Chwedlau'r Aelwyd/Glynwch wrth eich Llwyn

Oddi ar Wicidestun
Bydd Dirion Chwedlau'r Aelwyd
Corff y llyfr
gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Corff y llyfr
Welith neb mohono i

"Glynwch wrth eich Llwyn."

Yn oedd Mr. Morgan yn ŵr cyfoethog, ac yn ddyn da hefyd. Parchwyd ef gan ei gyd-drefwyr, anfon- asant ef i'r Senedd, ac nid yn aml yr ymgymerent a dim heb ofyn ei gyngor. Os byddai eisieu codi ysgoldy newydd, yr oedd yn rhaid cael siarad y peth drosodd gydag ef. Byddai gweddw John Jones yn gofyn iddo pa beth a blanai yn ei chae, a byddai Samuel Hughes bob amser yn ymgynghori âg ef cyn prynu ei anifeiliaid; a byddai Mrs. Lloyd yn gofyn ei gyngor o berthynas i ddygiad i fyny ei phlant. Pan y gofynwyd iddo pa fodd yr oedd mor llwyddianus, dywedodd Mr. Morgan, "Dywedaf wrthych pa fodd y bu. Un diwrnod, pan yn fach- gen, yr oedd cwmni o fechgyn a genethod yn myned i'r wlad i gasglu mwyar duon. Yr oedd arnaf eisieu myned i'w canlyn, ond yn ofni na byddai i'm tad roddi ei gydsyniad. Pan y dywedais wrtho pa beth oedd yn myned yn mlaen, ac iddo yntau roddi ei gydsyniad yn rhwydd, prin y gallwn gynwys y llawenydd a deimlwn, a rhedais i'r gegin i gael ychydig ymborth gan fy mam, ac i ofyn am y fasged fawr. Wedi cael y fasged ar fy mraich, a chychwyn tua'r drws, galwyd arnaf yn ol gan fy nhad. Cymerodd afael yn fy llaw, a dywedodd mewn llais caredig neillduol, "Joseph, i ba beth yr ydych yn myn'd, ai i gasglu mwyar duon, ynte i chwareu?" "I gasglu mwyar duon, atebais. "Yna, y mae arnaf eisieu i chwi wneyd un peth, Joseph, a dyma ydyw — pan y cewch lwyn gweddol, na fydded i chwi ei adael i chwilio am un gwell. Bydd i'r bechgyn a'r genethod ereill redeg oddiamgylch, gan bigo ychydig yma ac ychydig acw, a cholli llawer o amser, a chael ond ychydig o fwyar duon. Os gwnewch fel hwy, bydd i chwi ddyfod gartref gyda basged wag. Os oes arnoch eisieu mwyar duon, glynwch wrth eich llwyn." Aethym gyda'r cwmni, a chawsom hwyl anghyffredin, ond yr oedd yn union fel y dywedodd fy nhad. Nid cynt y caffai un lwyn da nag y galwai ar yr oll o'r cwmni, y rhai a adawent eu gwahanol leoedd, ac a redent at y trysor a ddarganfyddwyd. Heb foddloni am fwy na munud neu ddau yn yr un lle, crwydrasant dros yr holl wlad, a blinasant yn fawr, ac yn yr hwyr nid oedd ganddynt ond ychydig o fwyar duon. Yr oedd geiriau fy nhad yn swnio yn fy nghlustiau, a "glynais wrth fy llwyn." Ar ol gorphen âg un, cefais un arall, a gorphenais hwnw; yna aethym at un arall. Pan y daeth yr hwyr, yr oedd genyf lon'd fy masged o fwyar duon braf, mwy nag oedd gan y lleill oll gyda'u gilydd, ac nid oeddwn haner mor flinedig chwaith. Aethym adref yn ddedwydd. Ond ar ol myn'd i mewn, cefais fod fy nhad wedi ei daro yn glaf iawn. Edrychodd ar fy masged lawn o ffrwyth addfed, a dywedodd, "Da iawn, Joseph. Oni ddig- wyddodd yn union fel y dy wedais ? Glynwch wrth eich llwyn bob amser."

Bu farw yn mhen ychydig ddyddiau, a bu gorfod i mi weithio fy ffordd yn y byd goreu gallwn. Suddodd geiriau fy nhad yn ddwfn i'm meddwl, ac nid anghofiais wersi cwmni y mwyar duon — darfu i mi "lynu wrth fy llwyn." Ar ol i mi gael lle gweddol, a gwneyd yn o lew, ni ddarfu i mi ei adael, a threulio wythnosau neu fisoedd i chwilio am un ychydig yn well. Pan fyddai dynion ieuaingc ereill yn dweyd, "Deuwch gyda ni, a bydd i ni wneyd ein ffortiwn mewn ychydig wythnosau," ysgydwn fy mhen, a "glynwn wrth fy llwyn." Yn mhen ychydig amser darfu i fy meistradoedd gynyg fy nghymeryd i'r fasnach gyda hwynt. Arosais yn yr hen le hyd nes y bu farw fy holl gydbartneriaid, ac yna cefais bobpeth oedd arnaf ei eisieu. Darfu i fy ngwaith yn glynu wrth fy masnach, arwain dynion i ymddiried ynof, a rhoddodd hyny gymeriad da i mi. Yr wyf yn ddyledus am yr oll wyf ac sydd genyf i'r arwyddair — "GLYNWCH WRTH EICH LLWYN."