd i gyrraedd ei lety yn Ship Street, a phan gurodd ar y drws agorwyd ef ar unwaith gan Mrs. Morris, â channwyll olau yn ei llaw. Dilynodd hi ef i'w ystafell, a safodd wrth y drws tra goleuai ef y lamp a thynnu'i gôt fawr a tharo'r llyfr yn ei ôl ar y silff. Yr oedd y tân claf wedi marw.

"Sut mae'ch chwaer, Mrs. Morris?"

"Cystal â'r disgwyl, wir." Yr oedd ei thôn yn sych. "Mae hi'n rhewi'n galad heno, ond ydi?"

"Mae hi'n ddigon cynnas mewn rhai llefydd, mae'n debyg."

Edrychodd Dan arni: yr oedd ei gwefusau tenau'n dynn a'i llygaid yn galed, a chrynai'r gannwyll yn ei llaw.

"Y 'Black Boy' 'na, er enghraifft, chwanegodd hi, a'r cryndod a oedd yn y gannwyll yn treiddio hefyd i'w llais.

"O, y 'Black Boy'?" meddai Dan, gan swnio mor ddifater ag y gallai. "Mi alwais i yno am eiliad i gael gair hefo Wmffra Jones, y Printar."

"Eiliad go hir, mae'n amlwg." Ffroenodd yn arwyddocaol. "'Dydi'r 'ogla' yma erioed wedi twllu'r tŷ o'r blaen." Hyd y gwyddai, nid oedd aroglau'n tywyllu ystafell, meddyliodd Dan, neu fe fuasai'r Black Boy' yn dduach na'i henw. Isaac druan! Oni bai 'i fod o yn 'i fedd mi fasa' hyn yn ddigon am 'i fywyd o. Deuddang mlynadd y buo fo'n Ysgrifennydd y Gymdeithas Ddirwestol yn y dre 'ma. A 'rŵan, y munud 'ma, mae 'ogla'r ddiod, y felltith, yn y parlwr lle'r oedd o'n cadw'i bapura' mor drefnus a gofalus. 'Oes arnach chi ddim cwiddyl, deudwch, a systifficets y Temperance Society ar y wal 'na?

"Gwrandwch, Mrs. Morris. Y cwbwl ddigwyddodd heno oedd imi . . . "

""Tasa' Isaac druan yn fyw, 'fedra' fo ddim byw yn 'i groen am un noson hefo'r 'ogla' 'ma. Rhoi arian ym mhocad hen ddyn tew y Black Boy' 'na a'ch tad druan heb waith a'ch mam yn gorfod . . .

Daeth cryndod i lais Dan hefyd. Peth "Mi siaradwn ni am y 'fory, Mrs. Morris," meddai. "Efalla' y byddwn ni'n dau yn gliriach ein meddwl wedi cysgu trosto fo.'"

"Os medra' i gysgu winc," ebe hi gydag ochenaid wrth droi ymaith yn swta. "Ond mi weddïa i trostach chi," chwanegodd wrth gau'r drws.

Ni liniarwyd ei hysbryd gan y gweddïo: gosododd ei damaid brecwast o flaen Dan heb ddweud gair o'i phen. Beth a oedd yn bod ar y ddynes? gofynnodd iddo'i hun ar ei ffordd i'w waith. Dim ond esgus oedd ei ymweliad ef â'r 'Black Boy, yr oedd yn sicr o hynny: chwilio am asgwrn cynnen yr oedd hi. Pam? Cofiodd am y bwyd sâl a'r tân cynnil, yr ychydig olew a roddai hi yn y lamp, y mymryn o gannwyll yn y ganhwyllbren. Yr oedd hi eisiau rhywun ag arian ganddo i letya yn ei thŷ, rhywun fel y Cecil Humphreys 'na y chwarddai Gwen mor llon yn ei gwmni. Arian . . . "Put money in your purse," oedd cyngor yr hen frawd hwnnw yn 'Hamlet,' onid e? Wel, efallai iddo draethu mwy o ddoethineb nag a wyddai.

Yn fuan wedi iddo gyrraedd swyddfeydd "Y Gwyliwr," rhuthrodd Ap Menai i mewn i'w ystafell.

"Dyma'r nodiada' ar gyfar Llannerch y Llenor,'" meddai. "Mae'n rhaid imi ddal y trên deg 'na. Rho nhw wrth 'i gilydd bora 'ma, Daniel, 'machgan i, ac os cei di amser sgriblia nodyn ar y Cymru' i lenwi'r golofn. Rhifyn da, rhifyn diddorol dros ben, yn enwedig y ddwy stori, un gan Winnie Parry a'r llall gan Gwyneth Vaughan."

"O'r gora', Mr. Richards, mi a' i ati ar unwaith."

"Campus. Y . . . y . . . be' sy bora 'ma, Daniel? Wedi codi'r ochor chwithig i'r gwely?"

"Wedi penderfynu chwilio am rywla gwell i aros. Pob parch i Mrs. Morris, ond . . ." Cododd ei ysgwyddau.

"'Ga' i wneud awgrym?"

"'Wyddoch chi am rywla?"

"Gwn. Yn rhyfedd iawn yr on i'n sôn am y peth hefo mam Emrys y noson o'r blaen. Mae hi'n fy ngweld i'n greadur unig iawn, fel y gwyddost ti, ac mi fasa' wedi fy mhriodi i ddwsin o weithia' 'tai hi wedi cael 'i ffordd. Ond y noson o'r blaen mi awgrymodd fy mod i'n gofyn i ti ne' un o'r argraffwyr 'ma ddŵad i fyw hefo mi. 'Fydda' fo ddim llawar mwy o drafferth i Mrs. Rowlands 'cw edrych ar ôl dau mwy nag un. Ac i ddeud y gwir, yr ydw' i'n synnu dy fod di wedi aros cyhyd yn y tŷ 'na yn Ship Street.".

"Wel, mae o'n lân iawn, a . . . "

"Glân! Mi faswn i'n meddwl, wir! Yr oeddwn i ofn ista' ar un o'r cadeiria' bob tro y bûm i yno. Na tharo fy het ar y sglein o fwrdd sy wrth y drws . . . Tyd acw i swpar heno, inni gael pwyllgora ar y pwnc. Rhaid imi fynd am y trên 'na 'rwan."

Symudodd Dan i mewn i dŷ'r Ap ddechrau'r wythnos wedyn, ac er bod yr ystafell-fyw yn bur anhrefnus weithiau, yn arbennig ar ôl un o seiadau hwyr y Golygydd yn y 'Black Boy' neu'r 'Harp' neu rywle tebyg, yr oedd wrth ei fodd yno. Gofalai Mrs. Rowlands, gwraig lon, ddibryder, a chwarddai am ben popeth a wnâi ac a ddywedai'r Ap, yn dda amdanynt, a châi hi a'i gŵr, a weithiai yn yr orsaf, fyw yn rhad mewn rhan o'r tŷ yn dâl am y gymwynas. Buan, gan nad oedd ganddi blant ei hun, y mabwysiadodd hi Dan.

Pe chwiliasai Dan y dref i gyd, prin y daethai o hyd i lety mwy gwahanol i'r un annuwiol o lân a thawel a dwys a adawsai. Taflai'r Ap ei gôt a'i het ar rywbeth a ddigwyddai fod wrth law, a gollyngai lwch baco fel lafa hyd y tŷ. Llafarganai gywydd gan Wiliam Llŷn neu Dudur Aled, ei hoff feirdd wrth eillio'i wyneb yn y bore, rhuai englyn neu ddau ar ei ffordd i lawr y grisiau, dynwaredai bregethwyr wrth aros am ei frecwast, a chanai gân faswedd fel y paratoai i gychwyn at ei waith. Llanwai lawer munud segur hefyd â chastiau bachgennaidd. Doeth oedd i Ifan Rowlands edrych yn ofalus tu fewn i'w gap yn y bore, rhag ofn bod ynddo flawd a'i heneiddiai ryw ddeng mlynedd cyn iddo gyrraedd yr orsaf, neu ym mhocedi'i gôt fawr, rhag ofn iddo, ac yntau'n ddirwestwr selog ers blwyddyn, ddarganfod yno declyn i agor poteli neu dri neu bedwar o gyrc. A chofiai Mrs. Rowlands yn bryderus am y tro hwnnw yn y capel pan agorodd hi ei phwrs yn frysiog i roi rhywbeth yn y casgliad, a'i gael yn llawn o fotymau.

