Chwedlau'r Aelwyd/Hanes Celwydd
← Wil a'r Pren Afalau | Chwedlau'r Aelwyd Corff y llyfr gan Hughes a'i Fab, Wrecsam Corff y llyfr |
Y Bachgen Geirwir → |
Hanes Celwydd.
“ | "Melys gan wr fara trwy ffalsedd; ond o'r diwedd ei enau a lenwir a graian." — Diar. xx. 17. | ” |
NID oedd Betsy ond geneth ieuanc. Un boreu, tra y safai o flaen y drych yn pinio rhosyn ar ei dwyfron, galwyd hi gan ei mam i gymeryd gofal y baban. Ufuddhaodd yn dra hwyrfrydig, gan fod ei bryd ar fyned i'r ardd i chwareu.
Dywedodd ei mam wrthi am eistedd yn ei chadair fechan, yna gosododd y plentyn yn ofalus ar ei glin, ac aeth allan o'r ystafell. Darfu i'r rhosyn coch ddenu sylw yr un bychan yn y funud, a chyn y gallai ei chwaer ddweud "Peidiwch," yr oedd wedi gafael ynddo a'i law, a'r rhosyn wedi ei lwyr ddyfetha. Cynhyrfodd Betsy gymaint nes y tarawodd ef yn lled arw. Ac yntau, fel y gwna pob plentyn, a waeddodd a'i holl egni. Ar hyn daeth y fam i mewn i wybod beth oedd wedi dygwydd i'r baban. Yna Betsy, er achub ei hun rhag cosb, a ddywedodd mai ei brawd Benjamin, yr hwn oedd yn chwareu yn yr ystafell, oedd wedi ei daraw a'i holl nerth. A Benjamin, druan, er tystio ei ddiniweidrwydd yn y modd mwyaf pendant, a dderbyniodd y gosb yr oedd Betsy yn ei haeddu mor gyfiawn. Cyn hir aeth Betsy i'r ysgol; ond teimlai yn eithaf annedwydd.
Y noson hono, wedi myned o honi i'r gwely i orphwys, methai yn glir a chysgu, gan feddwl am y pechod a gyflawnodd yn erbyn ei brawd, a mwy na hyny yn erbyn Duw. Penderfynodd yn ei meddwl y cyffesai y cyfan wrth ei mam boreu dranoeth. Y boreu a ddaeth, ond teimlai fel pe buasai ei gwddf mor llawn, fel nas gallai siarad. Methai a gwneud ei meddwl i fyny i gyffesu; a rhywfodd nid oedd y bai erbyn hyn yn ymddangos mor fawr a'r noson o'r blaen. "Nid oedd fawr o beth wedi'r cwbl," meddai ei chalon ynfyd. Fel yr oedd y naill ddiwrnod ar ol y liall yn myned heibio, teimlai Betsy fod y baich yn myned lai, lai; ac ond am y dygwyddiad galarusa ganlyn, gallasai, yn ngwyneb temtasiwn gyffelyb, fod wedi syrthio i'r un bai eilwaith. Un boreu, ar ei dychweliad o'r ysgol, cafodd fod ei brawd Benjamin wedi ei gymeryd yn glaf gan ddolur tost yn ei wddf. Clafychodd y boreu, parhaodd i waethygu, a'r noson ganlynol bu farw.
Druan oedd Betsy! yr oedd ar dori ei chalon gan ofid. Gwnaeth cyfeillion tirion eu goreu i'w chysuro. "Cofia," meddynt, "ei fod yn awr yn ddedwydd. Mae wedi myned i'r nefoedd i fyw gyda'r Gwaredwr, yr hwn sydd mor hoff o blant, ac er na ddaw ef yn ol atat ti, fe gei di fyned ato ef, os byddi yn eneth dda."
"O," meddai y plentyn truan, "nid wyf yn wylo am fyned o hono i'r nefoedd, ond am i mi ddweud celwydd arno, a'i fod ef wedi dyoddef y gosp yr oeddwn i yn ei haeddu." Ac am amser maith ni fynai ei chysuro.
Mae rhai blynyddau wedi myned heibio bellach, ac erbyn hyn y mae Betsy wedi tyfu i fyny. Ond y mae adgof y celwydd hwnw yn blino ei chydwybod o hyd. Ni chymerodd ond munudi'w gyflawni, ond nid yw blynyddoedd wedi dileu y cywilydd a'r tristwch a'i canlynodd.
O Arglwydd Dduw, bendithia fi,
A chalon bur, yn moreu f'oes,
Ac ysbryd unplyg, gonest, dewr,
Er dweud y gwir i godi'r groes.