Coelion Cymru/Ymddangosiad Ysbrydion

Oddi ar Wicidestun
Bodau Anweledig Coelion Cymru

gan Evan Isaac

Rhagarwyddion Marwolaeth

IV.

YMDDANGOSIAD YSBRYDION

Nid yw rhai coelion a fu unwaith yn gryf namyn dadfyw heddiw, ac nid anodd cyfrif am hynny. Yn gyffredin priodolir y newid o ran barn a chred i gynnydd gwybodaeth a goleuni mwy. Eithr o brin y credaf mai dyna'r prif reswm, os ydyw'n rheswm o gwbl. Effaith y pethau newydd a ddaeth i fywyd y werin ydyw'r newid o ran cred yn yr hyn a elwir yn ofergoelion. Pa ryfedd gilio o'r Tylwyth Teg i fannau diarffordd yn y mynyddoedd o sŵn cerbydau tân y relwe a'r cerbydau modur mawr a mân sy'n chwyrnellu tan chwythu a phesychu yn y dyffrynnoedd? Segurdod hir y gweithfeydd mwyn plwm a laddodd y gred yn y Coblynnau, ac am yr Hen Wrach, daw hi yn ôl pan ddêl mawn eto i'r aelwydydd.

Dychmygaf glywed ambell sant defosiynol, a llawer mab a merch a gafodd hir addysg, yn dywedyd mewn ysbryd brochus ac â gwg ar eu hael, mai ffwlbri amrwd yw storïau ysbrydion, ac nad rhesymol eu hadrodd yng ngoleuni gwybodaeth yr oes hon. Eithr dywaid un o ddysgedigion mwyaf diwylliedig y genedl i'w famgû weled ysbryd a Thylwyth Teg, a chlywed canu yn yr awyr, a bod yn rhaid iddo yntau roddi coel ar ei geiriau, ac ychwanega: Onid oes synhwyrau coll a rhai wedi eu hanner pylu? Ni wyddom beth a allom, ac onid yw popeth gwerth ei wneuthur a wnaeth dyn erioed wedi ei wneuthur pan oedd y dyn yn fwy na dyn ar y pryd? Rhaid bod yn oruwchnaturiol am dro i gyflawni gorchest o unrhyw fath, a rhaid teimlo angerddoldeb nad yw o bethau'r byd hwn i weled yr anweledig."[1]

Er mai dadfyw yn awr ydyw llawer coel, oherwydd y rhesymau a nodwyd, pery'r gred yn ymddangosiad ysbrydion yn gryf ymhlith y canol oed a'r hen bobl. Efallai nad oes neb, o'i roddi mewn cysylltiadau arbennig, na ŵyr yn ei enaid am ias ofn gweled ysbryd. Yng Nghynhadledd fawr Wesleaid y byd a gynhaliwyd yn Nhoronto, Canada, yn 1911, yr oedd ugeiniau o'r cynrychiolwyr yn bobl dduon, a'r rhai hynaf ohonynt yn blant i rieni a fuasai'n gaethion. Dyn du, a oedd yn ysgolhaig graddedig, oedd ysgrifennydd cynorthwyol y Gynhadledd, a dynion duon oedd rhai o'r areithwyr effeithiolaf. Llefarent yn huawdl â llais dwfn a meddal, ond fel y twymai'u hysbryd, collid y melodedd o'r llais, a deuai iddo graster a sŵn gwynt gwyllt a barai i un feddwl am galedi'r caethiwed a hysian yr anwar yn y goedwig. Pan laciai gafael yr ewyllys a ddisgyblesid gan freintiau rhyddid, rhuthrai gweddillion yr anwar a waelodai yn y bywyd i'r wyneb. Meddai'r diweddar Barchedig Job Miles mewn pregeth ar "Y tadau a fwytaodd rawnwin surion, ac ar ddannedd y plant y mae dincod,"—" Nid wyf fi yn credu yn ymddangosiad ysbrydion, ond petai yn yr un heol ddau dŷ gwag cyn debyced i'w gilydd ag efeilliaid, a bod sôn yr ymwelai ysbryd ag un ohonynt, ni chymerai imi eiliad i benderfynu ym mha un y carwn fyw."

Y mae barn trigolion gogledd Ceredigion am bopeth ysbryd yn un bendant a sefydlog, ac fe wyddant hwy lawn cymaint â neb am nodweddion y bodau cyfrin hyn. Credir nad oes ond tri rheswm tros i ysbryd ymddangos. Yn gyntaf, dychwelyd i wneuthur cymwynas â pherthynas neu gyfaill; yn ail, ymddangos i gyflawni rhyw ddyletswydd a esgeuluswyd ganddo yn ystod ei fywyd ar y ddaear; ac yn drydydd, dial ei gam ei hun, megis pan ddychwel un a lofruddiwyd i ddial ar y llofrudd. Ni phaid ysbryd ag ymddangos o dro i'w gilydd hyd oni siaredir ag ef, ac y mae'n groes i ddeddfau byd ysbryd iddo ef siarad yn gyntaf. Rhaid ei annerch yn enw'r Drindod, ac yn ddiatreg eglura yntau ei neges, ac o weithredu yn ôl ei gyfarwyddiadau, paid yntau ag ymddangos mwy.

