Coelion Cymru/Darogan a Choelion Eraill

Oddi ar Wicidestun
Ogofau a Meini Coelion Cymru

gan Evan Isaac

Rheibio a Chonsurio

VIII.

DAROGAN, A CHOELION ERAILL

Nid yw pawb o'r tadau a ragfynegodd neu a broffwydodd am bethau a oedd ar y pryd yn anhygoel, i'w cyfrif o dras y dewiniaid. Dynion arbennig o ran barn a gwelediad oedd llawer ohonynt. Gwelent, fel y Parchedig Azariah Sadrach, heibio i gyfnewidiadau posibl canrif neu ragor, a mynegi'r nodweddion newydd yn arwynebedd y wlad ac ym mywyd y trigolion a oedd yn debyg o ddilyn y cyfnewidiadau. Nid am y proffwydi hyn y traethir, eithr am waith dewiniaid.

Ni fedd llên gwerin ein gwlad ni ddewin cryfach a mwy adnabyddus na Myrddin, neu fel y gelwir ef y tu allan i Gymru, Merlin. Yn ôl traddodiad, ganed ef yng nghymdogaeth Caerfyrddin, ddiwedd y bumed ganrif neu ddechrau'r chweched, ac aeth ei glod ledled y wlad ac i amryw rannau o gyfandir Ewrop. Cred llawer o drigolion Caerfyrddin mai oddi wrth y proffwyd cadarn hwn y cafodd eu tref ei henw, ac y mae hynny mor debyg o fod yn wir â dim o'r lliaws traddodiadau sydd ynglŷn ag ef. Proffwydodd lawer, a gwnaeth rai o'i wyrthiau yn ardaloedd yr Wyddfa, ond ni chyfeirir yn awr namyn at ei ymwneud â thref Caerfyrddin.

Ar rai cyfrifon nid oes yn bod dref ragorach na Chaerfyrddin. Hawlia le cynnar a phwysig yn hanes llenyddiaeth y genedl, a saif yn uchel heddiw o ran diwylliant a moes. Y mae hefyd ar led si cryf a chyson fod ei Chymraeg a'i Saesneg yn lanach nag eiddo un dref arall yng Nghymru. Boed hynny fel y bo, nid yw bri'r hen dref fawr llai, os dim, nag y bu; eithr gwelodd Myrddin ei drygfyd a'i diwedd:

"Llanllwch a fu,
Caerfyrddin a sudd,
Abergwili a saif."
" Caerfyrddin, cei oer fore.
Daear a'th lwnc, dŵr i'th le."

Ar Heol y Prior, yn ymyl yr hen briordy, lle yr ysgrifennwyd Llyfr Du Caerfyrddin yn ôl traddodiad, saif pren derw crin sy'n malurio'n raddol ar hyd yr oesoedd, ac yn ôl Myrddin, pan syrth y pren hwn fe lyncir y dref. Trin awdurdodau'r dref yr hen bren â gofal mawr, ac efallai mai darogan y broffwydoliaeth a bair hynny.

MELLTITH MAES-Y-FELIN. Plas gwych ar lan afon Dulas, i'r dwyrain o Lanbedr Pont Steffan, ydoedd Maes-y-felin. Perthynai i deulu'r Llwydiaid am rai cenedlaethau. Yr oedd Syr Francis Lloyd, Maes-y-felin, a Samuel, mab y Ficer Prichard, Llanymddyfri, awdur "Cannwyll y Cymry," yn gryn gyfeillion. Dyn drwg a rhyfygus oedd Syr Francis, ac ar un achlysur cwerylodd Samuel ac yntau. Ni wyddys natur y cweryl, ond tybir bod y ddau tan ddylanwad diodydd meddwol ar y pryd. Pa fodd bynnag, terfyn y cweryl fu mygu Samuel Prichard rhwng dau wely plu, a dwyn ei gorff ddyfnder nos tros y mynydd a'i daflu i Dywi yng Nghaerfyrddin. Pan ddarganfuwyd y trosedd enynnodd llid yr hen Ficer, a bwriodd ei felltith ar Faes-y-felin:

"Melltith Duw fo ar Maes-y-felin,
Ar bob carreg a phob gwreiddyn,
Am daflu blodau tref Llanddyfri
Ar ei ben i Dywi i foddi."