Ond adloniant mawr yr Ap yng nghwmni Dan oedd ei nofel "Y Tyddyn Gwyn," a lanwai dair colofn—fwy neu lai, yn ôl hwyl a sobrwydd yr awdur—o'r "Gwyliwr " bob wythnos. Yr oedd yr Ap yn meddwl y byd o'i nofel, a soniai am y cymeriadau nid fel rhithiau dychymyg ond fel pobl y trawai arnynt bob dydd. "Noson iawn i Dwm Potsiar fynd allan heno," sylwai, neu, "'Roedd 'na ddyn yn y Ship' heno yr un ffunud â'r hen Sgweiar, fachgan." Ystrydebol oedd y stori-hanes gŵr Tyddyn Gwyn yn cael ei droi o'i ffermdy am wrthod pleidleisio i'r Sgweier—a chan y gwaeddai'r cysodwyr am eu tair colofn bob wythnos, mympwyol a brysiog oedd hynt y chwedl mewn llawer pennod.

"Be' wna' i hefo Meri'r ferch yr wsnos yma, dywad?" oedd y cwestiwn amser swper ar yr ail nos Lun i Dan fyw yn nhŷ'r Ap. "Hm, piti imi yrru mab y Sgweiar i ffwrdd i'r 'Mericia, yntê? Daria, mi ddo' i â fo adra'n sydyn a'i yrru o dros 'i ben mewn cariad hefo Meri. Os gwn i fydd Wil Llongwr yn yr Harp' 'na heno?"

"Pam"?

"Mae o newydd ddŵad adra' o'r 'Mericia. Tyd, Daniel, mi awn ni i lawr yno i weld."

"Na, mae'n well imi aros yma i . . . i orffen cyfieithu'r araith 'na gan Lloyd George."

"Twt, mi gei wneud hynny bora 'fory. Tyd yn dy flaen. Os medri di fynd i'r Black Boy' hefo Wmffra ac Enoc, mi fedri ddŵad i'r 'Harp' am dro hefo finna'. Mi fydd Wil Llongwr, wedi imi oilio tipyn arno fo, yn rhoi deunydd chwerthin iti am wsnos. A pheth arall, mae Wil yn ddarn o farddoniaeth ynddo'i hun. Dyna be' sy allan o le ar farddoniaeth Cymru, Daniel, 'machgan i."

"Be'?"

"'Dydi Wil Llongwr ddim ynddo fo. Be' mae'r rhan fwya' o'r hen feirdd yn 'i wneud? Cwyno, cwyno, nid canu. Rhuo gwae yn lle rhoi gwên. Dim golwg o Wil Llongwr a'i fath yn 'u gwaith nhw. A be' sy gan feirdd ifanc fel chdi, Daniel? Rhyw Olwen ar 'i helor, rhyw Fen dan ywen mewn hedd. Dim golwg o Wil Llongwr yn eich cerddi chitha' chwaith . . . Tyd yn dy flaen."

Nid oedd y ddiod mor chwerw y noson honno â'r tro o'r blaen, a difododd Dan ddau beint yng nghwmni llon yr Ap a Wil Llongwr. Wedi dychwelyd i'r tŷ, aeth y Golygydd a'i gynorthwywr ati i lunio pennod arall o'r "Tyddyn Gwyn," a mawr fu'r hwyl wrth yrru Douglas, mab y Sgweiar, dros ei ben mewn cariad â Meri ac yna i ysgarmes ffyrnig hefo Twm Potsiar. Parhaodd y chwerthin uchel tan ddau o'r gloch y bore, a haerai'r Ap wrth droi i'w wely nad ysgrifennai air arall o'r "Tyddyn Gwyn" heb gynhorthwy ysbrydoledig ei gyd-awdur. "Yr wythnos nesa'," meddai, "mi yrrwn ni Now Betsi, yr hen gnaf iddo fo, i Lechfaen i weithio fel Bradwr yn y chwarel. Diawch, syniad go dda! Mi fydd Y Gwyliwr yn gwerthu fel penwaig Nefyn yr wythnos nesa', 'gei di weld."

Felly, yn fyrbwyll a digynllun, yr âi'r nofelydd ati, a'i asbri diderfyn, fel cornant wyllt, yn gwrthod dilyn cwrs naturiol y chwedl. Ceisiai Dan gadw golwg wyliadwrus ar y stori, a llwyddai fel rheol i achub y cymeriadau rhag cael eu gwthio o amgylch yn chwerthinllyd o fympwyol. Pan arweiniodd y Golygydd ymgyrch yn Y Gwyliwr yn erbyn dŵr amhûr Caer Fenai, er enghraifft, dyheai am wneud Sgweier ei nofel yn Gadeirydd pendew y Cyngor Trefol a rhoi ar ei fin yr union araith a draddodwyd gan y Cadeirydd priodol yr wythnos gynt. Ond-yn ffodus i'r nofel—tynasai'r ymgyrch y papur i berygl a gorfu i'r Ap argraffu, yn Saesneg ac ar y dudalen flaen mewn inc du, air yn ymddiheuro am alw pob copa walltog ar y Cyngor Trefol yn benbyliaid.

"We undeservedly withdraw our remarks in the last issue," meddai'r nodyn," and tender our apologies to the Council for not using more fitting language." Diawl y Wasg a drawodd y 'd' yn lle'r 'r' yn yr ail air, a chafodd dafod uchel—ac ambell winc slei-gan y Golygydd am ei ddiofalwch. Prynodd cannoedd y papur y Gwener hwnnw i weld y 'd,' a mynnodd yr Ap ddathlu'r amgylchiad drwy arwain ei gydletywr i'r Harp' yn syth ar ôl swper i ddangos y 'd' i Wil Llongwr ac eraill.

Llithrai'r amser heibio'n gyflym i Dan yn awr. Daliai i fynd adref bob prynhawn Sadwrn a chadwai ychydig sylltau'n rheolaidd i'w rhoi i'w fam. Triswllt yn lle pedwar neu bump: wedi'r cwbl, yr oedd yn rhaid i ddyn gael rhyw bleser mewn bywyd, onid oedd? Ond un nos Sadwrn yn nechrau Mawrth, gwrthododd Martha Ifans eu cymryd.

"Na wna', wir, Dan," meddai'n benderfynol. "'Rwyt ti wedi mynd i edrach yn dlawd ers wsnosa'. Mae'r 'sgidia' 'na isio'u gwadnu a'u sodli ers amsar ac mae'n hen bryd iti gael crys newydd. 'Wyt ti . . . 'wyt ti'n gorfod talu mwy am dy lodjin 'rwan?"

Na, yr un faint. Pam oeddach chi'n gofyn?"

"Dim byd, ond . . . Ond cofia di brynu crys yr wsnos nesa' 'ma a gyrru'r 'sgidia' 'na at y crydd."

Prynwyd y crys mewn siop lle gellid talu amdano fesul swllt, ond bu'r esgidiau am rai wythnosau heb fynd i weithdy'r crydd. Edrychai Martha ac Edward Ifans yn bryderus ar ei gilydd bob prynhawn Sadwrn pan gyrhaeddai Dan: yr oedd y bachgen yn wahanol, yn fwy huawdl, yn uwch ei lais, yn . . . yn mynd yn debycach i Ifor rywfodd. "Mi fydda' i'n 'i dynnu o o Gaer Fenai a'i yrru o'n 'i ôl i'r Coleg cyn gynted ag y bydda' i'n ennill cyflog eto, Martha," meddai'r tad droeon, gan weld yn ei llygaid hi yr ofn a oedd yn ei galon ei hun.

