Coelion Cymru/Y Tylwyth Teg

Oddi ar Wicidestun
Llên Gwerin Coelion Cymru

gan Evan Isaac

Bodau Anweledig

II.

Y TYLWYTH TEG

Y mae hanes y bodau bach direidus hyn mor swynol fel na fynnwn ei anghredu yn llwyr. Gresyn na fai'n wir i gyd. Yr enw a roddir arnynt fynychaf ym Morgannwg yw Bendith y Mamau, ac mewn rhan o Ddyfed fe'u gelwir Plant Rhys Ddwfn, ond yr enw cyffredin trwy Gymry yw Tylwyth Teg. Amrywia'r traddodiadau ynglŷn â hwy yn ôl fel yr amrywia arwynebedd y wlad, a cheir hwy yn amlach ar fynydd-dir nag ar wastadeddau isel. Disgrifir hwy mewn mannau rhwng Pumlumon a Dyfi fel bodau bychain, o duedd anonest, yn treulio'r haf yn y rhedyn ar fryniau, a'r gaeaf mewn grug a hesg. Ar nos loergan a'r awyr heb ias rhew ynddi, ymdyrrant ar lain o dir clir neu waun â'i blewyn yn las a chwta, a thrin yno eu campau difyr. Hoff ganddynt fynychu ffeiriau a marchnadoedd, a chymaint yw eu medr ag y llwyddant i gyfnewid arian y Tylwyth Teg am arian a fo yn llogell amaethwr, ac yntau druan yn cael, pan gais hwy i dalu am lo neu ebol, y diflannant rhwng ei fysedd. Gwelid hwy yn aml gynt ym marchnadoedd Sir Benfro, eithr ni welid hwy byth yn dyfod na dychwelyd.

Clywais eu disgrifio mewn bröydd eraill yn fodau o faintioli a nerth cymedrol, yn ymdroi o gwmpas amaethdai i wylio cyfle i ladrata ymenyn a chaws a llaeth, neu unrhyw ymborth arall a ddigwyddai fod mewn amaethdy. O fethu cael lluniaeth o'r tŷ, ânt i'r beudai a godro'r gwartheg yn sych, ac ar brydiau daliant y geifr hwythau a'u godro. Eithr drwg pennaf y math hwn ydyw cyfnewid babanod. A'r fam i gysgu ar ddiwedydd â baban iach a hardd yn ei mynwes, a chael yn ei le yn y bore un o fabanod eiddil a salw y Tylwyth Teg

Yr oedd hefyd fath arall o'r Tylwyth a ragorai lawer o ran natur ac arferion. Bodau bychain oeddynt hwythau, ond yn hardd a bonheddig, ac yn gymwynasgar i ddynion. Pethau bach llawen a direidus oeddynt. Ni wnaent ddrwg i neb, ac ni welid hwy odid fyth namyn yn chwarae. Dywaid Peter Roberts mai rhai bychain bach oeddynt, â gwallt llaes, a thlws odiaeth yr olwg. Marchogent weithiau geffylau bychain, a dilynid hwy gan gŵn bach meinion. Ni wisgent byth namyn mewn gwyrdd,—lliw eu hamgylchoedd— rhag eu gweled gan farwolion.[1] Rhoddai'r math hwn bris uchel ar lanweithdra, a gwobrwyent yn hael wragedd a morynion cymen a glân. Oherwydd hyn anogid y morynion i lanhau'r tŷ yn llwyr lân bob hwyrddydd, a disgwyl yr ymwelai'r Tylwyth â'r annedd yn ystod y nos, a gadael yno arian neu drysorau eraill. Anaml yr âi'r morynion hyn i orffwys heb adael dwfr glân mewn cawg wrth droed y grisiau, a bara ac enllyn ar y bwrdd, fel os âi un neu ragor o'r Tylwyth i'r tŷ i dorri newyn, neu i olchi baban, y ceid rhodd ar y pentan yn y bore. At hyn y cyfeiria Goronwy Owen yn ei "Gywydd y Cynghorfynt."

Cael eu rhent ar y pentan,
A llwyr glod o bai llawr glân.


Credir mewn rhannau o Gymru mai tan y ddaear y mae gwlad y Tylwyth Teg, ac yr eir iddi un ai trwy ogofau ac agennau yn y creigiau, neu trwy lynnoedd. Eithr anaml y gall marwolion ei chyrraedd trwy ddwfr. I lygaid meidrol y mae'r wlad yn fangre pob llawnder ac ysblander a dedwyddwch. Trigle llawenydd ac anfarwoldeb ydyw. Pan ddêl y preswylwyr i'n byd ni, deuant i chwarae a chanu a diddanu dynion. Chwaraeant ar frigau'r grug, a dawnsiant ar flaenau brwyn, a phan derfir hwy, ymguddiant ym mysedd y cŵn, Ni fwytânt na chig na physgod, eithr ffynnant ar fwyd llaeth wedi ei archwaethu â saffrwm y maes. Eto, dywaid rhai y pobant eu hunain fara gwyn a'i fwyta. Yn ôl Myrddin Fardd, rhoddai hen wraig o Abersoch fenthyg ei gradell yn aml iddynt.[2]

Gwelir cylchau'r Tylwyth ym mhob rhan o Gymru. Crwn a hirgrwn ydynt, a cheir hwy fynychaf ar wastadeddau bryniau. Gwelais hwy rai troeon ar fryniau lled uchel, fel Bryn-yr-Arian a edrych i Fae Ceredigion tros Gors Fochno. Ar nos loergan fe'u clywid gynt, ac efallai y clywir hwy o hyd gan y sawl sy'n ddigon tenau ei glust i ddal seiniau o'r byd anweledig, yn llafarganu gwahodd a chymell i'r cylchau fel hyn:

CÂN Y TYLWYTH TEG.