Y gred gyffredin ydyw i'r felltith ddisgyn yn ôl dymuniad yr hen Ficer. Diflannodd y teulu a dirywiodd y plasty. Nid oes yn aros garreg ar garreg o Faes-y-felin.[1]|

BEDD Y GŴR A GROGWYD AR GAM. Y mae ym mynwent Trefaldwyn fedd na thyf arno na glaswellt na phlanhigion o fath yn y byd. Amgylch ogylch ceir tyfiant rhonc, a gwnaed llawer cais yn ystod y can mlynedd diwethaf i dyfu gwellt a blodau ar y bedd yntau, ond yn ofer. Yn ôl "Cymru Fu" ac amryw lyfrau eraill, yn y flwyddyn 1819 daethai i Oakfield, plasty heb fod nepell o'r dref, ddyn ieuanc o'r enw John Newton, o Sir Stafford, yn was i wraig weddw a'i merch. Oherwydd ei fedr a'i ddiwydrwydd, llwyddodd fel arolygydd y fferm, a dysgodd y teulu ei barchu ac ymddiried ynddo. Ymhen peth amser ymserchodd merch y tŷ ac yntau yn ei gilydd, a bodlonai hynny'r fam hithau. Un diwrnod ym mis Tachwedd 1821, aeth Newton ar neges i Drefaldwyn, ac ar ei daith adref, a hi yn dywyll, ymosodwyd arno gan ddau ddyn o'r enw Robert Parker a Thomas Pearce, a'i orfodi yn ôl i'r dref5 ac yno ei gyhuddo o ladrad pen-ffordd. Ar dystiolaeth y ddau ddyn hyn cafodd y llys ef yn euog, a dedfrydwyd ef i farw. Yn y llys neu ar y crocbren—ni wyddys yn sicr ym mha un o'r ddau le—taerai'r gŵr ieuanc nad oedd yn euog, a mynegi y profid ei ddiniweidrwydd gan y ffaith na thyfai glaswellt ar ei fedd am o leiaf un genhedlaeth. Ymboenodd y ddau a'i cyhuddodd am rai blynyddoedd tan gnofeydd cydwybod. Dihoenodd Parker gorff a meddwl, a lladdwyd Pearce trwy ddamwain mewn chwarel gerrig calch. Dywedai gohebydd o gymdogaeth Trefaldwyn yn y Manchester Weekly Times,—" Yr wyf wedi gweled y bedd ar wahanol dymhorau'r flwyddyn am ugain mlynedd, ac y mae bob amser yr un fath, sef heb ddim yn tyfu arno mwy nag sydd ar ganol heol, ond nid yw'r lle diffrwyth gymaint ei arwynebedd â chaead arch. Tuag wyth modfedd o led yn yr ysgwyddau, a phedair neu bump yn y pen a'r traed ydyw, a'i hyd tua phedair troedfedd a hanner."[2],

A Mr. Stanley Baldwin, Prifweinidog Prydain Fawr, yn treulio seibiant yng Ngregynog, Sir Drefaldwyn, ddiwedd Awst 1936, ymwelodd â'r bedd. Gwelsai Mr. Baldwin ef flynyddoedd yn ôl, ac yn awr craffai ar y ddaear ddiffrwyth a dywedyd wrth ei gyfeillion, "There it is, the ground is as bare as when I last saw it some years ago." Hysbysai Mr. John Davies, y clochydd, Mr. Baldwin ei fod ef ar ôl hanner can mlynedd o ofalu am y fynwent a gwylio'r bedd yn parhau i gredu bod y traddodiad yn ffaith.[3]

Ym mis Ebrill 1936, derbyniais oddi wrth Mr. Henry W. Evans? Y.H., Solfach, rai o broffwydoliaethau dewin enwog a breswyliai ym Mhenfro. Rhoddaf hwy yng ngeiriau Mr. Evans ei hun:

"Bedwar ugain neu gan mlynedd yn ôl, trigai ym mhentref bychan Caerfarchell, plwyf Dewi, Sir Benfro, un William Howell, a adnabyddid wrth yr enw 'Wiliet.' Teiliwr oedd Wiliet wrth ei grefft, ond dewin wrth natur. I'r bobl gyffredin yr oedd enwi Wiliet ar unwaith yn awgrymu bwganod, ysbrydion, drychiolaethau a chanhwyllau cyrff.