Y mae cannoedd o ystorïau ysbryd hen a diweddar, ond nid oes ofyn yma ond am ychydig enghreifftiau dethol. Anaml y gwelir plas hen neu furddun plas na chysylltir ag ef stori ysbryd. Murddun ers tro ydyw Bro Ginin, y plas bychan y ganed Dafydd ap Gwilym ynddo. Rhywbryd wedi dyddiau'r bardd trowyd y plas yn ffermdy, a hynny efallai oherwydd esgyn o amaethyddiaeth ac amaethwyr i fri mwy na chynt. Bu'n byw ynddo o genhedlaeth i genhedlaeth deuluoedd parchus, a dedwydd oeddynt hyd oni flinwyd hwy gan ysbryd bonheddig a barus a wnâi fywyd yn boen. Yn fynych wedi nos, ac ar brydiau yn hwyr o'r nos, ymwelai rhyw fod annaearol â'r tŷ, ac â sŵn ei gerdded i fyny ac i lawr y grisiau gwnâi gwsg yn amhosibl. Taflai ddychryn i galon pawb. Weithiau goleuai'r holl dŷ â disgleirdeb anarferol, a'r funud nesaf diflannai gan adael ar ei ôl dywyllwch eithaf. Gwelid ef ganol nos ar brydiau gan weision y ffermydd cylchynol, yn croesi'r buarth ar ffurf 'Ladi Wen' dal a hardd mewn gwisg laes, eithr pan aent tuag ati diflannai mewn pelen o dân. Un nos Sul fin gaeaf, aeth y teulu i'r eglwys a gadael y forwyn i warchod. Ceisiodd hithau ei chariadfab yn gwmni, ac yn ddigon naturiol aethpwyd i sôn am yr Ysbryd. Chwarddai'r gŵr ieuanc ar uchaf ei lais yn ei awydd i brofi ei wroldeb, a dywedyd yr hyn a wnâi petai'r Ysbryd yn meiddio ymddangos iddynt. Ar drawiad, heb y rhybudd lleiaf, safodd boneddiges ar ganol yr ystafell, mewn gwisg wen, a'i gwallt yn dorchau dros ei hysgwyddau. Daliai mewn un llaw grib, ac yn y llall sypyn o bapur, ond nid ynganodd ddim. Crynai'r ddeuddyn ieuainc gan ormod braw i allu symud na dywedyd gair. Cerddodd y foneddiges yn hamddenol o gwmpas yr ystafell amryw droeon, ac yna sefyll, a throi at y drws ac amneidio ar y llanc i'w dilyn. Ni feiddiai yntau ei gwrthod, a dilynodd hi i fyny'r grisiau i ystafell dywyll a oleuwyd ar unwaith mewn modd gwyrthiol Magodd y gŵr ieuanc ddigon o wroldeb i ofyn iddi paham y blinai breswylwyr Bro Ginin, ac â'i bys pwyntiodd yr Ysbryd at gongl neilltuol dan y to isel. O'r man hwnnw, â llaw grynedig, tynnodd y llanc hosan wlân hen hen yn llawn o aur. Diflannodd yr Ysbryd, ac ni welwyd y ' Ladi Wen ' byth mwy ym Mro Ginin.[2]

Ceir o bob rhan o'r wlad storïau cyffelyb i un Bro Ginin. Yn 1882, cafodd y Parchedig Elias Owen gan John Rowlands, brodor o Sir Fôn, hanes ysbryd yn datguddio trysor yn ei ardal ef. Poenid teulu Clwchdyrnog, ym mhlwyf Llanddeusant, Môn, yn fynych gan Ysbryd a barai arswyd a blinder mawr. Un noson, ymwelai John Hughes â'r tŷ i garu'r forwyn, ac ymddangosodd yr Ysbryd iddo. Gofynnodd John paham y blinai'r teulu ac eraill. Atebodd yr Ysbryd fod trysorau cuddiedig, ar ochr ddeau Ffynnon Wen, a berthynai i blentyn naw mis oed a oedd yng Nghlwchdyrnog. Parodd iddo chwilio am y trysorau, ac o'u cael a'u rhoddi i'r plentyn addawodd yr Ysbryd beidio ag aflonyddu arnynt mwy. Gwnaed yn ôl y cais, a chafwyd heddwch.[3]

