Coelion Cymru/Hen Arferion

Oddi ar Wicidestun
Swynion Coelion Cymru

gan Evan Isaac

Mynegai

XI
HEN ARFERION

Nid oes ond ychydig o'r hen arferion wedi goroesi'r cyfnewidiadau ym mywyd cymdeithasol Cymru. Gresyn hefyd farw o rai ohonynt, oblegid o edrych o'r pellter hawdd tybio bod llawer o swyn a pheth budd ynddynt. Nid oes i amaethyddiaeth heddiw y bri a fu iddi. Y mae'n wir mai bywyd caled oedd ar y fferm gynt, ond yr oedd iddo arferion difyr a llawer o fwyniant iach. Bu farw'r hen arferion tan ddylanwad golau gwell ac yn sŵn peiriannau a dyfodiad estroniaid tros glawdd Offa. Un ddefod a lynodd yn hir ac a fu farw o raid ydoedd—

Y GASEG BEN FEDI. Perthynai i'r cynhaeaf trwy Gymru ei ddefodau a'i wleddoedd. Yng Ngoledd Cymru yn gyffredin ceid gwleddoedd a elwid " Boddi'r Cynhaeaf." Yn Sir Ddinbych gelwid y tusw olaf o ŷd ar gaeau fferm yn Gaseg Fedi, ac yn Sir Gaernarfon gelwid ef Y Wrach. Eithr tybiaf oddi wrth yr hanes a geir i fri mwy fod ar y Gaseg Ben Fedi yn siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin nag yn unman arall. Ni fu'r ddefod farw'n llwyr yn Sir Aberteifi hyd yn gymharol ddiweddar. Dywaid y Parchedig Fred Jones, B.A., B.D., wrthyf, iddo ef pan oedd yn hogyn, lai na hanner can mlynedd yn ôl, gystadlu â'r medelwyr mewn taflu'r cryman at y Gaseg ar fferm ei dad yng nghanolbarth Ceredigion. Ei ddisgrifiad ef o'r ddefod ydyw: " Fe adewid rhyw droedfedd ysgwâr o'r cae diweddaf oll heb ei dorri. Wedyn fe blethid pen y tusw hwn, ar ei sefyll fel yr ydoedd, yn ' bleth dair.' Safai pawb wedyn ryw ddeg llath neu fwy oddi wrtho, a thaflai pob medelwr yn ei dro ei gryman ato, a'r sawl a'i torrai'n llwyr fyddai raid cario'r tusw i'r tŷ. Y gamp oedd taflu'r tusw hwnnw i'r ford swper heb i neb o'r merched oedd o gylch y tŷ ei weled; waeth os dôi'r merched i wybod gan bwy yr ydoedd, hanner boddid ef a dŵr, ac ond odid na theflid ef yn rhondyn- i'r llyn! Pan oeddwn yn paratoi'r papur hwn mi welais adolygiad ar lyfr yn y Daily News and Leader, yn ymdrin â'r mater hwn ymhlith pethau eraill. Ni ddyfynnwn ychydig ohono ar y pen hwn:—

The common European superstition that whoever cuts the last corn must die soon is probably a faint reflection of the ancient rite of killing the corn spirit in the person of the last reaper; and we are told that till lately in Pembrokeshire the men used to aim their hatchets at the last " neck" of corn left standing, and afterwards belabour or handle roughly the man who was caught with the "neck" in his possession.?[1]

Gwahaniaethai'r ddefod beth yng ngwahanol rannau'r un sir hyd yn oed. Yng ngogledd Ceredigion byddai raid i'r sawl a dorrai'r tusw ei ddwyn i fferm yn y gymdogaeth a ddigwyddai fod " ar ôl gyda'r cynhaeaf," a'i daflu i'r maes y gweithid ynddo ar y pryd. Ystyrid hyn yn sarhad mawr, a rhaid fyddai i'r troseddwr ddianc am ei einioes â chrymanau'r holl fedelwyr yn ei ddilyn.