Nofel yr Ap, ei gastiau bachgennaidd yn y tŷ ac yn y swyddfa; llyfrau a llenyddiaeth; y rhuthr i lenwi'r Gwyliwr bob wythnos; gyrru Enoc, a oedd yn Eglwyswr selog, i ddadl chwyrn ag Wmffra Jones ynghylch Mesur Addysg Balfour; ambell orig yn yr Harp' yn tynnu coes Wil Llongwr; rhai amlach yn y "Black Boy"yn hudo direidi i lygaid duon duon y ferch dlos a gynorthwyai'i thad tu ôl i'r bar-âi bore Llun tan fore Sadwrn heibio fel y gwynt i Dan. Pan letyai hefo Mrs. Morris, edrychai ymlaen yn eiddgar at ddiwedd yr wythnos, ond yn awr braidd yn anfoddog y paratoai i ddal y trên dau ar brynhawn Sadwrn. Ac fel y nesâi'r trên at Lechfaen, gwgai ar y niwl tragwyddol hyd y mynyddoedd uwchben ac ar dawelwch llwm, sarrug, creigiau a thomenni'r chwarel ar fin y pentref llwyd. A phob tro y cyrhaeddai "Gwynfa," ymddangosai gruddiau Gwyn yn fwy llwyd, Llew yn cnoi'i ewinedd yn fwy a mwy anniddig, sirioldeb ei fam yn fwy ymdrechus, y llinellau yn wyneb ei dad yn amlach ac yn ddyfnach a'r rhesi o wyndra yn ei wallt yn ddisgleiriach. Ai i'r cyfarfod yn y Neuadd bob nos Sadwrn i roi adroddiad o'r areithiau, ond fel y llithrai'r wythnosau ymlaen, diawen, fe wyddai, oedd yr hyn a ysgrifennai am y streic. Ond diawen, ymgysurai, oedd yr areithiau bellach, a'r un lleisiau yn llefaru'r un brawddegau—"sefyll fel y graig,' gyrru'r maen i'r wal," "dwyn barn i fuddugoliaeth,"—o hyd o hyd. A ddeuai byth derfyn ar yr helynt? Yna, un bore Sul yn niwedd Mai, ar ei ffordd adref o'r capel, clywai yn y pellter glychau eglwysi Llan Iolyn a Thre Gelli yn canu mewn llawenydd sydyn, ac ymhen ennyd ymunodd clychau eglwys ac ysgolion Llechfaen yn y gorfoledd."Y streic drosodd," gwaeddodd Gwyn, ac am funud, wrth weld pobl yn rhuthro'n gyffrous i ddrysau'u tai, credodd Dan fod hynny'n wir. Yna clywodd rywun yn dweud, "Dim ond terfyn yr hen ryfal 'na yn Sowth Affrica. Yr hen Bôrs druain wedi gorfod rhoi i mewn i Gijinar o'r diwadd."

Aeth Llew i ffwrdd i'r môr yn sydyn un bore yn niwedd Gorffennaf, a thrannoeth cymerwyd Gwyn yn wael a galwodd y Doctor Roberts i'w weld bob dydd am wythnos gyfan. Cafodd godi ar brynhawn Sul, a dathlodd Martha Ifans yr amgylchiad drwy wahodd Gruff ac Ann o'r drws nesaf i gael te gydag ef.

"Ar un amod," meddai Kate."Fod Dan yn dŵad i de ataf inna'."

"O, o'r gora'."

Aethai Dan am dro i fyny'r mynydd y prynhawn hwnnw, a phan ddychwelodd yr oedd Gruff ac Ann a Gwyn wrth y bwrdd.

"O, te-parti, 'Mam?" meddai.

"Ia, ond nid i ti. Mae Kate isio iti fynd i de ati hi."

"O? . . . Wel . . . y . . . trafferth ydi hynny. Mi fasa'n well o lawar i Kate ddŵad yma ato' ni. Gofynnwch iddi hi. Ne' mi a' i os liciwch chi."

"A hitha' wedi paratoi ar dy gyfar di? Dos, mae hi'n dy ddisgwyl di."

Ond . . .

"Ia, wir, dos, Dan," meddai'i dad..

Ac arno ofn llygaid mawr cyhuddol Kate, yn araf ac anfodlon y troes i'r drws nesaf. Ond, a'r sgwrs bron i gyd am Idris yn y De, aeth y te heibio'n bleserus, ac yna chwaraeodd am ennyd â'r baban Ifan cyn cychwyn ymaith.

"Ista' yn y gadair freichia' 'na am funud, Dan. Mae arna' i isio siarad hefo chdi."

"O? Am be', Kate?"

"Ista' yn y gadair 'na."

"Wel . . . y . . . mae'n bryd imi . . .

'Dydi hi ddim yn bump eto.

Mae 'na awr arall tan amsar capal."

"Oes, o ran hynny." Eisteddodd, gan wenu i guddio'i ofn. Eisteddodd hithau gyferbyn ag ef.

"Wel, Dan?"

"Wel be', Kate?"

Pam wyt ti wedi bod yn f'osgoi i ers wythnosa'?"

"D'osgoi di, Kate?"

Gwranda, Dan. Mae pris y streic 'ma'n un uchel ofnadwy. Hyd yn oed ddim ond yn Gwynfa.' Idris yn y Sowth, Llew ar y môr, Gwyn ddim yn dda, Megan yn. yn rhyw forwyn yn Albert Terrace, dy dad a'th fam yn mynd yn hen ac yn wyn cyn 'u hamsar, a . . . a 'rwan . . ." Tawodd; gwelai Dan fod dagrau yn ei llygaid.

"'Rŵan?"

"'Wyt ti'n 'nabod Ethel oedd yn arfar gweithio yn Liverpool Stores?"

"Na, 'dydw' i ddim yn meddwl . . .

"Mae hi'n dy 'nabod di. Ac yn dy weld di'n amal iawn."

"O? Ym mh'le?"

Yng Nghaer Fenai. Mi gafodd le ryw flwyddyn yn ôl yn siop John Humphreys, wrth gloc y dre. Mae hi'n aros mewn tŷ sy'n union gyferbyn â'r . . ."Black Boy '."

Bu tawelwch annifyr: edrychai Dan i bobman ond i lygaid Kate.

"'Roeddat ti'n arfar rhoi pedwar swllt i'th dad a'th fam bob wythnos, ond oeddat? Ac ychydig geinioga' i Gwyn a Llew. Be' wyt ti'n roi iddyn' nhw 'rŵan? Rhyw swllt ne' ddau, yntê, er dy fod di gartra' tros y Sul?"

"Wel, mi fu raid imi brynu rhai llyfra' a . . ."Nid yr arian sy'n bwysig, Dan. Petaut ti'n methu fforddio dŵad â dima' adra', 'fydda' fo ddim llawar o wahaniaeth. Ne' 'taut ti'n cynnig pumpunt iddyn' nhw bob Sadwrn, 'fydden' nhw ddim balchach os. . . os . . ."

"Os? . . ."

"Os gwelen' nhw chdi'n newid o wsnos i wsnos." Cododd Kate o'i chadair a safodd o'i flaen. Chdi, nid yr arian, sy'n bwysig, Dan, chdi."

"Fi?"

"Y Sul dwytha', pan oeddat ti gartra', 'roedd Gwyn bach yn 'i wely'n sâl a Doctor Roberts yn ordro dau ne' dri o betha' iddo fo os medren ni 'u cael nhw mewn rhyw ffordd ne'i gilydd. 'Roeddwn i'n gobeithio y basat ti'n gyrru rhai iddo fo o Gaer Fenai, ac mi fûm i'n gwylio'r postman bora Mawrth a bora Merchar, gan feddwl yn siŵr y basa' fo'n galw yn Gwynfa'.

Ond 'ddaru neb sôn . . ."