O'r glaswellt glân a'r rhedyn mân,
Gyfeillion diddan, dewch,
'E ddarfu'r nawn—mae'r lloer yn llawn—
Y nos yn gyflawn gewch;
O'r chwarae sydd ar dwyn y dydd,
I'r dolydd awn ar daith;
Nyni sydd lon, ni chaiff gerbron
Farwolion ran o'n gwaith.

Ysgafn-ddrws pren, llawr glân dan nen,
A'r aelwyd wen yn wir,
Tân golau draw, y dŵr gerllaw,
Yn siriaw'r cylchgrwn clir;
Trwy ofal glân â'ch pibau cân,
Rhowch gyd-erddigan dda,
Pan ddêl y wawr i'r dwyrain fawr,
Diflannu'n awr a wna.

Af yr awr hon lle cwsg yn llon
Farwolion fawr a mân.
Mynegaf 'nawr i'r deg ei gwawr,
Sy'n cadw'r llawr mor lân,
Gan ddweud wrth hon pa bryd gerbron
Y daw ei Heinion hi,
Mewn gwisg nid gau o las diau,
I'w breichiau—mawr ei bri.

Rhowch 'sgubau mân, briallu glân,
A'ch mes i'r loywlan wledd,
Rhydd cnewyll rin da flas diflin,
Melysa'r min fel medd;

'Nôl hyn, yn glau, oll bob yn ddau,
I'r llawr i chwarae awn,
Sain pibau 'nghyd heb lais yn fud,
Cyd-ddawnsio'n hyfryd wnawn.

Pan dorro'r wawr cwyd dyn i lawr
O'i gysglyd awr, 'e ga'
Ei dŷ yn rhydd, tir, praidd a fydd
Wiw ddeunydd iddo'n dda;
Cawn chwarae'n rhydd tra paro'r dydd,
Ar lennydd heulog liw,
Caiff dynol ach ei adeg fach,
A'i fronnau'n iach heb friw.[3]

Perchid y cylchau hyn gymaint fel nad ymyrrid o fwriad â hwy gan na dyn nac anifail. Yn hytrach nag aredig tir â chylchau'r Tylwyth Teg arno, gwell fyddai gan amaethwr gefnu ar ei fferm a byw mewn 'tŷ bach,' oblegid gwybod petai’n troseddu y disgynnai arno felltithion annisgrifiol. Oherwydd yr ofn hwn, nid aflonyddid ar y bodau bach o flwyddyn i flwyddyn, a dawnsient hwythau'n ddibryder a chanu:

Canu, canu trwy y nos,
Dawnsio, dawnsio ar waun y rhos,
Yng ngoleuni'r lleuad dlos,
Hapus ydym ni.

Pawb ohonom sydd yn llon,
Heb un gofid tan ei fron;
Canu, dawnsio ar y ton—
Dedwydd ydym ni.


Y mae storïau’r Tylwyth Teg yn lluosog-ceir cannoedd ohonynt—eithr ni roddaf yn awr namyn detholiad o'r rhai a ddengys wahanol nodweddion eu bywyd. I'r pwrpas hwn, mantais fydd bwrw i baragraff neu ddau y coelion a ddyfalwyd yn eu cylch.

Nid oes wybodaeth sicr am gychwyn y Bobl Fach. Draw ymhell yn niwl tew hen oesoedd y mae eu tarddiad. Credid unwaith yng Nghymru mai eneidiau Derwyddon oeddynt-Derwyddon rhy amherffaith i'r nefoedd a rhy dda i uffern. Credir yn awr mai hen drigolion y wlad yn Oes y Cerrig (Stone Age) ydynt, yn ymguddio mewn ogofau a thyllau rhag eu gweled gan eu gorchfygwyr. Y mae'r gred hon yn un naturiol, oblegid preswylir heddiw lannau Congo, yn Affrica, gan lwythau o gorachod na wyddid eu bod oni ddarganfuwyd hwy ychydig flynyddoedd yn ôl gan Syr Harri Johnston. Ym marn Syr Harri, wedi dyfod pobl oes y meteloedd, tyfodd cnwd o chwedloniaeth y Tylwyth Teg o ddulliau byw ac arferion corachod ogofau a choedwigoedd Ewrop.

