Neidio i'r cynnwys

Chwedlau'r Aelwyd/Y Bachgenyn Budr

Oddi ar Wicidestun
Welith neb mohono i Chwedlau'r Aelwyd
Corff y llyfr
gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Corff y llyfr
Bachgen nad ydoedd yn hoffi ei Gyflog

Y Bachgenyn Budr.

'ROEDD bachgen elwid John,
Yn byw yn y Fron,
A d'wedir gan William ac Arthur,
Na welwyd 'rioed ei law
Heb ei throchi a baw,
A'i wyneb run modd yn fudur.

Ei fam oedd yn llawn braw
Wrth wel'd y fath faw,
A gwnelai e'n drefnus a glân;
Ond ofer y rhwbio,
Cyn ela' awr heibio,
'Roedd eilwaith mor ddued a'r frân.

Pan anfonid i 'molchi,
Fel bydda'n rhochi!
Gan chwareu a lolian â'r dw'r glân:
A lawr 'rhyd ei fochau
Rhedai cant o ddu resau,
Yn ei wneyd yn waeth nag o'r blaen.


'Toedd y moch yn y dom
Yn fwy medrus na John,
I gasglu baw a llaid yn drwchus;
A chreda gŵr Ty-coed,
Pe cawsa' bedwar troed,
Y gwnaethai fochyn campus.

Mae y diog a'r drwg,
Er gwaethaf pob gwg,
Yn ddidrefn beth bynag a wisgont;
Ond plant da gofalus,
Y'nt lân a threfnus,
Pa mor dlawd bynag y byddont.