"Wele un stori foel, heb na phaent nac addurniadau, ond sydd yn wir bob gair. Cefais hi gan hen ŵr o'r enw Francis John a weithiai gyda'i dad, Billy John, saer coed yn Solfach. Un diwrnod dywedodd Wiliet yn sobr iawn wrth Francis y byddai angladd yn fuan ym mhentref Fachelich, ryw ddwy filltir o Gaerfarchell.'Chwerthin yn wawdlyd a wneuthum i,' meddai Francis. Yna meddai Wiliet,'Ti gredu hyn pan fydd dy frawd a thithau yn cario'r coffin heibio i dŷ'r Doctor ar eich ffordd i Fachelich.'

"Bu holi a dyfalu pwy a oedd yn debyg o farw'n fuan, ond gan fod pawb o'r trigolion yn iach-lawen, bron nad aeth y stori yn angof.

"O'r amryw longau bychain at gario cerrig calch a oedd ym mhorthladd Solfach, aeth un ohonynt i Aber Nolton, tua deng milltir i'r dwyrain. Angorwyd y llong, ac aeth tri o'r dwylo mewn cwch i'r lan, a threfnu dadlwytho. Wrth ddychwelyd i'r llong dymchwelwyd y cwch, a boddi'r tri. James Richards oedd un o'r tri, a dygwyd ei gorff mewn cert i'w gartref yn Fachelich. Gwnaeth Billy John yr arch, a chan fod y ffordd ymhell, trefnodd Francis a'i frawd i ddau arall eu cynorthwyo i'w chario.' Yr oeddem yn benderfynol,' meddai Francis, 'o wneud Wiliet yn gelwyddog. Trefnwyd i'r ddau a'n cynorthwyai gario'r coffìn heibio i dŷ'r Doctor, ond waeth i chi hynny na rhagor, cododd dadl ar ryw fater, ac anghofiwyd Wiliet a mynd heibio i dŷ'r Doctor, a'm brawd a minnau oedd dan y coffin.' "

RHAGFYNEGI MARW A CHLADDU'R PARCHEDIG DAVID JONES, FELIN GANOL. Yr oedd David Jones yn weinidog eglwys gref a berthyn i'r Bedyddwyr yn Felin Ganol, gerllaw Solfach, a chafodd Mr. H. W. Evans yr hanes am broffwydoliaeth Wiliet gan Mr. Samson Williams, Y.H., Solfach, yn 1928.

"Proffwydodd Wiliet y byddai farw'r Parch. David Jones ymhen ychydig wythnosau, ac aeth y broffwydoliaeth fel tân gwyllt trwy'r gymdogaeth. Un nos Sul, a Wiliet yn yr oedfa, ceryddodd Mr, Reynolds, cyd-weinidog David Jones, y dewin am daenu celwyddau a chreu pryder ym meddyliau'r trigolion. Bygythiodd ef hefyd yn gas. Atebodd Wiliet yn dawel, 'Chwi gredwch pan welwch yn gwasanaethu yn yr angladd weinidog â barf wen laes. Y mae hynny yn amhosibl,' meddai Mr. Reynolds, 'oblegid nid oes yn yr holl ardal weinidog yn cyfateb i'ch disgrifiad.' "Yn fuan clafychodd Mr. David Jones, a bu farw ym Mehefin 1849. Aeth yr angladd o'r tŷ yn Solfach am gladdfa Felin Ganol, ac ar y daith meddyliai pawb am eiriau Wiliet, ac ysbïo am y gŵr â'r farf wen, ond ni welid neb yn ateb i'r disgrifiad.