DEFODAU PRIODAS. Person pwysig ynglŷn â phriodas gynt oedd y Gwahoddwr. Ei waith ef oedd tramwy'r gymdogaeth tua thair wythnos cyn y briodas i wahodd cyfeillion y pâr ieuanc i dalu eu "pwythion." Yn gyffredin byddai'r Gwahoddwr yn ŵr tafodrydd a doniol, i'r diben o ennill clust ac ewyllys y gwrandawyr. Cariai yn ei law ffon hir—gwialen ei swydd—wedi ei haddurno â rubanau o bob lliw, ac ar ei ben gwisgai rubanau neu flodau. Ai i dŷ heb guro, ac yna taro tri ergyd trwm â'i wialen ar lawr yr ystafell, ac o gael distawrwydd a sylw adroddai gân neu rigwm tebyg i'r un a wnaeth Daniel Ddu o Geredigion at y pwrpas, sy'n cynnwys y penillion a ganlyn:

Dydd da i chwi bobol, o'r hynaf i'r baban,
Mae Stephan Wahoddwr â chwi am ymddiddan,
Gyfeillion da mwynaidd, os felly'ch dymuniad,
Cewch gennyf fy neges yn gynnes ar ganiad.
Ymdrechwch i ddala i fyny, yn ddilys,
Bawb oll yr hen gwstwm, nid yw yn rhy gostus,
Sef rhoddi rhyw sylltach, rhai 'nôl eu cysylltu,
E fydd y gwŷr ifainc yn foddgar o'u meddu.

Chwi gewch yno roeso, 'rwy'n gwybod, o'r hawsaf,
A bara a chaws ddigon, ond e mi a ddigiaf;
Caiff pawb ei ewyllys, dybaco, pibelli,
A diod hoff ryfedd, 'rwyf fi wedi'i phrofi.[2]

Y nos cyn y briodas cynhelid yr hyn a elwid yn "Ystafell," a deuai cyfeillion iddi â rhoddion— rhai yn "talu pwythion," ac eraill yn rhoddi rhoddion nad oedd hawl arnynt. Weithiau cynhwysai'r anrhegion ddodrefn tŷ, arian ac enllyn.

Dywaid Mr. Thomas Thomas, Ceinionfa, Aberystwyth, y byddai priodas y rhai uchelradd ar geffylau, ac eiddo'r gweddill 'ar draed,' ac wrth gwrs yr ail oedd y fwyaf cyffredin a phoblogaidd. Bu ef mewn tair priodas 'ar draed ' tua thrigain mlynedd yn ôl yn ardal Pont-ar-Fynach, a chyn belled ag y cofia ef, fel hyn y gweithredid. Yn lled fore ddydd y priodi ymgasglai'r gwahoddedigion, y gwŷr ieuainc yn nhŷ'r priodfab, a'r merched yn nhŷ'r briodasferch. Yna anfonid cynrychiolaeth gref o dŷ'r mab i geisio'r ferch. Yn gyffredin byddai ymryson llafar mewn rhyddiaith a barddoniaeth rhwng y rhai oddi allan a'r rhai oddi mewn i'r tŷ. Pan lwyddai cyfeillion y mab, arweinid y briodasferch ym mreichiau dau o'i pherthynasau i'r eglwys, eithr weithiau byddai helynt arw, oblegid ar bob croesffordd neu agorfa o'i llwybr gwnâi'r ferch bob ymdrech i ddianc. Ar ôl y gwasanaeth yn yr eglwys, rhedai'r llanciau nerth eu traed i ystafell y wledd i fynegi'r newydd. Wedi ymborthi a chael digonedd, agorai'r pâr ieuanc lyfr y pwythion," a chofnodi'n fanwl y rhoddion a dderbyniwyd. Ymdroai'r gwahoddedigion yn y tŷ ac o'i gwmpas yn eu mwynhau eu hunain hyd oriau hwyr.

