Chwedlau'r Aelwyd/Y Chwaer a Gollwyd

Oddi ar Wicidestun
Tebyg i ddyn ydyw syrthio i bechod Chwedlau'r Aelwyd
Corff y llyfr
gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Corff y llyfr
Y "V" Fawr

Y Chwaer a Gollwyd

O! ANNIE, hawddgar Annie,
'Rwy'n brudd o'th blegyd ti,
Wrth eistedd wrth fy hun, neu pan
Yn chwareu yr wyf fi.

Mae'm brodyr bach yn dirion,
A'r babi'n denu'm bryd;
Ond nid oes neb fel ti, fy chwaer,
I mi o fewn y byd.

Ti aethost mor ddisymmwth,
Ni ddarfu it "ganu'n iach:"
Am hyn hiraethu 'rwyf dy wel'd,
A rhoi it' gusan bach.

A wyt ti yn y nefoedd, chwaer ?
A yw y nef yn mhell?
A yw'th fwynhad o'r lle y fath
Fel nad oes blys ei well ?

Fe hoffwn gael dy wel'd, yn wir,
Ymhlith angylion glân,
A chlywed dy berswynol lais,
Yn pyncio'r nefol gân.


Fe glywais fod yr Iesu mawr
Yn hoff o honot tì;
A wna E' ngharu inau, chwaer,
A'm derbyn inau fry?

O Iesu tirion, Cyfaill plant
A fuost yn y byd;
Bydd i mi'n rhan, a'm cartref fo
Dy nefoedd dawel glyd.