Coelion Cymru/Swynion

Oddi ar Wicidestun
Rheibio a Chonsurio Coelion Cymru

gan Evan Isaac

Hen Arferion

X
SWYNION (CHARMS)

Yn ôl yr ymchwil a wnaed i hanes chwedlau a hen goelion y deyrnas hon, ceir bod eu gwraidd yn ôl ymhell yn y Dwyrain. O'r Dwyrain y daeth inni lawer o'n pethau gorau a salaf. Methu a wnawn o gredu bod elfennau'r coelion yn seiliedig ar syniadau a berthynai yn neilltuol i un bobl neu genedl. Tyfasant o syniadau a oedd yn gyffredin i bobl ar ris isaf gwybodaeth a diwylliant ym mhobman drwy'r byd. Mewn llawer o storïau llên gwerin ceir amryw bethau a ymddengys inni yn amhosibl ac yn chwerthinllyd o wrthun, ond ni ddylid synnu at y pethau hynny, eithr yn hytrach gofio iddynt darddu o gyflwr meddwl a oedd â'r dychymyg yn anhraethol gryfach na'r rheswm. Dywaid Syr George Webbe Dasent mai o'r un ddaear y tyfodd llawer o storïau y wlad hon â rhai holl genhedloedd Ewrop. " Daethom ni, pobl y Gorllewin," meddai, "o'r Dwyrain. Yr ydym o'r un gwreiddyn."[1] Wrth ymdrin â swynion yn y bennod hon rhaid bwrw golwg ar amryw bethau plentynnaidd, a rhai pethau a bair friw i deimlad a rheswm y sawl a fo'n orlednais a mindlws. Purion peth i hwnnw fyddai cofio nad meddwl y Cymro yn unig yw daear eu gwraidd. Dysg Mrs. David-Neel mai rhan fawr o grefft a dyletswydd holl Lamas—offeiriaid neu ddewiniaid—Tibet ydyw defnyddio swynion. Argreffir y rhai hyn ar bapur neu frethyn, a rhoddir neu gwerthir hwy i'r diben o sicrhau iechyd a nerth, i ochel damweiniau, ac i wrthweithio effeithiau ysbrydion drwg ac ysbeilwyr a phowdr gwn.[2]

O sylwi'n fanwl gwelir na fu newid mawr yng nghwrs yr oesoedd mewn ofergoelion. Ceir cannoedd o filoedd ym Mhrydain heddiw sy'n llawn mor ofergoelus â'n hynafiaid. Y mae'n wir nad yw'r sawl a gred yng nghyfaredd pedol ceffyl, ac a'i gesyd ar ddrws ystabl neu ar ddrws cefn ei dŷ, mor hysbys yng nghyfrinion natur y swyn â'i hendaid, a'i defnyddiai i gadw draw ysbrydion drwg, ond defnyddir hi i'r un pwrpas heb wybod paham. Arferir yn awr ddefodau gan filoedd na feddant y gradd lleiaf o wybodaeth am eu cychwyn a'u hanes. Ni wyddant fel yr hen bobl hanes y swynion, ond credant fel hwythau yn eu heffeithiolrwydd. O gyfrif rhagoriaeth i'r naill neu i'r llall, y mae'n amlwg mai'r hynafiaid a'i piau.

Cyn belled ag y gwelaf fi, nid yw pobl yr oes hon fymryn yn llai ofergoelus na phobl canrif yn ôl. Ychydig tros ddeuddeng mlynedd yn ôl, a mi yn trefnu i annerch Cymrodorion Aberafan ar lên gwerin, anfonodd yr ysgrifennydd, a oedd â chanddo radd y Brifysgol, i'm hysbysu nad oedd yno neb ofergoelus. Ond y peth cyntaf a welais pan gyrhaeddais y lle ydoedd procer wedi ei osod ar draws y tân i ffurfio croes, i'r diben o'i achub rhag melltith y diafol. Tua'r un adeg, a mi yn nhref ysgolheigaidd Aberystwyth yn ymweled â gwraig glaf a oedd yn byw yn un o dai mwyaf y Marine Terrace, arweiniwyd fi i ystafell y fam gan y ferch. Holais y claf am ei hiechyd. "O," meddai, "yr wyf gryn lawer yn well." "Mother, mother!" meddai'r ferch mewn dychryn, a chydio mewn clwff o bren oddi ar fwrdd crwn a oedd gerllaw'r gwely, a'i wthio i law denau'r fam. "Beth yw hyn yna da?" gofynnais. "Touch Wood" meddai. Cefais enghraifft dda o le annisgwyl ym Medi 1931. Gwelais weinidog yn myned i'w gyhoeddiad mewn cerbyd modur. Ar drwyn y modur yr oedd wedi ei osod yn ofalus a diogel y creadur bach hyllaf a welais erioed—bod bach crwca ag wyneb epa, a'i gorff afluniaidd o flew melynllwyd tebyg i flew arth oedrannus. "Beth yw diben hwn?" gofynnais. "Mascot" peth i gadw aflwydd draw," meddai'r 'hoelen wyth.' Gŵr Duw â'i ffydd yn nawdd corffyn hanner epa! Na, ni fu newid namyn newid gwrthrychau'r credu. Gwyddai'r barbariaid yn y goedwig achos ac effaith y ddefod o guro pren. Eithr ni wyddai merch ddysgedig a chrefyddol y "Touch Wood" ddim o'r hanes. Felly gŵr y modur yntau. Er hynny, credai'r ddau yng ngallu goruwchddynol y defodau.

