Coelion Cymru/Bodau Anweledig
← Y Tylwyth Teg | Coelion Cymru gan Evan Isaac |
Ymddangosiad Ysbrydion → |
III.
BODAU ANWELEDIG
Ceir math arbennig o fodau ysbrydol yn ymyrryd â bywyd y ddaear na ellir yn briodol eu rhestru gyda'r Tylwyth Teg na'r ysbrydion a ymddengys i ddynion. Ni wn am well enw arnynt na Bodau Anweledig. Gwahaniaethant o ran amryw bethau, eithr y maent oll ynghudd—anaml, os byth, y gwelir hwy.
Y Coblynnau. Nid oes sicrwydd hollol ynglŷn â natur a pherthynasau'r bodau hyn. Cred rhai mai rhywogaeth arbennig o'r Tylwyth Teg ydynt. Ond nid oes yn eu harferion ddim tebyg i eiddo'r Tylwyth, ac er bod tuedd ymguddio yn y Bobl Fach, gwelir hwy'n aml, yn ôl tystiolaeth amryw, eithr y mae'r Coblynnau yn gwbl anweledig. Y mae iddynt amryw ddibenion, ond y prif ddiben ydyw gwasanaethu mwynwyr trwy eu tywys at feteloedd, megis plwm a chopr, arian ac aur; ac ar brydiau cynorthwyant y glowr yntau. Gwnânt eu gwaith trwy guro'r graig, a rhoddi arwyddion eraill trwy sŵn tanddaearol. Eu henw Saesneg ydyw Knockers.
Brithir rhai o siroedd Cymru, ac yn arbennig Ceredigion a Fflint, â gweithfeydd mwyn plwm a chopr. Ar fynydd a dyffryn a chwm a chilfach ceir cannoedd o byllau a lefelydd, a thynnwyd ohonynt er dyddiau'r Rhufeiniaid feteloedd gwerth miliynau o bunnoedd. Caed yn y mwyafrif o'r gweithfeydd hyn lawer o arian a thoreth o blwm a chopr. Nid ydynt wedi eu " gweithio allan" o lawer, ond am resymau hysbys y mae'r nifer fwyaf ohonynt yn segur ers ugeiniau o flynyddoedd.
I lawr hyd at hanner can mlynedd yn ôl, credai'r mwynwyr yn gryf yn y Coblynnau a'u cymwynasgarwch. Clywais ganwaith pan oeddwn yn hogyn eu curo dyfal yng ngwaith Esgair Hir. Ni wyddwn y pryd hwnnw achos a diben y curo, ac efallai fod yr hen fwynwyr yn rhy garedig a meddylgar i egluro i lanc rhag peri dychryn iddo. Profir nad ieuanc na damweiniol y gred yn y Coblynnau gan lythyrau Lewis Morris, Môn.
Pan breswyliai Lewis Morris yn Allt Fadog, ffermdy yn y mynyddoedd ychydig filltiroedd o Aberystwyth, gwariodd lawer o'i amser a'i arian ar weithio gweithfeydd mwyn plwm, fel goruchwyliwr Mwynau'r Brenin a throsto'i hun. Yn 1754 ysgrifennodd amryw o lythyrau ynglŷn â hwy at ei frodyr ac eraill. Mewn rhai o'r llythyrau hyn sonia am y Coblynnau. Hwy ydyw baich llythyr a ysgrifennodd o Allt Fadog, Hydref 14, 1754, at ei frawd William. Ysgrifennodd yn Saesneg, ac wele drosiad rhydd o rai o'i frawddegau.
"Chwardd y sawl na ŵyr ond ychydig am gelfyddydau a gwyddorau, neu bwerau Natur (y rhai sydd bwerau Awdur Natur) am ein pen ni fwynwyr Ceredigion y sy'n credu yn y Coblynnau mewn gweithfeydd. Math o fodau anweledig ac o natur dda ydynt. Clywir hwy, eithr nis gwelir. Y maent yn rhagarwyddion i'r gweithwyr, megis y mae breuddwydion o rai damweiniau a ddigwydd inni.