A barnu oddi wrth yr hanes a rydd Mr. D. E. Jenkins hoffai ysbrydion ymddangos ym Meddgelert a'r cylch. Tua diwedd y ddeunawfed ganrif, aeth Mr. Dafydd Pritchard i'r pentref a rhenti'r Goat Hotel a'r tir a berthynai iddi. Yr oedd Dafydd yn ŵr egnïol ac anturiaethus, a chasglodd gryn lawer o gyfoeth, eithr clafychodd a bu farw heb wneuthur ewyllys. Yn fuan wedi'r claddu, aflonyddid ar heddwch y teulu gan ryw ymyrryd anesboniadwy. Clywid yn y nos gerdded trwm ar y grisiau ac yn yr ystafelloedd. Parhaodd yr aflonyddwch am rai wythnosau, a sibrydid ymhlith y gweision a'r morynion weled ohonynt eu hen feistr yn yr ystablau a mannau eraill ar ôl ei farw. Aeth yr Ysbryd yn hy gan-ymddangos yn aml. Ni feiddiai ond y dewraf groesi'r trothwy wedi machlud haul gan gymaint eu hofn. Yr oedd un hen was nad ofnai ddim, ac er ei fod ef a'i feistr yn gyfeillion mawr, am ryw reswm neu'i gilydd, nid ymddangosai'r Ysbryd iddo ef. Ond un noswaith, ar ei waith yn gadael yr ystabl, gwelai ei hen feistr yn ei wynebu. Ceisiodd y gwas ddynesu ato, eithr cilio a wnâi'r Ysbryd a myned at borth yr eglwys. "Wel, meistr," meddai'r gwas, "beth a bair i chwi aflonyddu arnom fel hyn?" "Hwlcyn," meddai yntau, "y mae'n dda gennyf dy weled, oblegid ni all fy esgyrn orffwys yn y bedd. Dos a dywed wrth Alice am iddi godi carreg aelwyd y bar-room ac y caiff oddi tani gan gini, a bod dwy ohonynt i'w rhoddi i ti." Gwnaed yn ôl y gorchymyn, ac ni phoenwyd y teulu mwyach.[4]

Esgeulustra anesgusodol a niweidiol ydyw peidio â gwneuthur ewyllys. Cymaint yw'r pryder a'r siom fel y dylai'r sawl a fedd rywbeth gwerth ei feddiannu roddi ei ddymuniadau ar 'ddu a gwyn' cyn yr elo ac na byddo mwy. Yn 1923 adroddai Mrs. J. E. Jones, Aberystwyth, wrthyf stori a gred hi fel ffaith. Pan oedd hi'n blentyn, bu farw yng Nghnwch Coch, Ceredigion, hen wraig â chanddi beth cyfoeth, eithr yr oedd wedi esgeuluso gwneuthur ei hewyllys, ac er chwilio dyfal a hir methwyd â dyfod o hyd i'w thrysor. Ymhen amryw wythnosau, blinodd y perthynasau ar y chwilio a diflannodd eu gobaith. Ond un noswaith ddechrau'r gaeaf, a'r ferch a'i phriod yn ymdwymo wrth y tân mawn cyn myned i orffwys, daeth o'r Hanging Press a oedd yn yr ystafell sŵn dieithr fel sŵn crafu creadur byw am ymwared. Agorwyd y Press, ond nid oedd yno ddim namyn dillad. Nos trannoeth a llawer nos arall, clywid yr un sŵn, eithr er chwilio eilwaith ni welwyd neb na dim byw. Aeth ofn gweled y nos ar y ddeuddyn ieuainc, ac i ladd y braw ceisiasant gwmni cymdogion. Ar ôl ymgynghori, penderfynwyd tynnu o'r Press liw dydd bob pilyn a oedd ynddo. Pan gyrhaeddwyd y gwaelod cad yno sypyn trwm yn cynnwys aur lawer a thrysorau eraill. Ni chlywyd y sŵn o'r Hanging Press byth mwy.