Efallai mai'r swynion rhyfeddaf sy'n bod yw'r rheini a gafwyd gan y Consurwyr. Y mae iaith pob un ohonynt yn gymysgfa o Saesneg ac ieithoedd eraill. Ni welais un yn Gymraeg. Ni welais chwaith fwy na dau mewn argraff, ac y mae un o'r ddau yn anghywir. Myn y sawl a gred yn eu cyfaredd mai trysorau i'w cuddio ydynt. Rhoddaf yma rai o'r swynion a gefais mewn llawysgrifau, ond ni cheisiaf drosi'r un i'r Gymraeg. Pwy a ŵyr beth fyddai'r canlyniad o wneuthur hynny?

HELYNT LLANGURIG (MALDWYN). Y mae yng ngallu consurwr rwystro person i daflu hud a melltith ar arall, ac i'r diben hwnnw rhydd un o'i swynion. A mi yn byw yn Llanidloes yn 1910, gofalwn am eglwys sydd rhwng y mynyddoedd tua dwy filltir o gartref y consurwr. Preswyliai yn y pentref hen ŵr a hen wraig, a elwir yma yn L. ac N., rhag peri tramgwydd i berthynasau sydd eto'n fyw. Yr oedd y ddau mewn gwth o oedran— wedi "cyrraedd yr addewid"—pan briodasant ychydig flynyddoedd ynghynt. Trigent yn hapus mewn bwthyn clyd a berthynai i'r hen wraig cyn priodi L. Eithr yn sydyn ymwahanasant a pheri syndod i bawb. Ni ŵyr neb hyd heddiw am un rheswm tros yr ymwahanu, a chredaf na wyddai'r hen bobl eu hunain am reswm; un o droeon anesboniadwy henaint ydoedd. Un nos Fercher, wedi oedfa yn y capel, disgwyliai L. amdanaf ar y ffordd gyferbyn â'r drws. Dechreuodd adrodd ei gŵyn a gofyn am gyfarwyddyd. Cymhellais ef a dau o'r blaenoriaid i'r capel. Yr oedd y ddau flaenor yn amaethwyr o safle da, ac yn rhagori ar bawb yn y plwyf o ran gwybodaeth a barn.

"Y mae'n ddrwg gennyf am eich helynt, Mr L.," meddwn wrth yr hen ŵr. "Pa fodd y bu hi—a gafodd yr hen wraig a chwithau gweryl?" "Naddo," meddai, " ni fu erioed air croes rhyngom. Fel hyn y bu. Nos Fawrth wythnos i'r diwetha', pan ddychwelais i'r tŷ o dro yn y pentre', cefais fy nillad yn becyn ar y bwrdd, a'r wraig yn dweud nad oedd imi lety yno mwyach, a bod yn rhaid imi ymadael ar unwaith. Dyna'r cwbl, ac yn awr darllenwch y llythyr hwn." Darllenais y llythyr, ond ni ddeuai imi ar y pryd fawr ddim synnwyr ohono.

"Ni fedr neb wneud synnwyr o hwn, L.," meddwn.

"Medr, medr, unrhyw 'sglaig," meddai yntau.

"Ym mha le y cawsoch ef?"

"Yn y pecyn dillad."

Edrychais ar y ddau flaenor a gofyn am eglurhad. Atebasant mai llythyr a gafodd yr hen wraig gan y Consurwr ydoedd, i'w roddi i L., a thra byddai'r llythyr ym meddiant yr hen ŵr ni allai byth ddial ar yr hen wraig trwy fwrw melltith arni.

"Yn awr," meddai L., "beth sydd i'w wneud â'r llythyr?"

"Llosger ef," meddwn.

"Dyna'r gair a ddisgwyliwn o'ch genau," meddai, "ond pwy a'i llysg?"

"Llosgwch chwi ef."

"Ddyn byw! Na wnaf er dim a welais, oblegid os dinistriaf ef, fe ddisgyn arnaf bob math o felltithion."

Gofynnais i'r ddau flaenor a losgent hwy ef, eithr ni chafwyd ateb namyn ysgwyd pen. Ni fynnent hwythau mo'r byd am ei ddinistrio gan gymaint eu hofn. Euthum â'r tri i dŷ'r capel, ac wedi gwneuthur copi o'r llythyr, llosgais ef. Ochneidiodd yr hen ŵr L. ochenaid fawr a dywedyd, "Diolch i Dduw am hyn'na." Y mae saith mlynedd ar hugain er y noson honno, ac ni ddisgynnodd arnaf am losgi'r llythyr felltithion gwaeth nag a ddisgyn ar weinidogion yn gyffredin. Wele gopi o'r llythyr.

"In the name of the Father χ and of the Son χ and of the Holy Ghost χ Amen χ and in the name of the Lord Jesus Christ χ my Redeemer χ I give thee protection χ and will give relief to thy creatures χ thy cows χ calves χ horses χ sheep χ pigs χ and from all creatures that alive be in thy possession χ from all witchraft and from all other assaults of Satan Amen χχχ

Trwy gynhorthwy caredig Mr. Gildas Tibbott, M.A., un o swyddogion y Llyfrgell Genedlaethol, codais y swynion a ganlyn o hen Lawysgrifau.

i. Swyn a gafwyd yng Nglynceiriog.[3]

Bernir ei wneuthur tua 1800.

"I who am the servt of the Highest do by virtue of his Holy name Immanuel sanctify unto myself the circumferance of One mile round about me χχχ from the east Glanrah from the west Garran from the north Caban from the South Berith which ground I take for my proper defence from all malignant spirits witchcraft & inchantments that they may have no power over my soul or body nor come byond these limitations nor dare to transgress their bounds Warrh, warrah hare at Qambalan χχχ.