"'Oedd isio sôn, Dan? 'Roeddan ni wedi cael y petha' iddo fo bora Llun y peth cynta', mi elli fentro. Fi, nid dy dad a'th fam, oedd yn gwylio'r Post."

Ond os oeddach chi wedi prynu'r petha' bora Llun . . ."

"I be' oedd isio'u disgwyl nhw oddi wrthat ti ddydd Mawrth ne' ddydd Merchar? Nid y petha'u hunain on i'n ddisgwyl, Dan. Mae'n debyg y basan' nhw wedi mynd yn wâst, petaut ti wedi gwario arnyn' nhw, gan i Gwyn bach wella mor dda yn ystod yr wythnos. Nid y petha'u hunain ond yr hyn fasan' nhw'n ddeud wrth dy dad a'th fam-dy fod di'n meddwl amdanyn' nhw ac am Gwyn ac yn aberthu i'w helpu nhw . . . O, Dan!" Rhoes ei dwylo ar ei ysgwyddau, a gwelai ef fod deigryn gloyw yn llithro i lawr ei grudd.

"'Ydyn' nhw . . . 'ydyn' nhw wedi sôn rhwbath wrthat ti, Kate?"

"Dim gair-â'u gwefusa'. Ond mae'u llygaid nhw'n siarad cyfrola' pan ddigwydda' i grybwyll dy enw di. Maen' nhw'n gwbod bod rhwbath rhyfadd wedi digwydd iti, Dan. Ac 'roedd Llew yn gwbod hynny cyn iddo fo fynd i ffwrdd i'r môr."

"O?"

"Mi wyddost fel yr oedd Llew—a Gwyn hefyd, o ran hynny yn dy hannar—addoli di. Bob pnawn Sadwrn 'roedd y ddau'n mynd i'r stesion yn selog i'th gwarfod di, ac 'roeddan' nhw yno bob amsar hannar awr cyn i'r trên gyrraedd. Ond mi beidiodd Llew yn sydyn, ond do? Ac un pnawn Sadwrn pan welwn i o'n cychwyn am dro i fyny i'r mynydd yn lle mynd i lawr i'r stesion, mi ofynnis i pam iddo fo."

A . . . a be' ddeudodd o?"

"Dim byd, ond 'roedd 'na boen yn llond 'i lygaid o . . . Dan?"

"Ia, Kate?"

"Mae'n rhaid iti adael yr Ap Menai 'na a chwilio am lodjin arall. Mae Ethel yn gwybod am le yn . . .

"Nid ar yr Ap y mae'r bai. Mae o wedi bod yn hynod garedig wrtha' i, ac 'rydw' i'n hoff iawn ohono fo. Na, 'adawa' i mo'r Ap, ond. . . ond a' i ddim ar gyfyl y 'Black Boy' nac un dafarn arall eto."

Ar dy wir, Dan?"

"Ar fy ngwir, Kate."

A chadwodd Dan ei air-am wythnosau lawer, er i firi coroni'r Brenin Edward VII yn nechrau Awst ddwyn fflagiau ac addurniadau a sŵn o bob math i ystrydoedd Caer Fenai a digonedd o ddiod i'r tafarnau, ac er i ferch dlos y ' Black Boy' wenu'n hudolus arno bob tro yr âi heibio. Ond, a phob hwyr yn heulog braf, prin y meddyliai am y 'Black Boy' neu'r Harp.' Yn lle dilyn yr Ap, galwai'n aml yn nhŷ Emrys eto, a chrwydrai'r ddau gyfaill bob hwyrnos hyd fin Menai neu hyd lonydd tawel, troellog y wlad fwyn rhwng y dref a'r bryniau. Weithiau deuai Gwen a ffrind iddi gyda hwy, a rhywfodd neu'i gilydd—ni wyddai'n iawn sut—âi Emrys a'r ffrind un ffordd ac ef a Gwen ffordd arall cyn hir. Ar un o'r nosweithiau hynny y dywedodd Gwen yn sydyn:

"'Roedd 'na storïa' rhyfadd i'w clywad amdanoch chi beth amsar yn ôl, Dan."

"O? Be' oeddan' nhw?"

"Un oedd eich bod chi'n caru hefo Sylvia, hogan y ' Black Boy.' 'Oeddach chi?"

Mi fûm i am dro bach hefo hi unwaith ne' ddwy."

"Dim ond unwaith ne' ddwy?"

"Wel, ddwywaith ne' dair, 'ta'."'Roedd hi yn yr un dosbarth â fi yn yr ysgol. Hogan ddel ydi Sylvia, yntê?

"Del iawn. Pam ydach chi'n galw'r stori yn un 'ryfadd'?"

"Wel . . . y . . . yr ydach chi mor . . . mor wahanol iddi hi. Gwisgo a phincio ydi unig ddiddordab Sylvia. Felly yr oedd hi yn yr ysgol, a 'fedra' hi ddim pasio arholiad o fath yn y byd. 'Dydw' i ddim yn meddwl 'i bod hi byth yn edrach ar lyfr . . .

"Mwy na Cecil Humphreys."

"Y?" Edrychodd braidd yn ddryslyd arno."Mwy na Cecil Humphreys."

"O?" Chwarddodd mewn miri."Cecil druan! Ond mae ganddo fo lais bendigedig. Fi a Cecil ydi'Hywel a Blodwen ' y capal 'cw ac 'ron i'n mynd i'w dŷ o at y piano yn reit amal yn ystod y gaea'. Dyna sy gynnoch chi, mae'n debyg." A chwarddodd yn llon eto.

Ysgrifennodd Dan gân arall i Men y noson honno.

Aeth Gwen ymaith i'r Coleg Normal yr ail wythnos o Fedi, a chan fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal ym Mangor yr wythnos honno, cynrychiolai Dan Y Gwyliwr' yn selog mewn llawer cyfarfod, ond gyda hawl i sleifio allan yn y prynhawn i weld Gwen. Pan ddaeth prynhawn Iau, brysiodd hi i'w gyfarfod a'i llygaid yn ddisglair a chyffrous.

"O, pam na fasach chi wedi deud wrtha' i, Dan?"

"Deud be', Gwen?"

"Deud be'! Mi wyddoch yn iawn.

Mi wyddoch yn iawn. Y pnawn 'ma. O, Dan, dyna falch ydw' i! Ac 'rydw' i wedi cael caniatâd i golli darlith heno. Mi ddeudis i eich bod chi'n perthyn imi."

"'Rydw' i'n meddwl y gwn i be' sy gynnoch chi, ond mae rhywun wedi tynnu'ch coes chi'n o dda, mae arna' i ofn."

"'Roedd y sôn drwy'r Coleg i gyd amsar cinio. Dyn ifanc sy'n gweithio ar bapur newydd bia'r gadair. Ar Y Gwyliwr,' medda' amryw. Pwy ddyn ifanc arall sy ar Y Gwyliwr' heblaw chi?"

"Mae hannar y stori'n wir, Gwen. Dyn ifanc sy'n gweithio ar bapur newydd bia'r gadair. Ond nid ar Y Gwyliwr' y mae o."

'Dydw' i ddim yn eich coelio chi. Ac mi fydda' i yn y 'Steddfod pnawn 'ma i weld trosof fy hun. Pryd bydd y cadeirio?"

"Ddim tan tua phedwar, mae'n debyg. Mae 'na amryw o gora' merched i ganu. Mi gymer hynny'r rhan fwya' o'r pnawn ac wedyn fe ddaw araith Lloyd George."

"Y gwir plaen, Dan, chi bia'r gadair, yntê? 'Ddeuda' i ddim gair wrth neb." Yr oedd hyder eiddgar yn ei llais.

Y gwir plaen, Gwen, nid fi bia'r gadair. 'Fedrwn i ddim sgwennu awdl i achub fy mywyd. Pe bawn i wedi llunio un, y mae'n bur debyg y baswn i wedi gwneud hynny ar y slei, heb sôn gair hyd yn oed wrth yr Ap. Ond mi faswn wedi dangos yr awdl i un person."