"Cyrhaeddwyd y capel, ac yn eistedd tan y pulpud yr oedd gŵr cadarn a'i farf yn wen a llaes. Clywsai'r Doctor Davies, Prifathro Coleg y Bedyddwyr yn Hwlffordd, am farw David Jones, ac wynebodd y daith o dair milltir ar ddeg i'r angladd. Ar y ffordd collodd ei geffyl bedol, a'i rwystro i gyrraedd y tŷ mewn pryd, a thorrodd yntau ar draws gwlad a chyrraedd y capel o flaen yr angladd. Ef oedd gweinidog proffwydoliaeth Wiliet."

Ni pherthyn yr hanesyn a ganlyn yn uniongyrchol i Gymru, ond gan Gymro, sef Mr. John Morgan, Y.H., y cefais ef, a chafodd yntau ef gan feddyg sy'n gwasanaethu yng Nghymru. Ysgotyn yw'r Doctor A— a fu'n hir yn y Rhyfel Mawr. Yn yr un gatrawd ag ef yn Ffrainc yr oedd Ysgotyn arall a yfai ddiodydd meddwol i ormodedd weithiau. Un noswaith ar ganol yr ymyfed, a'r cyfaill tan ddylanwad y ddiod i gryn fesur, safodd ar ei draed yn sydyn a llefaru pethau chwithig ac annisgwyl. Disgrifiodd yn fanwl i'w gyfeillion erchyllterau'r brwydro mewn man arbennig ac ar adeg arbennig ar faes yr ymladd, a dywedodd y lleddid llawer, ac y byddai ef ei hun ymhlith y lladdedigion. Tybiai rhai o'r cyfeillion mai effaith y diodydd a barai iddo lefaru, eithr meddyliai eraill nad rhesymol disgwyl gan ddyn meddw lefaru mor groyw a disgrifio mor fyw, a thybient fod rhywbeth cyfrin yn gefn i'r cwbl. Bore trannoeth ni chofiai'r cyfaill na sylw na gair o'r hyn a draethodd, ac ni chofiai iddo lefaru o gwbl. Ymhen tri mis lladdwyd ef a channoedd o rai eraill mewn brwydr ofnadwy. Yr oedd adeg a man y frwydr a'i phoethder yn hollol fel y disgrifiwyd hwy noson y gloddest.

Edrydd Mr. Morgan un arall a berthyn i dras y rhai a nodwyd. Yng Nghwm Ystwyth gweithiai yn y gwaith mwyn plwm fachgen a gynorthwyai hefyd ei fam i drin tyddyn bychan. Pan ballodd y gwaith plwm, bu orfod ar y mab adael cartref am waith ym Morgannwg, a gweithiai yng nglofa Cilfynydd. Un prynhawn, a'r fam yn brysur gyda gorchwylion y tŷ, clywai lais y mab yn y drws yn galw, "Mam." Clywodd y ci yntau y llais, a'i adnabod. "Hawyr bach," meddai'r fam, "dyna Richard wedi dŵad adre' o'r Sowth, heb neb yn ei ddisgwyl." Gan yr oedai'r mab ddyfod i'r tŷ, aeth y fam i'r drws ac edrych. Nid oedd yno neb. Y munudau hynny taniodd pwll Cilfynydd, ac yr oedd Richard y mab ymhlith y cannoedd a gollwyd.

Arwyddion Tywydd: Ffawd ac Anffawd. Rhoddai'r hen Gymry goel fawr, a choel i bwrpas da yn gyffredin, ar wahanol arwyddion. Eithr erbyn hyn y maent wedi peidio â bod, neu yn hytrach nis gwelir. Nid mantais ddigymysg a ddaeth drwy'r Papurau Newydd a'r Radio. Collodd y werin drwy'r pethau hyn a'u cyffelyb lawer o'i chraffter meddwl a'i dawn i sylwi. Craffai'r hen amaethwyr bychain yn sylwgar ar arwyddion natur ac arferion creaduriaid, a threfnent eu gwaith yn ôl yr hyn a welent. Fel y dengys Cadrawd yn ei draethawd ar Lên Gwerin Morgannwg, cyn datblygu o'r glofeydd a dyfod trosodd wrth y miloedd Saeson Bryste a mannau eraill, ymhoffai'r mân feirdd mewn casglu'r coelion i driban a rhigwm a dihareb.