Ymhlith y lliaws ystorïau ysbryd a geir yn llyfr rhagorol yr Athro T. Gwynn Jones ar Lên Gwerin, y mae un sy'n arbennig drawiadol ar gyfrif y personau a gysylltir â hi, yn ogystal ag ar gyfrif ei chynnwys. Rhywbryd rhwng 1887 a 1889 y cafodd yr Athro hi gan Mr. Edward Roberts, Abergele, a oedd yn ŵr deallus a diwylliedig, a chafodd yntau'r hanes gan y Parchedig Owen Thomas, D.D., y gweinidog Methodus enwog. Pan oedd y Doctor yn ddyn ieuanc yn Sir Fôn, yr oedd iddo gyfaill yn caru merch ieuanc a oedd yn byw rai milltiroedd i ffwrdd. Un noswaith wrth ddychwelyd o garu, braidd yn hwyr, a dyfod heibio i blas bychan, gwelai yn dynesu ato wraig wedi ei gwisgo dipyn yn hynod. Cyfarchodd hi â "Nos da," ac atebodd hithau, "Na ddychrynwch: gwyddoch pwy ydwyf." Adnabu hi fel gwraig gyntaf perchennog y plas. Yna? meddai hi, "Gwyddoch fy mod yn farw, ac i'm priod briodi eilwaith, ac nad yw popeth fel yr arferai â bod yn y plas." Dywedodd yntau y gwyddai. Ceisiodd hithau ganddo wneuthur ffafr â hi, sef hysbysu ei mab, a ddychwelai o China ymhen ychydig ddyddiau, fod mewn llyfr yn llyfrgell y plas nifer o nodau banc (bank notes) a oedd yn eiddo iddo ef. Nododd y silff, a'r llyfr a gynhwysai'r nodau. Addawodd yntau wneuthur yr hyn a dymunai. Diflannodd yr Ysbryd yn sydyn. Pan ddychwelodd y dyn ieuanc adref, ni ddywedodd air wrth ei fam a'i chwaer am yr hyn a welodd, ac yn fuan clafychodd gan ofn a phryder. Ceisiodd gan ei fam alw ar ei gyfaill Owen Thomas i ymweled ag ef. Dywedodd yr hanes wrth Mr. Thomas, a thrannoeth aeth y ddau i'r plas a chael y nodau yn hollol fel yr hysbysodd yr Ysbryd. Mewn diwrnod neu ddau dychwelodd y mab o China, a chafodd yr arian.[5]

Yr oedd rhai o'r ysbrydion y rhoddwyd eisoes eu hanes yn hen, ac wedi cyflawni eu neges a gorffwys yn y gorffennol pell, eithr y mae amryw eraill y sydd, er yn hen, yn parhau i ymddangos oherwydd methu ganddynt ddal ar gyfle i'w mynegi eu hunain a gorffen eu gwaith. Un o'r rhain ydyw "Yr Hwch a'r Tshaen" y sy'n cyniwair dyfnderoedd coediog glannau afon Cell, yn y mynyddoedd yng ngogledd Ceredigion. Sicrhawyd fi yn 1924 gan un a fagwyd ar y Mynydd Bach, gerllaw Pont-ar-Fynach, y credai ef yn Ysbryd yr Hwch a'r Tshaen, a'i fod i'w glywed yn aml, ac i'w weled weithiau, yn y dyddiau hyn ar lannau Cell. Yn 1925 adroddodd Mr. J. B., Aberystwyth, wrthyf ei fod ef un tro pan oedd yn ieuanc yn marchogaeth adref yn lled hwyr ar y nos, a phan ddaeth ar gyfyl afon Cell, i'r ceffyl wylltio drwyddo a rhuthro carlamu fel peth gwallgof onid oedd, pan gyrhaeddodd adref, yn crynu fel dail y coed tan wynt, ac yn foddfa o chwys. Taerai pawb a wybu am yr helynt mai gweled yr Hwch a'r Tshaen a wylltiodd y ceffyl. Ni welodd Mr. J. B. yr Ysbryd, ond credai yn sicr weled o'r ceffyl rywbeth anarferol ac anweledig iddo ef. Yn 1923 rhoes Mr. T. Richards, ysgolfeistr Pont-ar-Fynach, hanes yr Ysbryd hwn, ynghyda'i esboniad ef ei hun ar y dirgelwch. Dywedai nad oedd y cwbl namyn dyfais y mwynwyr i dwyllo swyddogion y gwaith y gweithient ynddo. Hen arfer y mwynwyr, ac yn arbennig ar nos Wener, ydoedd myned i'r lefelydd neu i lawr y siafft am ddeg y nos a phylu'r ebillion, ac yna dianc adref tua deuddeg o'r gloch. Yr Hwch a'r Tshaen, yn ôl yr esboniad, ydoedd y mwynwyr yn llusgo cadwyni dur a rhoddi ar led mai sŵn ysbryd oedd eu sŵn, a thrwy hynny ddychrynu'r swyddogion rhag eu gwylio a'u dal. Eithr gŵyr y sawl a'u hadnabu fod yr hen gapteniaid eu hunain yn rhy fedrus yn y grefft o dwyllo i fod yn wrthrychau twyll eu gweithwyr.[6] Y mae gennyf hefyd gyfaill hirben yn Aberystwyth sydd â'i fedr i esbonio yn fawr. Nid oedd yr Hwch a'r Tshaen, meddai ef, namyn mochyn byw 'yn y cnawd.' Megid llawer o foch a'u gollwng i bori mes tan y derw ar lannau Cell, a rhag crwydro ohonynt yn rhy bell rhoddid llyffethair haearn ar eu traed. Yn y nos, ar ôl eu digoni, llusgai'r moch eu traed rhwymedig i gyfeiriad eu cartref, a pheri sŵn a greodd Ysbryd. Dyna fodd yr hynafiaid hwythau o esbonio dirgeledigaethau pan grëwyd ofergoelion.