Nodyn. Mr. C. B. C. Storey a roes y swyn uchod yn anrheg i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Medi, 1930. Dywaid ef, "On the partial demolition of Gelli Bach, Glyn Ceiriog, the paper of which the above is a transcript, was found inside a child's stocking, made into a long mitten, wrapped in a piece of printed material, and placed under the main beam of this old farm house, which has been disused for over fifty years."

ii. Swyn o Feirionnydd.

Dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

"In the name of the Father and of the Son and of the Holy Ghost Amen χχχ and in the name of the Lord Jesus Christ thy redeemer and Saviour he will deliver Thomas Thomas & his family & every living Creatur under his possession on his farm big & small from witchcraft & from all evil diseases whatsoever Amen χχχ Gasper fert Myrrham, thus Melchor balthasar auraum .... nomine regum Salvatur amarbo Christ pieate (Caduco) Amen χχχ . . . Amatharan (dicunt) pasetes Sarah a Indus arti Tabalis Amen χχχ Eructavit Carmeaum . . .(Cum) Carrum dicam cuncta opera mea regi domine labia mea averies . . . (av) oe . . malam anuntalicet veritatur cantere . . . inigeni rei . . . maliena Subseritatur O lord Jesus Christ . . . Salvatus he hereth the preserver of Thomas Thomas his stoch big and smafl Cattle that is on his farm from all Witchcraft & from all Evil men & Women or Spirits or Wizerds or hardness of hart Amen χχχ & this I trust in the lord Jesus Christ thy redeemer & Saviour from all Witchcraft & this ye trust in jesus Christ to releive Thomas Thomas his Cattle Horses Sheep pigs poultry Every creatur on the farm from all

—————————————

—————————————

Witchcraft by the Same apower as he ded Cause the blind to see the lame to walk & the dum to talk & that thou findest with unclean as ( . . ) aran Amen χχχ the witch compased them about but in the name of the lord he will Destroy them pater pater pater noster noster noster ave ave ave maria creed caro . . . χ on χ adonay χ tetrogrammaton & in the name of the holi trinity & of . . it preserve all the Stock of the bearer from all that wrath."[4]

'iii. O Lanerfyl, Sir Drefaldwyn

Swyn Saesneg a gafwyd yn Sir Drefaldwyn yw hwn, ac yn perthyn i ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafwyd hwn ac un arall wedi eu rholio ynghyd mewn potel fechan a oedd wedi ei chorcio a'i selio. Rhaid fu torri'r botel i'r diben o'u dadrolio. Pan agorwyd y swyn hwn, yr oedd wedi pylu gan leithder. Darllen fel hyn:

"O Lord Jesus Christ I beseech thee to preserve me Edward Jones my horses cows calves pigs sheeps and Every living creatures that I possess from the power of all Evil men women Spirits or wizards or hardness of heart and this I will trust thou will do by the same power as thou didst cause the blind to see the lame to walk and they that were possessed with Unclean Spirits to be in their own Minds Amen.

χχχ Pater Pater Pater Noster Noster Noster Ave Ave Ave Maries χ Jesus χ Christus χ Messyas χ

Emmanuel χ Soter χ Sabaoth χ Elohim χ on χ Adonay χ Tetragrammaton χ Agla χ Unigenius χ Majestas χ Paracletus χ Salvator χ Noster Agnosyskyros χ adonatus χ Jasper χ Melchor χ Balthasar χ Matheus χ Marcus χ Lucas χ Johamas (sic) Amen χχχ and by the power of our Lord Jesus Christ and his Hevenly angels being our Redeemer and Saviour from all Witchcraft and from assaults of the devil Amen. Gabriel [hieroglyphics] Michael [hieroglyphics] In the name of God [Amen. This is] a fight against the wiles of the [Devil] χχχP

Ychwanega'r Parchedig T. W. James, Rheithor Llanerfyl, y nodyn a ganlyn: "Mrs. Mary Jones of Rhosgall, in this parish, died the other day and her executor asked me if I would help him to go through her papers. In one of her private drawers we found a small round bottle, about the length and thickness of my finger. It was corked and sealed. We saw that it contained two rolls of paper. Had to break the bottle.

William Jones (mentioned in the Charm) was the husband of Mary Jones. He lived at Rhosgall, and died in his 71 year, in 1890."[5]

iv. Pont-ar-Fynachy neu Pont-y-gwr-drwg Ceredigion.

Cafwyd y Swyn hwn mewn hen ffermdy o'r enw Gwarthrhos, yn ardal Pont-ar-Fynach, gan y Parchedig E. M. Davies, ficer Llandysul, Sir Aberteifi, pan oedd ef yn gurad Eglwysnewydd, ac anfonodd ef i'r Llyfrgell Genedlaethol yn 1926.

"In the name of the Father and of the Son and the Holy gost Amen χχχ and in the name of the Lord Jesus Christ the redeemer and saviour he will relieve Richard Davies Gwarrhas his mare that is bad now from all witchcraft and all evil diseases Amen χχχ Gasper fert myrrham thus melchior balthasar auraum nomine Christi qui regum salvatur amarbo a Christ . . . caduco Amen χχχ . . .Amathuram dicunt pasitis Sarah adversus arti Tabalis Amen χχχ Eructavit Carmaaum in noctium vanum dicam cuncta opera mea regi Amen labis mea pones audas meum anuntiabit vertatem cum trebracnia iniquret lingua malingua subvertatur a Lord Jesus Christ lannan in salvatur he hereth the preserver of Richard Davies Gwar Rnais his mare that is bad now from all witchcraft and evil men or women or spirits or wizards or hardness of hart Amen χχχ and this I will trust in the Lord Jesus Christ thy redeemer and saviour from witchcraft Amen χχχ and this I trust in Jesus Christ my redeemer and saviour he will relive Richard Davies Gwar Rnais his mare that is bad now from all witchcraft by the same power as he did cause the blind to see the lame to walk and the dum to talk and that thou findest with unclean spirits . . . aran amen χχχ the witch compased them about but the Lord will destroy them all pater pater pater master master master