Yr wylan fach adnebydd,
Pan fo'n gyfnewid tywydd;
Hi hed yn deg ar adain wen,
O'r môr i ben y mynydd.

Fe neidia'r gath yn hoyw,
Rhwng gwynt a thywydd garw;
Hi dry'i phen-ôl tuag at y gwres,
Po nesa' byddo i fwrw.

Y fuwch fach gota (lady cow)
P'un ai glaw ai hindda?
Os daw glaw, cwymp o'm llaw:
Os daw haul, hedfana.


Niwl y gaea', arwydd eira:
Niwl y gwanwyn, gwaeth na gwenwyn.

Os glaw fydd ddydd Gŵyl Switan,
Glaw ddeugain niwrnod cyfan.

Bwa'r Drindod y bora, aml gawoda;
Bwa'r Drindod prynhawn, tegwch a gawn.

Awyr goch y bora, brithion gawoda;
Awyr goch prynhawn, tegwch a gawn.

Os cân y gog ar bren llwm,
Gwerth dy geffyl, a phryn bwn.

Mis cyn Clamai, cân y cogau;
Mis cyn hynny tyf briallu.[4]

ARWYDDION GLAW. DYDD SANT SWITHIN. Credir yn gyffredin o bydd glaw ar y pymthegfed o Orffennaf, mai glaw a geir am ddeugain niwrnod. Y traddodiad ydyw y dymunai Sant Swithin ei gladdu mewn mynwent ymhlith y bobl gyffredin, ac nid yn y gangell fel esgobion eraill. Claddwyd ef yn ôl ei ddymuniad. Eithr pan ganoneiddiwyd ef a'i wneuthur yn Sant, teimlai'r mynaich nad gweddus oedd i gorff Sant fod mewn mynwent gyffredin ac agored fel cyrff dynion o radd isel, a symudwyd y corff â rhwysg i'r gangell. Bu hyn ar Orffennaf y pymthegfed, a'r dydd hwnnw disgynnodd glaw trwm anarferol, a pharhau am ddeugain niwrnod. Derbyniwyd hyn fel arwydd o anfodlonrwydd dwyfol i'r ymyriad.

Pan oeddwn yn fachgen, yn fy hen gartref credai pawb ddysgeidiaeth y rhigymau a ganlyn:

Niwl o'r mynydd,
Gwres ar gynnydd;
Daw niwl o'r môr
 glaw yn stôr.

Bryniau Meirion sydd yn ymyl,
Cyn y bore fe geir glaw;
Cilia'r bryniau draw i'r gorwel,
Ac yfory, tes a ddaw.

Un frân ar ei hadain tros feysydd,
Yn gadael y goedwig a'i nyth,
Broffwyda'n ddi-feth am y ddrycin;
Daw curlaw, a'r gwyntoedd a chwyth.

Mawrth yn lladd, Ebrill yn llym;
Rhwng y ddau ni adewir dim.

Wele nifer o arwyddion glaw a geir drwy Gymru:—Cochni awyr ar doriad gwawr; haul y bore yn felyn gwan; yr haul yn machlud yn wan a chlafaidd; corn isaf lleuad newydd yn ymollwng; cylch am y lleuad; barrug y bore, oni phery am dridiau; gwenoliaid yn ehedeg yn isel fin nos; y gwylanod yn ehedeg i'r tir; y defaid yn tynnu i gysgod; ci yn pori glaswellt; y merlynnod yn gadael y bryniau am y dyffryn; moch yn rhochian a chario gwellt yn eu safnau; brithylliaid yn 'codi' yn aml; cathod yn chwareus; ci yn rhedeg yn ddiamcan, neu yn ceisio dal ei gynffon, yn arwydd o wynt cryf; niwl yn ymgripian o'r dyffryn i'r mynydd; sŵn y môr yn cyrraedd ymhell i'r tir. Arwyddion Tywydd Teg.

