Chwedlau'r Aelwyd/Boreuol Weddi Plentyn

Oddi ar Wicidestun
Y "V" Fawr Chwedlau'r Aelwyd
Corff y llyfr
gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Corff y llyfr
Gweddi Hwyrol Plentyn

Boreuol Weddi Plentyn.

DAETH gwawr y dydd, â gwridog rudd,
I'm deffro o fy hân;
Cydnabod wnaf fy nefol Naf,
Dy ofal o'r fath un.

Rhag pob rhyw ddrwg yn ddyogel dwg
Fi, trwy y dydd heb goll;
Rho'th gwmni i mi, fy Iesu cu,
A maddeu'm beiau oll.


Dy drigfan rad, Ysbryd mad,
Fo'm mynwes euog i ;
A thrwy dy ras par'to dy was,
I fyw byth gyda thi.