Cymru Fu/Bedd yr Yspeilydd

Oddi ar Wicidestun
Y Naw Helwriaeth Cymru Fu
Bedd yr Yspeilydd
gan Isaac Foulkes

Bedd yr Yspeilydd
Cae'r Melwr

BEDD YR YSPEILYDD.
(Hanesyn ac ynddo addysg i bleidwyr Deddf Dienyddiad.)

Yn nghymdogaeth Trefaldwyn, tua'r flwyddyn 1819, yr oedd hen balasdy a elwid Oakfied, yr hwn er mwyn rhyw welliantau neu gilydd a drowyd yn ffermdy. Enw tenant y lle y pryd hwnw oedd James Morys, yr hwn oedd ddyn diofal ac afradlon, yn esgeuluso ei fasnach, a'r hw a fu farw mewn dyled, gan adael ei wraig a'i unig ferch mewn meddiant o'r lle. Yn fuan ar ol marwolaeth ei gŵr, cymerodd y wraig i'w gwasanaeth fel hwsmon ddyn ieuanc o'r enw Newton, o Swydd Stafford; yr hwn a gyflawnai ei swydd gyda gonestrwydd a llwyddiant mawr. Yr oedd efe yn berffaith ddyeithr yn y wlad hono, ac ni chyfeillachai â neb o'r cymydogion, eithr cyflwynai ei holl sylw a'i amser at ei alwedigaeth. Anaml yr ymadawai â chartref, oddieithr i ffeiriau a marchnadoedd, ac i'r Eglwys ar y Sul, lle yr ymddangosai yn ddefosiynol iawn wrth wrando yn astud ar wasanaeth nad oedd yn deall yr un gair ohono. Ymddygai yn weddus bob amser; eto ymgadwai mor neillduedig fel y methodd offeiriad y plwyf, er ei holl ymdrech, ffurfio cyfeillach âg ef. ond yr oedd y fferm yn gwella tan ei arolygiaeth; a'i pherchenog yn llwyddo yn y byd. Aeth dwy flynedd heibio, ystyriai y weddw ef yn fwy fel cyfaill nag fel gwas; ac yr oedd yn llon ganddi weled ei hanwyl eneth ac yntau yn ymserchu yn eu gilydd. Un prydnawn yn Tachwedd, 1821, daliwyd ef yn hŵy nag arferol yn y yrallwm, ac am chwech o'r gloch cychwynai ar ei draed tuag Oakfield. Yr oedd yn noswaith dywell iawn; a disgwylid ef yn bryderus adref; ond er disgwyl a phryderu hyd ddau a thri nid oedd yn dyfod; ond cyrhaeddodd y newydd yn y bore ei fod wedi dychwelyd i'r dref yn fuan ar ol ymadael, yn ngofal dau ddyn o'r enw Parcer a Pirs, y rhai a'i cyhuddent o ladrad penffordd, yr hwn drosedd a gospid â marwolaeth y pryd hwnw. Profwyd ef yn euog o'r cyhuddiad yn y Sesiwn ddyfodol ar dystiolaeth y ddau gyhuddwyr hyny, yr hon oedd yn eglur a chyson drwyddi, a dedfrydwyd ef i gael ei grogi. Nid oedd ganddo ddadleuydd, ac ni alwodd unrhyw dyst o'i blaid; ond pan ofynodd y barnwr iddo yn y dull arferol, "a oedd ganddo rywbeth i'w ddywedyd paham na ddylai dedfryd angau gael ei chyhoeddi arno,"efe a anerchodd y llys yn dull rhyfedd a ganlyn: — "Y mae yn eithaf amlwg mai ofer hollol a fuasai unrhyw amddiffyniad o'm heiddo i yn erbyn y fath dystiolaeth. Y mae fy nghyhuddwyr yn ddynion parchus, ac ymddengys eu tystiolaeth yn eglur a phenderfynol, ac nis gallaf feio y rheithwyr am fy nghael yn euog. Yr wyf yn maddeu o'm calon i'r dynion hyn y condemnir fi ar eu camdystiolaeth. Ond, fy arglwydd, yr wyf yn ardystio yn y modd difrifolaf gerbron y llys hwn, gerbron eich arglwyddiaeth, a cherbron y Duw cyfiawn y byddaf yn fuan o'i flaen i'm barnu, fy mod yn hollol ddieuog oddiwrth y trosedd y condemnir fi o'i blegyd. Ni ddygais neb i siarad ar fy rhan. Nid oes ond dwy flynedd er pan y daethum yn ddyeithr i'r wlad hon gyntaf. Ni wnaethum gydnabyddiaeth â neb tu allan i'r teulu a wasanaethwn, ac ymdrechais gyflawni fy nyledswyddau yn ffyddlon a gonest. Nid wyf yn gobeithio nac yn dymuno i'm bywyd gael ei arbed; ond yr wyf yn gweddio na byddo i'r trosedd hwn orwedd ar fy enw. Yr wyf yn gobeithio yr argyhoeddir fy meistres a'i merch garuaidd, na ddarfu iddynt lochesu na bod yn garedig wrth yspeilydd penffordd. Gweddiais lawer yn ystod fy ngharchariad am i'r gobaith hwn gael ei sylweddoli; ac yr wyf yn hyderus ddarfod i'm gweddi gael gwrandawiad. Yr wyf yn beiddio dweyd, os dieuog ydwyf o'r trosedd hwn, na bydd i laswellt dyfu ar fy medd am un genedlaeth o leiaf. Fy arglwydd, "derbyniaf eich dedfryd yn ddirwgnach, a gweddiaf yn daer ar fod i bawb fydd yn fy ngwrando gael eu dwyn i edifeirwch, a'm cyfarfod eto yn y nef."

