Chwedlau'r Aelwyd/Gwers Olaf y Fam
← Y Wers Fyw | Chwedlau'r Aelwyd Corff y llyfr gan Hughes a'i Fab, Wrecsam Corff y llyfr |
Yr Aderyn a'i Nyth → |
Gwers Olaf y Fam.
PLENTYN ieuanc o'r enw Roger L—— a agorodd y drws, a chan edrych yn ddirgelaidd i'r ystafell lle y gorweddai ei fam afiach, a ddywedodd, "A fyddwch chwi cystal a dysgu i mi fy adnod, mam, a rhoddi i mi gusan, a dywedyd nos da'wch wrthyf? Yr wyf mor gysglyd, ac nid oes neb wedi gwrando arnaf yn dweyd fy mhader eto."
Yr oedd Mrs. L—— yn glaf iawn ar y pryd; yn wir ofnai y rhai oedd yn gweini iddi ei bod yn marw. Cynhelid hi yn ei heistedd gan glustogau; anadlai yn boenus; yr oedd ei gwefusau yn llwydion, ei llygaid yn pylu, a'i gwaed yn fferu yn mhenau ei bysedd teneuon.
Gweddw ydoedd hi, a Roger oedd ei hunig a'i hanwyl blentyn. Arferai ei gymeryd bob nos i'w hystafell, a thra yr eisteddai ef ar ei glin, neu y penliniai wrth ei hochr, adroddai hithau iddo ran o'r Gair Santaidd, neu ynte hanes y dynion doeth a da a sonir am danynt yn y Beibl. Yr oedd wedi bod yn wan ei hiechyd er's blynyddau, ond nid yn rhy wan i ddysgu i Roger ei adnod a gwrando ei bader.
"Tewch, tewch," meddai gwraig a safai wrth erchwyn y gwely, "y mae eich anwyl fam yn rhy sali wrando eich pader heno." _ A chan nesu ato, a gafael yn dirion yn ei law, fel am ei gymeryd o'r ystafell, dywedai wrtho, "Gwnaf fi eich rhoi yn y gwely heno." Ar hyn dechreuodd yntau ocheneidio fel ar dori ei galon.
"Yn wir nid alla'i ddim myn'd i'r gwely heb ddweud fy mhader."
Clywyd y trwst gan y fam, ac er ei bod yn ddi- sylw o bob peth o'i hamgylch, darfu i lais ei hanwyl blentyn ei deffroi o'i dideimladrwydd, a chan droi at gyfeilles dymunodd arni ei ddwyn ati, a'i roi i orwedd yn ei mynwes. Gwnaed felly. Ond O! y fath gyferbyniad dyeithr rhwng gwallt euraidd a bochau cochion y plentyn, â gwyneb llwyd ac oer yr un oedd ar drengu! O! y truan diniwed, bychan y gwyddai am y golled anadferadwy yr oedd yn fuan i'w phrofi.
"Roger, fy mab, fy anwyl blentyn," meddai ei fam wrtho, "(dywed yr adnod hon ar fy ol i,a phaid byth, byth, ei annghofio,— "Pan yw fy nhad a fy mam yn fy ngwrthod, yr Arglwydd a'm derbyn." Adroddodd y plentyn yr adnod yn eglur, ac yna dywedodd ei weddi fechan, ac wedi cusanu gwefusau oer ei fam, prysurodd i'w wely.
Pan ddeffrodd boreu dranoeth, ymwelodd fel arferol ag ystafell ei fam, ond yr oedd dystawrwydd marwolaeth yn teyrnasu yno. _Yr oedd ei fam wedi dysgu ei gwers olaf iddo.
Nid yw efe eto wedi anghofio y wers hono, ac o bosibl na wna efe byth. Mae bellach yn ddyn, ac yn ddyn duwiol hefyd, ac yn llenwi sefyllfa o enwogrwydd ac anrhydedd. Byth nis gallaf edrych arno heb feddwl am y ffydd a amlygwyd mor hynod gan ei fam pan yn marw. Ac ni siomwyd ei ffydd hi ychwaith, canys yr "Arglwydd a dderbyniodd" ei hanwylyd.
Ddarllenydd ieuanc, nid oes achos i ti ofni os bydd Duw yn gyfaill iti. Fe allai y byddi dad a mam dy wrthod, ac hwyrach y cei y byd yn anialwch digysur, yn llawn drain a phydewau. Ond gall Duw dy ddwyn yn ddyogel trwy dy holl brofedigaethau, a rhoddi i ti yn y diwedd delyn aur a gwisg wên.