Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg/Rhagymadrodd

Oddi ar Wicidestun
Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg
Rhagymadrodd
gan Owen Morgan Edwards

Rhagymadrodd
Ysgol y Llan Rhan I

RHAGYMADRODD.


ADGOFION munudau segur iawn yw y llyfr hwn. Nid oes yr un rheswm, ag y gwn i am dano, am ei gyhoeddi. Ni rof y bai ar neb arall; nid oes neb wedi fy annog i wneyd hyn. Nid oes gennyf un lle i dybio fod y cyhoedd yn dyheu am dano; ac nid wyf yn tybio fod eisiau i mi roi awgrym caredig i'r neb sydd yn meddwl ei gael am anfon ei enw ar unwaith, rhag na fydd un copi yn aros. Gall pawb gymeryd ei amser, ni chynhyrfir y wlad i ymwylltio am y llyfr hwn.

Nid oes dim newydd ynddo. Beth bynnag ddywedir, y mae wedi ei ddweyd o'r blaen; beth bynnag bregethir neu a awgrymir, y mae wedi ei gyhoeddi o'r blaen,— ond a barnu oddiwrth ei effaith, ychydig oedd yn gwrando. Os cwyna y cyhoedd ei fod yn ddifywyd, gallaf ddweyd fel Oliver Goldsmith,— "Ti roddaist dderbyniad peth difywyd i'r llyfrau o'r blaen."

Nid oes dim am bobl bwysig ynddo. Gwyr rhai i mi fwynhau cymdeithas pobl enwog, nid oherwydd dim teilyngdod ar fy rhan fy hun; ond nid oes yma ddim am danynt hwy. Os disgwyli, ddarllennydd dieithr, gael gwybod beth a fwytaent ac â pha beth yr ymddilladent, beth feddylient o'u gilydd ac ohonynt eu hunain, mewn pa bethau yr oeddynt yn arwrol ac mewn pa bethau yn gyffredin, — ni chei ond siom wrth droi dalennau'r llyfr hwn. Nid oes yma ddim ar bwnc chwerw'r dydd. Yr wyf, er yn fachgen, yn un o argyhoeddiadau cryfion; a rhoddwyd fi mewn ysgol lle dysgid fi fod fy nghrefydd yn heresi a'm barn wleidyddol yn frad. Bu o fewn y dim i mi gashau'r Beibl, a meddwl fod pob crefydd yn rhagrith. Dyna'r perygl y bum i ynddo oherwydd fod rhai yn tybied y dylid gwasgu crefydd, eu dull hwy, ar bob plentyn ysgol. Bum droion mewn cyfwng lle tybiwn fod yn rhaid i mi aberthu naill ai fy awydd am wybod neu fy null o feddwl am bethau ysbrydol. Yr wyf wedi teimlo'n rhy ddwys ar y mater i ddweyd dim am dano mewn llyfr ysgafn fel hwn. Ond gan fy mod yn crynhoi'r gwir a'r difrif i'm tipyn rhagymadrodd, y mae arnaf awydd dweyd fod plentyn yn teimlo argyhoeddiadau crefyddol yn fore, bron heb yn wybod iddo ; mai gyrru'r haearn i'w enaid yw dysgu credo iddo, er mwyn boddhau cydwybod rhywun ei fod yn cael neu'n gorfod derbyn athrawiaeth iach, os bydd hynny yn erbyn unrhyw beth sy'n anwyl iddo; ac mai casineb a dirmyg ga sect yn dâl am geisio proselytio plentyn dan rith ei addysgu.

Wedi i'r gwair goludog gael ei gludo oddiar y gweirgloddiau, tyf clychau'r gog yn ddiddefnydd o ambell dwrr o gerrig. Y mae lle i bopeth, hwyrach hyd yn oed i'r llyfr hwn.

OWEN EDWARDS.