Pa fodd bynag, pasiwyd dedfryd eithaf y gyfraith ar y truan anffodus; a chladdwyd ef tu cefn i eglwys Trefaldwyn. Dywed un ysgrifenydd ei fod ef wedi ymweled â'r lle yn nghymdeithas Eliott Warburton, yn mhen deng mlynedd ar ugain wedi i Newton gael ei gladdu, ac nad oedd gymaint ag un glaswelltyn yn tyfu ar y bedd. Nid oedd yr un bedd arall yn agos ato; a thrwy ei fod yn gydwastad â'r llawr, yr oedd yn wahanol i'r holl feddau ereill. Yr oedd y tir o'i ddeutu yn nodedig o ffrwythlawn — llysiau preiffion a thoreithiog yn tyfu am gryn bellder oddiwrtho. Llawer gwaith y ceisiwyd gan bobl yr ardal gael gan laswellt dyfu ar y llecyn diffrwyth; rhoddwyd pridd newydd drosto, a hauwyd arno amrywiol fathau o lysiau, ond yn gwbl ofer; disgynai y lle yn fuan i'w sefyllfa gyntefig, yn gleidir oer a chaled.

Mewn perthynas â'r ddau au-dyst annuwiol, ymddengys fod teulu Parcer wedi bod unwaith yn feddianwyr Oakfield; a'i fod ef yn dysgwyl, os ceid ymadael â Newton, y byddai y ffordd yn rhwyddach i'r lle ddyfod i'w feddiant yntau drachefn. Dywedid fod Pirs yn ymgeisio am law y ferch ieuanc tua'r amser y bu Mr. Morys farw, a theimlai fod Newton wedi achub y blaen arno. Ymadawodd â'r gymdogaeth yn fuan ar ol collfarniad ei gydymgeisydd, trodd yn adyn meddw a pheryglus, a lladdwyd ef yn y diwedd mewn chwarel geryg calch wrth danio y graig. Surodd natur Parcer yn sarug a diysbryd, ac ymddangosai bywyd yn faich trwm ac anhawdd ei ddwyn iddo, ac yn ol tystiolaeth hen glochydd Trefaldwyn, curiodd ei gnawd 'oddiam ei esgyrn, a threngodd mewn sefyllfa hynod o angenus a diamgeledd.

