Coelion Cymru/Rhagair
Gwedd
← Cynnwys | Coelion Cymru gan Evan Isaac |
Llên Gwerin → |
Er Cof
Am fy Chwaer Susana,
a Wyddai ac a Gredai
Goelion ei Mam
RHAGAIR
Lluniais y llyfr hwn oherwydd credu bod gwerth yn y coelion. Yn gyffredin, nid y sawl a gred y storïau a'u cofnoda, eithr y sawl a gred fod eu cofnodi yn hanfodol er gwybod hanes dyn a chenedl.
Y mae arnaf ddyled fawr i amryw, fel y dangosir ' yng nghorff y llyfr. Efallai na phair enwi rhai yn y fan hon dramgwydd i'r gweddill. Ar wahân i'r llyfrau a ddefnyddiais, cefais y cymorth mwyaf gan swyddogion Llyfrgell Genedlaethol Cymru ; yr Henadur John Morgan, Y.H., Ystumtuen ; Mr. Lewis Hughes, Henblas, Meliden, Sir Fflint, a'r Parchedig D. Llewelyn Jones, B.A., a roes awgrymiadau gwerthfawr, ac a gywirodd y proflenni. Diolch yn fawr i bawb.
Gŵyl Ddewi, 1938
Evan Isaac