"Cyn darganfod gwaith Esgair Mwyn, gweithiai'r bobl fach hyn yn galed yno ddydd a nos, ac y mae amryw o bobl onest a sobr a'u clywodd, a rhai personau na feddent un syniad amdanynt hwy na'r gweithfeydd. Ar ôl darganfod y mwyn peidiodd y Coblynnau â'u gwaith.
"Pan ddechreuais weithio Llwyn Llwyd, gweithient mor brysur yno am gryn amser nes dychrynu rhai gweithwyr ieuainc, a pheri iddynt ymadael â'r gwaith. Yr oedd hyn pan weithid y lefelydd a chyn taro ar fwyn. Pan gyrhaeddwyd y mwyn peidiasant hwythau â'u curo, ac ni chlywais hwy mwy."
Dysg Lewis Morris y dylid gweithredu bob amser yn ôl cyfarwyddyd y Coblynnau:
"Dyma opiniwn yr hen fwynwyr a broffesa ddeall gwaith y Coblynnau. Gweithreda ein Capten yn ôl y rhybudd a roddir, a disgwyl bethau mawr.
"Chwardded a fynno, y mae gennym y rheswm gorau tros lawenhau, a diolch i'r Coblynnau, neu'n hytrach, i Dduw, sydd yn anfon y rhybuddion hyn."[1] Esboniad Lewis Morris ydoedd esboniad cyffredin y mwynwyr ar y Coblynnau a'u gwaith, ond y mae'n amlwg oddi wrth Wild Wales y priodolai rhai iddynt y bwriad o ddrygu'r gweithwyr. Ar ei daith trwy Gymru daethai George Borrow o Fachynlleth drwy'r Glasbwll i waith mwyn Esgair Hir, a chan nad oedd llwybrau namyn llwybrau defaid ar y mynyddoedd, trefnodd Capten y Gwaith i lanc o fwynwr ei arwain i Bonterwyd. Yn ôl ei arfer holai Borrow lawer ar ei arweinydd, ac yn ateb i'r gofyniad a oedd yn hoffi gwaith mwynwr, dywedai'r llanc yr hoffai ef yn fwy petai ysbrydion y creigiau yn peidio â'i ddychrynu. "Unwaith," meddai, "a mi yn gweithio ar fy mhen fy hun yn nyfnder y gwaith, yn sydyn, clywn sŵn rhuthrol ac ofnadwy fel pe syrthiasai rhan anferth o'r ddaear. O! Dduw? meddwn, a syrthiais drach fy nghefn. Tybiais i'r holl bwll ymollwng a'm bod wedi fy nghladdu'n fyw. Gorweddais am oriau yn ddadfyw. . . O'r diwedd llwyddais i ymlusgo hyd at waelod y pwll, a chyrraedd gweithwyr eraill. Achoswyd y sŵn gan ysbrydion y creigiau i'r diben o ddrysu synhwyrau'r mwynwyr."[2]
Dywedir y credid yn y Coblynnau tros ganrif yn ôl yn ardaloedd mynyddoedd yr Wyddfa, a bod mwynwyr Lloegr, yr Alban, a mwynwyr gwledydd eraill y byd yn credu'n gryf yn eu dylanwad a'u buddioldeb.[3] Cefais y ddau hanesyn a ganlyn gan Mr. Lewis Hughes, Henblas, Bryniau, Meliden, Sir Fflint. "Nid oes yng Nghymru sir â chymaint o olion hen gloddio yn ei chreigiau â Sir Fflint.