Yn eu gwlad gudd a theg hwy priodant, a genir iddynt blant. Ar adeg y geni ceisiant yn aml famaeth o blith dynion. Er eu bod yn garedig a rhadlon, nid ydynt onest bob amser. Lladratant blant y c marwolion,' a gadael yn eu lle blant gwachul y Tylwyth. Lladratant hefyd, weithiau, ferched dynion a'u priodi. Unwaith y cânt fod dynol i'w gwlad, gwnânt bob ymdrech i'w ddarbwyllo i fwyta o'u hymborth, ac o lwyddo disgyn arno hud a'i caethiwa, ac ni ddychwel i blith dynion am flynyddoedd, ac efallai na ddychwel byth. Gwobrwyant ddynion am garedigrwydd, eithr dialant am bob chwilfrydedd i geisio gwybod dirgelion eu bywyd hwy. Gallant eu datguddio eu hunain a diflannu fel y mynnont, a pheri i wrthrychau ymddangos yn gwbl wahanol i'r hyn ydynt, oblegid y maent yn feistri ar ledrith. Y maent hefyd yn anfarwol.[4]

Nid yw'r gred yn y Bobl Fach wedi llwyr farw. Pymtheng mlynedd yn ôl, a mi'n traethu ar lên gwerin ym Methel, Cwm Rheidol, dywedodd y Cadeirydd ar y terfyn ei fod yn ofidus am nad oedd ei frawd, a oedd yn Llundain, yn bresennol i glywed hanes y Tylwyth Teg, oblegid iddo ef, pan breswyliai yn y wlad, eu gweled droeon. Yng Ngorffennaf, 1936, cyfarfûm ym Mangor â boneddiges gymharol ieuanc—heb fod dros ddeg ar hugain-a daerai'n gryf iddi hi a chyfeilles iddi, wrth ddychwelyd o dro yn y wlad, weled clwstwr da o'r Tylwyth yn dawnsio a chwarae ar lain o dir mewn dyffryn. Mor ddiweddar â Medi 1936, rhydd Mr. R. Ll. Lloyd, Liverpool House, Carno, Sir Drefaldwyn, hanes diddorol am a ddigwyddodd y dyddiau hynny yng nghymdogaeth ei gartref. Ar uchaf y bryniau rhwng Carno a Phontdolgoch, ym Maldwyn, y mae tri llyn a elwir Llyn Tarw, Llyn Mawr, a Llyn Du, a cheir hen draddodiad bod y Tylwyth Teg yn trigo yn amgylchoedd y llynnoedd hyn. Y mae'r llynnoedd mewn man diarffordd, ac anaml yr eir ar eu cyfyl gan neb namyn ambell fugail neu bysgotwr. Ond ddechrau Medi, 1936, ymwelodd Mrs. Edwards, ffermdy Clogiau, ynghyda'i merch Alwyna (16) a dau blentyn i'w brawd, Aneurin (9) a Gwen Davies (12) â Llyn Tarw, a thystiai Mrs. Edwards a'r plant iddynt glywed yno, fin nos, y canu melysaf a glywsant erioed. Er edrych amgylch ogylch a gwrando, ni welwyd neb na chlywed dim ond y canu cyfareddol.[5] Ymwelodd Mr. George Pollard, gohebydd un o bapurau dyddiol Llundain, â'r llynnoedd, a thystiolaeth Mrs. Edwards wrtho ydoedd, "Pan groesem y llwybr sy'n arwain at ben yma'r llyn, synnwyd a swynwyd ni gan ganu uchel a ddeuai oddi tan ein traed o'r ddaear ac o'n cwmpas."Dywedai Mr. Richards, ffermdy Pant-y-bryn, yntau, na chlywsai ef y canu yn ddiweddar, eithr iddo'i glywed droeon amryw flynyddoedd yn ôl. Tystiai Mr. William Edwards, ffermdy Coed Cae, ei fod yn sicr y deuai'r canu o'r creigiau a amgylchai'r llyn. Pan oedd ef yn hogyn bach clywsai ei dad yn sôn am y canu, ac yr oedd yn sicr y gwyddid amdano tua chan mlynedd yn ôl.[6] Methodd y gohebydd medrus â datrys y broblem; eithr nid problem mohoni i'r sawl a gred yn y Tylwyth Teg.

Ychydig amser yn ôl—dwy neu dair oes efallai Testun italig—peth peryglus oedd ceisio croesi cylchau'r Tylwyth. O diflannai neb heb adael trywydd o gwbl, tybid yn gyffredin syrthio ohono i ddwylo'r Tylwyth Teg a'i gyfareddu ganddynt. Ceir lliaws o enghreifftiau o hyn.