"I bwy?" Gwridai hi wrth ofyn y cwestiwn.

"I chi, Gwen."

Cerddodd y ddau heb ddweud gair am dipyn ac yna gofynnodd Gwen: "Pwy bia'r gadair 'ta'?"

"T. Gwynn Jones, sy ar Yr Herald.'"

"Ar eich llw!"

"Ar fy llw. Yr ydw' i newydd ffonio nodyn i'r Gwyliwr i roi peth o'i hanas o. Mi yrrodd yr Ap fi allan gynna' i chwilio amdano fo, imi gael ymgom ag o ar gyfar y papur. Ond 'dydi o ddim yma."

"Ddim yma?"

"Nac ydi. Mi welodd rhywrai o'n mynd yn 'i het silc am y trên, bora 'ma. I briodas yn Ninbych, dyna oeddan' nhw'n ddeud. 'Doedd o ddim wedi'i hysbysu ymlaen llaw, mae'n amlwg. Druan o'r het silc pan ddaw o adra' heno! Mi fydd 'na dyrfa fawr yn y stesion yn 'i ddisgwyl o, 'gewch chi weld, a 'synnwn i ddim na fydd band y dre yno, yn canu'r 'Conquering Hero.'"

Wel . . . wel, be' fydd yn digwydd 'rwan 'ta'?"

"O, rhywun yn cael 'i gadeirio yn 'i le fo. 'I ffrind o, Beriah Evans, glywais i." Yr oeddynt i lawr wrth fin Menai erbyn hyn."Wel, mae'n well inni droi'n ôl yn ara' deg, Gwen," meddai Dan ymhen ennyd."Mi liciwn i glywed diwedd araith Lloyd George."

"'Dydw' i . . . 'dydw' i ddim yn meddwl y do' i i'r 'Steddfod wedi'r cwbwl. Mi fydda'n biti imi golli'r ddarlith 'na."

Ond . . ."

"Darlith ar ddysgu'r plant lleia'. Mi ddylwn fod ynddi hi."

"Ond hannar awr yn ôl . . .

"Gan mai dysgu inffants yr ydw' i am wneud, yntê?" A gwyddai Dan mai ofer fyddai dadlau â hi.

Am wythnosau, wrth eillio'i wyneb yn y bore ac wrth droi i'w wely yn y nos, llafar-ganai'r Ap mewn gorfoledd mawr ddarnau o'r awdl, "Ymadawiad Arthur." A bu raid i Dan actio Bedwyr lawer noson tra gorweddai Arthur yn llesg a bloesg ar y soffa yn yr ystafell-fyw: gorfu hefyd i rai o ddeiliaid y "Black Boy" a'r "Harp" roi eu clebar heibio droeon i wrando'n ddwys am ogoniant Ynys Afallon. Cytunai pawb yn yr Harp' â barn Wil Llongwr y gwnaethai'r Ap "goblyn o bregethwr," a " Diar, dyna biti na fasa' fo wedi mynd i'r weinidogaeth, yntê?" oedd sylw Mrs. Rowlands bob bore wrth Dan fel y deuai'r rhyferthwy o lais o'r llofft. Pan fentrodd Enoc y cysodydd droi'n dipyn o feirniad llenyddol a dweud wrth Wmffra Jones nad oedd yr awdl y gwirionai'r Golygydd arni "ddim patch ar Ddinistr Jerusalem'", "Mae 'piniwn ym mhob pennog," rhuodd yr Ap fel un yn cyhoeddi gwae.

Wedi i Emrys ddychwelyd i'r Coleg yn nechrau Hydref, teimlai Dan braidd yn unig. Ond ysgrifennai'n rheolaidd at Gwen a threuliai lawer noson yn ail-gerdded y llwybrau a gerddent gyda'i gilydd yn yr haf. Ac fel y crwydrai trostynt, gwelai o hyd lygaid eiddgar a chyffrous y ferch a gredai mai ef oedd bardd y gadair ym Mangor. Efallai . . . efallai, ped âi ati, y gallai lunio awdl â gwerth ynddi. Yn Llanelli y byddai'r Eisteddfod y flwyddyn wedyn a thestun y gadair oedd "Y Celt."

"Y Celt . . ."Y Celt . . ." Gallai ddechrau drwy ddarlunio'r hydref a welai ar y crwydriadau hyn o gylch Caer Fenai, ac yna lithro'n ôl drwy hydrefau lawer i weld yr un hen ffermwr tawel, esgyrniog, er gwaethaf Sais a Norman a Rhufeiniwr, a holl helyntion a chyffroadau'r blynyddoedd, yn troi'n araf o'r beudy tua'r tyddyn ac yn breuddwydio'i freuddwydion syml wrth syllu ar ogoniant y machlud draw uwch y môr. Ac â hyder yr ifanc yn llawenydd drwyddo, naddodd Dan agoriad ei awdl:

"Gŵyra rhwd frig y rhedyn,
A daw'r aur i grwydro'r ynn.
Ei ledrith a chwâl hydref
O ddydd i ddydd gwelodd ef

Y ddôl a'r ysgub olaf
Yn ogwydd ar ysgwydd haf . . ."

A oedd eisiau ateb yr "r" o flaen " ysgwydd," tybed? Nid oedd yn sicr, ond fe holai'r Ap ar y pwnc, gan gymryd arno mai ymboeni i feistroli'r cynganeddion yn llwyr yr oedd. Ni soniai am yr awdl wrtho ni ddywedai air wrth neb—nes dôi'r amser iddo ddarllen darnau o'r gerdd i Gwen.

"Gwaeda'r mwyar, a mud
Cloddiau haf: ciliodd hefyd
Ruthr y plant o berthi'r plwy',
A hudir yr hen feudwy,
Y llwynog, tua'r llennyrch,
Yna'r cŵn i ffroeni'r cyrch . . ."

Disgrifiai'r cyrch wedyn, a'r Sgweier a'i gyfeillion, Saeson oll, yn carlamu heibio i'r tyddyn a hyd yn oed tros ei gaeau llwm, a'r hen ffermwr, y Celt gwyredig, mud, yn eu gwylio ac yn eu goroesi hwy . . . A phob hwyr am bythefnos, yr awdl, yr awdl oedd popeth i Ddan.

Yng nghanol y mis, pan edrychai Idris a Kate yn bryderus ar yr afon dywyll islaw'r tŷ ym Mhentref Gwaith, yr oedd hi'n tresio bwrw yng Nghaer Fenai hefyd. Yn lle cydio yn ei ffon ar ôl swper, i gerdded ger afon Menai neu hyd lonydd y wlad, arhosai Dan yn anniddig yn y tŷ, "fel pelican dan annwyd," chwedl yr Ap, a fethai'n lân â'i gymell i fynd gydag ef i gwmni llawen Wil Llongwr ac eraill. Byr ac amhrydlon oedd llythyrau Gwen: yr oedd hi'n brysur iawn yn y Coleg, meddai, a chawsai hi a ffrind iddi ganiatâd arbennig i fynd i ganu mewn cyrddau croeso-i-fyfyrwyr a gynhelid yn y gwahanol gapelau. "Ffrind," meddai Dan wrtho'i hun yn amheus, gan ddychmygu rhyw "Hywel " o fyfyriwr yn haeru mewn capel yn gyhoeddus a than goed Siliwen mewn islais crynedig fod ei galon yn eiddo i Blodwen erioed. Taflodd ei awdl o'r neilltu.

Arhosodd Dan yng Nghaer Fenai bob diwedd wythnos tra oedd ei fam yn y De, a threfnwyd i Ben Lloyd, y gohebydd lleol, yrru i'r Gwyliwr hanes y cyfarfodydd yn Llechfaen. Ac ar ei nos Sadwrn gyntaf yn nhŷ'r Ap y torrodd yr addewid a wnaethai i Kate.