{{Quote|

ave ave ave maria creed . . . χ an χ adony χ tetragammaton amen χχχ and in the name of the holy trinity and of . . . it preserve all above named from all evil diseases whatsoever Amen χ;."[6]

CWPAN SANTAIDD NANTEOS. Perthyn i'r phiol hwn rinwedd cyfareddol a'i gesyd yn nosbarth y Swynion. Ni chlywais y credwyd gan neb yn ei allu i gadw draw ysbrydion drwg, gweledig nac anweledig, ond credid yn lled gyffredinol ar hyd yr oesoedd yn ei effeithiolrwydd i edfryd iechyd corff a meddwl.

Y mae'r Cwpan o bren tywyll—bron a bod yn ddu—a thybir ei wneuthur o bren Croes yr Arglwydd Iesu. Daw'r hanes cyntaf amdano o Fynachlog Ystrad Fflur; yno y trysorid ac y defnyddid ef fel crair santaidd gan y mynaich. Saif y Fynachlog ar ran o ystâd Tregaron. Pan ddinistriwyd hi gan Harri VIII, rhoddwyd hi a'r tir a berthynai iddi i ryw Ddug o Arabia a ddaeth i'r wlad o Balestina. Oddi wrtho ef aeth i feddiant un o'r enw Steadman, ac yna i Boweliaid Nanteos, y sydd gerllaw Aberystwyth.

Credid yn lled gyffredin unwaith mai o'r Cwpan hwn yr yfodd yr Arglwydd Iesu yn y Swper Olaf, ac mai ef ydoedd nod ymchwil fawr Marchogion Arthur. Hyd o fewn ychydig flynyddoedd yn ôl arferai cleifion o bob rhan o'r deyrnas, ac weithiau o Ewrop, geisio bendith y Cwpan.

Y mae'r phiol, sydd wedi ei amharu trwy draul

—————————————

—————————————

a cham, yn Nanteos o hyd, a dywaid Mr. Ceredig Davies i Mrs. Powell ddangos iddo, yn 1911, lythyr a dderbyniasai yn ddiweddar oddi wrth foneddiges bendefigaidd yn Ffrainc yn erfyn arni anfon cadach wedi ei rwymo am y Cwpan am bedair awr ar hugain.[7]

TOUCH WOOD. A barnu oddi wrth fynyched yr arferir y swyn hwn yn nosbarthiadau uchaf a chanol cymdeithas, y mae'n rhaid bod ei rinwedd yn anarferol fawr. Ei bwrpas ydyw gochel pob math ar aflwydd. Gwnaed sylw eisoes o'r foneddiges yn Aberystwyth a wthiai glwff o bren i law ei mam glaf, ac na wyddai paham y gwthiai bren yn hytrach na rhywbeth arall. Mewn llawysgrif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ceir hanes milwr o Ganada yng ngwersyll Kinmel yn 1919, â pheg bach dillad yn ei logell. Cariodd ef drwy'r Rhyfel Mawr i bwrpas "Touch Wood."[8]

Y mae hanes y ddefod fel hyn. Ymhell bell yn ôl ym more'r oesoedd, credai anwariaid fod eu duwiau ac ysbrydion goruwchnaturiol eraill yn eiddigeddus o bob llwyddiant a mwyniant dynol, ac y drygent y sawl a amlygai lawenydd. Felly, gwnâi pawb a fedrent i guddio dedwyddwch a llonder rhag y bodau hyn. Mewn cabanau coed y preswyliai'r trigolion, a phan ddawnsient a llawenhau, curent barwydydd y caban i foddi sŵn eu miri.[9]

LLADD YR ECO. Yn 1936, ysgrifennodd Mr. Peter Lewis lythyr i'r " Western Mail " ynglŷn â darganfod pedwar pen ceffyl a gafwyd tan seiliau hen ffermdy yn Sir Drefaldwyn. Yn fuan wedyn ysgrifennodd y llenor a'r hynafiaethydd Mr. H. W. Evans, Y.H., Solfach, Sir Benfro, i egluro ddarfod i'r Methodistiaid Calfinaidd adeiladu capel yn nhreflan Caerfarchell, gerllaw Tyddewi, yn 1763, a chael bod ynddo eco a wnâi addoli yn anodd. Felly, yn 1827, aed ati i adeiladu capel arall ar dir y cyntaf, a phenderfynu ' lladd yr eco' trwy osod pennau ceffylau yn ei sylfeini. Penodwyd yr hen Willie Lewis, morwr, ac aelod ffyddlon o'r eglwys, i chwilio am ddau ben ceffyl. Yn ffodus cafodd yntau bedwar. Claddwyd hwy yn y sylfeini, ac yno y maent heddiw. Ni ddywaid Mr. Evans beth a ddaeth o'r eco.