Yr oedd priodi yn waith pwysig ac urddasol gynt cyn dyfod priodas baganaidd "yr offis." Yn lled fore byddai'r mwynwyr yn barod â'u tyllau yn y graig, ac eraill â'u gynnau. Cyn hir gwelid gorymdaith drefnus, dau a dau, fel angladd ym Morgannwg, yn symud yn bwyllus i gyfeiriad yr addoldy. Yna saethu mawr i darfu ysbrydion drwg rhag dial ar y ddeuddyn ieuainc a'u drygu ddydd eu llawenydd. Yn ystod y priodi âi'r saethwyr i'r dafarn i wlychu eu gwefusau.—Wel, yr oedd angen ar ôl tanio cymaint, ac yr oedd y ddiod yn rhad! Pan ddeuai'r briodas o'r addoldy, ni châi fyned trwy'r glwyd, oblegid yno byddai nifer o bobl ieuainc yn dal rhaff gref, ac nid oedd agorfa oni thelid y doll. Ychydig yn nes i'r cartref byddem ninnau'r plant â chwyntyn— rhaff eto—a thelid toll i ninnau. Nid yw'r arfer hon wedi llwyr farw. Diwedd 1936, gwelais briodas yn y pentref hwn—priodas fodur— a defnyddiwyd y cwyntyn.

DEFODAU CLADDU. Y mae'n ddiamau i rai o hen arferion y Cymry ynglŷn â chladdu'r meirw ddyfod i lawr o'u bywyd Pabyddol. Hyd yn gymharol ddiweddar, bu Yr Wylnos'-gwylio'r marw noson cyn y claddu—yn boblogaidd trwy bob rhan o'r wlad, ac anodd meddwl amdani heb feddwl hefyd am Wake y Pabyddion. Yr oedd peth o ddelw'r Wake ar yr Wylnos, eithr ni pherthynai iddi'r difyrrwch ysgafn a oedd ynglŷn â'r Wake. Gŵyl gwbl grefyddol oedd yr Wylnos y gwybûm i amdani.

Yn fy nyddiau bore i ni chleddid neb, bach na mawr, heb wylnos iddo. Prynhawn y dydd cyn y claddu, ceid te yn y tŷ galar yn gyfle i gyfeillion dalu'r pwyth yn ôl' trwy adael darn o arian ar y bwrdd. Yn gyffredin gwragedd a fyddai yn y te, ac ni welid yno neb oni byddai arni 'bwyth.' Yna am saith o'r gloch dechreuai'r Wylnos. Arweiniai'r gweinidog a galw ar bersonau cymwys i weddïo. Cenid emynau angladdol, ac weithiau llefarai'r gweinidog yntau air o gysur wrth y galarwyr. Ar y terfyn dynesai'r mwyafrif at yr arch, ac edrych ar wyneb y marw. Nid oedd hyn yn rhan bendant o'r cyfarfod, ond yr oedd ei esgeuluso yn peri tramgwydd, mwy na pheidio, i rai o'r perthynasau. Yr oedd diben yr Wylnos ar y dechrau yn un gwir deilwng, sef cysuro a nerthu'r galarwyr, a rhybuddio'r gweddill; eithr collodd ei phrif ddiben ac aed i edrych arni fel math o wrogaeth i'r sawl a gleddid. Pan fu farw fy mam, awgrymais i'm chwaer hynaf mai gwell fyddai peidio â chael Gwylnos. "Peidio â chael Gwylnos?" meddai. " A wyt ti yn llai dy barch i mam nag ydi pobl eraill i'w perthynasau? Peidio â chael Gwylnos yn wir!!" Erbyn hyn y mae'r Wylnos hithau wedi marw.

Efallai nad yw sawyr Pabyddiaeth yn drymach ar ddim yn ein bywyd cyhoeddus nag ar yr hyn a elwir yn "Offrwm i'r Marw." Bu'r arfer hon mewn bri trwy'r wlad am gannoedd o flynyddoedd wedi iddi, trwy orchymyn brenin Lloegr, beidio â bod yn Babyddol o ran ei chrefydd. Cyn belled ag y gwyddom, nid yw'r ddefod ar arfer yn awr ond mewn rhannau o Ogledd Cymru. Diben gwreiddiol yr 'offrwm' ydoedd cydnabyddiaeth neu dâl i'r offeiriad am weddïo dros enaid y sawl a oedd newydd fyned i'r Purdan. Yna yn raddol daeth y Protestaniaid i'w ystyried yn dâl i'r offeiriad a'r clochydd am eu gwasanaeth yn y claddu.

Fel hyn y gweithredid. Ar derfyn y gwasanaeth yn yr eglwys, dynesai'r perthynasau, a'r galarwyr eraill yn dilyn, at yr allor, a rhoddi mewn blwch ddarn o arian neu bres. Ar lan y bedd, ar ôl taflu iddo ychydig bridd, daliai'r clochydd ei raw, a rhoddai pob un ei gyfran arni yn dâl am dorri'r bedd. Cyhoeddid yn yr eglwys ac yn y fynwent y symiau a dderbyniasid, a diolchid i'r cyfranwyr.