"Cofiaf ymgomio â'm tad ynglŷn â digwyddiadau yng ngwaith plwm Deilargoch, plwyfi Dyserth a Galltmelyd. Wrth ben y gwaith y mae olion llawer o gloddio cynnar ar ochr y Graig Fawr. Cloddiwyd ar ôl yr wythïen gul am bellter mawr i'r graig gan wneuthur hollt ynddi. Y syndod ydyw i neb lwyddo gweithio mewn lle mor gyfyng. Nid yw'r lled mewn amryw fannau yn ddigon i hogyn ysgol fyned iddo. Gofynnais i'm tad pwy a fu'n gweithio yn yr holltau cul hyn. 'O,' meddai,' y bobl bach du. Pobl fychain a oedd yn byw yma ymhell bell yn ôl, fel y clywais gan yr hen bobl' Holais a wyddai ef rywbeth am y 'nocars' (coblynnau.) 'Gwn yn dda,' meddai. 'Clywais lawer o sŵn ym mherfeddion y Pwll Coe, fel sŵn ceibio a dyrnu a chodymu, fel petai rhywrai'n gweithio yr ochr arall inni. Credai'r hen bobl fod rhyw fodau tanddaearol yn cloddio am blwm fel ninnau. Yr oeddynt yn anweledig, ond gadawent agennau mawrion yng ngholuddion y ddaear yn brawf o'u gweithio.' "
Cafwyd yr hanesyn a ganlyn gan yr un gŵr. "Yn 1777, dechreuwyd gweithio gwaith yr Holway. Cloddiwyd twnnel i'r graig ychydig i'r gorllewin o Ffynnon Gwenfrewi, a chloddiwyd yn ofer am agos i ugain mlynedd. Yr oedd y perchenogion bron a thorri eu calon, a'r gweithwyr wedi hen ddiflasu, ond a phawb ar fin gadael y lle, clywai'r cloddwyr sŵn curo diarbed ychydig o'u blaen. 'A! ' meddent,' dyna sŵn y nocars; nid yw'r metel ymhell.' Yn fuan, fuan, trawyd ar dalcen mawr o blwm. Talodd y talcen ar ei ganfed am flynyddoedd."
Nid ydynt yn eu cyfyngu eu hunain i'r gweithfeydd mwyn plwm. Gweithiant hefyd yn y glofeydd. Y mae'n anos clywed eu curo yno yn arbennig mewn glofa fawr, oherwydd maint sŵn gweithio'r pwll. Ym mhwll glo'r Morfa credid yn gryf ynddynt. Curent i gyfarwyddo'r glowyr at wythiennau da o lo, a gweithient yn wastad o blaid y glowyr.[4]
Dywaid Writ Sikes y disgrifid y coblynnau gan fwynwyr Cymru yn fodau bychain, hyll, tua hanner llath o daldra, a'u bod o natur dda ac yn gyfeillgar iawn â'r gweithwyr.[5] Eithr yn ôl pob hanes y maent yn anweledig, ac ni chlywais erioed eu disgrifio. Ceir bodau bach sy'n cyfateb i'r coblynnau o ran arferion yn gweithio yn y mwyafrif o byllau cyfandir Ewrop, megis yng ngweithfeydd yr Almaen.
BODAU ANWELEDIG YN PENDERFYNU SAFLEOEDD EGLWYSI. Perthyn rhai o nodweddion y Coblynnau i'r bodau anweledig hyn, eithr llefaru a wnânt hwy, a gweithio o blaid crefydd yn unig. Eu prif bwrpas ydyw cyfarwyddo dynion i drefnu'n addas ar gyfer anghenion moesol ac ysbrydol ardaloedd. Ym mharthau gwledig Cymru, y mae'r Eglwysi Esgobol bron i gyd yn hen, a'r bodau hyn a fu'n penderfynu safleoedd rhai ohonynt. Er pob dyfalu a fu, methwyd erioed â phenderfynu'n derfynol rywogaeth yr ysbrydion. Y mae'n eglur oddi wrth y diddordeb a deimlant mewn eglwysi nad ysbrydion drwg mohonynt. Eu modd o weithio ydyw dinistrio lliw nos yr hyn a adeiledir gan ddynion liw dydd, a symud y defnyddiau i'r man y dylid adeiladu'r eglwys.
Un o'r pethau a ddysgais i gyntaf mewn barddoniaeth (!) ydoedd dwy linell a ddengys mai ysbrydion anweledig ac ymyrgar a benderfynodd safle Eglwys Sant Mihangel, y Llandre. Lle bach glân a phrydferth odiaeth ydyw'r Llandre, ryw bedair milltir i'r gogledd o Aberystwyth. Bwriedid oesoedd yn ôl adeiladu'r eglwys gyntaf ar y lle y saif amaethdy Glan Fred Fawr heddiw. Casglwyd y defnyddiau ac aed ati i adeiladu. Gweithiai'r seiri maen yn ddygn drwy'r dydd, eithr yn y nos dinistriai'r ysbrydion y gwaith a dwyn y meini i fan arall filltir i ffwrdd. Aed ymlaen fel hyn am gryn amser; y seiri yn adeiladu a'r ysbrydion yn chwalu. Ond un canol nos llefarodd yr ysbryd a chodi ei lais fel y clywai'r holl ardalwyr ef:
"Llanfihangel yng Ngenau'r Glyn;
Glan Fred Fawr a fydd fan hyn."