COLLI'R FORWYN. Cafodd Syr John Rhys hanes diddorol gan hen wraig ym Mronnant, Ceredigion, am eneth a gollesid yn y gymdogaeth honno yn ei dyddiau bore hi. Yng ngwanwyn y flwyddyn, aeth un o loi amaethwr ar grwydr, a pharodd yntau i'w was a'i forwyn ei geisio a'i ddwyn adref. A hwy yn croesi dôl wrth ddychwelyd rhwng tywyll a golau, diflannodd yn eneth fel diffodd cannwyll, ac er i'r gwas chwilio a gweiddi methodd ei chael. Aeth y newydd am y colli trwy'r fro fel fflam trwy wellt, ac yn fuan drwgdybiwyd y gwas o gamwri. Er y taerai ef ei ddiniweidrwydd, fe'i carcharwyd. O glywed ei daeru uchel a chyson, meddyliwyd am driciau'r Tylwyth Teg, ac ymgynghorwyd â'r Consurwr. Eglurodd yntau fod y ferch yn nwylo'r Tylwyth, ac i'w rhyddhau bod yn rhaid i'r gwas ymhen un dydd a blwyddyn o nos y colli, ac yn y dillad a wisgasai'r pryd hwnnw, fyned i'r man y collwyd hi a'i cheisio. Aeth y gwas, a disgwyl hyd oni ddaeth y Bobl Fach i'w cylch i ddawnsio a chanu. Gwelodd y ferch yn eu plith. Trwy ofal a medr ymlusgodd y gwas hyd at fin y cylch, a phan oedd hwyl y chwarae ar ei uchaf, a phawb yn benysgafn yn nhroell y ddawns, taflodd yntau ei fraich o'r ysgwydd â sydynrwydd saethu, a chipio'r eneth o'r cylch. Wedi cyrraedd y cartref, mynegodd y forwyn gael ohoni flwyddyn o lawenydd digymysg, ac na allai aros yn y ffermdy os cyffyrddid hi rywdro â haearn. Un pen bore ymhen rhai blynyddoedd, a'r amaethwr yn ffrwyno'i farch ar gyfer taith i'r farchnad, cyffyrddodd yr enfa ar ddamwain â'r forwyn. Diflannodd hithau ar drawiad.

LLITHIO I'R CYLCH YN NANT-Y-BETWS (CAERNARFON). Ceir hanes y llithio hwn ym mhob rhan o Gymru. Pa wahaniaethau bynnag sydd rhwng Deau a Gogledd, yr un ydyw'r Tylwyth Teg o ran natur ac arferion ym mhobman. A mab Llwyn Onn, Nant-y-betws, ar ei hynt garu i Glogwyn-y-gwin, ar nos "golau pelyd," trawodd ar y Bobl Fach yn dawnsio a chanu'n isel mewn gweirglodd ar lan Llyn Cwellyn. Tynnodd at y cylch, a denwyd ef i mewn. Fe'i cafodd ei hun yn y wlad harddaf a fu erioed, a phawb yn hoyw a dedwydd. Bu yno saith mlynedd, eithr iddo ef nid oedd fwy nag ychydig oriau. Daeth i'w feddwl ei fwriad i gyfarfod â'i gariadferch, a cheisiodd ganiatâd i ddychwelyd adref. Cafodd hynny'n rhwydd, ac arweiniwyd ef tua'i wlad. Yn sydyn diflannodd y lledrith, ac fe'i cafodd yntau ei hun ar y ddôl noeth lle gwelsai gyntaf y chwarae a'r dawnsio. Cyrhaeddodd ei gartref a chael yno bopeth wedi newid. Yr oedd ei rieni yn y bedd, ei frodyr yn methu â'i adnabod, a'i gariad wedi priodi un arall. Torrodd ei galon, a bu farw mewn llai nag wythnos.[7]

LLANCIAU BRYN EGLWYS (CORWEN) A RHYS A LLYWELYN (GLYN NEDD). I fod dynol y mae 'un dydd a blwyddyn' yng ngwlad y Tylwyth Teg fel ychydig oriau neu funudau. Profir hyn gan storïau a geir trwy Gymru. Y mae honno a geir o Fryn Eglwys, gerllaw Corwen, yn lled adnabyddus mi a dybiaf, oblegid cynhwysir hi yn y mwyafrif o gasgliadau o lên gwerin Cymru. Dau lanc o Fryn Eglwys yn cyrchu glo o Finera— yn taro ar gwmni o'r Tylwyth Teg yn dawnsio— un yn ymuno â hwy am ychydig funudau—ni welwyd ef mwy gan ddynion am flwyddyn gyfan.[8][9]

Ceir hanes o eithaf Deheudir Cymru sy'n cynrychioli'r math hwn o stori cystal â dim a welais i. Ychydig tros gan mlynedd yn ôl aeth Rhys a Llywelyn, dau o weision fferm, liw nos o Lyn Nedd i gyrchu calch. Wrth ddychwelyd clywodd Rhys ganu, a gweled dawnsio'r Tylwyth, a pharodd i Lywelyn fyned rhagddo â'r llwyth, am y mynnai ef ymuno am ychydig yn y ddawns. Pan dorrodd y wawr nid oedd Rhys wedi cyrraedd y fferm. Bu chwilio dyfal amdano a methu â'i gael. Drwgdybiwyd Llywelyn o lofruddio'i gydwas. Eithr ymhen rhai misoedd daeth i feddwl amaethwr deallus, a oedd gymydog, gampau'r Tylwyth Teg. Aeth ef ac eraill, â Llywelyn yn eu plith, i'r man y collwyd Rhys, a thua'r un adeg o'r nos. Yn ddifwriad sangodd Llywelyn fin y cylch a chlywodd ganu, eithr nis clywai'r lleill. Rhoes un droed ar droed Llywelyn, a chlywodd yntau'r canu, ac felly pob un o'r lleill yn ei dro. Yn fuan, gwelent y cylch yn llawn o'r Bobl Fach yn dawnsio ar eu hegni, a Rhys yn eu plith. Gwyliasant y ddawns hyd oni ddaeth Rhys i'w hymyl, ac yna ei gipio allan. Y peth cyntaf a ofynnodd ydoedd, "P'le mae'r llwyth a'r ceffylau?" O'i anfodd yr aeth adref, am y tybiai na fuasai yn y ddawns fwy na phum munud. Dywedwyd yr hanes wrtho. Aeth yntau yn bruddglwyfus a chlafychodd, ac ni bu fyw yn hir.[10]

