Cydunwn a'r Angylion Fry
Gwedd
← Moliannaf enw'r Tad o'r nef | Moliannaf enw'r Tad o'r nef gan John Gruffydd Moelwyn Hughes (Moelwyn) |
Dyrchafer enw Iesu cu → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
6[1] Moliant i'r Oen.
M. C.
CYDUNWN â'r angylion fry,
Ein tannau yn gytûn;
Deng mil o filoedd yw eu cân,
Er hyn nid yw ond un.
2 Os ydyw'r Oen fu farw yn sail
Eu holl ganiadau hwy,
Mae'n haeddu, am farw drosom ni,
Ein mawl fil miloedd mwy.
3 Ac Ef yn unig biau'r mawl,
Drwy ddwyfol hawl ddi-lyth,
A chlod uwchlaw a allwn ni
Ei roddi iddo byth.
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 6, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930