Coelion Cymru/Ogofau a Meini

Oddi ar Wicidestun
Llynnoedd a Ffynhonnau Coelion Cymru

gan Evan Isaac

Darogan a Choelion Eraill

VII.

OGOFAU A MEINI

Y mae traddodiadau ynglŷn ag Ogofau a Meini Cymru mor lluosog, a llawer ohonynt mor lleol a chyffredin, fel na farnwn yn ddoeth gofnodi ond ychydig ohonynt. Ceir hefyd ambell draddodiad sy'n hen a hysbys, ac eto yn hawlio lle ym mhob casgliad o lên gwerin. Un felly yw hwnnw am Ogof Arthur. Nid oes neb a ŵyr ychydig am lên y genedl na ŵyr hefyd am draddodiad yr ogof hon; eithr y mae naw o bob deg o Gymry na wyddant am Arthur na'i Ogof. Er budd y dosbarth mawr hwn dylid gwthio arnynt ambell stori a drig ers oesoedd yn ein llên.

OGOF ARTHUR. Nid oes well stori ogof nag un Ogof Arthur, ac efallai nad oes un a ledaenwyd gymaint. Lleolir yr Ogof hon mewn amryw fannau yng Ngogledd a Deheudir Cymru, ac amrywia'r traddodiadau gryn lawer. Caiff yr un a gofnodir yn "Y Brython" am ogof Craig-y-ddinas, Llantrisant, Morgannwg, wasanaethu i egluro'r gweddill.

Un diwrnod, ar ôl gwerthu'r gwartheg a yrasai o Gymru i Lundain, fe'i cafodd porthmon ieuanc ei hun, â'i ffon gollen hirfain yn ei law, ar Bont Llundain, a chyfarfod yno â dyn dieithr. " O ba le y daethost?" meddai'r dieithryn. "O'm gwlad fy hun," atebai'r Cymro. "Tyfodd y ffon sydd yn dy law mewn llwyn a dyf ar enau ogof sydd ag ynddi grynswth o aur ac arian, ac os cofi di'r fan a'i ddangos i mi, a dilyn fy nghyfarwyddyd, ti a gei yr hyn a fynnych o gyfoeth." Gwelodd y Cymro mai Dyn Hysbys a lefarai wrtho. Aeth y ddau i Gymru ac at y llwyn cyll ar Graig-y-ddinas. Dadwreiddiwyd y llwyn, a chael oddi tanodd faen mawr llydan a oedd ar enau'r ogof. Ar y genau hongiai o'r nenfwd gloch fawr a hen. "Gochel gyffwrdd â'r gloch rhag colli dy fywyd," meddai'r dyn hysbys. A gofal mawr aethant i'r ogof, a gweled yno filwyr filoedd tan arfau yn lled-orwedd â'u traed at ei gilydd, ac yn cysgu. Goleuai gloywder yr arfau yr holl ogof. Yn y canol gorweddai un nad oedd ei hafal. Gwisgwyd hwn ag urddas a'i gwahaniaethai oddi wrth bawb. Yn ei ymyl ef yr oedd pentyrrau o aur a gemau. "Cymer a fynni o'r trysorau," meddai'r dewin. Llwythodd y Cymro ef ei hun ag aur. "Gochel gyffwrdd y gloch wrth fyned allan," meddai'r dewin, "rhag deffro'r milwyr, ac iddynt ofyn, 'A yw hi yn ddydd? ' Os digwydd hyn, ateb dithau yn syth ac yn hy, 'Nac ydyw, cysgwch,' a phlyg pob un ei ben a chysgu wedyn." Gan mor drwm oedd ei faich o aur, methodd y Cymro â gochel y gloch, a bu bron a llewygu. Deffrodd y milwyr a neidio ar eu traed, ac yn sŵn tinciadau'r arfau, gofyn, "A yw hi yn ddydd?" Atebodd y Cymro, "Nac ydyw, cysgwch." Llwyddodd ef a'r dewin i ddianc yn ddianaf o'r ogof, a gosodasant y maen a'r boncyff cyll yn eu lle fel cynt.