RHINWEDD PEDOL CEFFYL FEL SWYN. Hoelir pedolau ceffylau ar ddrysau tai, ac yn arbennig ar ddrysau ystablau a beudai, i atal dialedd cythraul a melltith rheibes. Efallai nad oes gan y mwyafrif o'r rhai a gred yn awr mewn hen bedolau gwrthodedig gan geffylau, ddim gwell yn sail i'w cred na syniad annelwig y parant iddynt ffawd dda. Eithr ymhellach yn ôl edrychid arnynt fel amddiffyn effeithiol rhag ysbrydion drwg a swyngyfaredd, ac yn ôl wedyn—yn y tarddiad—yr oedd gosod y bedol ar ddrws yn weithred o ddefosiwn crefyddol. Gwisgai'r dduwies Aifftaidd Isis benwisg ar ffurf pedol ceffyl, ac o'r Aifft y cychwynnodd y ddefod, a chyrraedd gwahanol wledydd y byd. Yr un pwrpas sydd i'r bedol ym mhob rhan o'r ddaear.[10]

Pren Criafol. Ystyrid yn yr hen oesoedd fod rhyw gyfaredd gysegredig yn y pren hwn. Y mae ei nodweddion yn amryw a gwerthfawr. Nid yw'n hawdd ei ddifa. Y mae'n farwol i bryf coed. Ni thrig ellyll neu ysbryd drwg ar ei gyfyl. Ofna rheibesau ef, a gwna'n ddieffaith holl gynllwynion y Tylwyth Teg. Y mae'n drech na phob swyngyfaredd, ac ni ddaw niwed i'r sawl a geidw frigyn ohono ar ei berson. Credid gynt mai o'r pren hwn y gwnaed y Groes, ac mai hyn a barai i'w ffrwyth fod fel defnynnau gwaed. Peth cyffredin yw gweled hen bren criafol unig gerllaw murddun sy'n furddun ers cenedlaethau, a hawdd yw taro arno yng ngerddi tai diarffordd a hen bentrefi bychain trwy'r wlad. Nid af i ardd fy llety heb orfod plygu tan ddau bren criafol a dyf ar ffurf bwa, a gwelaf ar un edrychiad brennau o'r un math mewn tair o erddi eraill. Methais â chael gan y pentrefwyr reswm tros goleddu'r pren, ond yn unig mai " peth lwcus yw pren criafol."

ATAL GWAED O ARCHOLL A SWYNO DAFADENNAU. Ceir drwy Gymru, yma a thraw, bersonau â'r ddawn ddieithr ac anesboniadwy i atal gwaed a symud y mân ddefaid a dyf ar y corff heb ddefnyddio unrhyw foddion gweledig. Yn Llwyn Adda, ffermdy bychan rhwng y Borth a Thal-y-bont, Ceredigion, preswyliai hen wraig barchus o'r enw Mrs. Morgan. Bu farw tua dwy flynedd yn ôl, ac ym marn miloedd bu ei cholli yn golled fawr. Heblaw bod yn fedrus ar y gwaith o dorri clefyd y galon, gallai atal gwaed o archoll pryd y mynnai. Dywaid Mr. Isaac Edwards, Tre’r-ddôl, wrthyf, iddo ef pan oedd yn was yn Nhŷ Hen, Henllys, bymtheng mlynedd yn ôl, ymweled â'r hen wraig. A gŵr Tŷ Hen yn gweithio rhyw beiriant ar y fferm, trawyd ef ar ei ben gan ryw gymal o'r peiriant, a llifai'r gwaed fel pistyll. Er pob dyfais ac ymdrech methid ei atal. "Da thi, 'ngwas i, rhed am dy fywyd i Lwyn Adda," meddai'r wraig. I ffwrdd â'r gwas ac egluro'n frawychus i'r hen wraig. " Paid â gwylltio dim 'machgen i," meddai hithau. "Dos yn dy ôl, ac fe fydd popeth yn iawn." Dychwelodd Isaac Edwards a chael, er ei syndod, i'r gwaed beidio â rhedeg y munudau y llefarai'r hen wraig wrtho.

Yn y flwyddyn 1920 neu 1921, bu farw ym Mlaen Brwyno, Ceredigion, ŵr a oedd yn nodedig am y ddawn i atal gwaed o archoll a thynnu tân o losg. Mwynwr ydoedd o ran crefft, ac yn ddyn deallus a gwylaidd, llariaidd a defosiynol, yn flaenor yn ei eglwys ac yn arweinydd y gân yn y gwasanaeth. Syniai'r ardalwyr yn uchel am ei alluoedd, a pharchai pawb ef ar gyfrif ei gymeriad. Y mae mab iddo yn byw yn awr ar y mynydd rhwng Cwm Rheidol a Phumlumon, ac y mae dawn y tad, heb ei hamharu ddim, yn eiddo iddo. Ar fy nghais ymwelodd yr Henadur John Morgan, Y.H., â'r mab a chael ganddo lawer o wybodaeth am ei grefft gyfrin. Ond yr oedd fy ngohebydd yn adnabod y tad, a myn roddi yn gyntaf enghraifft o'i fedr ef i atal gwaed o glwyf.

"Yng ngwaith mwyn Pen Rhiw, Ystumtuen, digwyddodd i Mr. Richard Jones, sydd eto'n fyw, ddamwain lled ddifrifol, a methid er pob dyfais ag atal y gwaedu. Ar ben y siafft gweithiai hen ŵr Blaen Brwyno, a galwyd ef i lawr i'r pwll. Tynnodd yntau ei law tros y clwyfau, heb eu cyffwrdd, ac ataliwyd y gwaed ar unwaith." Pan ymwelodd fy nghyfaill â'r mab, cafodd ganddo ei dystiolaeth i'w allu di-feth, yn rhinwedd ei ddawn ddieithr, i atal gwaed o glwyf, tynnu tân o losg, a gwella clefyd y galon. Gwna'r pethau hyn oll heb gymorth unrhyw foddion gweledig, ac ni phroffesa fod yn ei waith ddim goruwchddynol. Cafodd y "gyfrinach" gan ei dad, a hwnnw gan ei dad yntau, a thybia ef ei bod yn y teulu ers cenedlaethau. Cred hefyd na all mwy nag un yn y teulu feddiannu'r ddawn ar yr un adeg. Cafodd yr Henadur ganddo enwau amryw bersonau a fu tan ei law ac a lesolwyd, ac ymwelodd â rhai ohonynt a'u holi, a chael a ganlyn:

"Ychydig flynyddoedd yn ôl yr oedd yn byw heb fod nepell oddi yma ferch ieuanc, sydd yn briod i weinidog yn awr, a gafodd drwy ddamwain anaf drwg iawn ar ei llaw. Llifai'r gwaed fel ffrwd, a methid â'i atal. Yn ffodus gweithiai'r Swynwr ar y pryd yn agos i'w chartref, a galwyd arno. Yntau, â'i law noeth, a ataliodd y gwaed mewn eiliad."

"Dyma dystiolaeth a gefais yr wythnos hon (sef yr olaf yn Chwefror, 1937) gan heddgeidwad. Wrth iddo drin ei fodur taniodd y petrol a llosgi ei ddwylo. Yr oedd y llosg cynddrwg fel y cododd croen y ddwy law, a'r boen yn arteithiol. Anfonwyd am y Swynwr. Daeth yntau a gweithredu, a diflannodd y boen yn llwyr ac ar unwaith."

Gofala fy nghyfaill egluro nad oes ganddo fawr o ffydd yng nghoelion cyffredin y werin, eithr dywaid hefyd weled ohono rai pethau o waith y Swynwr hwn sy'n gwbl anesboniadwy iddo ef. Ac meddai:

"Yr oedd ŵyr bach imi, tua phedair oed, wedi ysgaldio rhannau o'i gorff yn ddrwg iawn. Aethai'r boen bron yn annioddefol, ac wylai'r bychan yn dorcalonnus. Anfonwyd am y Swynwr. Gwyliais ef yn fanwl yn gweithredu. Cododd y plentyn i'w liniau, a thynnu ei law tros y rhannau llosgedig, eithr ni chyffyrddodd â hwy. Yr oedd tawelwch dwys yn y tŷ, ac ni ddywedodd yntau un gair. Cyn pen ychydig eiliadau yr oedd y plentyn yn chwerthin yn ei wyneb, ac wedyn yn chwarae fel cynt. Swynodd y dyn y tân a rhoddi cynghorion gwerthfawr ynglŷn â gwella'r clwyfau."

CLEFYD Y GALON, NEU CLWY'R EDAU WLÂN. Perthyn i ddosbarth y Swynwyr y mae Torrwr Clefyd y Galon yntau. Prif nodweddion y clefyd ydyw pwysau trwm yn y fynwes, yn gwneuthur anadlu yn anodd ar adegau, musgrellni yn yr holl gorff, a phruddglwyf dwfn yn peri bod byw yn beth diflas a diamcan. Pan fo'r clefyd ar ei eithaf bydd lliw'r croen yn byglyd, a gwyn y llygaid yn troi'n felynllwyd. Teimla'r claf ar y pryd nad yw bywyd yn werth ei fyw, ac weithiau peidia â byw, o'i fodd, a thrwy ei law ei hun. Nid yw'r pethau hyn oll namyn nodweddion. Y mae'r drwg yn y galon —calon tan faich siom a dolur. Cred llawer nad oes feddyg proffesedig yn bod, pa faint bynnag fo'i wybodaeth a'i brofiad, a fedr gyffwrdd â'r clwyf hwn, ac eir yn ddiymdroi at berson â chanddo ryw ddawn gyfrin a'i cymhwysa i "dorri clefyd y galon."

Prif offeryn y " Torrwr " ydyw edau wlân, ac fel hyn y gweithreda yn y bröydd y bûm i byw ynddynt:—Mesur yr edau o'r penelin i flaen bys canol y llaw, a mesur deirgwaith, ac os ymestyn a wna'r edau y trydydd tro, bydd hynny yn brawf sicr fod y " clefyd " yn ddrwg ar y claf, eithr os byrhau a wna'r edau y trydydd tro, gwelir mai afiechyd arall sydd ar y claf. Pan geir prawf o ' glefyd y galon,' rhwymir yr edau am fraich y dioddefydd, a'i gadw yno hyd oni chaiff wellhad. Wrth gwrs, rhoddir moddion i'w yfed, ond bydd hynny i'r diben o brysuro'r gwellhad. Mesur yr edau sy'n " torri"'r clefyd. Y moddion y clywais i ddiwethaf ei roddi i'r claf ydoedd, gwerth tair ceiniog o saffrwm mewn gwerth swllt o frandi. Dywedai'r claf, a oedd yn iach ar y pryd, y buaswn yn synnu cyn lleied o frandi a geir am swllt yn y dyddiau hyn, ond er lleied ydoedd, iddo fod yn gymorth effeithiol i brysuro'i adferiad ef.