CYRCHU MAMAETHOD O BLITH DYNION I WEINI AR WRAGEDD Y TYLWYTH. Ni fu erioed gystudd na phoen nac ofn ymhlith y Tylwyth Teg—nid oes ynddynt hadau marwoldeb—ond er cysur a mwyniant i'r wraig ar adeg geni baban, ceir ambell ddynan mwy caredig na'i gilydd yn ceisio mamaeth o blith y 'marwolion' i weini arni.

Rhydd Syr John Rhys hanesyn diddorol sy'n enghraifft o lawer. Preswyliai yn Swyddffynnon, Ceredigion, hen wraig o'r enw Pali, a fu farw tua thrigain a deg o flynyddoedd yn ôl, a hi ar gyfyl cant oed. Un min nos cyrchwyd hi gan un o'r Tylwyth i weini ar ei briod. Arweiniwyd hi i blas gwych. Yr oedd pob pilyn yn yr ystafell cyn wynned â'r eira. Ganed y baban. Ni welai a ac ni chlywai Pali neb na dim ond y fam a'r baban, eithr llenwid yr ystafell â gweinidogion bychain y Tylwyth yn gweithio'n gudd a thawel. Rhoddwyd i Bali ennaint arbennig i eneinio corff y baban pan ' driniai' ef fore a hwyr, a pharwyd iddi ochel cyffwrdd ei llygaid ag ef. Eithr un hwyr, a hi yn c trin' y plentyn, aeth i'w llygad gosi, ac yn ddifeddwl rhwbiodd hithau ef â'i llaw. Ar amrantiad gwelai bopeth-yr ystafell yn llawn o'r Bobl Fach. Bore trannoeth pan olchai'r baban, meddai Pali wrth y fam, " Chwi gawsoch lawer o ymwelwyr yma ddoe." " Ymwelwyr?" meddai hithau, " Pa fodd y gwyddoch hynny? A roddasoch chwi'r ennaint ar eich llygaid?" Yna neidio'n chwimwth o'i gwely a chwythu i lygaid Pali, a dywedyd, " Bellach ni welwch ddim a berthyn i ni." O hynny allan bu Pali yn ddall i bopeth y Tylwyth Teg hyd ei bedd. Hanes diddorol yw hwnnw a ddaeth o ardal Beddgelert. Un tro, a mamaeth o Nanhwynan yn Hafodydd Brithion ynglŷn â'i gwaith, daeth at y drws ŵr bonheddig ar farch glaslwyd, a'i gorchymyn i'w ddilyn ef yn ddiymdroi. Esgynnodd hithau i gefn y march ac eistedd wrth sgil y gyrrwr. Ymaith â hwy fel y gwynt drwy Gwm Llan, tros y Bwlch, i lawr Nant-yr-Aran a thros y Gadair i Gwm Hafod Ruffudd. Cyrhaeddwyd plas mawr a gwych wedi ei oleuo â llusernau na welodd erioed eu hafal. Aethpwyd i mewn, trwy dyrfa o wasananaethyddion bychain, i ystafell gwraig y plas. Gwnaeth y famaeth ei gwaith ar frys ac* yn fuan. Tariodd yno rai dyddiau, a hwy oedd y dyddiau hapusaf a gafodd erioed. Cyn ei chychwyn oddi yno, rhoes y gŵr bonheddig iddi bwrs mawr a thrwm, a'i gorchymyn i beidio â'i agor hyd oni chyrhaeddai ei chartref. Pan agorwyd y pwrs cafwyd ef yn llawn o aur. Bu'r famaeth fyw hyd derfyn ei hoes ar ei henillion ym mhlas y Tylwyth Teg.[11]

Ceir o Gernyw stori mamaeth a wahaniaetha gryn lawer oddi wrth y ddwy a nodwyd, a hon yw yr unig un o'i bath y gwn i amdani. Yng Nghernyw ymddiriedwyd un o blant y Tylwyth Teg i famaeth ddynol i'w fagu yn ei chartref hi ei hun, a rhoddwyd iddi ddwfr o natur arbennig i olchi'r bachgen. Daeth y plentyn â llwyddiant anarferol i'r cartref, ac ymhoffodd y famaeth yn fawr ynddo. O weled y parai'r dŵr a ddefnyddiai i wyneb y bachgen ddisgleirio fel yr haul, mynnodd weled pa effaith a gâi ar ei hwyneb hithau. Wrth iddi ymolchi, tasgodd defnyn neu ddau o'r dŵr i'w llygad. Yna gwelai mewn eiliad, ac am y tro cyntaf, nifer o'r Bobl Fach yn chwarae â'r plentyn ar lawnt y tŷ. Un diwrnod yn y farchnad, cyfarfu â thad y bachgen a'i gyfarch. Meddai yntau wrthi:

" Nid dŵr i ti, ond dŵr i'r baban;
Collaist dy lygad, y baban a'th hunan."