Eglurodd y dyn hysbys mai Arthur Fawr oedd y gŵr urddasol, a'i fod ef a'i filwyr yn cysgu tan eu harfau yn disgwyl i'r dydd wawrio pan fydd rhyfel rhwng yr Eryr Du a'r Eryr Euraid. Y dydd hwnnw deffry Arthur a'i ddewrion a rhuthro ar elynion y Brythoniaid, ac ailfeddiannu Ynys Prydain; yna sefydlu eilwaith y Ford Gron a Llys Arthur yng Nghaerlleon-ar-Wysg.

Afradodd y Cymro ieuanc y baich aur a gafodd, a myned yn dlawd. Dychwelodd eilwaith i'r ogof a'i orlwytho'i hun â'r trysorau, ac wrth ymwasgu allan cyffwrdd â'r gloch, a chanodd hithau.

Deffrodd y milwyr a gofyn "A yw hi yn ddydd?" Yn ei drachwant a'i ofnau anghofiodd y Cymro ateb. Ni wyddai neb beth a ddigwyddodd iddo, eithr ni fu fel dyn arall byth mwy.[1]

Mae Arthur Fawr yn cysgu,
A'i ddewrion sy o'i ddeutu,
A'u gafael ar y cledd:
Pan ddaw yn ddydd yng Nghymru,
Daw Arthur Fawr i fyny
Yn fyw—yn fyw o'i fedd!—Elfed.

OGOF OWAIN LAWGOCH. Yr oedd Owain Lawgoch yn un o Gymry mwyaf rhamantus yr Oesoedd Canol, a gosodir ef weithiau yn lle Arthur yn stori 'Yr Ogof.' Dywedir bod Owain a'i ddewrion yn Ogof Myrddin, yn Sir Gaerfyrddin, yn cysgu dan gyfaredd y Dewin. Pan ddêl 'y dydd,' deffroant i ynni a gweithgarwch anarferol, ac ennill Prydain i'r Brythoniaid.[2]

Cysylltir hefyd draddodiad Ogof Arthur ag Ogof Owain, sydd gerllaw Llandybïe. Yn ôl Celtic Folkelore, Syr John Rhys, caewyd ar Owain a'i ddewrion yn yr ogof hon, a buont farw o newyn. Yn 1813 cafwyd yn yr ogof esgyrn nifer o ddynion o faintioli anarferol. Ond dywaid Mr. T. H. Lewis, Llandybïe, na fu erioed yn yr ardal draddodiad ddarfod i neb ddarganfod esgyrn dynol yn 1813 yn Ogof Owain, eithr yn Ogof Pant-y-llyn. Yn ymyl y bryn a elwir "Y Ddinas," y mae bryn arall a elwir Craig Derwyddon, ac yn 1813 trawodd chwarelwyr, a weithiai ar y bryn hwn, i ogof na wyddid amdani, ac yn yr ogof hon —Ogof Pant-y-llyn—y cad y penglogau. "Tua milltir i'r gogledd o bentref Llandybie," meddai Mr. T. H. Lewis, "saif bryn a elwir Y Ddinas, ac ar ei lechwedd ceid hyd yn ddiweddar ogof a adnabyddid fel 'Ogof y Ddinas.' Nid yw'r ogof yno mwyach, gan fod chwareli wedi difa rhan helaeth o'r llechwedd, ond cofia hynafgwyr y pentref amdani . . . Nid traddodiad ansicr ac annelwig mohono, ond un a lynodd yn yr ardal ar hyd y canrifoedd."[3] Huna Owain Lawgoch a'i filwyr hyd oni ddêl taro ar Gymru, ac yna deffro a gorchfygu.

TRYSOR CUDD CASTELL FAEN GRACH. Cefais stori Ogof Castell Faen Grach gan yr Henadur John Morgan, Y.H., Ystumtuen. Gwyddai Mr. Morgan am draddodiad yr ogof er ei ddyddiau bore, ac yn 1890 cafodd fanylion y traddodiad gan Mr. Dafydd Dafys, y Rhos, Rhos-y-gell. Yr oedd Dafydd Dafys ar y pryd o drigain i drigain a deg oed, a dywedai fod y stori yn hen cyn ei eni ef.

