Chwedlau'r Aelwyd/Y "V" Fawr

Oddi ar Wicidestun
Y Chwaer a Gollwyd Chwedlau'r Aelwyd
Corff y llyfr
gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Corff y llyfr
Boreuol Weddi Plentyn

Y "V" Fawr — neu Pwy sydd fwyaf?

DYGWYDDODD unwaith i ddadl frwd gymeryd lle ymhlith bwystfilod y maes. Meddai y ceffyl, "Bydded i ni ymgynghori â'r dyn er penderfynu pwy sydd yn ei le, nid yw ef yn un o'r pleidiau mewn ymrafael, ac felly gall farnu yn ddiduedd."

"Ond," meddai y twrch daear, "a oes ganddo synwyr digonol i'r gorchwyl? Oblegyd y mae deall o'r radd uchaf yn ofynol er darganfod ein mynych guddiedig ragoriaethau."

"Sylw doeth ryfeddol," meddai yr eppa.

"Da iawn yn wir," meddai y draenog, "fum i erioed o'r farn fod dirnadaeth dyn yn ddigonol i'r gorchwyl."


"Tewch," meddai y ceffyl, "fe wyr pawb mai yr hwn sydd a lleiaf o ymddiried yn uniondeb ei fater ydyw yr un cyntaf i feio penderfyniad ei farnwr."

Dewiswyd dyn yn farnwr. "Aroswch funud," meddai y llew, "cyn cyhoeddi eich barn. Yn ol pa reol, ddyn, y bydd i chwi benderfynu eu teilyngdod?"

"Yn ol pa reol?" atebai yntau, "rhaid mai yn ol y graddau yr ydych yn ddefnyddiol i ddynion."

"Campus," meddai y llew, yn ymwybodol o'r sarhad, "os felly, pa mor bell y gosodir fi islaw yr asyn! Ni chewch chwi, O ddyn, fod yn farnwr arnom. Ymgynghorwn â'n gilydd ar y mater."

Aeth y dyn ymaith. "Yn awr," meddai y twrch yn watworus, a gydag ef yr eppa a'r draenog, "a wyt ti y ceffyl yn gweled fod y llew yn meddwl fel ninau nas gall dyn fod yn farnwr arnom? Mae y llew a ninau yn hollol o'r un farn."

"Ydwyf," meddai y llew, gan droi golwg ddiystyrllyd arnynt, "ond oddiar ystyriaethau hollol wahanol i chwi, cofiwch."

Yna y llew a chwanegodd, "Os wyf fi yn deall yn iawn, y mae y ddadl bresenol yn un dra annheilwng. Pa wahaniaeth i mi, pa un a ystyrir fi y mwyaf neu y lleiafo bawb? Os wyf yn adnabod fy hunan, dyna ddigon." Ar hyn aeth ymaith oddiwrthynt.

Darfu i'r cawrfil call ddilyn ei esiampl. Yna y dywalgi dewr, yr arthes brudd, y llwynog cyfrwys, a'r ceffyl boneddigaidd. Yn fyr, aeth pawb allan ag oeddynt yn teimlo neu yn credu eu bod o ryw werth.

Y rhai a arhosasant yn ol ac a wnaethant fwyaf o drwst fod y ddadl ar ben oedd yr "eppa" a'r "asyn".