Chwedlau'r Aelwyd/Yr Aderyn a'i Nyth

Oddi ar Wicidestun
Gwers Olaf y Fam Chwedlau'r Aelwyd
Corff y llyfr
gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Corff y llyfr
Gostyngeiddrwydd

Yr Aderyn a'i Nyth.

'RWY'N crefu mewn pryder, hoff blentyn,
Paid dryllio fy nyth bychan clyd;
Paid syllu mewn iddo, 'rwy'n erfyn,
Mae'm cywion bach ynddo i gyd;
Pe gwelent hwy'th lygaid mawr gloyw gerllaw,
Hwy waeddent, rai gwirion, mewn syndod a
braw.

Er cymaint ei flys gwel'd y cywion,
Fe safodd y bachgen nailldu;
'R aderyn i'w nyth aeth yn union,
I dwymno ei dylwyth â'i bly' ;
Ac yna arllwysodd orchestgan ei big,
I'r bachgen mwyngalon o entrych y wig.