Ym mis Mawrth, 1937, cefais gan Mr. David F. Jones, Llanrhaeadr, hanes y ddefod fel y gweinyddir hi yn bresennol yn ei ardal ef. "Yr arferiad yn yr eglwys blwyf yw rhoi'r blwch casglu ar yr allor, ac ar derfyn y gwasanaeth i bawb a ddymuna offrymu fyned "in single file" a chyflwyno'i rodd. Y teulu yn ddieithriad a offryma gyntaf, a'r gynulleidfa yn dilyn. Hyd yn gymharol ddiweddar, ar derfyn yr offrymu yn yr eglwys, âi'r clochydd at yr allor i gyfrif swm yr offrwm, a dywedyd yn debyg i hyn, 'Swm yr offrwm yw £3 10s 6c. Diolch i bawb.' Yn fuan wedi ei ddyfod i Lanrhaeadr, rhoddodd y Ficer presennol derfyn ar y cyhoeddi am na farnai ef yn weddus. Ar derfyn y gwasanaeth yn y fynwent offrymir i'r clochydd, pryd y deil flwch (nid rhaw) i dderbyn yr offrwm at draul torri'r bedd. Ni ddefnyddir y rhaw yma, ond gwn fod y dull hwnnw yn bod yn Hirnant, Llanarmon M.M., Pennant Melangell, Penybont Fawr, Llangadwaladr, Llansilin a Llangedwyn."

BEDYDDIO AR YR ARCH. Dywaid y Western Mail, Mai 25, 1937, fod bedyddio baban ar arch ei fam yn un o ddefodau Cymru yn yr oesoedd canol, a bod traddodiad mai felly y bedyddiwyd Dafydd ap Gwilym pan fu farw Ardudfyl ei fam.

Nid yw hon yn arfer gyffredin iawn, ond ceir hi yma a thraw trwy Gymru. Gwelais gyflawni'r ddefod yn Aberpennar (Mountain Ash), Morgannwg, tua hanner can mlynedd yn ôl. Buasai farw priod ieuanc Morgan Morgans, a oedd yn gyfaill imi, a dydd y claddu daethpwyd â'r arch i'r ffordd gyferbyn â drws y tŷ. Rhoddwyd y baban wythnos oed ym mreichiau'r Parchedig J. E. Roberts, gweinidog y Wesleaid, a bedyddiodd yntau hi â dŵr o gawg a oedd ar gaead arch y fam. Gwelais hefyd gyhoeddi yn y South Wales Daily News, Medi 2, 1911, hanes cyffelyb o Abertawe. Buasai farw hen wraig, ac yn ôl ei dymuniad, bedyddiwyd ei hwyres fach ar ei harch. Ceir hefyd enghreifftiau o'r arfer yng Ngogledd Cymru. "Ym mis Rhagfyr 1861, bu farw Maria Bellis, Llygain Uchaf, gerllaw yr Wyddgrug. Dydd ei chladdedigaeth daethpwyd â'r arch o'r tŷ a'i gosod ar ddwy gadair, a bedyddiodd y Parchedig William Pierce, Methodus Calfinaidd, ei baban a oedd yn ymyl deuddeg mis oed â dŵr o fasn a oedd ar yr arch."[3]

ARFERION DIWEDD A DECHRAU BLWYDDYN. Hen arfer ddiddrwg a diddan ydoedd Gweithio Cyflaith nos cyn y Nadolig. Cyfarfyddai amryw fechgyn a merched dipyn yn hwyr ar y nos mewn tŷ penodedig. Wedi i bawb gyrraedd a chael ynghyd y defnyddiau angenrheidiol, rhoddid ar y tân grochan o faint cymedrol ag ynddo swm da o driagl du a siwgr, ac ar ddechrau'r berwi byddai'n rhaid ei droi â llwy bwrpasol, a chadw'r cyffro yn ddiatal i ochel blas llosg. Fel yr âi'r berwi ymlaen, safai un gerllaw â chwpan ag ynddo ddŵr oer, a chodi yn awr ac eilwaith ychydig o gynnwys y crochan a'i roddi yn y dŵr. Pan galedai'r trwyth yn y dŵr, yr oedd yn bryd ei dynnu oddi ar y tân. Yna arllwysid ef i ddysgl fawr neu ar lechfaen las a glân wedi ei hiro ag ymenyn. Tra byddai'r defnydd yn dwym tynnid a thylinid ef oni felynai ychydig a bod yn barod i'w rannu. Nid oedd adeg lawenach yn bod na noson gwneuthur cyflaith. Yn ystod y berwi adroddid storïau a chenid hen alawon, a byddai hwyl fawr hyd oriau'r bore.