YSBRYD PLAS GWYNANT (BEDDGELERT). Y mae'r plas hwn yn un gwych, a'i safle yn odidog, ac nid yw nepell o Lyn Dinas. Ni phreswyliai neb yn y tŷ yn hir oherwydd eu dychrynu gan Ysbryd. O haf 1850 hyd ddiwedd haf 1853 bu'r Athro J. A. Froude yn byw ynddo. O dro i'w gilydd ymwelai amryw o gyfeillion Froude ag ef, ac weithiau ceid cymaint â phump neu chwech ar yr un pryd. Ar un achlysur aed i sôn am ysbrydion, ac yn eu plith Ysbryd Plas Gwynant. Digwyddasai'r Athro F. W. Newman gyrraedd y diwrnod hwnnw, ac yr oedd y tŷ eisoes yn lled lawn, ond yr oedd ystafell yr Ysbryd yn wag fel arfer. A hwy yn clywed Newman yn gwrthod â dirmyg bob syniad am bosibilrwydd ymddangosiad ysbrydion, trefnodd Froude iddo gysgu yn yr ystafell wag. Aeth Newman i'r ystafell heb wybod ei hanes, a chododd yn fore drannoeth heb gysgu eiliad drwy'r nos. Gobeithiai am gwsg trwm ac esmwyth yr ail noson, ond siomwyd ef eilwaith. Teimlai ei flino gan ryw ddylanwad cyfrin a phoenus. Holodd y forwyn bennaf, a chael mai yn ystafell yr Ysbryd y ceisiai gwsg. Un bore datguddiodd ei helynt i'r cwmni. Nid oedd, meddai, yn credu mewn ysbrydion, ond yr oedd rhywbeth anesboniadwy wedi aflonyddu arno drwy'r nos a phob nos, a barnai mai doeth fyddai dychwelyd adref ar unwaith. Nid ymwelodd Newman byth mwy â Phlas Gwynant.[7]

YSBRYD HAFOD UCHDRYD. Y mae pawb cyfarwydd â llên Cymru yn gwybod rhywbeth am Hafod Uchdryd, sydd yng nghymdogaeth Cwm Ystwyth. Perchenogion y plas yn ystod teyrnasiad y frenhines Elizabeth ydoedd Herbertiaid Penfro, a ddaethai i'r ardal ynglŷn â'r gweithfeydd mwyn plwm. Priododd Thomas Johnes, Llanfair Clydogau, ferch i William Herbert, a meddiannu'r Hafod yn 1783. Tynnodd ef yr hen dŷ i lawr ac adeiladu plas newydd, a chasglu i'w lyfrgell fawr lawer o drysorau llenyddiaeth y wlad hon a'r Cyfandir. Ond yn 1807, ar y degfed o Fawrth, llosgwyd y plas, a bernir golli ohonom fel cenedl lawer o lawysgrifau amhrisiadwy. Aeth Johnes ati eilwaith i adeiladu plas rhagorach na'r un a losgwyd, a rhoddi ynddo wasg argraffu gyffelyb i wasg Gregynog.

Yr oedd i'r Hafod ei fwgan, a rhydd Lewis Morris, Môn, ei hanes yn fanwl yn un o'i lythyrau. Ni fu erioed ysbryd mwy aflonydd a direidus. Cariai gerrig i ystafelloedd y tŷ, hyd yn oed liw dydd; symudai o'u lle fyrddau a choffrau trymion; cipiai ganhwyllau o ddwylo'r teulu, a chusanai yn y tywyllwch ferched a meibion. Galwyd y dyn hysbys. "Fe fu conjuror o Sir Frycheiniog yno yn ceisio gostwng yr ysbryd, ond fe ballodd y Brych a rhoi canpunt iddo am ei boen, 'bid rhyngoch i ag ef,' ebr hwnnw,"[8]