Nid oedd bai o gwbl ar yr Ap. Aethai ef ymaith i rywle y prynhawn hwnnw: i b'le, ni wyddai neb, ac yr oedd yn fwy na thebyg na ddychwelai tan fore Llun-oni flinai cyn hynny ar unigrwydd rhyw dafarn yn nyfnder y wlad. Ar ôl te, cerddodd Dan yn anesmwyth o gwmpas yr ystafell-fyw. Cydiodd mewn llyfr, a'i roi i lawr yn ddiflas; yna yn ei awdl, a'i tharo hithau'n ôl yn ei chuddfan. Ni chlywsai oddi wrth Gwen drwy'r wythnos ac yr oedd wedi'i chwerwi gan siom y dyddiau di-lythyr. Gwisgodd ei gôt fawr ac aeth allan, heb wybod yn iawn i b'le'r âi. Yr oedd ystrydoedd Caer Fenai'n llawn iawn ar nos Sadwrn, a theimlai'n unig yng nghanol y bobl a lifai yn ôl a blaen drwyddynt. Daeth hwrdd a chwerthin uchel o'r 'Black Boy' fel yr âi heibio i'r dafarn, a thybiai y clywai lais merch yn ymdonni drwyddo. Ond cyflymodd yn lle arafu'i gamau. Beth oedd Emrys a Meirion a W.O. yn ei wneud heno, tybed? Fel rheol crwydrai'r tri yn dalog, pob un â'i ffon a'i bibell yn bur amlwg, drwy stryd fawr y dref, a W.O. yn chwerthin yn uchel bob tro y cyfarchai ryw ferch ar yr heol. Yr oedd hi'n werth clywed W.O. yn chwerthin, meddyliodd Dan wrth droi'n ei ôl tua'i lety-a Sylvia, o ran hynny."Mi ddarllena' i'r nofel honno gan Dostoieffsci," meddai wrtho'i hun. Ond gwyddai canol ei feddwl mai tua'r 'Black Boy' yr anelai'i draed: fe alwai yno am funud, dim ond am funud.

Merch arall i'r tafarnwr a gynorthwyai'i thad tu ôl i'r bar, a'i chwerthin hi a glywsai.

"Lle mae Sylvia?" gofynnodd wedi iddi roi'i ddiod o'i flaen.

"'Roedd hi yma funud yn ôl. Newydd gychwyn i fyny i Goed-y-rhiw i weld auntie. Dim ond mynd â dropyn o frandi iddi. 'Fydd hi ddim yn hir."

"'I hun y mae hi?

"Ia. Ond 'does dim ofn ar Sylvia. Ac mae 'na ola' lleuad heno, ond oes?"

Clwstwr o dai go unig ryw filltir uwchlaw'r drefoedd Coed-y- rhiw. Yfodd Dan ei ddiod yn gyflym ac aeth allan, gan gyfeirio'i gamau yn reddfol bron tuag yno. Cerddodd yn hamddenol, gan geisio'i dwyllo'i hun mai mynd am dro bach o sŵn ac o blith pobl y dref yr oedd. Meddyliai'n ddwysfrydig am bawb a phopeth ond Sylvia.

Tybiodd, wedi iddo gerdded tua hanner milltir, y clywai sŵn traed ysgafn a chyflym yn y pellter. Safodd a gwrando, gan syllu i fyny'r ffordd a oedd fel rhuban gwyn dan olau'r lleuad. Ond nid oedd yno neb, a dringodd ymlaen yn araf. Rhyfedd ei fod ef yng Nghaer Fenai ar nos Sadwrn fel hyn yn lle bod yn y cyfarfod yn Llechfaen. Pa hwyl a gâi Ben Lloyd ar groniclo'r areithiau, tybed? Ben druan! Gobeithio iddo fod, pan weithiai, yn well chwarelwr nag ydoedd o ohebydd. Ond rhoesai'r streic urddas ar Ben a chynhaeaf o newyddion iddo. Ysgrifennai'i nodiadau yn awr yn Gymraeg a Saesneg, yn Gymraeg yn huawdl a dramatig, yn Saesneg yn araf a chlogyrnaidd. A chwarddai llawer swyddfa bapur-newydd o hyd wrth gofio am ddechrau'r flwyddyn pan fu malu ffenestri ac ymladd chwyrn yn Llechfaen. "Cyflafan Waedlyd yn Llechfaen" oedd pennawd nodiadau Cymraeg Ben, a chredai ef fod yr un Saesneg—" Bloody Row in Llechfaen"—lawn mor effeithiol, er i'w wraig, pan ddarllenodd ei gyfieithiad iddi, edrych arno braidd yn amheus dros ei sbectol.

Clywodd Dan sŵn ei thraed yn nesáu, a safodd eto i syllu'n ddifater, debygai ef, ar oleuadau'r dref islaw ac ar loywder Menai dan arian y lloer. Gadawodd iddi fynd heibio nid oedd am iddi feddwl mai i'w chyfarfod hi y dringasai tua Choed-y-rhiw. Clywodd ei chamau'n arafu'n ansicr.

"Dan?"

"O, hylô, Sylvia, chi sy 'na?"

"Be' ydach chi'n wneud i fyny yma

Daeth ato, a'i llygaid duon duon yn disgleirio gan lawenydd.

"Dim ond mynd am dro bach cyn swper. Mi ddo' i'n ôl hefo chi, yr ydw' i'n meddwl. Os ca' i, Sylvia."

Chwarddodd hithau, gan gydio yn ei fraich.

Ymhen ennyd aethant heibio i lidiard yr oedasai ef a Gwen wrtho droeon. Pa bryd y safasant yno ddiwethaf? Ie, y noson cyn iddi ddychwelyd i'r Coleg, pan addawodd hi ygrifennu'n aml, aml ato. Arweiniodd Sylvia i'r fan.

'O, be' 'tai hi'n gwbod, Dan?"

Pwy?"

"Gwen Richards, debyg iawn."

"Wel, 'dydi hi ddim yn gwbod, nac ydi?" A chusanodd y gwefusau meddal, llawn, chwerthingar.

"Efalla' na fasa' hi ddim yn poeni rhyw lawar."

"Be' ydach chi'n feddwl, Sylvia?"

"O, dim byd."

"Dim byd?"

"Dim ond 'i bod hi'n mwynhau'i hun tua Bangor 'na, 'faswn i'n meddwl. Mi'i gwelis i hi ddoe ddwytha', hi a hogan arall hefo dau stiwdant. 'Wnaeth hi ddim cymryd arni fy 'nabod i, wrth gwrs.'

"Hogyn tal oedd o?"

"Go lew o dal.

"Pryd tywyll?"

"Tua'r un faint â chitha'."

"Ia, yr ydw' i'n meddwl. Gwallt cyrliog."

"O, yr hogyn sy'n canu deuawd hefo hi weithia'." Ceisiai Dan swnio'n ddifater wrth lunio'r celwydd hwn, ond fel y llefarai'r geiriau yr oedd ei wir feddyliau'n llawn chwerwder. Hy, nid Gwen oedd yr unig un a allai chwarae'r ffon ddwybig. O, na-a thynnodd Sylvia'n chwyrn i'w freichiau.

Oedd, yr oedd hi'n medru caru—yn synhwyrus, yn ddiatal, gan gyffroi holl angerdd ei natur. Gwen? Llechfaen? Streic? Coleg?-nid oedd dim yn cyfrif yno dan y lloer ond cusanau a rhyfyg meddwol Sylvia.

"Pa bryd y ca' i'ch gweld chi eto, Sylvia?" gofynnodd iddi pan oedd ar fin ei gadael gerllaw'r Black Boy."

"Nos 'fory? 'Fydda' i ddim yn mynd i'r capal."

"Na finna' chwaith. 'Chydig wedi chwech?"

Oreit. Ond peidiwch â mynd 'rwan. Dowch i mewn am funud. I'r parlwr. 'Fydd dim ots gan 'Mam. Rhaid i chi gael drink bach cyn mynd. On the house, Dan, on the house."

