Moliannaf enw'r Tad o'r nef

Oddi ar Wicidestun
O! Am dafodau fil ar gân Moliannaf enw'r Tad o'r nef

gan John Gruffydd Moelwyn Hughes (Moelwyn)

Cydunwn a'r Angylion Fry
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

5[1] Moli'r Tad.
M. C.

1 MOLIANNAF enw'r Tad o'r nef
Am waredigaeth ddrud,
A thosturiaethau fwy na mwy,
Trwy haeddiant Prynwr byd.

2 Nac ofna, f'enaid, am a ddaw,
Wrth deithio tua'r nef;
Ni ddigwydd niwed nac un cam
I'r hwn sydd ynddo Ef.

3 Er cystal trugareddau'r Iôn,
Fy Iesu mawr yw'r dawn
Sy'n cynnwys popeth ynddo'i Hun—
Fy iechydwriaeth lawn.

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 5, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930