Y mae Castell Faen Grach gerllaw Pont-ar-Fynach. O edrych i'r gorllewin gwelir mynydd pigfain a gyfyd yn syth o flaen Cwm Rheidol ar ochr Mynydd Bach, ac wrth droed y mynydd pigfain yn wynebu'r briffordd y mae ffermdy Tyn-y-castell. Ar dir y fferm hon y mae Ogof y Trysor Cudd. Yn ôl traddodiad cynnwys yr ogof gyflawnder o aur a gemau, ac agorir hi unwaith yn y flwyddyn gan law anweledig. Caiff y sawl a fo'n ffafryn y duwiau fyned iddi a'i lwytho'i hun â'r trysor, eithr gwae a ddaw i'r hwn a gais fyned i mewn trwy drais, oblegid gwylir hi gan aderyn mawr a gwsg ar ei genau. Os deffry'r aderyn, fe ofyn â llais fel taran, "A aeth y tri bore yn un?" ac i ochel galanas rhaid ateb ar unwaith, "Na, nid aeth y boreau yn un, cwsg." Y mae'r ogof mewn man diarffordd, ac o baidd neb ryfygu cloddio am yr agorfa, daw yn sydyn ystorm ofnadwy o fellt a tharanau. Dywedir i amaethwr Tyn-y-castell ennill ffafr y bodau anweledig a noddai'r ogof. Caled iawn oedd byd Jones, Tyn-y-castell, a methai â dwyn deupen y llinyn ynghyd, ond yn sydyn ac annisgwyliadwy aeth yn ŵr cefnog. Pa fodd yr ymgyfoethogodd? Nid oedd ond un esboniad— aur yr ogof.

Daeth gŵr dieithr o ardal Machynlleth i Dyn-y-castell, a chael hanes y trysor gan ŵr y tŷ. Bore trannoeth tynnodd y ddau i gyfeiriad yr ogof ag arfau cloddio. Yr oedd yn fore hafaidd a braf, a dechreuwyd chwilio am enau'r ogof, ond yn sydyn wele newid mawr. Fflachiai'r mellt a rhuai'r taranau oni theimlid yr holltai'r creigiau. Dihangodd y ddau ymchwilydd am eu bywyd. Ni welwyd y gŵr o Fachynlleth yn ardal Pont-ar-Fynach byth mwy.

Y mae gan yr hen fardd Gethin Jones yntau stori am drysor cudd a wylir gan alluoedd goruwchddynol. Buasai ymosod mawr ar Ysbyty Ifan, a'r brwydro yn ffyrnig a gwaedlyd. Yn ystod y brwydro, cuddiwyd arian tan y Maen Crair gerllaw Cadnant a Bryn Cerbyd. Y mae'n debyg y bu'r cuddio hwn i ddiogelu'r trysor hyd onid elai'r heldrin heibio. Yn ôl traddodiad, ni faidd neb symud y Maen Crair rhag ei ladd gan fellt a tharanau. [4], td. 272.

BEDD TALIESIN. Ymddengys oddi wrth y traddodiad am y bedd hwn mai prif offerynnau'r bodau anweledig i'w amddiffyn a'i ddiogelu yntau ydyw mellt a tharanau. Dylem ddiolch am ofal y bodau ysbrydol hyn, oblegid a barnu wrth y golwg sydd ar y bedd, ni ŵyr Cymrodorion a Chymdeithas Hynafiaethau a Chyngor Sir Aberteifi ddim amdano. Yn gefndir i Dre' Taliesin y mae mynydd lled uchel, ac ar ei uchaf, mewn llain ar dyddyn Pensarn Ddu y mae carnedd gerrig â daear wedi tyfu trosti, ac yn y garnedd hon y mae'r Bedd. Lled cae bychan oddi wrtho y mae Sarn Helen. Ceir nodyn yn "Y Brython" gan Lewys Dafys (Yr Hen Glochydd), Tre' Taliesin, a ddengys y derbynnid y traddodiad am fan bedd y bardd fel ffaith yn ei ddyddiau ef.[5]