Gwahaniaetha'r Henadur John Morgan, Ystumtuen, beth oddi wrth Lewis Morris yn yr hanes a rydd ef o'r un stori. Yn ôl Mr. Morgan, tynnodd y dewin gylch cyfaredd o'i amgylch ei hun, ac agor ei lyfr dewino, gan orchymyn yr ysbryd i'r cylch. Ymddangosodd yntau ar ffurf tarw nwydwyllt, ac eilwaith ar ffurf ci mawr a milain, ac wedyn ar ffurf gwybedyn a disgyn ar y llyfr dewino agored. Ar drawiad caeodd y dewin y llyfr a charcharu'r ysbryd. Crefai'r truan barus am ei ryddid, ac wedi ei hir boeni yn ei gaethiwed, caniatawyd iddo ollyngdod o'r llyfr a'r cylch ar yr amod iddo fyned tan Bont-ar-Fynach a thorri twnnel drwy'r graig â hoelen clocsen a morthwyl wns o bwysau. Cred rhai y clywir yn awr, pan fo'r nos yn dawel, sŵn ergydion gwan y morthwyl bach.

Y mae'r stori a ganlyn beth yn wahanol i'r rhai a gofnodwyd eisoes. Gan y Parchedig John Humphreys (Wmffre Cyfeiliog) y cefais hi.

"Mewn tŷ hynafol, a thipyn yn urddasol o ran ei faint a'i ffurf, yn ardal Tŷ Cerrig, Sir Drefaldwyn, trigai gynt ŵr o bwys. Ef ydoedd gwarcheidwad y tlodion yn y gymdogaeth. Claddasai ei briod a chedwid ei dŷ gan wraig barchus o'r enw Marged. Ganddi hi y cafodd fy mam yr hanes, er ei fod yn ddigon hysbys yn yr ardal. Llosgasai'r gŵr hwn ewyllys olaf ei wraig a gwneuthur un a oedd yn fwy ffafriol iddo ef ei hun. Dywedir iddo ar ôl ei gwneud dynnu'r papur rhwng gwefusau ei briod er mwyn gallu dweud, os byddai achos, i'r geiriau fod yn ei genau hi. Rhoes y pin ysgrifennu yn ei llaw farw ac ysgrifennu ei henw. Dyna'r weithred annheilwng. Ond ni chafodd lonyddwch i'w feddwl nac i'w gorff tra fu byw. Arferai ewythr i mi, R.R. o bentref Comins Coch, weithio i'r dyn hwn, ac un hwyrnos gaeaf, tra gweithiai fasged wrth y tân, agorodd drws y gegin megis ar ddamwain. Gan ei bod yn oer caeodd fy ewythr ef, ond nid cynt yr eisteddodd nag yr agorodd y drws eilwaith. Caeodd ef drachefn. Daeth y forwyn i'r gegin, ac agorodd y drws y drydedd waith. "Yn enw'r annwyl," meddai f'ewythr, "meddyliais imi gau'r hen ddrws yna'n ddigon ffast." "O," meddai hithau, "waeth i chi heb boeni, y mae o'n agos, mi wn." "Y fo," meddai yntau, "Pwy fo?" " O, meistr. Fel hyn y mae pan fydd o'n dod tuag adre', y mae'r drysau yn agor a chau a chlecian, ac yn aml daw yntau i mewn wedi ei orchuddio â llaid, ac yn gwaedu weithiau. A dyma i chi beth rhyfedd. Yr oedd ganddo gwmni yma i de un diwrnod, a pharodd i mi roddi llestri te gore meistres ar y bwrdd, ond pan euthum i'r cwpwrdd a cheisio tynnu'r llestri allan, yr oedd dwy law yn cydio ynddynt ac ni allwn eu symud o'u lle."Yn fuan wedyn wele'r gŵr yn cyrraedd, ac yn ymddangos fel pe bai wedi ei dynnu trwy'r drain. Credid y stori hon yn ardal Tŷ Cerrig pan oeddwn i'n fachgen."

Dywaid Mr. J. Breese Davies fod yn Ninas Mawddwy draddodiad cyffelyb i'r uchod ynglŷn âg "Ysbryd y Castell." Amaethdy tua thair milltir o'r Ddinas ydyw'r Castell. Tua'r flwyddyn 1840, preswyliai ynddo un o'r enw Thomas Jones a'i briod—ail wraig. Yr oeddynt yn 'dda arnynt,' ond eiddo'r wraig oedd y cyfoeth, a threfnodd i'w roddi i'w pherthynasau ei hun. Eithr pan glafychodd a marw, gwnaeth Thomas Jones ewyllys newydd yn sicrhau iddo ef ei hun yr holl gyfoeth. Gafaelodd yn llaw farw'i briod i'w harwyddo. Ni chafodd Thomas Jones eiliad o hawddfyd byth wedyn. Poenwyd ef gan ysbryd ei wraig, a elwir "Ysbryd y Castell," ddydd a nos tra fu byw.