"O'r gora'," chwarddodd Dan, gan roi'i fraich am ei hysgwydd a'i harwain tua'r drws yn nhalcen y dafarn.

Derbyniodd lythyr cariadus oddi wrth Gwen fore Llun yn ymddiheuro am iddi fod cyhyd heb ysgrifennu gorfu iddi lafurio ar draethawd anodd, hir, meddai, ac arhosodd i mewn hyd yn oed yn y prynhawniau i ddarllen ar ei gyfer. "Ddim bnawn Gwener, 'nghariad i," meddai Dan wrtho ef ei hun, y pnawn y gwelodd Sylvia chi yng nghwmni'r llanc gwallt-cyrliog." Onid oedd . . . onid oedd Sylvia'n tynnu ar ei dychymyg, meddyliodd mewn ennyd ddrwgdybus. Na, ni ddywedai Sylvia gelwydd felly. Nid atebodd y llythyr am rai dyddiau, ac yn y cyfamser cariodd un neu ddau o adar bach o Gaer Fenai straeon anfelys i glustiau Gwen.

Codai hyd yn oed yr Ap ei aeliau ambell noson pan ddychwelai Dan yn orlawen o'r Black Boy' yn ystod yr wythnosau canlynol. Ac un hwyr yn niwedd y mis, penderfynodd siarad gair tadol ag ef. Yr oeddynt newydd orffen swper a chododd Dan i gychwyn ymaith fel arfer.

"Daniel, 'machgan i?"

"Ia?"

"'Fasat ti ddim yn fy ngalw i'n greadur Piwritanaidd, na fasat ti?"

"Wel . . . na faswn," chwarddodd Dan."

"Na fasat, ac felly mae gen' i hawl i siarad hefo chdi. 'Wyt ti'n cofio'r cwpled anfarwol hwnnw gan yr hen Dudur Aled?"

"Pa un?"

"Wel?"

"Ysbys y dengys pob dyn O ba radd y bo'i wreiddyn.

"Mi fùm i yn dy gartra' di yn Llechfaen yn niwadd Awst, ond do? Pan gynhaliwyd y cwarfod mawr hwnnw oedd yn mynd i setlo'r streic, yn nhyb rhai."

Wel?"

"'Ron i'n meddwl, Daniel, 'machgan i, fod dy dad a'th fam ymhlith goreuon yr hen fyd 'ma. Braidd yn gul, efalla', ond mor onest â'r dydd, mor ddiledryw â phobol Tyddyn Gwyn,' mor elfennol o gadarn â chreigiau'r Wyddfa."

"Wel?"

"'Ches i ddim rhieni felly, yn anffodus—nid fy mod i'n chwilio am esgusion dros fod yn greadur mor ddireol. Lle wyt ti'n mynd heno, Daniel?"

"Allan am dro bach."

"Hm. 'Ydi'n . . . 'ydi'n rhaid iti fynd?

"Pam?"

"Meddwl . . . meddwl y basat ti'n rhoi help llaw imi hefo'r bennod ola' o'r Tyddyn Gwyn.'

"'Ron i'n meddwl i chi 'i sgwennu hi neithiwr ac echnos. 'Fuoch chi ddim allan o gwbwl, ddim cam o'r tŷ, medda' Mrs. Rowlands."

"Naddo, ddim cam o'r tŷ, syched ne' beidio. Ac 'rydw' i'n gofyn i titha' aros hefo mi heno, Daniel, 'machgan i. Nid er mwyn y Tyddyn '—mi wnaiff y bennod y tro—ond er mwyn

Tawodd, a'i wyneb mawr fel un plentyn ar fin crio.

"Er mwyn?"

"Dy dad a'th fam. A'r hogyn bach sy yn yr Ysbyty 'na yn Lerpwl. A. . . a Gwen."

Yr oedd Dan bron ag ildio, a phetai'r Ap heb enwi Gwen, ildio a wnaethai. Ond ni chlywsai oddi wrthi ers tair wythnos ddim gair yn ateb i'w lythyr diwethaf, ac yn ei oriau o euogrwydd taflai arni hi a'r llanc gwallt-cyrliog y bai am ei ddirywiad.

"'Rydw' i wedi addo galw i weld rhywun am funud," meddai."Arhosa' i ddim heno. Mi fydda' i yn f'ôl cyn pen hannar awr."

Trawai cloc y dref wyth fel yr âi allan. Aeth y Golygydd ati i ailwampio tipyn ar ddiweddglo'i nofel, ac yna safodd wrth y ffenestr yn gwrando ar sŵn pob troed ar y palmant tu allan. Naw, deg, un ar ddeg. Daeth Mrs. Rowlands i mewn i daro cannwyll ar gongl y bwrdd.

"Diolch, Mrs. Rowlands, diolch." Safodd ar yr aelwyd, a'i gefn at y tân, a chymryd tudalen o bapur oddi ar y bwrdd. Yna, gan ddynwared ei frawd, tad Emrys a Gwen, a gyhoeddai bob nos Sul yn y capel yr âi Mrs. Rowlands iddo: "Nos yfory, nos Iau, ychydig wedi un ar ddeg, ni fydd angen cannwyll ar Ap Menai. Dymunwn hysbysu y bydd y dywededig ŵr, wedi tair noswaith o ymatal dewr, yn cael ei hebrwng adref rhwng William y Llongwr ac Owen y Mecryll ac yn gorwedd i gysgu ar y soffa acw."

Bore trannoeth, â thelegram yn ei law a'i wyneb fel y galchen, aeth Dan i mewn i swyddfa'r Golygydd.

"Gwyn," meddai a'i lais yn ddim ond sibrwd.

Darllenodd yr Ap y telegram."Mae dy dad a'th fam yn Lerpwl, ond ydyn', Daniel?" meddai."Os na ddychwelan' nhw heno, 'oes gen' ti rywla arall i aros yn Llechfaen?"

Oes. Tŷ f'ewyrth John tros y ffordd. Ne' dŷ Robat Williams. Mae o'n ffrind mawr i 'Nhad. Yno y basa' ora' imi fynd efalla', gan fod Ceridwen fy nghnithar yn wael yn nhŷ f'ewyrth."

Gwell iti fynd ar unwaith, Daniel. A phaid â brysio yn d'ôl. Mi wna' canol yr wsnos nesa'r tro yn iawn."

"Ond . . . ond mae'r papur yn mynd i'w wely heno."

"Wnâi o ddim gwahaniaeth 'tasa' 'na ddwsin o bapurau'n mynd i'w gwelâu heno. Dos, a gofyn i Mrs. Rowlands roi tamaid o ginio cynnar iti. A hwda . . . rho'r goron 'ma i'th fam. Mi ddaw rhyw ddieithriaid acw, mae'n debyg. Mae'n ddrwg o galon gen' i, Daniel, 'machgan i. O galon.'

Bu raid i'r Ap weithio'n hwyr y noson honno. Galwodd yn yr Harp' ar ei ffordd adref, a llonnodd Wil Llongwr drwyddo wrth ei weld. Buasai Wil yn segura am fisoedd lawer, a dibynnai yn awr ar haelioni rhai fel yr Ap er mwyn torri'i syched. Chwiliodd am un o'i straeon gorau, ond gwrandawai Golygydd Y Gwyliwr' fel un mewn breuddwyd. Yfodd un glasaid ac yna aeth allan heb ddweud gair wrth neb. Ni bu galw am wasanaeth Wil Llongwr a Now Mecryll am un ar ddeg.

Gorweddai caenen ysgafn o eira tros fynwent Llechfaen brynhawn Llun. Safai Dan wrth droed y bedd agored, gan syllu'n ffwndrus ar wynebau gwelw ei dad a'i fam. Yr oedd ei dristwch yn fawr; ei euogrwydd a'i edifeirwch yn fwy. Teimlasai'n annifyr yn Gwynfa' dros ddiwedd yr wythnos. Nid edliwiodd neb ddim wrtho, ond gwyddai'n reddfol, heb i'w dad na'i fam na Megan nac Idris yngan gair, fod y newid a ddaethai trosto ef fel malltod wrth wraidd eu meddyliau. Diolch na fedrodd Kate adael ei phlant a dyfod i fyny i'r cynhebrwng: ni allai gyfarfod edrychiad ei llygaid mawr hi.

