Coelion Cymru/Llên Gwerin

Oddi ar Wicidestun
Rhagair Coelion Cymru

gan Evan Isaac

Y Tylwyth Teg

COELION CYMRU

I.

LLÊN GWERIN

Beth amser yn ôl nid oedd yng Nghymru namyn dau ddosbarth o bobl, sef yr uchelwyr a'r gwerinwyr, y dysgedig a'r anwybodus, a rhoddai'r ddau fel ei gilydd bwys mawr ar ofergoelion a phethau eraill llên gwerin. Rhoddant bwys arnynt eto yn awr, er nad am yr un rhesymau. Ond daeth i fod yn gymharol ddiweddar ddosbarth newydd, un wedi esgyn ychydig o anwybodaeth ond o hyd ymhell o gyrraedd dysg a diwylliant. Y dosbarth canol yw hwn, â thipyn o grefydd yn ei deimlad, a mwy o gaddug yn ei ddeall, un diddrwg didda, creadur cymysgryw, heb fod yn ddiwybod na goleuedig. I'r dosbarth hwn, pair ysgrifennu a sôn am bethau simsan fel ofergoelion gryn wayw.

Credir weithiau y goel ofer mai diffyg a berthyn i genedl yn ei mabandod ydyw ofergoeledd. Maentumir y cred cenedl yn ofer, megis y cred plentyn, hyd oni thyf i oleuni gwybodaeth gywir. Diflanna ofergoeledd yn ôl mesur cynnydd gwybodaeth. Eithr nid yw hyn onid rhan fechan o'r gwir. Ceir amryw bethau ym mywyd cenedl na chyffwrdd goleuni cynyddol y byd â hwy o gwbl. Praw hanes na lwyddodd na dysg na medr oesoedd i ysgar cenhedloedd oddi wrth rai coelion a ystyrir yn ofer.

Y mae'n wir i wyddoniaeth yn ystod y ddau can mlynedd diwethaf beri cynnydd anarferol mewn amryw ganghennau o wybodaeth. Hyhi a'n tywysodd i'r gwirionedd am rai o ddeddfau pwysicaf natur. Ychydig yw'r sawl a gred heddiw nad y ddaear sy'n symud, ac ni thyb ond ychydig o'n darllenwyr Beiblaidd culaf i'r haul sefyll erioed. Bu dynion fel Newton a Harvey a Galileo a Darwin yn gyfryngau i gywiro llawer ar gredoau cenhedloedd y byd. Ond y mae gwyddor eto yn dysgu mai yn yr ofergoelion hyn y ceir hanes dynoliaeth. Dywaid Syr John Rhys na ellir ysgrifennu hanes unrhyw genedl heb roddi ystyriaeth fanwl i'w thraddodiadau a'i choelion yn y gorffennol, a bod a fynno'r pethau hyn lawer â hanes cywir y genedl Gymreig. Nid pethau gwamal a dibwrpas mohonynt.[1] O safbwynt y gwyddonydd o edrych ar hanes y byd, nid ofer o gwbl yw ofergoelion. Y mae'n wir i wyddoniaeth ymlid amryw goelion ofer o fywyd y genedl Gymreig a chenhedloedd eraill yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf, ond ofergoelion oeddynt ynglŷn â deddfau a gwrthrychau a berthyn i natur. Ni phroffesa gwyddoniaeth ymyrryd ag anawsterau neu broblemau'r byd anweledig. Gedy gwyddoniaeth fyd na pherthyn iddi heb ymyrryd ag ef, gan led-fwrw taw mater i arall ydyw'r anweledig. I ymdrin â hwn daw datguddiad goruwchnaturiol. Bu cynnydd gwybodaeth trwy ddatguddiad oddi uchod yn foddion i oleuo cymydau tywyll fel afagddu, a lleihau llawer ar nifer y sawl a gred mewn swyno a chonsurio. Eithr y mae dosbarth arall o goelion fel y profir eto, a ystyrir yn ofergoelion, na cheir unrhyw oleuni arnynt gan na gwyddoniaeth na datguddiad. Pan gofir bod problemau na lwydda'r naill na'r llall o'r cyfryngau hyn i'w datrys, prin y dylid rhyfeddu at nifer mawr ofergoelwyr pob dosbarth ym mhob gwlad. Pob dosbarth— y dysgedig a'r diwylliedig yn ogystal â'r diddysg a'r anniwylliedig. Efallai nad oedd anghredadun mwy na'r Dr. Johnson ynglŷn â llawer o bethau a gredid yn gyffredin yn ei ddydd ef, ond credai yntau â pharodrwydd ac â ffydd plentyn yn ymddangosiad ysbrydion, ac mewn gwyrthiau a weithredid gan ei gyfoeswyr. Cydnebydd pawb, o ba lwyth bynnag y bônt, fod John Wesley yn ŵr hirben ac ymarferol, yn ddyn dysgedig iawn yn ei oes, â'i feddwl a'i fywyd yn santaidd; ond er ei synnwyr cyffredin cryf, ei ddysg a'i santeiddrwydd, credai Wesley yntau yn ymddangosiad ysbrydion, a chlywais ddywedyd y " dirgel gredai" y byddai fyw ambell anifail y tu hwnt i'r bedd.

