Chwedlau'r Aelwyd/Y Wenynen
Gwedd
← Y Llew ar y Ffordd | Chwedlau'r Aelwyd Corff y llyfr gan Hughes a'i Fab, Wrecsam Corff y llyfr |
Ymddygiad wrth Fwyta → |
Pethau Bychain.
NID yw y moroedd meithion
Ond mân ddefnynau nghyd,
A mân ronynau dirif
Yw'r sychdir oll i gyd,
Munudau sy'n gwneud oesoedd
Y tragwyddoldeb maith,
Tra deuant hwy yn gyson
Ar eu diorphwys daith.
Mân feiau'n fynych droant
Yr enaid ar eu hol,
Oddiar ffyrdd hyfryd rhinwedd,
I rodio llwybrau ffol.
Mân eiriau llawn o gariad,
A mân weithredoodd mwyn,
Ddug ffrwythau Eden uchod
I'r galon flin ei chwyn.
Mân hadau o drugaredd,
Sef rhoddion plant ynghyd—
Toreithiog ffrwyth gynyrchant
Yn nhywyll fanau'r byd,