GWAREDIGAETH PREGETHWR. Nid oes yn awr fawr ddim ond cerbydau modur a beiciau gwyllt a bair ofid a pherygl i bregethwyr ar eu teithiau, ond ganrif yn ôl ymosodid arnynt gan ladron penffordd, a thrinid ambell un yn galed. Eithr oherwydd eu swydd, neu, efallai, oherwydd eu hanallu i'w hamddiffyn eu hunain, gofalai rhywun neu rywbeth o fyd yr ysbrydion am eu diogelwch weithiau. Ceir hanes trawiadol am waredigaeth John Jones, Treffynnon, o enbydrwydd mawr tros ganrif yn ôl. Teithiai'r hen bregethwr gryn lawer i gasglu at godi capelau, ac un tro, ar ei ffordd i Fachynlleth â phedair punt ar ddeg yn ei logell, galwodd mewn tafarn yn Llanuwchllyn. Tra porthid ei geffyl ymgomiai yntau â pherson a oedd yn y tafarn, a mynegi y bwriadai fyned ar ei daith tros Fwlch-y-groes. Pan gyrhaeddodd y teithiwr ben y mynydd unig, gwelai o'i flaen ddyn â chryman yn ei law a'i fin wedi ei rwymo mewn gwellt. Wrth ddynesu at y dyn, gwelai mai'r hwn a gyfarfu yn y tafarn ydoedd, a bod rhywbeth yn amheus yn ei ysgogiadau. Edrychai'n llechwraidd tros ei ysgwydd yn awr ac eilwaith, ac yn y man dechreuodd dynnu'r gwellt oddi ar fin y cryman. Daeth ofn mawr ar yr hen bregethwr, a gweddïodd am ymwared. Yn sydyn clywai garlamu march o'i ôl, ac yna gweled gŵr dieithr yn marchogaeth ac yn cydsymud ag ef. Gwelodd y dyn â'r cryman yntau'r gŵr dieithr a'i farch, a throdd yn gyflym i'r mynydd a ffoi. Cyfarchodd John Jones ei gydymaith mewn Cymraeg a Saesneg, ond ni chafodd ateb, ac yn fuan a sydyn diflannodd y gŵr dieithr.[9]

YSBRYD DYN BYW. Yn fy ymchwiliadau, cyfarfûm o dro i'w gilydd ag amryw a gredai weled ohonynt ysbrydion dynion byw. Yn ystod rhan gyntaf fy nhymor yn Aberystwyth, rhwng 1920 a 1923, a Miss Roberts, Bont Goch, a minnau yn ymgomio un prynhawn am hen goelion yr ardal, gofynnais iddi a welodd hi ysbryd yn ystod ei hoes faith o bedwar ugain mlynedd. Atebodd iddi weled llawer o ysbrydion ac y gwelai hwy o hyd, eithr mai ysbrydion dynion byw oeddynt i gyd, ac na welodd erioed ysbryd dyn marw. Rhyw hanner milltir o Bont Goch—sydd ar y mynydd, chwe neu saith milltir i'r gogledd o Aberystwyth—y mae plas bychan o'r enw Cefn Gwyn sy'n feddiant i'r Gilbertsons ers rhai cenedlaethau. Pan ddaeth y plas i feddiant y Parchedig Lewis Gilbertson, a oedd yn offeiriad yn Lloegr, gofelid am y tŷ yn absenoldeb y teulu gan Miss Roberts. Treuliai'r teulu fisoedd yr haf bob blwyddyn yn y Cefn Gwyn; ac yn ystod un o'r gwyliau hyn gwelodd yr hen wraig, Miss Roberts, ysbryd yr offeiriad. A'r drws tan glo, un canol nos, gwelodd ef yn ei hystafell. Symudodd yn araf a thawel drwy'r ystafell, yn ôl a blaen, amryw weithiau, ac yna diflannu.

Y LADI WEN. Hanner y ffordd rhwng Taliesin a Thre'rddôl y mae'r Lefel Fach, a'i genau yn dyfod i'r ffordd fawr. Credid yn gryf pan oeddwn i'n hogyn y trigai 'Ladi Wen' yn y lefel, ac y deuai allan pan ddelai tywyllwch, a chydgerdded yn fonheddig â gwahanol bersonau. Ni ddywedai air wrth neb, ac ni allai neb gan faint y braw lefaru wrthi hithau. Caewyd genau'r Lefel Fach pan safodd gwaith mwyn Llain Hir, a chollwyd y Ladi Wen. Bûm yn credu ynddi cyn gryfed â neb pan oeddwn yn ieuanc, ond wedi imi dyfu i fyny a chrwydro mannau poblog, marweiddiodd fy ffydd. Eithr ni allaf eto yn awr fyned heibio i'r Lefel Fach heb feddwl am y Ladi Wen, ac nid oes odid neb yn y ddau bentref heddiw na ŵyr amdani.