O'r awr honno bu'r famaeth yn ddall yn y llygad deau, a phan gyrhaeddodd adref yr oedd y bachgen wedi diflannu. Ciliodd pob llwyddiant a hawddfyd o'r cartref, a bu hi a'i phriod yn dlawd a thruenus hyd derfyn eu bywyd.[12]

PRIODI UN O FERCHED Y TYLWYTH (CAERNARFON). Peth cyffredin gynt ydoedd i lanc o blith dynion ymserchu yn un o ferched y Tylwyth Teg a'i phriodi. Cafodd Syr John Rhys gan y Parchedig Owen Davies, curad Llanberis, yr hanes a ganlyn fel yr adroddid ef yn Nant-y-betws, gerllaw Caernarfon.

Un prynhawn teg ym Mehefin, aeth etifedd yr Ystrad i lan afon Gwyrfai, heb fod ymhell o'i chychwyn yn Llyn Cwellyn, ac ymguddio mewn llwyn yn ymyl y fan yr arferai'r Tylwyth Teg ddawnsio. Cyn hir daeth y Tylwyth yno, ac yn eu plith yr eneth dlysaf a welsai. Heb yn wybod i'r Tylwyth, llwyddodd i'w dal a'i dwyn i'r Ystrad. Syrthiodd yr etifedd mewn cariad â hi, a llwyddo i'w chadw yn forwyn iddo. Bu'n forwyn heb ei bath. Godrai deirgwaith y swm arferol o laeth oddi wrth bob buwch. Eithr methai yn ei fyw â'i chael i ddatguddio'i henw. Ar ddamwain, un tro, fe'i cafodd ei hun wrth yr hen lwyn eilwaith, ac ymguddiodd a chlywed y Tylwyth yn sôn am yr eneth a gollwyd, ac yn dywedyd, "Pan oeddym yma ddiwethaf dygwyd oddi arnom ein chwaer Penelope gan un o'r marwolion." Dychwelodd yntau i'r Ystrad a chyfarch y forwyn wrth ei henw. Synnodd hithau ac ofni peth wrth glywed ei henw. Ceisiodd y llanc ganddi addo bod yn briod iddo, ac wedi peth taerineb addawodd hithau ei briodi a bod yn ffyddlon iddo, ar yr amod nad oedd i'w chyffwrdd â haearn. Priodwyd, a ganwyd iddynt fab a merch. Trwy rinweddau'r wraig daethant yn gyfoethog iawn. Yn ychwanegol at yr Ystrad daeth holl ogleddbarth Nant-y-betws, ac oddi yno i ben yr Wyddfa, ynghyd â Chwm Brwynog, ym mhlwyf Llanberis, yn eiddo iddynt. Eithr un diwrnod, a'r ddau ar y ddôl yn ceisio dal ceffyl a oedd braidd yn wyllt a chyflym, taflodd y gŵr y ffrwyn at y ceffyl i'w atal, ac ar ddamwain cyffyrddodd haearn a oedd ar y ffrwyn â'i briod. Diflannodd hithau ar amrantiad ac ni welwyd hi mwy. Ond un noson ymhen talm o amser, a'r gogleddwynt yn gryf ac oer, daeth Penelope at ffenestr 'stafell wely ei phriod a dywedyd wrtho:

Rhag bod annwyd ar fy mab,
Yn rhodd rhowch arno gôb ei dad;
Rhag bod annwyd ar liw can,
Yn rhodd rhowch arni bais ei mam.[13]

Y TYLWYTH TEG YN LLADRATA PLENTYN. Gadawodd gwraig Dyffryn Mymbyr, gerllaw Capel Curig, ei baban yng ngofal ei mam a oedd yn hen, ac aeth hithau i'r maes i gynorthwyo achub y cynhaeaf. Daeth ar yr hen wraig gwsg trwm, a llithrodd rhai o'r Tylwyth i'r tŷ a dwyn y baban o'i grud, a gosod un o'u babanod eiddil hwy yn ei le. Pan ddychwelodd y fam, cafodd yn y crud fod bach gwachul a hyll yn crio â hynny o nerth a oedd ganddo. Ni welodd y fam beth bach salwach erioed. Galwodd ar ei phriod o'r maes a'i yrru i chwilio am "Ŵr Cyfarwydd," ac ymgynghori ag ef. Ar ôl hir holi, cafwyd bod offeiriad Trawsfynydd yn gyfarwydd yng nghyfrinion ysbrydion a bodau anweledig eraill. Aed at hwnnw. Parodd yntau i'r gŵr geisio rhaw a'i gorchuddio â halen a thorri ynddo lun croes. Yna gosod y rhaw ar y tân yn ystafell y plentyn diethr, â'r ffenestr yn agored. Pan ddechreuodd yr halen grasu, diflannodd yr erthyl bach yn anweledig, a chaed y baban arall yn ddianaf ar garreg y drws.[14]

