O! Am dafodau fil ar gân

Oddi ar Wicidestun
Molianned uchelderau'r nef O! Am dafodau fil ar gân

gan Charles Wesley


wedi'i gyfieithu gan D Tecwyn Evans
Moliannaf enw'r Tad o'r nef
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

4[1] Mawl i'r Prynwr
M. C.

1 O! AM dafodau fil ar gân
I'm Prynwr, i roi 'maes
Fawl a gogoniant f'Arglwydd glân,
Gorchestion mawr ei ras.

2 Fy ngrasol Arglwydd, yr awr hon
I'th ganmol cymorth fi,
A rhoi ar led drwy'r byd o'r bron,
Anrhydedd d'enw Di.

3 Iesu yr enw a ddifa'n braw;
Ffy'n gofid rhag ei wedd;
Yn bersain at bechadur daw,
Mae'n fywyd, iechyd, hedd.

4 Fyddariaid, clywch; rhowch iddo'n awr,
Chwi fudion, glod yn lli;
Chwi ddeillion, dyma'ch Meddyg mawr ;
A'r cloffion, llemwch chwi.


5 Ar Iesu rhoed eich beiau mawr:
Oen Duw fu farw'i Hun;
Ei enaid a roes Ef i lawr
Dros enaid pob rhyw ddyn.

—Charles Wesley cyf. D Tecwyn Evans

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 4, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930