Dyrchafer enw Iesu cu
Mae Dyrchafer enw Iesu cu yn emyn gan Edward Perronet (1726-1792) a efelychwyd gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) (1795 - 1855)
Dyrchafer enw Iesu cu
gan seintiau is y nen,
a holl aneirif luoedd nef,
coronwch ef yn ben.
Angylion glân, sy’n gwylio’n gylch
oddeutu’i orsedd wen,
gosgorddion ei lywodraeth gref,
coronwch ef yn ben.
Hardd lu’r merthyri, sydd uwchlaw
erlyniaeth, braw a sen,
â llafar glod ac uchel lef
coronwch ef yn ben.
Yr holl broffwydi nawr sy’n gweld
y Meichiau mawr heb len,
a’i apostolion yn gyd-lef,
coronwch ef yn ben.
Pob perchen anadl ymhob man
dan gwmpas haul y nen,
ar fôr a thir, mewn gwlad a thref,
coronwch ef yn ben.
Yn uchaf oll bo enw’r hwn
fu farw ar y pren;
trwy’r ddaear faith ac yn y nef,
coronwch ef yn ben.