Trugaredd Duw i'n plith

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Trugaredd Duw i'n plith

gan Edmwnd Prys
Salm LXVII

2[1] SALM LXVII
M. B. C.

1 TRUGAREDD Duw i'n plith,
A rhoed ei fendith drosom,
Tywynned byth ei ŵyneb-pryd,
A'i nawdd a'i iechyd arnom.

2 Duw, moled pobloedd Di,
Rhoent fawl a bri trwy'r hollfyd;
A'r holl genhedloedd is y nen
A fyddant lawen hyfryd.

3 Cans Ti a ferni'n iawn
Y bobl wy lawn wybodaeth,
Ac a roi'r holl genhedloedd ar
Y ddaear mewn llywodraeth.

4 Duw, moled pobloedd Di,
Rhoent fawl a bri trwy'r hollfyd,
Yna rhy'r tir ei ffrwyth i'n plith,
A Duw ei fendith hefyd.

5 A Duw, sef Duw ein Tad,
A roddo'i rad a thyciant,
A holl derfynau'r ddaear gron
A phawb ar hon a'i hofnant.

—Edmwnd Prys (1544—1623)

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 2, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930