Clodforaf fi fy Arglwydd Iôn
Gwedd
← Dyrchafer enw Iesu cu | Clodforaf fi fy Arglwydd Iôn gan Edmwnd Prys |
O! Arglwydd erglyw fy llais i → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
8[1] SALM IX. 1, 2, 9, 10.
M. S.
1 CLODFORAF fi fy Arglwydd Iôn,
O'm calon ac yn hollawl ;
Ei ryfeddodau rhof ar led,
Ac mae'n ddylêd eu canmawl.
2 Mi fyddaf lawen yn dy glod,
Ac ynod gorfoleddaf;
I'th enw, O! Dduw, y canaf glod,
Wyt hynod, y Goruchaf.
3 Gwna'r Arglwydd hefyd hyn wrth raid,
Trueiniaid fe'u hamddiffyn ;
Noddfa a fydd i'r rhain mewn pryd,
Pan fo caledfyd arnyn'.
4 A phawb a'th edwyn, rhônt eu cred,
A'u holl ymddiried arnat;
Cans ni adewaist, Arglwydd, neb
A droes ei ŵyneb atat.
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 8, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930