Hyd o fewn ychydig flynyddoedd yn ôl, cynhelid y Plygain neu'r Pylgain yn rheolaidd yn yr eglwys blwyf, ac weithiau yng nghapelau'r eglwysi eraill. Cyfarfod crefyddol ydoedd, a gynhelid cyn dydd fore'r Nadolig, i'r diben o goffáu dyfod Iesu Grist i'r ddaear. Ceid ynddo lawer o ganu a gweddïo a diolch, a rhyw fath ar bregeth neu anerchiad byr. Yn nyddiau bri'r Plygain yr oedd canu carolau yn rhan hanfodol ohono, eithr ni chlywais i erioed ganu carol mewn na Phlygain nac unman arall. Erbyn fy nyddiau bore i, nid oedd fawr ddim gwahaniaeth rhwng Plygain a chyfarfod gweddi cyffredin. Pan oeddwn yn llanc bûm rai troeon ym Mhlygain Eglwys Llancynfelyn, ond ni ddeuai bendith i ni'r plant, oblegid aem yno o weithio cyflaith â chlyffiau o'r trwyth melys yn ein llogellau, ac ni wnaem fawr mwy yn yr eglwys na bwyta a chysgu. Ni wn am un capel ymneilltuol lle y cynhelir y gwasanaeth yn awr ond capel yr Eglwys Fethodistaidd, Wesleaidd gynt, sydd ar odre hen gastell Carreg Cennen, yn Nyffryn Llwynyronnen, bedair milltir o Landeilo Fawr. Cynhelir y Plygain yno yn gyson ar hyd y blynyddoedd.

Y mae'r hen arfer o Gasglu Calennig mewn cryn fri o hyd. O doriad gwawr hyd ddeuddeg o'r gloch ddydd Calan, ceir y plant yn brysur yn casglu ac yn canu eu mân ganeuon. Ofnaf mai anadl einioes casglu'r oes hon ydyw'r elfen gardota yn unig, eithr gwelir oddi wrth y canu mai angen y tlawd oedd achos y casglu calennig gynt.

Dydd Calan cynta'r flwyddyn, 'Rwy'n dyfod ar eich traws, I 'mofyn am y geiniog, Neu glwt o fara 'chaws.

Mi godais heddiw mas o'm tŷ, A'm cwd a'm pastwn gyda mi, A dyma'm neges ar eich traws, Sef llanw'r cwd â bara' chaws.

Calennig wyf yn 'mofyn, Ddydd Calan, ddechrau'r flwyddyn; A bendith byth fo yn eich tŷ, Os tycia im gael tocyn.

Mae heddiw yn ddydd Calan, I ddyfod ar eich traws, I 'mofyn am y geiniog, Neu glwt o fara' chaws; Dewch at y drws yn serchog, Heb newid dim o'ch gwedd; Cyn daw dydd Calan eto Bydd llawer yn y bedd. [4]