Dechreuwyd adeiladu ar y man yng ngenau'r glyn lle y gosodwyd y meini gan yr ysbrydion, ac ni fu ymyrryd mwy.
Ceir hefyd draddodiad cyffelyb o ganolbarth y sir. Yn ei anerchiad i Gymdeithas Hynafiaethol Sir Aberteifi (Mai 12, 1926), ar Eglwys Pen-y-bryn, Llangrannog, dywedai'r Parchedig W. D. Jones, ficer y plwyf, fod yn yr ardal hen gred mai rhyw fodau goruwchnaturiol a benderfynodd safle'r eglwys. Penderfynasai'r plwyfolion adeiladu ar fan a elwid Hen Glos, ar fferm Pwll Glas, eithr nid cynt y casglwyd defnyddiau a dechrau adeiladu nag yr aflonyddwyd arnynt gan fodau anweledig. Cariai'r bodau hyn ymaith bob nos y meini a osodasid gan y gweithwyr yn ystod y dydd, a'u gosod ar safle'r eglwys bresennol, a llafarganu wrth eu gwaith:
"Ni ddaw bendith i dy ran,
Heb it newid sail y llan."
Wedi gorffen yr eglwys yn ôl dymuniad yr ysbrydion, clywyd lleisiau angylion yn cyhoeddi:
"Ni chei syflyd o'r fan hyn,
Llanfihangel Pen-y-bryn."
Ni wn am un esboniad ar y coelion hyn, ond gwn y byddai'n fendith i lawer ardal petasai rhyw ysbryd a welsai'n gliriach ac ymhellach na dynion wedi penderfynu safleoedd rhai o gapelau Cymru.
HEN WRACH CORS FOCHNO. Y mae'n anodd penderfynu ym mha gwmni y dylid gosod yr Hen Wrach. O ran natur nid yw yn anweledig, ond y mae ganddi ryw fedr anarferol i ymguddio. Ni chlywais erioed am fwy nag un a'i gwelodd. Efallai y cymer ei lle yn y bennod hon cystal ag unman.
Y mae ynglŷn â Chors Fochno gryn lawer o ddeunydd llên gwerin, mwy fe ddichon nag a berthyn i unrhyw gors arall yng Nghymru, ac nid oes bod i'r Hen Wrach ar wahân iddi. Oherwydd y pethau hyn, teimlaf y dylid rhoddi peth o hanes y gors.
Cors fawr ydyw, a hynod o ran ei chynnwys a'i hanes,—mawr o ran maint, oblegid ymestyn o'r Borth i afon Llyfnant, terfyn gogleddol Sir Aberteifi. Y mae ei hyd 'fel yr heda'r fran,' neu'n fwy naturiol, fel yr eheda iâr ddŵr, yn chwe milltir, a'i lled yn dair milltir o odre'r mynydd, sy'n rhan o gadwyn Pumlumon, i relwe'r Cambrian (gynt) sydd fel llinyn ar draws ei hwyneb, rhyngddi a Dyfi a'r môr. Ar ei chanol y mae math o ynys led fawr, ac arni rai ffermydd da, a cheir hefyd ambell dŷ annedd, a hen waith mwyn plwm sy'n segur ers ugeiniau o flynyddoedd. Ond y mae'r gweddill o'r gors, a'r rhan fwyaf ohoni, yn siglen ddiwaelod a pheryglus. Tyf arni frwyn cryf a hesg sidanaidd, ac yma a thraw glystyrau o helyg. Nid oes yn bod gartref diogelach i'r geinach a'r hwyaden wyllt a'r crychydd glas, oblegid ni ddeil rhannau helaeth o'i chroen tenau fawr ddim trymach na phryf ac aderyn. Iddi hi hefyd y daw'r gog gynnar, ac ohoni, o odre coed y Gwynfryn, y daw ei chân gyntaf i drigolion dau blwyf. Yng nghored Gwyddno Garanhir, tywysog Cantre'r Gwaelod, ar fin y gors ac ar ei chwr eithaf i'r deau, y cafwyd Talieisin Ben Beirdd. Y mae'r traddodiad yn hen bellach, â pheth o flas y Mabinogion arno, er nad oes a ŵyr yn sicr ei gychwyn. Yn fras a chynnil fel hyn y rhed. Ymhell yn ôl, ym Mhenllyn, preswyliai Tegid