Chwedlau'r Aelwyd/Gweddi Hwyrol Plentyn

Oddi ar Wicidestun
Boreuol Weddi Plentyn Chwedlau'r Aelwyd
Corff y llyfr
gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Corff y llyfr
Chwareuon Plant

Gweddi Hwyrol Plentyn.

GORWEDD wnaf yn awr heb fraw,
Yn fy ngwely cynhes clyd,
Duw all gadw niwed draw,
Oddiwrth blentyn bach o hyd:

Grasol yw fy nefol Ri,
Yn gofalu am danaf fi.

Pan ddaw'r hwyr, fy rhiaint cu
Ant i orphwys; ond bydd Duw
I mi'n Geidwad trwy'r nos ddu,
Rhydd hân dawel, ceidw'n fyw;
Grasol yw fy nefol Ri,
Yn gofalu am danaf fi.


Cwsg i'm llygaid blin a gaf,
Gorphwys gaiff fy aelodau bach ;
Yn y boreu codi wnaf,
Yn ddiludded ac yn iach:
Grasol yw fy nefol Ri,
Yn gofalu am danaf fi.

Pan yn angau y rhaid myn'd
I'm hoer wely yn y bedd,
Os bydd Iesu i mi'n ffrynd,
Fe gaiff f'enaid fyw mewn hedd;
Grasol yw fy nefol Ri,
Arglwydd cofia am danaf fi.