Clod, clod I'r Oen a laddwyd cyn fy mod

Oddi ar Wicidestun
I Dad y trugareddau i gyd Clod, clod I'r Oen a laddwyd cyn fy mod

gan Anhysbys


golygwyd gan Robert Jones, Rhoslan
Cyduned nef a llawr
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

25[1] Canmol Cariad Crist.
88.888.

1 CLOD, clod
I'r Oen a laddwyd cyn fy mod
Y parch a'r mawl i'w enw boed,
Am iddo 'rioed, o'i gariad rhad,
Roi'i serch ar wael syrthiedig ddyn;
Mawr iawn yw rhin ei werthfawr waed.

2 Daw dydd
I'r carcharorion fynd yn rhydd,
O'r holl gadwynau tynion sydd;
Mor felys fydd eu caniad hwy!
Am ddioddefaint addfwyn Oen
Bydd hyfryd sôn, heb ddiwedd mwy.

3 Daw, daw
Yr hyfryd fore, mae gerllaw,
Bydd pawb â'i delyn yn ei law,
Heb ofn na braw, yng nghwmni'r Oen,
Yn canu i dragwyddoldeb maith,
Ar ben y daith, heb friw na phoen.


Anhysbys
O Grawnsypiau Canaan Robert Jones, Roslan


Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 25, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930