Foel a'i briod Ceridwen, ac iddynt fab a'i enw Afagddu, a oedd fel ei enw yn hagr—yr hacraf erioed a fu. Meddylio a wnaeth y fam, a phenderfynu ei harddu â phob gwybodaeth a doethineb, a myned ati i ferwi pair er cael awen i'w mab hyll. Rhaid oedd cadw'r pair ar ferw didor am un dydd a blwyddyn. Casglodd Ceridwen bob rhyw lysiau rhinweddol o'r meysydd, a gosod y pair tan ofal Gwion Bach, o Lanfair Caer Einion, a gŵr gwan ei feddwl o'r enw Morda. A'r flwyddyn bron ar ben, yn annisgwyliadwy neidiodd o'r berw dri diferyn a disgyn ar fys Gwion, a chan eu poethed trawodd yntau'r bys yn ei enau. Deallodd ar unwaith fyned holl rinwedd y pair i'w berson ef, a ffodd am ei einioes rhag llid Ceridwen. Erlidiodd hithau ef, a chanfu Gwion hi ac ymrithiodd yn ysgyfarnog; fe'i trodd Ceridwen ei hun yn filast; neidiodd Gwion i afon a throi'n bysgodyn; hithau a drodd yn ddyfrast; trodd Gwion yn aderyn; trodd hithau yn farcutan; pan oedd hi ar ei ddal, gwelodd Gwion bentwr o wenith ar lawr dyrnu ysgubor, a disgyn iddo a myned yn un o'r gronynnau; trodd Ceridwen hithau yn iâr a llyncu'r gronyn. Ymhen naw mis, ganed iddi faban a oedd mor dlws fel na allai feddwl am ei ladd, felly fe'i rhoes mewn corwg a'i daflu i'r môr. Un min nos Calan Mai aeth Elffin, mab Gwyddno Garanhir, a oedd â'i fryd ar bysgota, i gored ei dad a oedd ar enau afon Eleri (cyn ei throi o'i gwely naturiol). Ni chafodd yno bysgod, eithr corwg ynglŷn wrth bawl y gored, ac yn y corwg y plentyn harddaf erioed. Cyn hardded oedd y mab bach ag y'i galwyd Tâl-iesin,—wyneb tlws, ysblennydd. Aed â'r plentyn i blasty Gwyddno, ac yn ôl yr hanes, yno y bu hyd oni foddwyd Cantre'r Gwaelod. Dihangodd Taliesin rhag y dilyw, a thrigo ar odre'r mynydd tan y Graig Fawr. Y mae ei fedd i'w weled ar uchaf y mynydd gerllaw Pensarn, filltir fawr o bentref Tre' Taliesin.
Dyna Gors Fochno—cartref yr Hen Wrach. Y mae llawer o draddodiadau a choelion Cymru yn gyffredin i'r holl siroedd, ond ni chlywais am draddodiad yr Hen Wrach yn unman ond ym mhlwyf Llancynfelyn. Yr oedd bri mawr ar y goel yn fy nyddiau bore, eithr nid oes iddi le amlwg a phwysig ym mywyd y genhedlaeth bresennol, a hynny yn bennaf oherwydd cyfnewidiadau yn nulliau bywyd yr ardal. Nid yw'r wrach hon yn bod namyn yn y plwyf hwn, a da hynny, oblegid un â'i melltith yn filain ydyw. Nid oes a'i dinistria ond tân, a chan y trig mewn cors sy'n siglen ddyfrllyd, nid oes obaith am ei thranc hyd oni ddêl y dilyw tan, a rhaid i hwnnw losgi'n hir i'w llosgi hi. Bu preswylwyr Tre' Taliesin yn 'ymladd byw', ys dywedant hwy, am genedlaethau yn gaeth i ofn yr Hen Wrach, ac er pob gwylio a gochel delid hwy ganddi—pob un yn ei dro. Ni ddihangodd ar ei melltith na dyn mewn oed na phlentyn. Yr oedd yn gwbl ddidrugaredd ac yn greulon fel angau. Yr unig beth â chysgod y da ynddo y gellir ei ddywedyd yn ei ffafr ydyw, ei bod yn hollol amhleidiol, oblegid nid arbedai oludog yn fwy na thlawd, y call yn fwy na'r angall. Melltithiai bawb.