Tywyll fôr a golau fynydd
A sych waelod yr afonydd;

ond mewn rhai parthau o'r wlad,

Golau fôr a thywyll fynydd
A sych waelod yr afonydd;

yr haul yn machlud yn goch cryf a chlir; defnynnau glaw yn aros yn hir ar frigau'r coed; niwl yn dianc i lawr o'r mynydd; y defaid yn ceisio lle uchel ac amlwg i gysgu; gwylanod yn dychwelyd i'r môr; gwenoliaid yn ehedeg yn uchel; cyrn lloer newydd yn ymgodi; y bryniau yn ymddangos ymhell; os deiliai'r derw o flaen yr ynn, haf sych;

Dwy frân ar ben bore yn hedfan,
A'r nyth yn y goedwig o'u hôl;
Cymylau a gollir o'r wybren,
A gelwir pladuriau i'r ddôl.

Arwyddion Lwc ac Anlwc. O bydd haul fore'r briodas, y gŵr a fydd ben; y mae bwlch lled lydan rhwng dau ddant canol y wefus uchaf yn proffwydo llwyddiant; y mae man geni yn arwydd o oes lwcus, a gorau po uchaf y bo; daw llwydd o weled pen yr oen cyntaf a welir yn y gwanwyn; arwydd da ydyw nyth gwennol tan fargod tŷ. Pethau anlwcus ydyw y rhai a ganlyn:—Lladd brain sy'n nythu gerllaw'r tŷ; brain a fu'n nythu am flynyddoedd yn ymyl y tŷ yn ymadael ohonynt eu hunain; clywed, am y tro cyntaf, y gog yn canu â'r llogell yn wag o bres; gweld y lloer newydd trwy wydr; gwisgo gwyrdd; peth anlwcus yw glaw fore'r briodas, oblegid y wraig a fydd ben; os tyn un flewyn gwyn o'i ben daw pedwar i angladd y blewyn hwnnw; os cyffwrdd eiliau'r llygaid â'i gilydd peidier ag ymddiried yn y person hwnnw; peth anlwcus iawn ydyw i biogen groesi'r ffordd o'ch blaen—yr unig fodd i osgoi anffawd ydyw sefyll yn sydyn, gwneud croes â'r droed, a phoeri, ac yna ddywedyd:

Piogen wen, piogen ddu;
Lwc i mi—ptw. (poeri);

gweled, pan fo un ar daith, un frân yn ehedeg heibio; myned â blodau'r drain gwynion i dŷ; codi ar y ffordd neu lwybr bedol loyw ceffyl, ond y mae pedol rydlyd yn lwcus. Yn 1892, yr oedd Mr. John Morgan, Ystumtuen, sydd yn gerddor gwych, yn paratoi côr ar gyfer Eisteddfod Awst yng Nghwm Ystwyth. Un bore ar ei ffordd i Gwm Brwyno, cododd bedol rydlyd. Daeth yr eisteddfod i'w feddwl ar drawiad, ac enillodd y côr yn rhwydd. Yn 1904, wynebai Eisteddfod Ysbyty Ystwyth â chôr wedi ei ddisgyblu'n well nag arfer, ac ni allai feddwl y collai. Bore neu ddau cyn yr eisteddfod cododd bedol eilwaith, a'r tro hwn, un loyw fel arian. Daeth yr eisteddfod eto i'w feddwl, ac er ei fod yn gwbl hyderus yr enillai, colli a wnaeth. Rhydd Mr. Morgan bwys ar ei dybiaeth na chred ddim yn y pethau ofergoelus hyn; eithr dirgel gredaf yr hoffai'n fawr i'r ail bedol hithau fod yn rhydlyd.

Nodiadau[golygu]

  1. Folk-lore of West and Mid-Wales, J. Ceredig Davies (1911), td. 323.
  2. Cymru Fu, Wrecsam, td. 98-100
  3. Western Mail and South Wales News, Sept. 3, 1936.
  4. Cyf. Eisteddfod Gen. Aberdâr (1885) "Llên Gwerin Morgannwg," Cadrawd, td. 210.