Chwedlau'r Aelwyd/Y Wers Fyw

Oddi ar Wicidestun
Chwareuon Plant Chwedlau'r Aelwyd
Corff y llyfr
gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Corff y llyfr
Gwers Olaf y Fam

Y Wers Fyw.

(Sef ymweliad Gloyn-byw ag ysgol Mabanod.)

Ar foreu dydd tesog yn nghanol yr haf,
'Roedd gloyn-byw cymysg-liw a hynod o braf,
Yn 'hedeg ar antur ar wyneb y byd,
Yn ol ac ymlaen, ar draws ac ar hyd—

Heb feddwl am drefn na gofalu dim chwaith;
Aeth felly i ysgol tra ar ei wib-daith,
Lle 'roedd ychydig fechgyn
A'u trwst fel murmur melin,
Wrth ddysgu y gwersi a grogent ar daen,
Ar furiau yr ysgol yn hwylus o'u blaen.
Yr athraw a welodd y gloyn gynta' i gyd,
A gwaeddai, "Gostegwch, blant, trowch yma'ch
bryd,—
Tra llyfrau a ddysgant i ni bron bob dim,
Daeth gwers atoch heddyw ar edyn yn chwim,
Rhyw wythnos yn ol fe allesid gwel'd hwn
Yn rholyn llwyd diwerth, diaddurn, a chrwn;
Fel marw mewn amdo, fel hyny 'roedd ef,
Ond 'hed heddyw'n brydferth yn awyr y nef.
Ei gorff bach a meindlws, uwch gallu un dyn
I ffurfio ei debyg mewn lliw nac mewn llun.
De'wch bob yn un bellach a thraethwch i mi
Ei enw a'r gwersi a ddysg ef i chwi."


Y BACHGEN CYNTAF.

Gloyn byw! gloyn byw! ydyw hwn,
Tewch rhag ei ddychrynu â'ch swn;
Dyfod mae oddiwrth y drws,
Syllwch ar ei edyn tlws!

Dysg i mi yr edrych Duw
Ar y lleiaf peth yn fyw.
Rhodd i'r gloyn gorff hardd ei wedd,
Ac oni cheidw fi hyd fedd?
Yn ei air gorchymyn rydd
I mi ei geisio nos a dydd,
Yna bydd yn Dad o hyd,
Im' tra byddaf yn y byd.


YR AIL FACHGEN.

Gwel'd 'rwyf fi mor ffol yw byw
'N falch o'r dillad gore'u rhyw;
Gan fod i'r gloyn bach difri
Harddach gwisg na'r eiddof fì:
Beth os wyf yn llwm fy llun ?
'Dwyf un mymryn gwaeth er hyn,
Nac yn well pe cawn yn awr
Wisgoedd goreu daear fawr.


Y TRYDYDD BACHGEN.

I orwedd fe roddwyd fy chwaer yn ei chryd,
Cyffyrddais a'i gwyneb, ond parodd yn fud;
Pan alwais ei henw, fe ddwedwyd i mi
Mai marw fy chwaer, ac mai ofer fy nghri.

Ond clywais ein gweinidog ni
Yn dweud y deuai Iesu cu,
Rhyw ddydd sydd gerllaw i'w chyfodi o'r bedd,
A'i dwyn i fwynhad o ogoniant a hedd :
Wrth syllu ar wychder y gloyn bach yn syn,
A chofio beth ydoedd rhyw wythnos cyn hyn,
Rwy'n credu'n ddiysgog y gwawria y dydd,
Daw hithau o afael y creulon yn rhydd.
Mae Ef yn alluog i ddwyn hyn i ben,
Ac fe wna'r hyn a all — boed felly, Amen.