ADEILADU PONT. Y mae'r stori am ysbryd yn adeiladu pont tros afon yn adnabyddus i wahanol rannau o Gymru a gwledydd eraill. Awgrymir y stori gan yr enw, Pont-y-gŵr-drwg, a daflwyd tros Fynach, yng ngogledd Ceredigion. Collodd Megan, hen wraig Llandunach, ei buwch, ac o chwilio'n hir gwelodd hi y tu hwnt i'r afon ddofn, ond nid oedd fodd i'w chyrchu. A hi yn malu meddyliau yn ei phryder, daeth i'w hymyl ŵr bonheddig, a chynnig adeiladu pont tros yr afon ar yr amod iddo ef gael y peth byw a'i croesai gyntaf. Cytunodd Megan, a gweithiwyd y bont mewn eiliad. Tynnodd yr hen wraig grystyn bara o'i llogell a'i daflu tros y bont newydd, a rhuthrodd y corgi a oedd yn ei hymyl ar ei ôl. Dyna dâl y diafol am ei waith.

Ceir yr un traddodiad ynglŷn â hen bont Aberglaslyn. Ceisiodd trigolion y gymdogaeth gan Robin Ddu Ddewin godi iddynt bont dros y Llyn Du. Galwodd Robin y diafol a mynegi ei neges. Addawodd yntau weithio pont os cawsai'r creadur cyntaf a elai trosti. Cytunwyd. Ymhen ychydig ddyddiau, a Robin uwchben ei gwrw yn nhafarn yr Aber, aeth y cythraul i mewn a dywedyd bod y bont wedi ei gorffen. Trawodd Robin glwff o fara yn ei logell, a myned â chi'r dafarn i'w ganlyn i lan yr afon. "Dyma iti bont tan gamp," meddai'r diafol. "Ymddengys felly," meddai Robin, "ond a ddeil hi bwysau'r clwff hwn, tybed?" "Rho brawf arni," meddai'r cythraul. Taflwyd y bara, a rhuthrodd y ci ar ei ôl. "Pont gampus," meddai Robin, "cymer y ci yn dâl amdani."[10]

YSBRYD MWYNGLAWDD. Tua dau gan mlynedd yn ôl, darganfuwyd gwythïen enfawr o blwm ym mhentref Helygain. Cyffelybid hi i haen drwchus o lo. Y mae amryw draddodiadau ynglŷn â'r mwyn hwn, eithr y mwyaf cyffredin ydyw hwnnw a gafodd Mr. Lewis Hughes, Meliden, gan Mr Fredric Jones, Llwyn-y-cosyn, Ysgeifiog. Un min nos teithiai mwynwr o'i waith i bentref Helygain, a heb fod nepell o'i lwybr gwelai yn sefyll fwynwr arall, wedi ei wisgo yn hollol fel mwynwr cyffredin, ac yn ei ddwylo arfau mwynwr. Cyfarchodd ef â "Nos dawch." Eithr ni ddaeth ateb. Dynesodd ato, ond ar amrantiad diflannodd fel diffodd cannwyll. Credai pawb mai ysbryd a welodd y dyn, a chan y credid yn gyffredin fod gweled drychiolaeth ar dir mwynglawdd yn arwydd sicr fod y plwm yn agos, aed ati i gloddio, a thrawyd ar yr wythïen fawr. Ni chaed yng Nghymru ddim cyffelyb iddi o ran maint a gwerth.

Ie, "Ni wyddom beth a allom. Onid oes synhwyrau coll a rhai wedi eu hanner pylu?"

Nodiadau[golygu]

  1. Ysgrifau, Yr Athro T. H. Parry-Williams (1928), td. 77. 52
  2. Folk-Lore of West and Mid-Wales, J. Ceredig Davies (1911), td. 153.
  3. Welsh Folklore. A collection of Folk-tales and legends of North Wales . . .Elias Owen (1896), td. 202-203.
  4. Bedd Gelert, its Facts, Fairies and Folklore, D. E. Jenkins (1899), td. 78-79.
  5. Welsh Folklore and Folk Custom, T. Gwynn Jones (1930), td. 36-37.
  6. Welsh Gazette, Mai 23, 1923.
  7. Bedd Gelert, its Facts, Fairies and Folklore, D. E. Jenkins (1899), td. 236.
  8. The Letters of Lewis, Richard, William and John Morris, of Anglesey, John H. Davies (1909), Vol. II., td. 153-54.
  9. Brilish Goblins, Wirt Sikes (1880), td. 174-75,
  10. Bedd Gelert, its Facts, Fairies and Folklore, D. E. Jenkins (1899)