Swniai geiriau'r Person yn ddisylwedd iddo, rhyw iaith a llais a ddeuai o bellter niwlog, tros ffin anhydraidd bron . . .

"Dyn a aned o wraig sydd a byr amser iddo i fyw ac sydd yn llawn trueni . . ."

Meddyliasai am ei fam bob amser fel dynes fawr, gref, writ-goch, ond heddiw ymddangosai hi'n llawer teneuach na Megan, a oedd wrth ei hochr, a'i hwyneb fel petai wedi crebachu'n sydyn. Ond wrth gwrs, yr oedd Megan yn mynd yn dew, yn gwrs o dew, i fyny yn Albert Terrace . . .

"Yng nghanol ein bywyd yr ydym mewn angau. Gan bwy y mae inni geisio ymwared? . . ."

Gwyn druan, Gwyn bach, yr hen Gwyn, a'i lygaid diniwed, syn, yn fawr gan edmygedd o bopeth a wnâi ac a ddywedai ef, Dan. Petai ef wedi cynorthwyo'r teulu drwy'r flwyddyn, efallai . . . efallai na ddigwyddasai hyn, y byddai chwerthin Gwyn bach heb ei ddiffodd, a'i lafar tawel, hen-ffasiwn, boneddigaidd o hen-ffasiwn, yn fiwsig o hyd . . . Gwelai'r arch fechan yn cael ei gostwng i'r bedd a'r hen Domos Huws, y torrwr beddau, yn plygu ymlaen i daflu ei ddyrnaid o bridd . . .

"yr ym ni yn rhoddi ei gorff ef i'r ddaear, sef daear i'r ddaear, lludw i'r lludw, pridd i'r pridd . . . "

Yr oedd niwl ei ddagrau'n llen dros lygaid Dan, a rhedai cryndod llym, diatal, drwy ei holl gorff. A thrwy'i enaid hefyd, meddyliodd . . . Siaradai â'i dad heno: yr oedd yn rhaid iddo adael Caer Fenai: gorau po gyntaf yr âi o afael Sylvia Clywodd y lleill yn symud ymaith yn araf oddi wrth y bedd, ond ni syflodd ef. Cliriodd y niwl o'i lygaid, a syllodd draw tua'r chwarel. Rhyfedd mor debyg i wyneb dyn oedd y darn o graig a edrychai tua Llechfaen. Heddiw, a'r eira ar ei phen, wyneb hen ŵr, ac arno awgrym o wên ddirgelaidd, anchwiliadwy, a'i lygaid yn hanner-gau am ryw gyfrinach hen . . . Teimlodd law Idris yn cydio yn ei fraich, a nodiodd yn araf wrth droi ymaith gydag ef.

Gan ei fod yn dychwelyd i'r De yn gynnar drannoeth, brysiodd Idris dros ei de ac aeth allan i alw ar rai o'r hen gyfeillion y bu'n gweithio gyda hwy yn y chwarel. Gwrthodasai John Ifans a Meri Ann a Mr. Edwards, y gweinidog, ac amrhyw eraill aros i de gwnaethai pob un ryw esgus, ond gwyddai Martha ac Edward Ifans mai osgoi bwyta yn nhŷ prinder yr oeddynt. Wedi i Fegan a'r hen Farged Williams y tŷ uchaf ond un glirio'r bwrdd, croesodd Dan i'r aelwyd a safodd yno'n anesmwyth.

'Nhad? . . . 'Mam? . . ."

"Ia, Dan?" meddai'i dad, gan wybod bod rhyw anniddigrwydd yn ei feddwl.

Gafaelodd bysedd Dan yn y cerdyn ar y silff-ben-tân, ond tynnodd ei law ymaith yn gyflym fel petai'r peth yn wynias. Yr oedd Bradwr yn y tŷ hwn, meddyliodd yn chwerw: oni fradychodd ef y rhieni tyner, ymdrechgar, ffyddiog hyn? "Yr ydw' i wedi penderfynu gadael Caer Fenai."

"O?"

"Am b'le, Dan?" gofynnodd ei fam.

"Am Lundain. Mae 'na amryw o swyddi ar bapura' newydd yn mynd yno. Cyflog da. A digon o gyfla i ddwad ymlaen. Mi fedrwn i yrru arian reit dda i chi bob wythnos wedyn. Chweugian yr wythnos efalla'." Sylwodd y tad a'r fam mor gyflym y siaradai.

""Dydi'r arian ddim yn bwysig iawn—'rwan," ebe Edward Ifans yn dawel. Mi fedar dy fam a finna' wneud yn o lew."

"Medrwn," ochneidiodd y fam, "a dim ond ni'n dau yma bellach.

Medrwn."

"Nid yr arian sy'n bwysig, Dan. Chdi sy'n bwysig, 'machgan i, chdi."

Bron yr un geiriau ag a ddefnyddiodd Kate, meddai Dan wrtho ef ei hun, a'i galon yn curo'n wyllt o'i fewn. Y prynhawn Sul hwnnw y cododd Gwyn ar ôl wythnos yn ei wely. Wel, fe ddiwygiodd ar ôl y sgwrs honno, ond do? Ac fe ddiwygiai y tro hwn eto—ond iddo fynd ymhell oddi wrth y 'Black Boy' a . . . Sylvia.

"Ac efalla' dy fod di'n gwneud yn ddoeth i adael Caer Fenai," chwanegodd ei dad. "Mi fasan ni wedi'th dynnu di oddi 'no ers tro a'th yrru di'n ôl i'r Coleg petai'r hen streic 'ma drosodd."

"Basan, wir," meddai Martha Ifans, gan syllu'n ffwndrus ar ei dwylo anesmwyth. Meddwl am ddylanwad yr Ap ar eu mab yr oedd y ddau ni wyddent ddim am Sylvia a pharlwr y Black Boy.'

"Unwaith yr a'i i ffwrdd odd' 'no," ebe Dan ymhen ennyd, "mi fydda' i'n . . . fi fy hun. Ac mi fedra' i yrru chweugian bob wythnos . . ."

"O, mae'r hen Farged Williams yn cychwyn adra', meddai'i fam yn floesg gan droi tua'r drws i'r gegin fach. "Rhaid imi ddiolch iddi." Ond gwyddai Dan mai dianc rhag torri i feichio wylo yr oedd hi.

Bore trannoeth pan aeth i mewn i'r trên i ddychwelyd i Gaer Fenai, agorodd y ffenestr bellaf a gwyrodd allan trosti i syllu tua'r fynwent. Ni sylwasai arni ers tro byd, ond gwelai'n awr ei bod hi wedi ymledu ac wedi dringo'r llethr uwch yr eglwys yn ddiweddar. Cofiodd fod llawer wedi marw yn Llechfaen yn ystod y flwyddyn a dynnai tua'i therfyn—hen chwarelwyr o dorcalon yn y segurdod hir, rhieni a aberthodd ormod er mwyn rhoi bwyd a dillad a thân i'w plant, plant eiddil fel Gwyn a'r newynu araf wedi diffodd eu nerth. Cododd ei olwg tua chraig y chwarel yn y pellter uwchlaw iddi. Oedd, yr oedd y wên anchwiliadwy ar wyneb miswrn yr hen ŵr o hyd, y wên a naddwyd, heb yn wybod iddynt, gan wŷr fel ei dad a Robert Williams a "J.H." Darllenasai yn rhywle am deithiwr, wrth fynd trwy anialwch yr Aifft, yn dianc mewn ofn rhag edrychiad tragwyddol-ddoeth y Sphinx. Ciliodd yntau i mewn i'r cerbyd a chau'r ffenestr.

Nodiadau[golygu]