Cyfieithwyd yr hanesyn hwn o'r Manchester Weekly Times, gan un o'r enw Mr. W. Williams. yr hwn a ddeisyfodd ar i ryw un o'r lle daflu ychydig oleuni ar y ffaith, a dwyn eu tystiolaeth i'w chywirdeb. Ymgymerodd boneddwr o blwyf cyfagos â'r cais, ac wele ei dystiolaeth: — " Dymunaf hysbysu fy nghydgenedl nas gallaf ddwyn unrhyw dystiolaeth uniongyrchol am y dyn a gafodd ei ddienyddio; ond yr wyf yn cofio, er yn blentyn, glywed llawer o sôn am y bedd rhyfedd yn mynwent Trefaldwyn — nad oedd dim yn tyfu arno; ac yr oedd y chwedlau a draddodid yn ei gylch gan bobl ofergoelus yn amrywiol ac annghyson â'u gilydd. A thrwy fy mod yn annghredu pob chwedlau o'r fath, gwnaethum ymholiad manwl yn ei gylch pan aethum gyntaf i Drefaldwyn; a phe bawn yn ceisio crynhoi sylwedd yr hanes a gefais gan y dynion mwyaf cyfrifol yn y dref, ni byddai ynddo nemawr o wahaniaeth oddiwrth yr hanesyn uchod. Bum yn siarad âg amryw oedd yn cofio yr amser yn dda. Dywedent i'r tyst Pirs golli ei synwyrau yn llwyr o'r dydd y gwnaeth efe y llŵ hyd ei fedd. Bellach yr wyf wedi gweled y bedd ar wahanol dymorau y flwyddyn er's ugain mlynedd, ac y mae bob amser yr un fath, sef heb ddim yn tyfu arno mwy nag sydd ar ganol yr heol, ond nid yw y lle diffrwyth gymaint ei arwynebedd â chauad arch — rhyw- beth fel wyth modfedd o led yn yr ysgwyddau, a phedair neu bump yn y pen a'r traed, ac oddeutu pedair troedfedd a haner o hyd ydyw. Y mae y tir yn mynwent Trefaldwyn yn hynod o fras; a'r gwair sydd yn tyfu ar ni tua diwedd mis Mehefin yn ddeuddeg neu bymtheg modfedd o hyd; ond y mae tua troedfedd o bob tu i'r bedd yn llawer uwch, ac yn ddu ei liw; yr achos o hyn mae yn debyg ydy w y gwrtaith a roddwyd ar y lle gan y gwahanol bersonau a fuont yn ceisio cael gan rywbeth arno. Pan fydd y glaswellt felly wedi tyfu yn uchel, y mae yn naturiol iddo ogwyddo dros y lle noeth, ond y mae pob rhan a ddelo uwchben y bedd yn gwywo, ac yn syrthio fel lludw; ac felly y mae y lle mor Iwm yn nghanol haf ag yn nghanol gauaf. Y mae ei sefyllfa yn mhell oddiwrth y beddau eraill, ar gyfer pen dwyreiniol yr Eglwys. Gelwir ef, "Bedd y dyn a gafodd ei grogi ar gam." Dichon y bydd llawer yn annghredu hyn, oni bai iddynt weled y peth eu hunain; ac nid rhyfedd chwaith, canys y mae cynifer o chwedlau o'r fath yn mhlith y Cymry heb ddim sail iddynt ond mympwy ac ofergoeledd; ac yr wyf yn cyfaddef na chredais hyn fy hunan heb ei weled, a bum am flynyddau lawer yn meddwl fod rhyw rai yn rhoddi cyffeiriau gwenwynig ar y lle er atal tyfiad y llysiau. Ond y mae yn ymddangos fod y peth yn cael ei achosi gan Awdwr deddfau natur; ond pa un ai yn naturiol neu yn oruwchuaturiol, ni cheisiaf ateb. Barned pawb trosto ei hun. Dymunwn i naturiaethwyr, llysieu- wyr, fferyllwyr, a duwinyddion, roddi eu barn ar y pwnc. Yr wyf yn sicrhau fod y fath beth yn bod mewn gwirionedd; a phwy bynag a gymero'r drafferth i fyned i Drefaldwyn, ni chaiff ei siomi yn y tir diffrwyth. Y mae yr hanes a draddodir am y condemniedig a'r tystion tu hwnt i bob anmheuaeth, canys y mae wedi digwydd mor ddiweddar. Casglwyd yr hanes gan un o weinidogion yr Eglwys; ac argraffwyd a chyhoeddwyd ef yn bamphledyn oddeutu saith neu wyth mlynedd yn ol, dan yr enw, The Highwayman's Grave ac o'r pamphledyn hwn y cafodd y newyddiaduron Seisnig yr hanes, mae yn debyg, yr hwn a gyfieithiwyd yn onest a diduedd gan Mr. W. Williams."