Gwyddai'r trigolion mai'r gors oedd cartref y Wrach, a chredid yn gyffredin ei bod, o fewn cylch y gors, yn hollwybodol, ac yn ei gwaith o felltithio yn hollalluog. Ni ddeuai byth o'i chartref namyn yn nhrymder nos, a rhaid fyddai wrth nos dywyll â niwl tew. Cymaint oedd ei chywilydd rhag ei gweled, gan ei hacred, fel na symudai liw dydd nac yng ngolau'r lloer. Gan nad oedd brinder niwl a tharth ym mlynyddoedd rhwysg yr Hen Wrach, câi gyfleusterau mynych i droi allan, ac mor ddieflig oedd ei nwyd a'i gwanc fel mai anaml yr âi cyfle heibio iddi'n ofer. Clywais i Fetsen, Llain Fanadl, ei gweled unwaith. Preswyliai Betsen fwthyn bregus ar fin y gors, ac un nos lwyd-olau a hi'n dychwelyd i'w thŷ o gasglu bonion eithin i achub tân trannoeth, gwelai ar ei chyfyl, yn eistedd ar dwmpath hesg, wraig hen â phen anferth ei faint, a'i gwallt cyn ddued â muchudd yn disgyn yn don fawr a thrwchus tros ei chefn ac yn ymgasglu yn glwstwr ar y ddaear. Swpera yr oedd ar ffa'r gors a bwyd llyffaint. Ar ei gwaith yn myned heibio, cyfarchodd Betsen hi â "Nos da." Neidiodd y Wrach ar ei thraed— yr oedd yn llawn saith droedfedd o daldra, ac yn denau ac esgyrnog a melyngroen—a throi at Fetsen ac ysgyrnygu arni ddannedd cyn ddued ag afagddu, chwythu i'w hwyneb fel y chwyth sarff, a diflannu yn y gors. Dywedir na fu Betsen byth yr un ar ôl y noson honno.
Poenwyd pentrefwyr Taliesin am genedlaethau gan afiechyd a oedd yn gyffredin i bawb. Math o gryd ydoedd, a'i nodweddion yn rhai hynod a chas. Dechreuai mewn teimlad llesg a chlafaidd, tebyg i saldra'r môr, ac yna ceid crynu mawr drwy'r holl gorff a barhâi am awr gron. Unwaith bob pedair awr ar hugain y deuai'r crynu, ac awr yn ddiweddarach bob dydd. Parhâi felly am wyth neu ddeng niwrnod, a phan ballai grym y clefyd, a'r claf wedi troi ar wella, ceid diwrnod rhydd rhwng dau grynu, ac yna ddau ddiwrnod rhydd, ac wedyn dri, a'r dyddiau rhydd yn parhau i gynyddu hyd oni ddiflannai'r cryndod yn llwyr. Gallai'r claf droi allan ar y dyddiau rhydd a chyflawni gwaith ysgafn, eithr rhaid oedd bod i mewn ddiwrnod y crynu. Yn un o'i lyfrau, dywaid Mr. Richard Morgan, M.A., Llanarmon-yn-Iâl, am eneth o Daliesin a fynychai ysgol Tal-y-bont, pentref cyfagos, pan oedd ef yn athro yno. Yr oedd y plentyn yn glaf o'r cryd, ond yn gwella. Eithr nid oedd y crynu wedi ei llwyr adael. Ar derfyn yr ysgol un prynhawn, meddai hi wrth yr ysgolfeistr, "Please Sir I shan't be in School to-morrow "You shan't be in School tomorrow! and why?" meddai yntau. "Please Sir, I shall be shaking to-morrow."