I amlygu nodweddion y Tylwyth Teg nid oes ofyn am ychwanegu namyn un stori, sef "Melltith Pantannas." Cyn belled ag y gwelais nid oes yn bod well stori amdanynt na hon. Cafodd Syr John Rhys hi gan Mr. Isaac Creigfryn Hughes, Mynwent-y-Crynwyr, Morgannwg. Yr oedd Creigfryn yn fardd adnabyddus mewn cylch eang yn ei ddyddiau bore, a datblygodd yn nofelydd da. Cyhoeddwyd o leiaf chwech o'i nofelau. Yn eu plith y mae "Y Ferch o Gefn Ydfa," "Y Ferch o'r Sgêr" a "The Tragedy in Gelli Woods." Glöwr ydoedd. Bu farw ym mis olaf y flwyddyn 1928, yn 76 oed. Yr oedd Creigfryn yn ddall y tro diwethaf y gelwais i'w weled, ond yr oedd mor hoyw ei feddwl a diddan ei ymgom ag y bu erioed. Cyraeddasai radd lled uchel o ddiwylliant, ac efallai na chredai bopeth a ddywedai am y Tylwyth Teg. Ni wn i ddim. Soniai lawer amdanynt, a châi flas anarferol ar ddilyn eu trywydd. Wele'r stori.

Y TYLWYTH TEG YN DIAL, NEU MELLTITH PANTANNAS (MORGANNWG). Ymwelai'r Tylwyth yn gyson â meysydd Pantannas, ond am ryw reswm neu'i gilydd ni hoffai'r amaethwr eu hymweliadau, a rhoes ei fryd ar ddyfalu moddion i'w cadw draw. Wedi methu â chynllunio dim effeithiol ymgynghorodd â rheibes, ac addawodd hithau ei gynorthwyo os câi hi "y godro am un hwyr a bore." Parodd iddo aredig y meysydd y cyrchai 'r Tylwyth iddynt, a châi yn fuan y diflannent mewn siom o golli y tonglas. Triniwyd y tir a hau, a thyfodd yr had yn gnwd trwm. Daeth y cynhaeaf. Eithr un hwyr cyfarfu'r amaethwr ar ei lwybr â hen ŵr bach wedi ei wisgo mewn gwyrdd, a chyfeiriodd hwnnw ei gleddyf bychan ato a dywedyd,

"Dial a ddaw,
Y mae gerllaw."

Cellwair a chwerthin a wnâi'r amaethwr—onid oedd rheibes yn gefn iddo? Ond ymhen ychydig ddyddiau, a hwy ar fedr cywain yr ŷd, llosgwyd y maes gan y Tylwyth Teg. Edifarhaodd yr amaethwr am a wnaeth, a thra myfyriai yn y maes uwchben y difrod, wele'r gŵr bach yn dynesu eilwaith a dywedyd,

"Nid yw ond dechrau."

Datganodd yr amaethwr ei ofid, ac addo y câi'r tir dyfu drachefn i fod yn fannau chwarae'r Tylwyth os atelid y dial. "Na," meddai'r cor, "gair y brenin yw, Dial, ac nid oes ar y ddaear a'i tyn yn ôl." Ar ôl hir ymbil â'r bychan, addawodd yntau eiriol ar ei ran. Wedi machlud haul trannoeth cyfarfuwyd drachefn, a chael bod gair y brenin i sefyll. Rhaid oedd dial, ond yn wyneb edifeirwch yr amaethwr ni ddeuai'r felltith arno ef na'i blant, ond " rhaid oedd dial."

Aeth canrif heibio, ac ni ddaeth un math o aflwydd, eithr clywid weithiau y waedd, "Daw dial."

Yr oedd etifedd Pantannas a merch Pen Craig Daf ar fin priodi, ac yng ngŵyl y Nadolig cyrchwyd y ferch ieuanc i wledd ym Mhantannas. A'r cwmni o gylch y tân wedi'r wledd, dychrynwyd hwy gan floedd o'r afon islaw—

"Daeth amser dial."

Ymwahanwyd, ac aeth Rhydderch, yr etifedd, â'i gariadferch, Gwerfyl, i'w chartref ym Mhen Craig Daf, ac ni ddychwelodd adref.

Ar ei ffordd yn ôl i Bantannas daliwyd Rhydderch gan y Tylwyth yn un o'u cylchau, a'i hudo i'w hogof yn Nharren-y-Cigfrain, a'i gadw yno. Aeth heibio flynyddoedd, a gwelid Gwerfyl fore a hwyr ar fryncyn yn ymyl ei chartref yn syllu i bob cyfeiriad gan ddisgwyl ei chariadfab. Gwyliodd oni phallodd ei golwg a gwynnu o'i gwallt. Disgwyl yn ofer am oes. Bu farw, a chladdwyd hi ym mynwent hen Gapel-y-Fan.