HELA'R DRYW. Bu hela'r dryw mewn bri yn Iwerddon a Manaw a Chernyw yn ogystal ag yng Nghymru. Efallai i'r arfer barhau yn hwy yn Sir Benfro nag mewn un rhan arall o'r wlad. Tybiaf hyn oherwydd imi adnabod hen ŵr gwan ei feddwl yn y sir honno a ddug y ddefod o ddyddiau'i febyd i ddyddiau'i farw yn 1907. Er imi roddi'r hanes eisoes mewn llyfr arall, teimlaf y dylai'r bennod hon ei gynnwys.[5] Ym Mhenfro helid y dryw a'i gludo o ddrws i ddrws wrth gasglu calennig ddyddiau'r Nadolig a'r Calan. Gosodid yr aderyn mewn tŷ bach tua deunaw modfedd o hyd ac wyth o uchder, â dwy ffenestr fach a drws rhyngddynt. Defnydd y tŷ bach ydoedd rhisgl pren derw, a gwisgid ef â rubanau o bob lliw. Ceir Tŷ'r Dryw, a gafwyd o Sir Benfro, yn yr Amgueddfa yng Nghaerdydd. Y mae ym Mhenfro draddodiad bod y dryw yn aderyn pwysig ym mywyd yr hen dderwyddon. I ran y derwydd y disgynnai'r gwaith o benderfynu materion cyfreithiol. Ef a eisteddai mewn barn ar gwerylon a throseddau, ac os amheuid cyfiawnder ei ddedfryd, hysbysai yntau i'r dryw ddatguddio'r gwirionedd iddo, ac yr oedd tystiolaeth y dryw yn safadwy a therfynol. Bob yn ychydig, chwerwodd y werin at y dryw oherwydd tybio mai bradwr ydoedd, ac erlidid ef yn greulon i'w ddifa. O'i ddal, gosodid ef yn y tŷ bach a'i ddwyn o dŷ i dŷ a chanu:

Dryw bach ydy'r gŵr,
Amdano mai 'stẃr;
Mae cwest arno fe
Nos heno 'mhob lle.

Fe ddaliwyd y gwalch
Oedd neithiwr yn falch
Mewn stafell wen deg,
A'i un brawd ar ddeg.


Fe dorrwyd i'r tŵr,
A daliwyd y gŵr;
Fe'i rhoddwyd dan len,
Ar elor fraith wen.

Rubanau o bob lliw
Sydd o gwmpas y dryw;
Rubanau'n dri thro
Sydd arno'n lle to.

Mae'r drywod yn sgant,
Hedasant i bant;
Ond deuant yn ôl
Drwy lwybrau'r hen ddôl.

O meistres fach fwyn,
Gwrandewch ar ein cwyn;
Plant ieuainc ŷm ni,
Gollyngwch ni i'r tŷ,
Agorwch yn gloi,
'Nte dyma ni'n ffoi.[6]


HEN ARFER NORMANAIDD. Mewn lluestai a thyddynnau diarffordd ar y mynyddoedd eang, heb ynddynt na glo, na dim praffach yn tyfu arnynt na llwyni eithin, unig danwydd y trigolion oedd mawn. Tua diwedd Mai a dechrau Mehefin ymunai'r bugeiliaid a'r tyddynwyr i gynorthwyo'i gilydd i ' dorri ' mawn a'u cynhaeafa yn ôl yr hen drefn Normanaidd. Yr oedd y cartrefi filltiroedd o'r priffyrdd, ac ymhell o gyfleusterau tanwydd cyffredin y trefydd a'r pentrefi, a dibynnid yn gwbl ar fawn. Enhuddid y tân â lludw bob nos, a chedwid ef heb ddiffodd am flynyddoedd, ac weithiau am oes teulu.

Parhaodd yr hen arfer ar fynyddoedd Ceredigion hyd oni pheidiodd yr amaethwyr ar y gwastadeddau â chyflogi bugeiliaid i ofalu am eu defaid, ac i'r tirfeddianwyr yrru'r bugeiliaid a'r tyddynwyr i'r mân bentrefi. Clywais ddywedyd bod yr arfer yn fyw eto yn y parthau mynyddig eang sydd rhwng Llanbrynmair ym Maldwyn a Chwm Elan ym Maesyfed.

Nodiadau[golygu]

  1. Y Geninen, Cyf. XXXIII., td. 250. Ysgrif y Parchedig Fred Jones, B.A., B.D.
  2. Welsh Folk-lore, J. Ceredig Davies (1911) td. 21. Cf. " Gwinllan y Bardd," (1906) td. 278-281.
  3. Llyfr- Gen. Cym. Llsgr. 5653
  4. Llyfr. Gen. Cym., Llsgr., 5652.
  5. Yr Hen Gyrnol, Evan Isaac, (1935), td. 26-27.
  6. Cefais y gân hon gan Mr. H. W. Evans, Y.H., F.R.A.S., Solfach, Penfro.