Eithr nid oes alw am ddibynnu ar y gorffennol am enghreifftiau o ofergoeledd ymhlith gwyr dysgedig a gwybodus; brithir ein hoes ni â hwy. Nid yw Syr Oliver Lodge â'i wybodaeth wyddonol eang a manwl, a'r llenor gwych Conan Doyle, onid enghreifftiau o dyrfa fawr o ddysgedigion diwylliedig a dry at ysbrydegaeth am oleuni ar anawsterau ynglŷn â'r byd anweledig. Pum mlynedd yn ôl, a mi'n cydymdeimlo â gweinidog meddylgar a dysgedig ar farwolaeth ci bach a hoffai'n fawr, a dywedyd rhwng difri a chwarae, "Chwi a gewch gyfarfod eto." "ie," meddai, "'rwy'n meddwl eich bod yn iawn. Y mae gennyf resymau tros obeithio y cyfarfyddwn eto y tu draw i'r llen."

Gwelir, felly, nad perthyn i genedl yn ei mabandod yn unig y mae ofergoelion, ond y parhânt yn ei bywyd, i raddau mwy neu lai, o genhedlaeth i genhedlaeth, a thrwy bob datblygiad. Nid praw o anwybodaeth yn unig yw ofergoeledd, ac nid diffyg noeth mohono, eithr praw o feddylgarwch hefyd,—pobl, boent anllythrennog neu ddysgedig, yn wynebu anawsterau meddyliol ac yn dyfalu dirgeledigaethau, a'u hawydd am oleuni yn gryf. O gymryd yr olwg hon ar ofergoeledd, gwelir mai rhinwedd yn fwy na bai ydyw. Ffynna ofergoeledd mewn mannau gwledig sydd â'r amodau'n ffafriol i feddylgarwch, yn fwy nag yn y trefydd a'r mannau gweithfaol sydd â'u prysurdeb a'u miri yn hudo'r meddwl i arwynebedd a bydolrwydd.

Pwysleisiaf eto y ffaith nad ffwlbri mo'r ofergoelion, hen a diweddar, ond pethau hanfodol i'w gwybod i'r diben o ddeall yn gywir fywyd dyn a chenedl. Dywedodd yr Athro T. Gwynn Jones mewn beirniadaeth ddydd Calan, 1921, fod y sawl sy'n trafferthu i chwilio allan a chofnodi hen ofergoelion a thraddodiadau yn gwneuthur gwaith da, ac ychwanegai:

"Yr ydys bellach yn gweled mai colled fu'r agwedd a oedd mor gyffredin yng Nghymru yn ystod y ganrif ddiweddaf tuag at bethau a elwir yn 'Ofergoelion.' Collodd y Cymry agos bob i lliw o'u bywyd a'u harferion cenedlaethol drwy'r agwedd honno; collasant bopeth bron ond esgyrn sychion chwedlau eu cyndadau, heb wneuthur llawer mwy na dysgu chwedlau cyffelyb cenhedloedd eraill yn eu lle. Hyd yn oed er bod yn wir mai ofer oedd llawer o'r coelion a gollwyd, yr ydys erbyn hyn yn gweled mai drwyddynt hwy y gellir astudio hanes meddwl dyn, ac yn fynych iawn bod rhywbeth hanfodol yn gorwedd wrth wraidd y goel. Nid oes dim yn ddibwys nac yn ofer nac yn gwbl ddiamcan yngolwg gwir wybodaeth."

Yn wyneb y geiriau hyn o eiddo'r Athro, gallaf yn hyderus a diogel fynegi'r pethau a ddaeth imi o dro i'w gilydd o wahanol ffynonellau.

Nodiadau[golygu]

  1. Celtic Folklore, Cyf. I., td. 1.