Achosid yr afiechyd gan yr Hen Wrach, a galwyd ef ar ei henw. Ar nos dywyll creai'r wrach darth tew a llaith a ymdaenai fel mantell a chyrraedd i oedre'r Graig Fawr, ac yn y tywyllwch pygddu hwnnw âi i fyny i'r pentref, ac er pob dyfais a gofal i'w chau allan, mynnai ei ffordd yn llechwraidd i'r tŷ a ddewisai, a chyniwair y tŷ hyd oni ddelai i ystafell gysgu, ac yno chwythu ei melltith ar y sawl a gysgai. Deffroai'r truan hwnnw drannoeth o gwsg anniddig, llawn o ysbrydion mileinig, a'i gael ei hun yn llesg a chlaf a digalon. Ymhellach ymlaen yn y dydd deuai'r crynu, ac am awr gyfan crynai'r claf oni chrynai'r gwely yntau— awr gron o grynu heb na hamdden na gallu i siarad na chwyno na dim ond crynu. Cyn nos âi'r sôn drwy'r pentref fod hwn a hwn 'yn yr Hen Wrach.' Anaml y ceisid gwasanaeth meddyg, oherwydd dau reswm. Yn gyntaf, yr oedd y pentrefwyr yn rhy dlawd i dalu am wasanaeth meddygon a drigai yn Aberystwyth a Machynlleth, naw milltir i ffwrdd. Mwynwyr oedd y gweithwyr bron i gyd, a'u cyflog i fagu llond aelwyd o blant heb fod tros ddeunaw swllt yr wythnos. Pan oeddwn i yn hogyn naw mlwydd oed, aeth i'm hysbryd surni a erys ynof byth, oherwydd marw o enyniad yr ysgyfaint un a oedd bron yn hanfodol i'm llwyddiant a'm cysur—gorfod marw cyn ei amser am nad oedd modd i dalu am feddyginiaeth. Credaf i ddegau farw ym mhentrefi bach Cymru drigain mlynedd yn ôl, ac wedi hynny, oherwydd bod yn rhy dlawd i dalu'r meddyg. Bydd galw uchel ar rywrai am gyfrif ddydd brawd. Yr ail reswm paham na cheisid meddyg at y claf ydoedd, nad oedd yn yr holl wlad feddyg a allai atal y cryd. Yr oedd yn rhaid i felltith y Wrach weithio'i chwrs. Anfynych y digwyddai i neb farw o'r Hen Wrach, ond y mae rhesymau tros gredu yr amharai'r afiechyd gymaint ar nerfau'r claf fel y dioddefai i ryw raddau yn y pethau hynny ar hyd ei oes.
Deugain mlynedd yn ôl peidiodd y cryd, ac ni flinwyd ganddo neb o'r pentrefwyr byth wedyn, a chredwyd yn sicr farw o'r Hen Wrach yng ngaeaf y flwyddyn y diflannodd yr afiechyd. Yn gyfamserol â'i marw hi bu llawer o gyfnewidiadau ym mywyd yr ardal, ac yn eu plith roddi heibio losgi mawn, a defnyddio glo yn eu lle. Eithr y mae'r Hen Wrach yn fyw o hyd. Cysgu y mae yn y gors, a phan dderfydd glo Morgannwg a Mynwy deffry hithau, a bwrw ei melltith fel cynt, a gwelir y pentref yn crynu gan y cryd eto. Cysgu y mae'r Hen Wrach.
Nodiadau
[golygu]- ↑ The Letters of Lewis, Richard, William and John Morris of Anglesey, 1728-1765, J. H. Davies, M.A. (1907) Cyf. I., td. 311-313.
- ↑ Wild Wales, George Borrow, Pen. LXXXI.
- ↑ Observations on the Snowdon Mountains, William Williams (1802), td. 114.
- ↑ The Folklore of the Afan and Margam District, Martin Phillips, (1933), td. 65.
- ↑ British Goblins, Writ Sikes (1880), td. 24 a 29.