Deallaf yr amrywia'r swynwyr o ran y modd o weithredu, ond defnyddia pob un yr edau wlân a'r saffrwm. Rhydd yr Athro Gwynn Jones hanes y ddefod a gafwyd oddi wrth un sy'n arfer y feddyginiaeth yn awr yn Sir Drefaldwyn. " Mesurir yr edau dair gwaith o'r penelin i'r mynegfys a'r bys canol. Tra gwneir hyn llefara'r Torrwr yn anghlywadwy y geiriau, 'yn enw'r Tad, a'r Mab a'r Ysbryd Glan, yr wyf yn gofyn beth sydd arnaf fi. Hwn a Hwn (enw'r dyn sâl), yr hwn wyf hyn a hyn o oedran.' Yna rhwymir yr edau am arddwrn neu figwrn y dioddefydd. Ymhen wythnos mesurir yr edau eilwaith, ac os ymestyn, bydd y clefyd yn well, eithr os byrhau a wna, bydd yn gwaethygu. Rhoddir darn o ddur, hanner pwys, wedi ei boethi oni fo'n goch, mewn cwpanaid o gwrw a'i adael ynddo. Yna rhoir gwerth chwe cheiniog o saffrwm mewn dŵr berwedig, a'i gymysgu â'r cwrw. Cymerir llond llwy fwrdd o'r moddion bob dydd am bum niwrnod, ac ar ôl hynny llond llwy fwrdd a hanner bob dydd. Os bydd y clefyd yn ddrwg iawn ac yn effeithio ar yr iau, dylid yfed llond cwpan wy o'r trwyth."[11]

Dywaid yr Athro T. Gwynn Jones iddo olrhain y ddefod hon yn siroedd Aberteifi, Trefaldwyn, Dinbych a Morgannwg. Clywodd ei bod hefyd yng Nghaernarfon.[12] Rhydd y Parchedig Elias Owen yntau enghreifftiau o'r goel yn Llanwnnog, Sir Drefaldwyn, Rhiwabon, Sir Ddinbych, ac amryw fannau eraill yng Ngogledd Cymru.[13]

Gwn hanes wyth a oedd yn fawr eu clod fel meddygon clefyd y galon, ac adnabûm yn dda bedwar ohonynt. Yr oedd Mrs. Morgan, Llwyn Adda, ymhlith yr enwocaf. Eglurwyd eisoes ei medr i atal gwaed, eithr nid oedd fymryn yn llai medrus yng nghrefft yr edau wlân. Nid oedd odid ddydd o'r flwyddyn na châi hi ymwelwyr. Deuent ati o leoedd agos a phell yng Nghymru, ac yn aml o Loegr hefyd, a dywaid un a'i hadnabu am flynyddoedd y cred ef y derbyniai oddi wrth ei chrefft lawn cymaint ag a dderbyniai llawer meddyg gwlad. Clywais gan Mr. Isaac Edwards, Tre’r-ddôl, iddo ef ymweled â hi tua phedair blyncdd ar ddeg yn ôl, ar ran merch y fferm y digwyddai fod yn was ynddi ar y pryd. Gwnaeth y wraig ei gwaith a rhoddi cyfarwyddiadau ynglŷn ag ymborth. Pan ofynnodd Edwards pa faint oedd y tâl, " Wel," meddai hi, "fydda'i yn gofyn dim, ond gadael ar onor pobol. Pan fydd un yn rhoi rhywbeth, rhaid iddo fod yn ddarn arian, ac er gwneud y driniaeth yn llwyr effeithiol, gore po fwyaf fydd y darn."

Un arall a wnaeth gymwynasau lawer yn rhinwedd dawn yr edau wlân ydoedd Mr. David Jenkins, Caerhedyn, ar ochr Trefaldwyn i bont Llyfnant, ac a symudodd rai blynyddoedd cyn terfyn ei oes i fyw i Eglwysfach. Amaethwr cefnog a mawr ei ddylanwad a'i barch oedd Mr. Jenkins, ac ni chlywais erioed amau ei gywirdeb ynglŷn â phawb a phopeth. Pregethai'n gymeradwy fel pregethwr cynorthwyol yn y cyfundeb Wesleaidd, a chlywais ef ddegau o weithiau yng nghapel fy hen gartref. Torrodd David Jenkins glefyd y galon ar ugeiniau, onid cannoedd, ac ni dderbyniai dâl gan na thlawd na chyfoethog. Mor anodd yw dywedyd nad oes dim yn y peth, neu mai twyll yw'r cwbl, wrth feddwl am berson o safle a chymeriad Mr. David Jenkins yn credu ynddo, ac yn ei arfer!

Ychydig cyn ei farw ym mis olaf 1936, derbyniais oddi wrth Mr. James Lewis, Aberystwyth, gynt o Gorris, yr hanes a ganlyn:

"Yn 1900, yr oedd Robert Thomas (Robin Bach), Corris Uchaf, a John Evans, Esgairgeiliog, yn gweithio yn ymyl ei gilydd yn chwarel y Tyno. Un bore ar enau'r lefel, holodd John Robin am iechyd ei wraig a oedd yn sâl ers tro. ' Wel, drwg iawn,' meddai Robin, ' ac yr wyf am fynd i Esgairgeiliog heno i weled Mari Lewys. Rwy'n ofni bod clefyd y galon arni.' Gwyddai John Evans y byddai mynd heibio i'r ddwy dafarn a oedd ar y ffordd yn ormod temtasiwn i Robin, ac addawodd alw efo Mari ar ei ran—galw am bedwar o'r gloch. Ond anghofiodd John ei addewid nes oedd hi'n naw o'r gloch. Aeth Mari drwy'r defodau arferol a chael bod gwraig Robin yn ddrwg iawn, ond y deuai yn well. Cafodd John yr edau, a thalodd ddarn arian i Mari. Bore trannoeth wrth enau'r lefel, cyn i neb yngan gair, meddai Robin, 'Chadwasoch chi mo'ch gair ddoe, John Evans.' Pwy ddywedodd? Wel, 'meddai Robin,' yr oeddwn i wrth erchwyn gwely'r wraig am naw o'r gloch neithiwr, ac meddai hi, 'Rŵan y mae John Evans efo Mari Lewys.'" Cafodd priod Robert Thomas y trechaf ar y clefyd, meddai Mr. James Lewis, ac yr oedd ef yn gweithio yn y Tyno ar y pryd. Cefais gan gyfaill arall o Aberystwyth hanes sydd â rhai o'i nodweddion yn debyg i eiddo'r uchod.

