Cyduned nef a llawr

Oddi ar Wicidestun
Clod, clod I'r Oen a laddwyd cyn fy mod Cyduned nef a llawr

gan James Allen


wedi'i gyfieithu gan Isaac Clerk
Duw Abram, Molwch Ef
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

26[1] Teilwng yw'r Oen.
664. 6664.

CYDUNED nef a llawr
I foli'n Harglwydd mawr
Mewn hyfryd hoen;
Clodforwn, tra fo chwyth,
Ei ras a'i hedd di-lyth,
Ac uchel ganwn byth—
"Teilwng yw'r Oen!"

2 Tra dyrchaif saint eu cân
O gylch yr orsedd lân,
Uwch braw a phoen,
O! boed i ninnau'n awr,
Drigolion daear lawr,

Ddyrchafu'r enw mawr:
Teilwng yw'r Oen!"

3 Molianned pawb ynghyd
Am waith ei gariad drud,
Heb dewi â sôn;
Anrhydedd, parch a bri
Fo i'n Gwaredwr ni,
Dros oesoedd maith di-ri':
"Teilwng yw'r Oen!"


James Allen,
efellychiad gan Isaac Clerk


Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 26, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930