Molianned uchelderau'r nef
Gwedd
← Trugaredd Duw i'n plith | Molianned uchelderau'r nef gan Howell Elvet Lewis (Elfed) |
O! Am dafodau fil ar gân → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
3[1] "Megis yn y Nef, felly ar y Ddaear."
M. C.
1. MOLIANNED uchelderau'r nef
Yr Arglwydd am ei waith,
A cherdded sŵn ei foliant Ef
Trwy'r holl ddyfnderau maith.
2. Canmoled disglair sêr di-ri'
Ddoethineb meddwl Duw ;
Ac yn ein dagrau dwedwn ni
Mai doeth a chyfiawn yw.
3 Am ei sancteiddrwydd moler Ef
Gan gôr seraffiaid fyrdd;
Atebwn ninnau ag un llef
Mai sanctaidd yw ei ffyrdd.
4 Trwy'r nefoedd wen o oes i oes
Canmoler cariad Duw ;
A chanwn ninnau wrth y groes
Mai Duw y cariad yw.
5 Molianned uchelderau'r nef
Yr Arglwydd am ei waith,
A cherdded sŵn ei foliant Ef
Trwy'r holl ddyfnderau maith.
—Howell Elvet Lewis (Elfed)
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 3, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930