Gellid yn hawdd ychwanegu enghreifftiau, eithr ni roddaf ond un, a honno yn un ddiweddar, i brofi bod y gred yng nghlefyd y galon, ac yng ngallu personau arbennig i'w dorri, mewn bri o hyd. Ym mis Mehefin, 1929, cefais ymgom â dyn a breswyliai yn un o bentrefi gogledd Ceredigion a fuasai'n glaf iawn. Teimlasai ryw bwysau mawr yn ei fynwes a llesgedd trwy ei holl gorff. " Diffyg traul," meddwn. " Nage, nage, 'machgen i; nid peth cyffredin felly, ond peth canmil gwaeth—clefyd y galon." Ymgynghorodd â pherson yn y pentref a fedr dorri'r clefyd, a chafodd gwbl iachâd. Y mae'r sawl a dorrodd y clefyd eto'n fyw, a phan fo galw, yn arfer ei dawn.

MÂN SWYNION. Priodolid rhinwedd arbennig gynt, a gwneir hynny yn awr mewn amryw fannau, i'r manion a ganlyn fel moddion meddyginiaeth:—(i) Gwella llygaid clwyfus: (a) Gwisgo modrwyau pres neu aur yn llabedau'r clustiau. (b) Golchi'r llygaid yn yr hwyr a'r bore â dŵr glaw mis Mai. Cedwir mewn potel, ddŵr glaw mis Mai ar hyd y flwyddyn a'i ddefnyddio yn ôl y galw. Ym mis Mawrth, 1928, ar brynhawn Sul, a mi yn paratoi cychwyn o Daliesin ar gyfer oedfa'r nos yn y Borth, cefais nad oedd dŵr yn lamp y beic a gofynnais i Ddafydd Roberts a oedd modd cael dŵr glaw o rywle. " Wel," meddai, " y mae gen i boteled o ddŵr glaw mis Mai llynedd, os gwna hwnnw'r tro." Yna eglurodd mai dŵr at lygaid ydoedd. Defnyddiais ef a goleuodd y lamp yn gampus. (2) Symud Llefrithen. " Cred ddiysgog llawer o bobl Penllyn yw y gellir cael gwaed o lefrithen trwy i rywun gyfrif deg ymlaen a deg yn wrthol ar un anadliad, ac yna chwythu ar y llygad dolurus a'i wella. Y mae hon yn goel gyffredinol trwy Gymru a Lloegr."[14] (3) Symud Dafadennau. (a) Lladrata tamaid o gig eidion-rhaid ei ladrata yn ddirgelaidd-yna cladder ef. Fel y pydra'r cig diflanna'r dafadennau. (b) Poerer arnynt boer cynta'r bore. (c) Maler carreg wen a gwneuthur y malurion yn sypyn mewn papur a'i osod ar groesffordd, fel y gall rhywun ei godi a'i agor; â'r dafadennau ar ddwylo hwnnw. (d) Y mae personau arbennig a fedr eu swyno ymaith trwy dynnu eu dwylo trostynt. Yn 1931 cyfarfûm yr un adeg ac ar yr un aelwyd â phedwar person a dystiai iddynt golli dafadennau oddi ar eu dwylo trwy'r pedwar modd a nodais. Defnyddiodd pob un o'r pedwar fodd gwahanol i'r lleill. (4) Tynnu drain 0 gnawd. Defnyddier cŵyr crydd. (5) Gwella Dolur Gwddf. (a) Tafell o gig moch bras wedi ei rwymo yn dynn am y gwddf. (b) Gwisgo am y gwddf hen hosan wlân newydd ei thynnu oddi ar y troed, a'i throi y tu chwith allan. (6) Annwyd Trwm. Llaeth enwyn wedi ei ferwi, ac ynddo rosmari ac ychydig driagl du. (7) Atal Gwaed 0 Archoll. (a) Rhodder ar yr archoll damaid o faco siag wedi ei gnoi. (b) Taener gwe'r pryf copyn ar yr archoll. (8) Gwella Crydcymalau. Carier darn bychan o nytmeg yn y llogell.

Nodiadau[golygu]

  1. 1 Popular Tales from the Norse, Syr G. Webbe Dasent (1883) td. 31.
  2. With Mysttcs and Magicians in Tibet, Alexandra David-Neel (1936), td. 226,
  3. Llyfr. Gen. Cymru., Llsgr. 6746
  4. Llyfr. Gen. Cymru, Llsgr, 4937. Dengys y darlun sydd gyferbyn yr arwyddion.sydd ar ddiwedd y swyn.
  5. Llyfr. Gen. Cym., Llsgr. 1248.
  6. 1 Llyfr. Gen. Cymru, Llsgr. 5563. Gweler gyferbyn lun darn o'r llawysgrif sy'n dangos yr arwyddion ar ddiwedd y swyn.
  7. Welsh Folk-lore, J. Ceredig Davies (1911) td. 294.
  8. Llyfr. Gen. Cym., Llsgr. 5653.
  9. The story of Superstition, Philip F. Waterman (1929).
  10. The Story of Superstition, Philip F. Waterman (1929), td. 17.
  11. 1 Welsh Folklore and Folk Custom, Yr Athro T. Gwynn Jones (1930), td. 132.
  12. Welsh Folklore and Folk Custoni, T. Gwynn Jones (1930) td. 130.
  13. Welsh Folk-lore, Elias Owen (1887).
  14. Llyfr. Gen. Cym., Llsgr. 10567.