Math ar gistfaen ar ffurf arch â maen mawr ar ei wyneb yw'r bedd. Bu Mr. Tom Owen, Tre' Taliesin, yn gwasanaethu yn ei ddyddiau bore mewn fferm sy'n cyrraedd i ymyl y bedd, a dywaid ef fod traddodiad cryf yn y gymdogaeth ynglŷn â chais i ymyrryd â'r bedd. Pan weithid siafft Pensarn ar waith mwyn plwm Bryn-yr-Arian, aed i chwilio am faen trwchus a chryf i ddal corddyn (pivot) isaf chwimsi i godi ysbwrial a mwyn o'r gwaith. Dewiswyd y maen a oedd ar fedd Taliesin, ac aeth gŵr Pensarn a'i weision i'w gyrchu mewn gambo. Dechreuwyd ar y gwaith o'i symud, eithr yn annisgwyliadwy tywyllodd yr awyr a thorrodd ystorm ddychrynllyd o fellt a tharanau, a bu raid i'r dynion ddianc am eu heinioes. Y mae'r maen yno eto, ar ben gogleddol y bedd, ac wedi ei symud tua llathen o'i le gwreiddiol. Dywaid Mr. Isaac Lloyd, Tal-y-bont, sydd hynafgwr, y credai holl drigolion yr ardal y traddodiad pan oedd ef yn blentyn.

Y mae'r ddau draddodiad a ganlyn a gefais gan Mr. Lewis Hughes, Meliden, yn rhai tra diddorol, a'r cyntaf yn awgrymu nawdd a gofal bod neu fodau goruwchnaturiol.

BEDD BRYNFORD (SIR FFLINT). Yn ymyl Bryniau Dwnsis, chwaraefan y Tylwyth Teg ar noson loergan, y mae bedd ag arno gylch o gerrig. Dywaid hen ŵr, sydd eto'n fyw, y cofia ef i ffermwr ddefnyddio rhai o'r cerrig i godi clawdd un o'i gaeau'n uwch. Bore trannoeth, er ei syndod, cafodd fod y cerrig i gyd wedi diflannu. Yn ei fraw aeth at y bedd, a gweled yno y cerrig, bob un, yn eu lle megis yr oeddynt cyn iddo ymyrryd â hwy.

COPA'R LENI. Y mae'r bedd hwn ar ben Clip-y-gop, ym mlwyf Treflawnyd, a chyfrifir ef y bedd mwyaf yng Nghymru. Dysg traddodiad mai bedd un o gadfridogion Rhufain ydyw. Credai Mr. Lewis Davies, taid Mr. Lewis Hughes, fod y traddodiad yn wir, ac adroddai y teithiai ef un noson olau lleuad o Ddyserth i Newmarket, a gweled y caeau yn llawn o filwyr Rhufeinig. Ar Glip-y-gop gwelai'r cadfridog ar farch gwyn. Marchogai'n hamddenol ac urddasol â'i gleddyf yn ei law. Daeth cwmwl tros y lloer, a chollwyd golwg ar y march a'r marchog.