Wedi tario o Rydderch yn ogof Tarren-y-Cigfrain, am ychydig oriau yn ôl ei dyb ef, dymunodd ddychwelyd i Bantannas a phriodi Gwerfyl. Daeth allan ganol dydd a thynnu at Gapel-y-Fan, ond nid oedd yno namyn murddun. Aeth i Ben Craig Daf a holi am Gwerfyl, eithr dieithriaid oedd yno. Aeth i Bantannas, ei gartref, a chael yno eilwaith ddieithriaid. Yn fuan daeth gŵr y tŷ o'r maes, a'r cwbl a wyddai hwnnw ydoedd, cofio clywed ei dadcû yn sôn am golli disymwth etifedd yr ystâd rai cannoedd o flynyddoedd cyn ei ddyddiau ef. Ar ddamwain, wrth godi o'i eistedd, cyffyrddodd yr amaethwr Rydderch â'i ffon, a diflannodd yntau mewn cawod o lwch.

Y mae Pantannas—adeilad diweddar—ar fryncyn sy'n cysgodi Mynwent-y-Crynwyr, ym Morgannwg. Saif Pen Craig Daf ar y mynydd rhwng gorsaf Quakers Yard a Bedlinog, ac y mae Tarren-y-Cigfrain ychydig islaw Merthyr Vale.

Y TYLWYTH TEG YN OFNI HAEARN AC YN CUDDIO'U HENW. Yn storïau’r Tylwyth Teg cyfeirir yn aml at haearn fel peth i'w ofni a'i ochel, a bu amryw sy'n gyfarwydd â llên gwerin yn dyfalu am y rheswm a cheisio esbonio'r diofrydbeth (taboo). Bernir weithiau y teflir ni'n ôl i Oes y Cerrig (Stone Age). Pan ddarganfuwyd meteloedd, ymwrthodwyd ag arfau cerrig mewn bywyd cyffredin, eithr am rai oesoedd wedyn parhawyd i ddefnyddio arfau cerrig i bob pwrpas crefyddol. Hyn oedd yr arfer drwy'r byd, ac er nad oes prawf pendant mai dyma oedd arfer hen drigolion Cymru, y mae'n lled debyg eu bod hwythau yn gaeth i'r un rheol. Tybid yn naturiol, oherwydd gwasanaethu'r duwiau gyhyd ag offerynnau cerrig, y gwrthwynebai'r duwiau hynny bob newid. Priodolid math ar gymeriad neu ansawdd ddwyfol i'r erfyn carreg.[15]

Tybir hefyd yr ofnai'r hen drigolion bore haearn oherwydd bod eu gelynion, a ddefnyddiai haearn i ymosod, yn drech na hwy nad oedd ganddynt namyn arfau cerrig.

Wrth gwrs nid yw hyn i gyd ond dyfalu noeth, a gweithredu ar yr un egwyddor ag y gwnaethai'r hen ofergoelwyr cyntaf.

Y mae Cuddio'r Enw yn beth cyffredin yn hanes y Tylwyth Teg. Ceir enghraifft yn stori Etifedd yr Ystrad a Penelope. Ni fynnai'r Bobl Fach ddatguddio'u henw. Credir yn y Dwyrain o hyd fod gwybod enw person yn sicrhau dylanwad mawr ac awdurdod llwyr ar y person hwnnw.

Oherwydd hyn, mewn amryw briodasau yn India heddiw, ni ŵyr y priodfab enw priodol y briodasferch hyd oni fydd y priodi trosodd. Nid oes iddo awdurdod arni hyd hynny. Cadwodd miloedd o filwyr India yn y Rhyfel Mawr eu henwau yn gyfrinach ar ròl fechan a oedd yn rhwymedig ar y fraich neu am y gwddf. Mynnent eu hadnabod wrth enwau ffug. Anaml y rhydd anwariaid eu henwau priodol. Byddai rhoddi'r enwau yn rhoddi i eraill awdurdod trostynt.[16] Ni fyn y Tylwyth Teg fod tan awdurdod neb.

Nodiadau[golygu]

  1. Yr Hynafion Cymreig, Peter Roberts (1823), td. 149.
  2. Welsh Folklore Yr Athro T. Gwynn Jones (1930), td. 51-57.
  3. Hynafion Cymreig, Peter Roberts (wedi ei drosi i'r Gymraeg gan Hugh Hughes) (1823), td. 153-4.
  4. The Science of Fairy Tales, E. S. Hartland, Llundain (1891) td. 336.
  5. The Western Mail and Sonth Wales News, September 2, 1936.
  6. News Chronicle, September 28, 1936.
  7. Celtic Folklore, Syr John Rhys, Cyf. I., td. 49.
  8. Welsh Folklore, y Parch. Elias Owen (1887). "Cyf. Eist. Ffestiniog" (1898).
  9. Y Tylwyth Teg, Hugh Evans (1935).
  10. The Science of Fairy Tales, F. S. Hartland (1891) td. 162-3.
  11. Y Brython, Cyf. IV., td. 231.
  12. The Science of Fairy Tales, E. S. Hartland (1891), td. 66.
  13. Celtic Folklore, Cyf. I., Syr John Rhys, td. 42-44.
  14. Celtic Folklore, Cyf. I., Syr John Rhys, td. 100.
  15. The Science of Fairy Tales, E. S. Hartland (1891), td. 306-7.
  16. It Happened in Palestine, L. D. Weatherhead, M.A. (1936), td. 80.