Ymddengys bod yn Sir Fflint amryw draddodiadau ynglŷn â thrysorau cudd, a rhydd Mr. Lewis Hughes un a gafodd gan ei dad. Credid yn gryf fod ellyllon a ddrygai'r trigolion yn byw oddi tan y Garreg Doll, neu Carreg-y-doll, sydd ym mhlwyf Llanasa. Ofnai'r plwyfolion y garreg hon gymaint fel nad âi neb heibio iddi ond o raid, hyd yn oed liw dydd. O dro i'w gilydd magodd rhai ddigon o wroldeb i ryfygu ceisio dryllio'r garreg i'r diben o ymlid yr ellyllon, eithr gwnaed pob cais yn ofer gan ystormydd ofnadwy o fellt a tharanau. Unwaith, ar ôl un o'r ystormydd hyn, a gŵr yn cerdded fin nos heb fod ymhell oddi wrth y garreg, clywai riddfan dwys, ac o edrych gwelai olau tanbaid uwchben y garreg, ac yna, o'r anweledig, ddwy fraich noeth cawr yn ymestyn ac yn gafael ynddo. Cipiwyd ef ymaith, a chredai tra fu byw ei ddwyn i ryw wlad tan y ddaear. Cyrhaeddodd adref ymhen peth amser, eithr ni wybu pa fodd. Daethpwyd i gredu gan rai yn ddiweddarach mai gorchuddio trysorau a wnâi Carreg-y-doll, ac mai prif ddiben yr ellyllon ydoedd eu hamddiffyn.

Y mae hefyd draddodiad bod twnnel llawn o drysorau yn arwain i seler yng Nghastell Rhuddlan, a chofia Mr. Lewis Hughes am gryn gloddio tua deugain mlynedd yn ôl am dwnnel â thrysorau a arweiniai i gastell Dyserth. Ychydig flynyddoedd yn ôl darganfuwyd seler tan y ddaear y tu allan i Blas Pentre, Helygain, a chredid mai yno y cadwai Llwydiaid y Plas y gwinoedd a thrysorau eraill a ysmyglid ar afon Dyfrdwy.

Y mae'n naturiol disgwyl i fynyddoedd a chreigiau Gogledd Cymru gynnwys llawer o ogofau, eithr prin yw'r dynion a fedr roi hanes y traddodiadau sydd ynglŷn â hwy. Cefais y ddau a ganlyn gan Mr. Lewis Hughes.

OGOF GWEN GOCH. Ar ben Moel Hiraddug ac ar derfyn plwyfi Dyserth a'r Cwm, y mae Ogof Gwen Goch. Bu hon hefyd un adeg yn gartref ellyllon, a chyfathrachai Gwen Goch â hwy a thrigo yn yr ogof. Ar adegau tryma'r flwyddyn pan orchuddid y Foel a'r dyffryn â niwl, deuai Gwen allan o'i lloches i Dre'r Castell islaw, a pheri llawer o anhwylderau ymysg plant ac anifeiliaid. Nid ymddangosai byth ond ar ffurf anifail— ysgyfarnog, milgi, neu lwdn dafad. Aeth pethau o ddrwg i waeth yn amser Dafydd Ddu Hiraddug, a cheisiodd y trigolion ei gymorth. A'r niwl yn drwm ar y mynydd, dringodd Dafydd ei lethrau yn hamddenol a chyrraedd yr ogof, a myned i mewn. Ffodd yr ellyllon rhag ei wg a'i fygythion. Ceryddodd y wrach hithau, a pheri iddi addo na ddrygai ddyn nac anifail byth mwy.

OGOF Y GRAIG SHIAGUS. Y mae hon ar waelod plwyf Ysgeifiog, ond gorchuddir hi yn awr gan lyn dwfr a wnaed yn ddiweddar. Hysbysai'r diweddar Mr. J. E. Jones, Melin-y-wern, Nannerch, Mr. Lewis Hughes, iddo ef fod yn yr ogof droeon pan oedd yn ieuanc. Yr oedd yn ogof fawr a hir, ac yn ei phen draw ceid ystafell a elwid yn 'Barlwr Arthur.' Y traddodiad ydyw ddarfod i Arthur Fawr, ar ôl brwydr Caer Moel Arthur, orffwyso yn yr ogof hon,

Nodiadau[golygu]

  1. Y Brython, Cyf., I., td. 112-23.
  2. Geiriadur Cen. Cymru . . Y Parch. Owen Jones (1875), Cyf. I., td. 263.
  3. The Aman Valley Chronicle, Mai 27, 1937.
  4. Gweithiau Gethin . . O Gethin Jones (1884)
  5. Y Brython (1860), td. 316.